Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636824
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a
rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a
swyddogion ar eitemau ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y
dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w
ddatgan yn unig. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w
ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar
lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol: 1) Datganodd y
Cynghorydd R V Smith, gysylltiad personol â Chofnod 60 “Adroddiad gan Swyddfa
Archwilio Cymru - Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol Dinas a Sir
Abertawe"; 2) Datganodd y Cynghorwyr J P
Curtice, R D Lewis, P Lloyd, G J Tanner, R V Smith, T J Hennegan a T M White
gysylltiad personol â Chofnod 1 "Datganiad o Gyfrifon 2018/2019." |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir,
gofnodion y cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 1)
Cyfarfod Seremonïol y cyngor a
gynhaliwyd ar 24 Gorffennaf 2019; 2)
Cyfarfod Cyffredin y Cyngor a
gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf 2019; 3)
Cyfarfod seremonïol y cyngor a
gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2019 yn amodol ar ychwanegu'r Cynghorydd D G Sullivan
at y rhestr o ymddiheuriadau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion
ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r
cyngor. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: 1)
Eddie Ramsden
- Cydymdeimladau Mynegodd yr Aelod
Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar Eddie Ramsden, Cyn-cyfarwyddwr Iechyd yr Amgylchedd gyda hen
Gyngor Dinas Abertawe. Dymuniad Eddie oedd i’w lwch gael ei gladdu ym Mynwent
Ystumllwynarth, felly cynhelir Gwasanaeth Coffa yn y Mwmbwls, gyda'r dyddiad
i'w gadarnhau. Sefwch fel arwydd o gydymdeimlad a pharch. 2)
Newyddion da ar gyfer ein
pobl ifanc Mae addysg yn brif
flaenoriaeth i Gyngor Abertawe. Mae
canlyniadau TGAU, Safon Uwch a chymwysterau galwedigaethol eleni yn dangos ein
buddsoddiad sylweddol a pharhaus wrth gefnogi ein hysgolion i gynyddu
cyrhaeddiad a rhoi'r cyfleoedd gorau i holl ddisgyblion Abertawe yn eu
gyrfaoedd yn y dyfodol. Roedd canlyniadau TGAU
ein hysgolion yn llawer uwch na chyfartaledd Cymru. Enillodd 21.2% o
ddisgyblion y ddinas raddau A* neu A yn eu harholiadau CBAC. Mae hyn cryn dipyn un uwch na ffigur Cymru
gyfan, sef 18.4%. Mae canlyniadau
disgyblion Abertawe o ran Safon Uwch yn llawer uwch na
chyfartaledd Cymru a'r DU gyda chyfradd lwyddo gyffredinol o 97.9%. O'u cymharu
â gweddill Cymru, mae ein graddau A* ac A yn llawer uwch yn Abertawe na
gweddill y wlad. Mae canlyniadau ein cyrsiau
galwedigaethol Blwyddyn 13, gan gynnwys BTEC yn dda iawn, gyda 64.2% wedi
cyflawni gradd Anrhydedd* ac Anrhydedd. Roedd disgyblion
Abertawe sy'n mynychu Coleg Gŵyr Abertawe, Coleg Castell-nedd Port Talbot
a Choleg Sir Gâr hefyd wedi cael canlyniadau arholiadau da iawn. Llongyfarchiadau i'n
holl ddisgyblion a'u hysgolion. 3)
Rheoli gwastraff -
cyrraedd y rhestr fer am ddwy wobr Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth
Cyhoeddus Roedd yr Aelod
Llywyddol yn falch o gyhoeddi bod y Gwasanaeth Rheoli Gwastraff wedi cyrraedd y
rhestr fer ar gyfer dwy wobr Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth
Cyhoeddus. Cyhoeddir enwau'r enillwyr yn
Newcastle ar 12 Medi 2019. Dyma’r gwobrau: Menter Orau'r
Gweithlu. Mae'r wobr hon yn ymwneud â
Phartneriaeth Hyfforddeion Rheoli Gwastraff y cyngor sydd yn ei hail
flwyddyn. Roedd pob un o hyfforddeion
Blwyddyn 1 wedi pasio'r cyfnod hyfforddi gan ennill NVQ Lefel 2 a chawsant
swyddi amser llawn. Ar hyn o bryd mae 13 o hyfforddeion Blwyddyn 2 yn treulio'u
hamser yn gweithio mewn amrywiaeth eang o rolau Rheoli Gwastraff er mwyn cael
gwybodaeth eang am y gwasanaeth er mwyn creu gweithlu a chanddynt
ddealltwriaeth ddofn ac eang o'u rolau. Tîm Gwasanaeth Gorau'r
flwyddyn - Gwasanaeth Rheoli Gwastraff ac Ailgylchu. Mae hyn yn ymwneud â'r ymgyrch ‘Nid fan hyn’
sef peidio â rhoi deunyddiau ailgylchadwy mewn sachau du sy'n annog mwy o
ailgylchu a’u dargyfeirio o safleoedd tirlenwi drwy wahardd rhoi deunyddiau ailgylchadwy
mewn sachau du. Mae'r fenter eisoes wedi
lleihau swm y gwastraff sachau du 15% a rhagwelir y bydd yn cynyddu ein cyfradd
ailgylchu gyffredinol 2%. Soniodd
hyfforddeion Blwyddyn 1 a 2 fod y wobr flaenorol wedi bod yn flaenllaw wrth
hyrwyddo'r gwelliant hwn. 4)
Cyfeillion 'Washing Lake' Mayhill
a Gardd Gymunedol Hillside Roedd yn bleser gan yr
Aelod Llywyddol gyhoeddi bod Cyfeillion 'Llyn Golchi' Mayhill
a Gardd Gymunedol Hillside wedi ennill dwy wobr
eleni. Ym mis Mawrth, derbyniwyd gwobr
Mannau Gwyrdd a reolir CLAS (Gwasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol) ganddynt ac
ym mis Gorffennaf derbynion nhw Wobr Gymunedol y Faner Werdd Cadwch Gymru'n Daclus. 5)
Cyfarfod y Cyngor, mis
Tachwedd 2019 - wedi'i aildrefnu Mae cyfarfod y cyngor a
drefnwyd ar gyfer 5.00pm ddydd Iau 28 Tachwedd 2019 wedi'i aildrefnu ar
gyfer 5.00pm ddydd Mercher 27 Tachwedd 2019. Cynhelir cyfarfod y cyngor yn Siambr y
Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe. 6)
Cywiriadau/Diwygiadau i
Wŷs y Cyngor i)
Eitem 11 - "Cais am
Ddynodi Abertawe yn aelod o Rwydwaith Dinasoedd Iach Ewropeaidd Sefydliad
Iechyd y Byd - Cam VII" Diwygio'r argymhelliad fel a ganlyn: “1) Cymeradwyo’r cais gan
Gyngor Dinas a Sir Abertawe i gael ei ddynodi’n aelod o Rwydwaith Dinasoedd
Iach Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd Cam - VII". ii)
Rhybudd o Gynnig Brys -
Gohirio'r senedd Yn unol â pharagraff
100B (4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1977, nododd yr Aelod Llywyddol ei fod
wedi derbyn Rhybudd o Gynnig ar frys mewn perthynas â "Gohirio'r
senedd" am y rheswm a amlinellwyd yn y rhybudd o gynnig. iii)
Aildrefnu'r agenda Nododd yr Aelod
Llywyddol fod angen iddo aildrefnu'r agenda am fod rhaid i'r Arglwydd Faer fod
mewn digwyddiad maerol - bydd angen aildrefnu er mwyn ystyried eitem 12
"Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Democrataidd 2018-2019" yn syth ar
ôl eitem 8. Dilynir hyn yn syth gan y
"Rhybudd o Gynnig Brys" cyn dychwelyd i'r agenda fel y’i cyhoeddwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Morlyn Llanw Bae Abertawe Rhoddodd Arweinydd y
Cyngor y diweddaraf am Forlyn Llanw Bae Abertawe. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion
ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Gofynnodd John Childs y
cwestiynau canlynol mewn perthynas â Chofnod 62 "Cais i Ddynodi Abertawe
fel aelod o Rwydwaith Dinasoedd Iach Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd - Cam
VII": 1)
"Pa strategaeth
ystyrlon sydd gennych er mwyn mynd i'r afael â'r broblem hon a achosir yn
bennaf gan gerbydau modur? 2)
Oes strategaeth i gynyddu
ymwybyddiaeth y cyhoedd o beryglon iechyd ein dibyniaeth gyfredol ar gerbydau
petrol/disel ar gyfer cludiant cyhoeddus, yn enwedig y niferoedd uchel o geir
preifat sy'n arwain at lefelau uchel o dagfeydd? 3)
Ydych chi'n cysylltu â'r
awdurdod iechyd drwy'r BGC a/neu mewn unrhyw ffordd arall er mwyn datblygu
ymagwedd gyfannol at yr her o ansawdd aer gwael sy'n effeithio ar y tlawd a'r
rheini sy'n dioddef o gyflyrau iechyd difrifol megis cyflyrau'r galon a'r
ysgyfaint?" Nododd Rheolwr yr Amgylchedd ac Isadeiledd y byddai
ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyflwyniad Cyhoeddus - Dim. Cofnodion: Ni dderbyniwyd cyflwyniadau cyhoeddus. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion: Cyflwynodd Cadeirydd
y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad gwybodaeth a oedd yn darparu Adroddiad
Blynyddol y Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer y cyfnod o 24 Mai 2018 i 8 Mai
2019. Mae'r adroddiad yn amlinellu
gwaith y pwyllgor yn ystod y cyfnod hwnnw. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Eitem Frys Cofnodion: Nododd yr Aelod
Llywyddol yn unol â pharagraff 100B (4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ei
fod yn meddwl y dylid cynnal cyfarfod brys i ystyried y "Rhybudd o Gynnig
gan y Cynghorwyr R C Stewart, C A Holley, C E Lloyd, J P Curtice, D W W Thomas, A S Lewis, S Pritchard, M B Lewis, W G Lewis, L V
Walton, M C Child, R Francis-Davies, E W Fitzgerald, M H Jones, P M Black, P N
May a D G Sullivan mewn perthynas â gohirio’r senedd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhybudd o Gynnig - Gohirio'r senedd Cofnodion: Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorwyr R C Stewart, C
A Holley, C E Lloyd, J P Burtonshaw, D W W Thomas, A S Lewis, S Pritchard, M B
Lewis, W G Lewis, L V Walton, M C Child, R Francis-Davies, E W Fitzgerald, M H
Jones, P M Black, P N May a D G Sullivan Rheswm dros y Mater Brys: O ystyried y newyddion
ar 28 Awst 2019 fod posibilrwydd o ohirio'r senedd ar 10 Medi 2019, dyma unig
gyfle'r cyngor i ystyried y rhybudd o gynnig hwn a'i ystyried cyn y dyddiad
hwnnw". Fe'i cynigiwyd gan y Cynghorydd R C Stewart a'i eilio gan y Cynghorydd C A
Holley. "Rydym yn galw ar Arweinydd y Cyngor i ysgrifennu at
y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan nodi ein bod ni i gyd yn
anghytuno'n llwyr â'r ymgais i ohirio'r senedd er mwyn osgoi dadl ddemocrataidd
am ein perthynas â'r UE yn y dyfodol. Mae pobl y DU dros gannoedd o flynyddoedd wedi ennill yr
hawl i’n democratiaeth seneddol fod yn esiampl i weddill y byd. Mae'n gwbl annemocrataidd i unrhyw Brif Weinidog, heb sôn
am un nad yw wedi ennill etholiad cyffredinol nad oes ganddo fandad gan bobl
Prydain i geisio rhwystro ein senedd sofran o aelodau etholedig. Mae tystiolaeth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru a'r DU
wedi bod yn gyson wrth gadarnhau y byddai gadael yr UE heb gytundeb yn achosi
aflonyddwch a difrod mawr i economi Abertawe, Cymru a'r DU ac rydym yn galw ar
y Prif Weinidog i sicrhau bod Aelodau Etholedig Senedd y DU yn gallu cyflawni
eu dyletswyddau democrataidd." Yn unol â Rheol 30 Gweithdrefn y Cyngor, "Pleidlais", gofynnwyd
am bleidlais gofnodedig. Cofnodwyd y
bleidlais ar y newid fel a ganlyn:
Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig a amlinellir uchod. Sylwer: Dwedodd y Cynghorydd L
R Jones (Arweinydd y Grŵp Ceidwadwyr) bod y "Rhybudd o Gynnig” yn
wastraff amser ac nid oedd am fod yn rhan ohono. Wedi’r datganiad gadawodd y Cynghorwyr S J
Gallagher, D W Helliwell, L R Jones, M A Langstone, B J Rowlands ac W G Thomas
y cyfarfod. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion: Cyflwynodd Jason Garcia, Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) "Adroddiad
Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol 2018-2019 Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer
Dinas a Sir Abertawe". Ymatebodd Jason Garcia (SAC) i gwestiynau
technegol eu natur ac ymatebodd Ben Smith (Swyddog Adran 151) i gwestiynau'n
ymwneud â sefyllfa Dinas a Sir Abertawe. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo
a llofnodi'r Llythyr Sylwadau Terfynol; 2) Cymeradwyo'r datganiad. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad o Gyfrifon 2018/19. PDF 5 MB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog
151 adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Cyfrifon 2018-2019 ar 15
Medi 2019 neu cyn hynny. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo Datganiad o Gyfrifon 2018-2019 fel y’u
hamlinellir yn Atodiad A yr adroddiad. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda adroddiad a oedd yn rhoi gwybod i'r
cyngor am y cyfle i gyflwyno cais am ddynodiad o fewn Cam VII Rhwydwaith
Dinasoedd Iach Sefydliad Iechyd y Byd, amcanion a buddion y rhaglen a'r
gofynion ymgeisio. Penderfynwyd cymeradwyo’r cais gan Gyngor Dinas Abertawe i’w ddynodi’n aelod o
Rwydwaith Dinasoedd Iach Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd dan gam VII. Sylwer: Gofynnodd y Cynghorydd C A Holley i Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a
Rheoli Isadeiledd rannu gwaith y cyngor â phob cynghorydd mewn perthynas â
buddion diffodd motor cerbyd pan fo’r cerbyd wedi stopio mewn traffig am 10
eiliad neu fwy. Dywedodd Aelod y
Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd y byddai'n rhannu'r gwaith. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Aelodaeth Pwyllgorau. PDF 113 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth y cyngor ar gyfer yr enwebiadau/diwygiadau i aelodaeth cyrff y
cyngor. Penderfynwyd y dylid diwygio
aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn: 1)
Pwyllgor Datblygu Polisi Cydraddoldeb a
Chenedlaethau'r Dyfodol Dileu enwau'r Cynghorwyr J E Burtonshaw ac M B
Lewis. Ychwanegu enwau'r Cynghorwyr P K Jones ac M
Sherwood. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 313 KB Cofnodion: 1) ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A Cyflwynwyd Pedwar (4) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au)
perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs
y Cyngor. Dangosir
y cwestiwn/cwestiynau atodol hwnnw/hynny yr oedd angen ymateb ysgrifenedig
arno/arnynt isod: Cwestiwn 3. Gofynnodd y
Cynghorydd A M Day: "Sawl mynegiant o ddiddordeb a dderbyniwyd mewn perthynas â Home Farm?" Dywedodd
Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad y darperir ymateb
ysgrifenedig. 2) ‘Cwestiynau
nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B Cyflwynwyd pedwar (4) cwestiwn
Rhan B nad oedd angen cwestiynau atodol ar eu cyfer. |