Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

15.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y cysylltiadau personol a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ag eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o gysylltiadau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog gysylltiad i'w ddatgan yn unig. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd fod yn rhaid datgan unrhyw gysylltiad ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

16.

Ffilmio Cyfarfod Seremonïol y Cyngor

Cofnodion:

Cynigiodd yr Arglwydd Faer y dylid caniatáu i'r rhai oedd yn bresennol ffilmio cyfarfod seremonïol y cyngor a chytunwyd ar hyn.

17.

Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Alun Wyn Jones.

Cofnodion:

Croesawodd yr Arglwydd Faer yr Arglwydd Raglaw, yr Uchel Siryf, arweinwyr dinesig, gwesteion nodedig, aelodau'r cyngor ac Alun Wyn Jones i gyfarfod seremonïol y cyngor.

 

Cyfeiriodd Arweinydd y cyngor at gyfarfod y cyngor a gynhaliwyd ar 25 Ebrill 2019 (cyfeirir ato yng Nghofnod 177) lle penderfynodd y cyngor roi Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Alun Wyn Jones.

 

Ganwyd Alun Wyn Jones yn Abertawe a chwaraeodd ei gêm rygbi gyntaf i Glwb Rygbi Bôn-y-maen a Chlwb Rygbi’r Mwmbwls. Ef yw capten presennol tîm rygbi cenedlaethol Cymru. Ar hyn o bryd mae'n chwarae dros y Gweilch. Ef yw'r clo a'r chwaraewr sydd wedi ennill y nifer mwyaf o gapiau dros Gymru. Ef yw'r chwaraewr cyntaf i chwarae naw gêm brawf i'r Llewod Prydeinig yn olynol yn y cyfnod proffesiynol ac mae wedi chwarae dros y Gweilch yn amlach nag unrhyw chwaraewr arall.

 

Siaradodd arweinydd yr wrthblaid fwyaf ac arweinwyr y grwpiau gwleidyddol eraill o blaid y cynnig.

 

Penderfynwyd rhoi Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Alun Wyn Jones.

 

Yna cyflwynodd yr Arglwydd Faer y Sgrôl Rhyddid er Anrhydedd i Alun Wyn Jones gan roi Rhyddid Dinas a Sir Abertawe iddo.

 

Ymatebodd Alun Wyn Jones drwy ddiolch i'r cyngor am yr anrhydedd.