Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636824
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â darpariaethau'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 237 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Gofynnwyd i'r
cyngor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas â'r eitemau
busnes a nodir yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y
cyngor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol
fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Penodi Cyfarwyddwr Lle Dros Dro. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Dywedodd yr Aelod
Llywyddol mai dim ond un ymgeisydd oedd wedi'i argymell i'r cyngor gan y
Pwyllgor Penodiadau ar gyfer swydd Cyfarwyddwr Lleoedd Dros Dro. Datganodd enwau
Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol a chynigiodd y dylid
rhoi Rheol 44 Gweithdrefn y Cyngor "Atal Rheolau Gweithdrefnau" ar
waith er mwyn hepgor y gofyniad: 1)
I'r
Ymgeisydd roi cyflwyniad a chael ei gyfweld gan y cyngor. 2)
I
gynnal pleidlais ysgrifenedig. Penderfynwyd: 1) Rhoi Rheol 44
Gweithdrefn y Cyngor "Atal Rheolau Gweithdrefnau" ar waith er mwyn
hepgor y gofyniad: i) I'r ymgeisydd roi cyflwyniad a chael ei gyfweld gan y
cyngor. ii) I gynnal pleidlais ysgrifenedig. Yna rhoddodd y
Prif Weithredwr Dros Dro, Martin Nicholls, adborth o'r broses benodi a oedd yn
ymwneud â phenodi Cyfarwyddwr Lleoedd Dros Dro. Penderfynwyd: 2) Nodi'r
diweddariad llafar ar y broses asesu. 3) Y byddai Mark
Wade yn cael ei benodi'n Gyfarwyddwr Lleoedd Dros Dro. Sylwer: Yn dilyn y penderfyniad hwn, gwahoddwyd
Mark Wade i'r cyfarfod a chynigiwyd y swydd iddo. Derbyniodd Mark
Wade y swydd. |