Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636824 

Eitemau
Rhif Eitem

65.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y cysylltiadau personol a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ag eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan yn unig. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

1)           Datganodd y Cynghorydd T J Hennegan gysylltiad personol â Chofnod 72 - “Polisi Cydymffurfio Diweddaredig Safon Ansawdd Tai Cymru";

 

2)           Datganodd y Cynghorwyr P M Black, J E Burtonshaw, A M Day, C R Doyle, M Durke, C R Evans, V M Evans, W Evans, E W Fitzgerald, S J Gallagher, L S Gibbard, F M Gordon, K M Griffiths, T J Hennegan, C A Holley, P R Hood-Williams, B Hopkins, D H Hopkins, O G James, L James, J W Jones, L R Jones, M H Jones, P K Jones, S M Jones, E J King, M A Langstone, A S Lewis, M B Lewis, R D Lewis, W G Lewis, C E Lloyd, P Lloyd, P M Matthews, P N May, D Phillips, C L Philpott, S Pritchard, A Pugh, J A Raynor, C Richards, B J Rowlands, M Sherwood, P B Smith, R V Smith, A H Stevens, R C Stewart, D G Sullivan, M Sykes, D W W Thomas, L G Thomas, M Thomas, W G Thomas, L J Tyler-Lloyd, L V Walton a T M White gysylltiad personol â Chofnod 74 "Adolygiad Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru o Drefniadau Etholiadol ar gyfer Dinas a Sir Abertawe".

 

Swyddogion

 

1)           Datganodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, H G Evans, gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 75 "Penodi Dirprwy Swyddog Canlyniadau 'Sefydlog' a Dirprwy Swyddog Cofrestru Etholiadol" a gadawodd y cyfarfod cyn y drafodaeth.

66.

Cofnodion. pdf eicon PDF 436 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)           Cyfarfod cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 29 Awst 2019 yn amodol ar y diwygiad canlynol mewn perthynas â Chofnod 59 "Rhybudd o Gynnig - Gohirio'r Senedd":

 

Mae gwall argraffyddol yn y nodyn ar frig tudalen 7. Dileu'r gair "withdrawn" a rhoi "withdrew" yn ei le.

67.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 205 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor.

68.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

1)            Cydymdeimladau

 

a)           Yr Henadur Anrhydeddus Byron G Owen - Cydymdeimladau

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar yr Henadur Anrhydeddus Byron G Owen. Roedd Byron yn cyn-Gynghorydd, yn gyn-Aelod y Cabinet ac yn gyn-Faer. Bu'n gwasanaethu cymunedau Mynydd-bach a Phenderi am bron 36 o flynyddoedd a bu'n Arglwydd Faer Dinas Abertawe ar gyfer blwyddyn ddinesig 1991-1992. Roedd ei gyfnodau o wasanaethu'n cynnwys:

 

Ø    Cyngor Dinas Abertawe 10 Mai 1973 tan 5 Mai 1976;

Ø    Cyngor Dinas Abertawe 3 Mai 1979 tan 31 Mawrth 1996;

Ø    Dinas a Sir Abertawe 4 Mai 1995 tan 10 Mehefin 2004;

Ø    Dinas a Sir Abertawe 1 Mai 2008 tan 18 Mawrth 2016.

 

b)           Y Cyn-Gynghorydd John B Hague - Cydymdeimladau

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar y cyn-Gynghorydd John B Hague. Roedd John yn gyn-Gynghorydd, yn gyn-Aelod y Cabinet ac yn gyn-Ddirprwy Arweinydd y Cyngor, a bu'n gwasanaethu cymuned Bôn-y-maen am bron 16 o flynyddoedd. Roedd ei gyfnodau o wasanaeth yn cynnwys:

 

Ø    Dinas a Sir Abertawe 6 Mehefin 1996 tan 3 Mai 2012.

 

c)            Y Cyn-Arglwydd Faeres Elaine Francis-Davies - Cydymdeimladau

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar y cyn-Arglwydd Faeres Elaine Francis-Davies. Roedd Elaine yn Arglwydd Faeres yn 2001-2002 ac yn gyn-wraig y Cynghorydd Robert Francis-Davies.

 

ch)      Josh Gardener

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar Josh Gardener, diffoddwr tân a oedd yn gweithio i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a fu farw yn ystod sesiwn hyfforddiant pan wrthdarodd dau gwch ym Moryd Cleddau, Sir Benfro, ar 17 Medi 2019.

 

Safodd pawb i ddangos cydymdeimlad a pharch.

 

2)            Ffilmio, Recordio a Thynnu Lluniau yn ystod Cyfarfodydd y Cyngor

 

O dan Bolisi "Ffilmio, Recordio a Thynnu Lluniau yn ystod Cyfarfodydd y Cyngor" yr Awdurdod (a fabwysiadwyd ar 24 Tachwedd 2011), dywedodd yr Aelod Llywyddol ei fod wedi caniatáu criw ffilmio o Amazon News Media i ffilmio Cyfarfod y Cyngor.

 

3)            Gwobrau Buddsoddiadau Cronfeydd Pensiwn Awdurdodau Lleol (CPALl) 2019

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe wedi ennill y Wobr Ymagwedd Orau at Fuddsoddi'n Gynaliadwy yn ystod digwyddiad Gwobrau Buddsoddiadau CPALl 2019.

 

Sefydlwyd Gwobrau Buddsoddiadau CPALl yn 2015 er mwyn dathlu cyflawniad eithriadol yng Nghynlluniau Pensiwn Llywodraethau Lleol (LGPS). Dros y blynyddoedd, ystyriwyd bod gwobr gan Wobrau Buddsoddiadau CPALl yn nodi rhagoriaeth ym maes darpariaeth pensiynau yn yr LGPS.

 

Aeth ati i longyfarch y Cynghorydd C E Lloyd, Jeff Dong, Karen Cobb, y Tîm Pensiynau ac Ymgynghorwyr yr Awdurdod, Hymans Robertson, ac yn arbennig William Marshall am eu gwaith.

 

4)            Gwobrau GIG Cymru 2019

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Tîm Plant sy'n derbyn Gofal Sylfaenol a Lles Teuluoedd Bae Abertawe wedi ennill y categori Gwella Iechyd a Lles yn ystod Gwobrau GIG Cymru 2019. Cydnabuwyd y bartneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Chyngor Abertawe am eu gwaith i leihau effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn ward Penderi, sy'n cynnwys rhai o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn y ddinas.

 

Mae Gwobrau GIG Cymru yn arddangosfa genedlaethol ar gyfer rhagoriaeth ac maent yn dathlu arfer da wrth ddarparu gofal cleifion gwell, o safon ledled Cymru. Lansiwyd y Gwobrau yn 2008 i ddathlu pen-blwydd y GIG yn 60 oed. Mae Gwobrau GIG Cymru'n agored i Dimau a Sefydliadau, a'u nod yw datgelu, cydnabod a dathlu arfer da sydd wedi helpu i drawsffurfio gofal cleifion.

 

Llongyfarchodd bawb a fu'n rhan o hyn.

 

5)            Gwobrau Stryd Fawr Orau Prydain 2019

 

Mae Stryd Fawr Abertawe'n arwain ymwelwyr i ganol y ddinas. Mae Stryd Fawr Abertawe'n cymryd camau mawr ymlaen i adfywio a diogelu'r stryd fawr ar gyfer y dyfodol a'r blynyddoedd i ddod. Yn dilyn buddsoddiad gwerth £25 miliwn bydd Pentref Trefol Abertawe'n ehangu'r Stryd Fawr gyda siopau, busnesau a chartrefi newydd. Fel rhan o'r Pentref Trefol, mae Technoleg Abertawe'n darparu lle i 20 busnes digidol newydd ac maent yn cyflogi dros 300 o bobl. Mae cynlluniau hefyd ar waith i adeiladu dau floc newydd o fflatiau i fyfyrwyr er mwyn lletya mwy na 1,300 o fyfyrwyr. Mae'r arwerthiant cist car wythnosol yn ogystal â'r theatr a'r oriel yn denu amrywiaeth eang o bobl i'r Stryd Fawr. Mae gwasanaeth cwsmeriaid gwych yn nodweddiadol o'r Stryd Fawr gan fod pedwar busnes wedi ennill Gwobr Cam Ymhellach BID Abertawe.

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol ei fod wrth ei fodd i gyhoeddi bod Stryd Fawr Abertawe wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Stryd Fawr Orau Prydain 2019 yn dilyn ymweliad gan y beirniaid yr wythnos diwethaf. Dilynwch y ddolen os hoffech bleidleisio dros Stryd Fawr Abertawe https://thegreatbritishhighstreet.co.uk/high-street-of-the-year-awards/champion-finalist-swansea

 

6)            Ironman Cymru 2019 - Huw Evans, Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd

 

Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol Huw Evans, Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, am gwblhau Ironman Cymru yn Ninbych-y-Pysgod, Sir Benfro ar 15 Medi 2019. Llwyddodd Huw i nofio 2.4 milltir, beicio 112 milltir ac yna rhedeg marathon llawn 26.2 milltir o fewn 14 awr, 22 munud a 5 eiliad.

 

Cafodd llwyddiant Huw ei gymeradwyo gan Arweinydd y Cyngor a'r Cynghorwyr.

 

7)            Cywiriadau/Diwygiadau i Wŷs y Cyngor

 

Eitem 11 “Adolygiad Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru o Drefniadau Etholiadol ar gyfer Dinas a Sir Abertawe".

 

Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol at dudalen 73, Tabl 2 dan ddweud bod y llinell sy'n ymwneud â "Dynfant a De Cilâ" yn cynnwys gwall argraffyddol. Roedd colofn 2 yn ymwneud â'r enw "Arfaethedig Cymraeg" ar gyfer Dynfant a De Cilâ gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru. Mae'r cofnod printiedig yn nodi "Dyfnant a De Cilâ" sef yr hyn y mae'r adroddiad yn ei gynnig, ond dylai ddarllen “Dynfant a De Cilâ” gan mai dyma a awgrymir gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (LDBCW).

69.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)            Caffael Theatr y Palace, Stryd Fawr, Abertawe

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at benderfyniad diweddar y Cabinet i gaffael Theatr y Palace, Abertawe. Dywedodd ei fod yn adeilad rhestredig Gradd II, sy'n adnabyddus am ei siâp lletem nodedig. Dyma'r theatr hynaf yng Nghymru sy'n goroesi. Byddai Theatr y Palace yn cael ei adnewyddu'n llwyr ac yn cael ei defnyddio fel gweithle.

 

Diolchodd i Paul Relf a'r Cynghorydd Robert Francis-Davies am eu gwaith caled wrth gaffael yr adeilad.

 

2)            Diwygiadau i Bortffolios y Cabinet

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei fod wedi gwneud diwygiadau i Bortffolios y Cabinet a fydd yn weithredol o 1 Hydref 2019. Cylchredwyd taflen a oedd yn amlinellu'r newidiadau a chaiff y Portffolios newydd eu gosod yng Nghyfansoddiad y Cyngor.

 

Mae'r newidiadau'n cynnwys y Cynghorydd C E Lloyd yn camu i lawr o'i swydd fel Dirprwy Arweinydd y Cyngor am resymau personol. Trefniant dros dro yw hwn hyd nes y clywir yn wahanol. Bydd y Cynghorwyr D H Hopkins ac A S Lewis yn ymgymryd â Rôl Dirprwy Arweinydd y Cyngor ar y cyd dros dro.

 

Newidiwyd teitlau Portffolio'r Cabinet y Cynghorwyr D H Hopkins, C E Lloyd ac A S Lewis hefyd a rhannwyd rhai o gyfrifoldebau Portffolio'r Cabinet rhwng y 3 Chynghorydd gan ychwanegu rhai ychwanegol.

 

Mae'r tabl yn nodi Portffolios y Cabinet a'r Cynghorwyr perthnasol o 1 Hydref 2019:

 

Cynghorydd

Portffolio'r Cabinet

Rob C Stewart

Ø  Arweinydd y Cyngor

Ø  Economi a Strategaeth

Andrew H Stevens

Alyson Pugh

Ø  Cymunedau Gwell (Lleoedd - Arweinydd)

Ø  Cymunedau Gwell (Pobl - Arweinydd)

Mark C Child

Ø  Gofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda

Sam Pritchard

Elliott J King

Ø  Gwasanaethau Plant (Pobl Ifanc - Arweinydd)

Ø  Gwasanaethau Plant (Y Blynyddoedd Cynnar - Arweinydd)

David H Hopkins

Ø  Dirprwy Arweinydd ar y Cyd Dros Dro

Ø  Cyflwyniad a Pherfformiad

Jennifer A Raynor

Ø  Gwella Addysg, Dysgu a Sgiliau

Mark Thomas

Ø  Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd

Andrea S. Lewis

Ø  Dirprwy Arweinydd ar y Cyd Dros Dro

Ø  Cartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau

Robert Francis-Davies

Ø  Buddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth

Clive E Lloyd

Ø  Cydnerthedd a Chydweithio Strategol

 

70.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Gofynnwyd sawl cwestiwn gan aelodau'r cyhoedd. Ymatebodd aelod(au) perthnasol y Cabinet.

 

Rhestrir y cwestiynau hynny a oedd yn gofyn am ymateb ysgrifenedig isod:

 

a)            Gofynnodd Sue Lyle y cwestiwn canlynol mewn perthynas â Chofnod 72 "Polisi Cydymffurfio Diweddaredig Safon Ansawdd Tai Cymru":

 

"Gan ystyried bod tai yn defnyddio 30% o'r holl ynni tanwydd ffosil, ac mae pob ffaith sydd gennym am yr hinsawdd yn dangos bod angen gweithredu ar frys, pryd caiff yr holl dai yn y sector cyhoeddus eu hôl-osod er mwyn lleihau allyriadau carbon a fydd hefyd yn helpu i frwydro yn erbyn tlodi tanwydd ac yn hybu'r economi werdd?"

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

b)           Gofynnodd Peter Anderson y cwestiwn canlynol mewn perthynas â Chofnod 78 "Newidiadau i'r cyfansoddiad":

 

"O gofio bod Newid yn yr Hinsawdd bellach yn rhan o gylch gorchwyl Pwyllgor Datblygu Polisi Cydraddoldebau a Chenedlaethau'r Dyfodol, oes modd i rywun esbonio - beth yw prif flaenoriaethau'r cyngor ar gyfer mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd er mwyn diwallu anghenion cenedlaethau'r dyfodol a pha gynlluniau sydd ar y gweill i'w rhoi ar waith?"

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig.

71.

Cyflwyniad - Dim un

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd cyflwyniad.

72.

Polisi Cydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru wedi'i ddiweddaru. pdf eicon PDF 309 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni gyflwyniad a oedd yn ceisio diweddaru Polisi Cydymffurfio Safon Ansawdd Tai Cymru sydd eisoes yn bodoli, a gymeradwywyd yn wreiddiol gan y cyngor yn 2016.

 

Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei gymeradwyo.

73.

Cynnydd tuag at fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru. pdf eicon PDF 403 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni adroddiad gwybodaeth yn unig a oedd yn cynnwys y diweddaraf am gynnydd wrth gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru ar eiddo a berchnogir gan y cyngor hyd at 31 Mawrth 2019.

 

Sylwer: Cyfeiriodd y Cynghorydd P M Black at Baragraff 5.8 yr adroddiad a gofynnodd am ddadansoddiad o'r rhesymau dros y 4,734 eiddo o fewn Methiant Derbyniol o ran Sgôr Ynni.

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

74.

Adolygiad Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Lleol Cymru o Drefniadau Etholiadol Dinas a Sir Abertawe pdf eicon PDF 918 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Canlyniadau a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar y cyd, a oedd yn darparu ymateb i Gynigion Drafft Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru mewn perthynas â'u Hadolygiad o'r Trefniadau Etholiadol ar gyfer Dinas a Sir Abertawe.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod yr adroddiad hwn wedi cael ei ystyried gan Weithgor y Cyfansoddiad ar 4 Medi 2019. Cynghorodd y grŵp hwnnw y dylai'r cyngor gymeradwyo'r adroddiad i'w gyflwyno fel rhan o'r cyfnod ymgynghori.

 

Dywedodd y grŵp wrth Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd i sicrhau bod gan yr holl Wardiau Etholiadol a'r Wardiau Cymunedol enw Cymraeg neu ddwyieithog. Amlinellwyd yr enwau arfaethedig a'r ceisiadau am enwau arfaethedig yn Atodiadau B ac C yr adroddiad.

 

Penderfynwyd:

 

1)            Cymeradwyo'r ymateb i'r Cynigion Drafft fel y nodwyd ym Mharagraff 5 yr adroddiad a'u hanfon i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru;

 

2)            Argymell yr enwau Cymraeg ar gyfer y Wardiau Etholiadol fel a awgrymwyd gan yr Awdurdod hwn a'u nodi yn Atodiad B yr adroddiad i Gomisiynydd y Gymraeg er mwyn eu gosod ar "Restr Enwau Lleoedd Safonol Cymru";

 

3)            Gofyn i Gomisiynydd y Gymraeg ailystyried y defnydd o "Dynfant" fel ffurf Cymraeg "Dunvant" er mwyn i "Dyfnant" gael ei ddefnyddio fel yr enw safonol ffurfiol;

 

4)            Argymell yr enwau Cymraeg ar gyfer y Wardiau Cymunedol fel yr awgrymwyd gan yr Awdurdod hwn a'u nodi yn Atodiad C yr adroddiad i Gomisiynydd y Gymraeg er mwyn eu gosod ar "Restr Enwau Lleoedd Safonol Cymru";

 

5)            Gofyn i Gomisiynydd y Gymraeg ystyried enwau Wardiau Cymunedol Cymraeg neu ddwyieithog addas ar gyfer y Wardiau Cymunedol hynny fel y'u hamlinellir yn Atodiad C yr adroddiad.

 

Sylwer: Gofynnodd y Cynghorydd J W Jones ein bod yn nodi er iddo gefnogi y rhan fwyaf o'r adroddiad nad oedd yn cefnogi'r argymhellion mewn perthynas â Dyfnant a De Cilâ.

75.

Penodi Dirprwy Swyddog Canlyniadau 'Sefydlog' a Dirprwy Swyddog Cofrestru Etholiadol. pdf eicon PDF 227 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Canlyniadau adroddiad a oedd yn ceisio penodi Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, Huw Evans, yn Ddirprwy Swyddog Canlyniadau Sefydlog yn unol ag arfer da a'i benodi hefyd yn Ddirprwy Swyddog Cofrestru Etholiadol.

 

Penderfynwyd:

 

1)            Penodi Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, Huw Evans yn Ddirprwy Swyddog Canlyniadau Parhaol er mwyn cyflawni holl swyddogaethau'r Swyddog Canlyniadau a gyflawnir ar hyn o bryd gan y Prif Weithredwr;

 

2)            Caiff Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ei benodi'n Ddirprwy Swyddog Cofrestru Etholiadol i gyflawni holl swyddogaethau'r Swyddog Cofrestru Etholiadol a gyflawnir ar hyn o bryd gan y Prif Weithredwr;

 

3)            Gwneud unrhyw newidiadau canlyniadol i Gyfansoddiad y Cyngor.

76.

Dinas-ranbarth Bae Abertawe - Diwygiadau i Gytundeb y Cyd-bwyllgor pdf eicon PDF 155 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y diwygiadau yng Nghytundeb Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

 

Penderfynwyd:

 

1)            Cytuno ar y diwygiadau yng Nghytundeb Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe fel a amlinellir yn Atodiad B yr adroddiad;

 

2)            Awdurdodi'r Prif Swyddog Cyfreithiol/Swyddog Monitro i ymrwymo i weithred amrywio i gyflawni'r newidiadau i Gytundeb y Cyd-bwyllgor a rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor i wneud unrhyw fân ddiwygiadau i'r cytundeb yn ôl yr angen ac fel a gytunwyd rhwng yr Awdurdodau Partner.

77.

Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2018/19. pdf eicon PDF 623 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog 151 adroddiad gwybodaeth a oedd yn manylu ar weithgareddau Rheoli Trysorlys y cyngor yn ystod 2018-2019 ac yn cymharu perfformiad gwirioneddol yn erbyn y strategaeth a luniwyd ar ddechrau'r flwyddyn.

78.

Newidiadau i'r Cyfansoddiad. pdf eicon PDF 222 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar y cyd yn ceisio diwygiad i Gyfansoddiad y Cyngor er mwyn ei symleiddio, ei wella a/neu ychwanegu ato mewn perthynas â'r meysydd canlynol:

 

a)            Rhan 3 "Cyfrifoldeb am Swyddogaethau" - "Pwyllgorau Datblygu Polisi - Cylch Gorchwyl".

 

Penderfynwyd:

 

1)            Diwygio'r chweched cylch gorchwyl i ddarllen fel a ganlyn:

 

vi)       Datblygu blaenoriaethau corfforaethol y cyngor mewn perthynas â Chydraddoldebau a Chenedlaethau'r Dyfodol, gan gynnwys Newid yn yr Hinsawdd.”

79.

Aelodaeth Pwyllgorau. pdf eicon PDF 117 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y cyngor ar gyfer yr enwebiadau/diwygiadau i aelodaeth cyrff y cyngor.

 

Cyfeiriodd at yr adroddiad gan nodi bod Arweinydd y Cyngor hefyd wedi gwneud y newidiadau canlynol i gyrff allanol yr awdurdod:

 

1)            Cyngor Iechyd Cymuned Bae Abertawe

Tynnu enwau'r Cynghorwyr H M Morris ac M Sykes.

Ychwanegu'r Cynghorwyr V M Evans a P B Smith.

 

Penderfynwyd y dylid diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn:

 

1)            Pwyllgor Datblygu Polisi Cydraddoldebau a Chenedlaethau'r Dyfodol

Tynnu Swydd Wag y Ceidwadwyr.

Ychwanegu'r Cynghorydd D W Helliwell.

 

2)            Pwyllgor Cynllunio

Tynnu enw'r Cynghorydd S M Jones.

Ychwanegu'r Cynghorydd M H Jones.

 

3)            Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau Tlodi

Tynnu enwau'r Cynghorwyr D W Helliwell ac L R Jones.

Ychwanegu Swyddi Gwag y Ceidwadwyr.

80.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 529 KB

Cofnodion:

1)            "Cwestiynau Atodol" Rhan A

 

Cyflwynwyd (11) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Dangosir y cwestiwn(cwestiynau) atodol hwnnw(hynny) yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arno(arnynt) isod:

 

Cwestiwn 3

Gofynnodd E W Fitzgerald i Aelod perthnasol y Cabinet:

 

"Ydych chi'n ymwybodol o'r pryderon sy'n ymwneud â'r Comisiwn Rhyngwladol ar Amddiffyn rhag Ymbelydredd nad yw'n ïoneiddio (ICNIRP) a'r pryderon sy'n ymwneud â'r ffaith mai nhw sydd wedi darparu'r arweiniad?"

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Reoli'r Amgylchedd ac Isadeiledd y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

2)            ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Cyflwynwyd 5 'Cwestiwn Rhan B nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer'.