Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol: 1) Datganodd y Cynghorydd S J Gallagher fudd
personol a rhagfarnol â chofnod 132 “Penodi Prif Weithredwr Dros Dro.” a gadawodd y cyfarfod cyn iddo gael ei ystyried. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor
ynghylch y cysylltiadau personol a rhagfarnol posib y
gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ag eitemau ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau
personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y
cynghorydd/swyddog fuddiannau i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni
os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y
dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau
canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorydd S J
Gallagher gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod
132 “Penodi Prif Weithredwr Dros Dro” a gadawsant y cyfarfod cyn yr ystyriwyd
yr eitem. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 237 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Gofynnwyd i'r cyngor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried
yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr
adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o
ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o
Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas â'r eitemau
busnes a nodir yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y cyngor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y
cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd
yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au)
f/busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Penodi Prif Weithredwr Dros Dro. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Dywedodd yr Aelod Llywyddol mai dim ond
un ymgeisydd oedd wedi'i argymell i'r cyngor gan y Pwyllgor Penodiadau ar gyfer
swydd Prif Weithredwr Dros Dro. Cynigiodd y dylid rhoi Rheol 44 Gweithdrefn y
cyngor "Atal Rheolau Gweithdrefnau" ar waith er mwyn hepgor y
gofyniad: i)
I'r Ymgeisydd gael ei gyfweld gan y cyngor. ii)
I gynnal pleidlais ysgrifenedig. Darparodd y Prif Weithredwr, Phil
Roberts, adborth o'r Broses Benodi sy'n ymwneud â phenodi Prif Weithredwr Dros
Dro. Rhoddodd Martin Nicholls gyflwyniad 10
munud i'r cyngor. Penderfynwyd: 1)
Rhoi Rheol 44 Gweithdrefn y Cyngor "Atal
Rheolau Gweithdrefnau" ar waith er mwyn hepgor y gofyniad: i)
I'r ymgeisydd gael ei gyfweld gan y cyngor. ii)
I gynnal pleidlais ysgrifenedig. 2)
Nodi'r diweddariad llafar ar y broses asesu. 3)
Penodi Martin Nicholls yn Brif Weithredwr
Dros Dro am gyfnod o hyd at 12 mis ar yr un cyflog â'r Prif Weithredwr
presennol. Sylwer: Yn dilyn y penderfyniad hwn,
gwahoddwyd Martin Nicholls yn ôl i'r cyfarfod a chynigiwyd
y swydd iddo. Derbyniodd Martin Nicholls y swydd. |