Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636824 

Eitemau
Rhif Eitem

18.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y cysylltiadau personol a rhagfarnol posib y gallai cynghorwyr a swyddogion eu cael ag eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o gysylltiadau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog ddiddordeb i'w ddatgan yn unig. Nid oedd angen dychwelyd ffurflenni os nad oedd unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

1)       Datganodd y Cynghorydd D W Helliwell gysylltiad personol â Chofnod 29 "Rhybudd o Gynnig - Home Farm".

 

2)       Datganodd y Cynghorwyr A M Day, R Francis-Davies, L S Gibbard, P K Jones, E T Kirchner, A S Lewis, W G Lewis, P Lloyd, C L Philpott, C Richards, D G Sullivan, M Sykes, G J Tanner, L V Walton a T M White gysylltiad personol â Chofnod Rhif 30 "Oedran Pensiwn Statudol".

19.

Cofnodion. pdf eicon PDF 192 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)              Cyfarfod blynyddol y cyngor a gynhaliwyd ar 9 Mai 2019;

 

2)              Cyfarfod y cyngor a gynhaliwyd ar 17 Mai 2019;

 

3)              Cyfarfod seremonïol y cyngor a gynhelir ar 12 Mehefin 2019 yn amodol ar ychwanegu'r Cynghorydd A M Day at y rhestr o ymddiheuriadau.

20.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor.

Cofnodion:

Ni chafwyd ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng nghyfarfod cyffredinol diwethaf y cyngor.

21.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

1)              Gweddarlledu'r Cyfarfod

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol, fel rhan o'r gwaith cyfredol i fynd ati i weddarlledu cyfarfodydd y cyngor, y Cabinet, y Pwyllgor Cynllunio a Phwyllgor y Rhaglen Graffu, fod y cyfarfod yn cael ei recordio.

 

2)              Y gorau yng Nghymru yng ngwobrau Prif Adeiladwr y Flwyddyn Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr

 

Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol Lynsey Davies o'r Gwasanaethau Adeiladau am ennill gwobr 'y gorau yng Nghymru' ar gyfer Gwobrau Prif Adeiladwr y Flwyddyn Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr 2019.  Bydd Lynsey'n cael ei chyflwyno ar gyfer gwobrau cenedlaethol Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr ar 20 Medi 2019.  Meddai Ifan Glyn, Cyfarwyddwr FMB Cymru, "mae Lynsey'n enghraifft wych o sut gall bod yn ymrwymedig, yn ymroddgar ac yn benderfynol gyflawni canlyniadau ac rydym yn dymuno'n dda iddi yn y gwobrau cenedlaethol."

 

Roedd Lynsey Davies yn bresennol i dderbyn ei gwobr.

 

3)              Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2019

 

Dinasyddion Abertawe a/neu bobl â chysylltiadau ag Abertawe a dderbyniodd gwobrau yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.

 

a)              Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE)

 

i)                Derek Vaughan, Aelod ASE Senedd Ewrop dros Gymru.  Am wasanaethau gwleidyddol a chyhoeddus.

 

b)              Aelod Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE)

 

i)                Gerallt Bowen Davies, Swyddog Gweithrediadau Cenedlaethol Cymru, Ambiwlans Sant Ioan. Am wasanaethau i ddarpariaeth Cymorth Cyntaf yng Nghymru. (Abertawe, Gorllewin Morgannwg)

 

ii)               Pamela Christine Evans, Sefydlydd a Chyfarwyddwr Peace Mala. Am wasanaethau i hyrwyddo heddwch a dealltwriaeth o ryng-grefyddau. (Treforys, Abertawe)

 

iii)             Karen Margaret MacKinnon am ei gwasanaethau i'r celfyddydau. (Curadur Oriel Gelf Glynn Vivian Cyngor Abertawe) (Brynmill, Abertawe)

 

iv)             Michael Clive Norman. Gwirfoddolwr a sefydlydd Coed Cwm Penllergaer. Am wasanaethau i dreftadaeth Gymreig.

 

c)               Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM)

 

i)                Ian Kevin Jenkins. Gweithiwr achos, Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau. Am wasanaethau cyhoeddus a chymunedol yn Abertawe. (Abertawe)

 

ii)               Brian Thomas Sullivan.  Adwaenir fel Brian Quinlan ar y llwyfan. Am wasanaethau elusennol a'r Celfyddydau Perfformio. (Abertawe).

 

4)              Cywiriadau/Diwygiadau i Wŷs y Cyngor

 

a)              Cofnod 27 "Cwestiynau'r Cynghorwyr" - Cwestiwn 7

Ychwanegu'r Cynghorydd I E Mann at restr o enwau'r rhai sy'n cyflwyno'r cwestiwn.

 

b)              Cofnod 29 "Rhybudd o Gynnig  - Home Farm"

Ychwanegu'r Cynghorydd I E Mann a P N May at restr o enwau'r rhai sy'n cyflwyno'r cwestiwn.

22.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)              Diwygiadau i bortffolios y Cabinet

 

Adroddodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor fod y diwygiadau canlynol wedi'u gwneud i bortffolios y Cabinet:

 

Trawsnewid Busnes a Pherfformiad

Ychwanegu

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Dileu

Gwasanaethau masnachol

 

Cymunedau Gwell (Pobl - Arweiniol)

Ychwanegu

Dysgu Gydol Oes

Abertawe - Dinas Hawliau Dynol

Dileu

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

 

Cyflwyno

Ychwanegu

Gwasanaethau masnachol

Cyd-bwyllgor Ymgynghorol (Arweiniol)

Deisebau

 

Yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd

Ychwanegu

Llwybrau beicio

Adnewyddu a Chynnal a Chadw Cerbydlu

Parciau a Glanhau

Cludiant Cyhoeddus

 

Cartrefi ac Ynni

Ychwanegu

Trafnidiaeth Cerbydlu Gwyrdd a Mabwysiadu Cerbydau Gwyrdd

 

Nododd hefyd y byddai pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn e-bostio'r rhestr o bortffolios y Cabinet sydd wedi'u diweddaru at yr holl gynghorwyr a byddai'n diweddaru Cyfansoddiad y Cyngor.

 

2)              Croesawu Phil Roberts yn ôl (Prif Weithredwr)

 

Croesawodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor Phil Roberts (Prif Weithredwr) yn ôl yn dilyn cyfnod o salwch.  Diolchodd hefyd i Jack Straw am weithredu fel y Prif Weithredwr dros dro yn ystod y cyfnod hwnnw.

 

3)              Y diweddaraf am ad-drefnu llywodraeth leol

 

Darparodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor y diweddaraf am Ad-drefnu Llywodraeth Leol.  Nododd y bydd Grŵp pellach yn cael ei sefydlu i edrych ar y mater a bydd yr adborth yn barod ym mis Hydref 2019.

 

4)              Pwerdy Great Western - Cydweithio

 

Nododd Dirprwy Arweinydd y Cyngor y byddai Arweinydd y Cyngor yn bresennol mewn cyfarfod yn Llundain ym mis Gorffennaf mewn perthynas â'r posibilrwydd o greu pwerdy Great Western.

 

5)              Cyfle datblygu posib ar hyd y blaendraeth

 

Nododd Dirprwy Arweinydd y Cyngor, yn dilyn Hysbysiad o Wybodaeth Flaenorol mewn perthynas â chyfleoedd datblygu posib ar hyd y blaendraeth, fod Arweinydd y Cyngor wedi penderfynu i beidio â pharhau ag unrhyw ddatblygiad yn ardal y West Cross Inn.

 

6)              Abertawe 50

 

Cyfeiriodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor at nifer o ddigwyddiadau presennol a'r dyfodol sy'n gysylltiedig ag Abertawe'n dathlu hanner canmlwyddiant fel dinas.  Derbyniodd Abertawe statws dinas ar 3 Gorffennaf 1969.

 

Cyfeiriodd at y Parti Stryd a gynhelir ar hyn o bryd ger cymuned Sandfields ar Heol San Helen; ymweliad Tywysog Cymru a Duges Cernyw ym Mhafiliwn Patti, Parc Victoria a Chapel y Tabernacl, Treforys ar 3 Gorffennaf 2019 a Sioe Awyr Cymru - Bae Abertawe a gynhelir ar 6 a 7 Gorffennaf 2019.

23.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Gofynnwyd nifer o gwestiynau gan aelodau'r cyhoedd mewn perthynas â Chofnod rhif 28 "Rhybudd o Gynnig - Argyfwng Hinsawdd".  Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet yn briodol.  Nid oedd angen ymateb ysgrifenedig ar y cwestiynau atodol.

24.

Cyflwyniad Cyhoeddus - Dim.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd cyflwyniadau cyhoeddus.

25.

Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Catherine Zeta Jones pdf eicon PDF 105 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor adroddiad a oedd yn ystyried rhoi Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Catherine Zeta-Jones.

 

Ganed Catherine Zeta-Jones CBE yn Abertawe ac mae'n actores arobryn y mae ei doniau'n amrywio o fyd y theatr i fyd y ffilmiau.  Dechreuodd ei gyrfa ar y llwyfan yn Llundain cyn dod yn seren deledu yn yr addasiad poblogaidd o lyfr HE Bates, ’The Darling Buds of May”.  Enillodd Wobr yr Academi am ei phortread o Velma Kelly yn yr addasiad sgrîn o un o sioeau cerdd Broadway, Chicago”.

 

Enwebwyd hefyd am wobr Golden Globe ac enillodd wobr Dewis y Beirniaid, Gwobr Urdd yr Actorion Sgrîn a gwobr BAFTA ar gyfer Actores Ategol Gorau am ei pherfformiad. Mae Catherine hefyd wedi chwarae rhannau yn ffilmiau Ocean's 12, The Mask of Zorro, Entraptment a The Terminal.

 

Yn ystod ei gyrfa mae Catherine wedi bod yn llysgennad dros Abertawe ac mae hi wedi gweithio gyda nifer o elusennau.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Rhoi Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Catherine Zeta-Jones;

 

2)              Cynnal Cyfarfod Seremonïol y Cyngor ar 24 Gorffennaf 2019 i gyflwyno'r teitl Rhyddid er Anrhydedd.

26.

Aelodaeth Pwyllgorau. pdf eicon PDF 94 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y cyngor ar gyfer yr enwebiadau/diwygiadau i aelodaeth cyrff y cyngor.  Ychwanegodd hefyd rai diwygiadau i'r adroddiad.

 

Cyfeiriodd at yr adroddiad gan nodi bod Arweinydd y Cyngor hefyd wedi gwneud y newidiadau canlynol i aelod hyrwyddo'r awdurdod:

 

1)              Hyrwyddwr Aelod o'r Lluoedd Arfog

Tynnu enw'r Cynghorydd J E Burtonshaw.

Ychwanegu'r Cynghorydd W G Lewis.

 

2)              Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG)

Tynnu enw'r Cynghorydd W Evans.

Ychwanegu lle Llafur gwag.

 

Penderfynwyd y dylid diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn:

 

1)              Pwyllgor Archwilio

Tynnu enw'r Cynghorydd W G Thomas.

Ychwanegu'r Cynghorydd D W Helliwell.

 

2)              Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau Tlodi

Tynnu enw'r Cynghorydd G J Tanner.

Ychwanegu enw'r Cynghorydd K M Roberts.

 

3)              Pwyllgor y Rhaglen Graffu

Tynnu enw'r Cynghorydd J E Burtonshaw.

Ychwanegu'r Cynghorydd J A Hale.

 

4)              Bwrdd Magu Plant Corfforaethol

Tynnu enw'r Cynghorydd W Evans.

Ychwanegu enw'r Cynghorydd S Pritchard.

 

5)              Panel Llofnodwyr Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog

Tynnu enw'r Cynghorydd J E Burtonshaw.

Ychwanegu'r Cynghorydd W G Lewis.

27.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 109 KB

Cofnodion:

1)              ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd chwe (6) 'Chwestiwn Atodol' Rhan A.  Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Dangosir y cwestiwn/cwestiynau atodol hwnnw/hynny yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arno/arnynt isod:

 

Cwestiwn 4  Gofynnodd y Cynghorydd P M Black y canlynol:

"A fydd aelod o'r Cabinet yn gallu sicrhau y byddai llinell amlwg yn y gyllideb sy'n dangos y swm ar gyfer cynnal a chadw'n glir?"

 

Nododd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd y byddai'n trafod y mater gyda'r Swyddog Adran 151 ac yn darparu ymateb ysgrifenedig.

 

2)       ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Cyflwynwyd dau (2) 'gwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol ar eu cyfer' Rhan B ar eu cyfer.

28.

Hysbysiad o Gynnig - Argyfwng Hinsawdd. pdf eicon PDF 127 KB

Cofnodion:

Cynigiwyd gan y Cynghorydd P K Jones a'i eilio gan y Cynghorydd M Sherwood.

 

Mae'r cynnig yn darllen fel a ganlyn:

 

"Mae'r cyngor hwn yn nodi casgliad adroddiad dros dro diweddar gan wyddonwyr y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) fod angen gwneud pob ymdrech i atal tymheredd cyfartalog y byd rhag codi 1.5°C yn uwch na lefelau cynddiwydiannol.  Fodd bynnag, gellir cyrraedd cynnydd o'r fath, gyda pholisïau llywodraethu presennol, mor gynnar â 2030, gyda chynnydd pellach yn y degawdau sy'n dilyn. Mae'r fath raddau o dymheredd yn bygwth bodau dynol a phob bod byw ar y blaned, gydag aflonyddwch i amaethyddiaeth, a cholli cynefinoedd daearol a bywyd gwyllt morol. Rydym eisoes wedi cydnabod, ar draws y byd, fod mwy o rywogaethau planhigion ac anifeiliaid yn dod i ben nag erioed o'r blaen; mae riffiau cwrel, sy'n hanfodol i fywyd môr, yn marw, mae cenedlaethau ynysoedd bach a dinasoedd arfordirol yn cael eu bygwth gan gynnydd yn lefel y môr wrth i'r capiau iâ pegynol ddadmer; mae cynnydd yn nifer y bobl sy'n marw o ganlyniad i achosion o dywydd gwael - megis gormod o gyfnodau oer, gormod o gyfnodau poeth, corwyntoedd, llifogydd.

 

Rydym wedi nodi gweithredaeth pobl ifanc ar draws y byd sy'n mynegi eu teimladau ynghylch diffyg pŵer o ran y sefyllfa ac yn gofyn i'r rheiny sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau heddiw i gymryd camau brys i ddiogelu eu dyfodol.

 

Rydym yn cydnabod, ar lefel fyd-eang, mai cyfrifoldeb y llywodraethau cenedlaethol yw mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ac mae angen iddynt gydweithio'n rhyngwladol er mwyn gwneud hynny, ond mae gwaith pwysig o hyd y gall cynghorau lleol ei wneud.

 

Rydym yn cydnabod hanes diweddar y cyngor hwn wrth geisio gwneud ei orau i leihau allyriadau carbon, gwella bioamrywiaeth, a cheisio sicrhau economi ffyniannus, carbon isel ar gyfer ein rhanbarth.  Rydym yn falch iawn o'r camau gweithredu a gymerwyd gan Gyngor Abertawe hyd yn hyn, sy'n cynnwys y canlynol:

 

·                 Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe yw un o'r Cronfeydd Pensiwn cyntaf yn y DU i fabwysiadu Polisi Llywodraethu Amgylcheddol, Cymdeithasol sy'n ymrwymo'r gronfa bensiwn i leihau ei gyswllt (sydd eisoes yn isel) â buddsoddiadau tanwydd ffosil sy'n seiliedig ar garbon o hyd at 50% dros y pedair blynedd nesaf. Wrth wneud hynny, mae'n derbyn bod buddsoddi mewn buddsoddiadau ynni gwyrdd, isadeiledd a chymdeithasol newydd yn cynnig yr enillion ariannol cynaliadwy gorau ar gyfer aelodau'r Gronfa Bensiwn yn y tymor hir. Rhoddir y diweddaraf am y cynnydd ar sail flynyddol.

·                 Newid 21,053 o oleuadau stryd yn rhai LED, lleihau CO2 bob blwyddyn o 2,198,608.49kg.

·                 Cyflwyno Sioe Deithiol Aer Glân bob blwyddyn i ysgogi'r cyhoedd i brynu cerbydau trydan ac i hyrwyddo gwella ansawdd aer.

·                 Cyflwyno mesurau inswleiddio ac effeithlonrwydd ynni er budd tenantiaid tai'r cyngor.

·                 Hyrwyddo ymgyrchoedd a rhaglenni Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gynyddu effeithlonrwydd ynni tenantiaid preifat a pherchnogion tai, lleihau tlodi tanwydd a lleihau allyriadau.

·                 Ymgyrchu dros drydaneiddio'r rheilffordd o Abertawe i Lundain.

·                 Cynyddu'r gwaith tuag at gael Morlyn Llanw blaenllaw, cefnogi cynlluniau ynni adnewyddadwy cymunedol megis SCEES, i gyflwyno ynni glân ac er budd ysgolion lleol ac adeiladau cymunedol.

·                 Gweithio gydag eraill yn genedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i ddatblygu isadeiledd gwefru ceir trydanol.

·                 Bod yn arweinwyr arfer da yng Nghymru drwy gael polisïau ac ymagweddau Datblygu Cynaliadwy o'r cyfnod cyn Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

·                 Cynnwys gofalu am yr amgylchedd naturiol yn ein Cynllun Corfforaethol yn ddiweddar fel blaenoriaeth, cydnabod y cyfraniad hynod bwysig a gwaith ein Tîm Cadwraeth Natur.

·                 Adeiladu ein tai cyngor cyntaf ers cenhedlaeth yma yn Abertawe at safon Passivhaus, a dechrau adeiladu tai cyngor newydd at safon hynod ynni effeithlon, sef "Safon Abertawe," a fydd yn galluogi i'r holl elfennau gael eu sicrhau'n lleol a lleihau allyriadau gan ddefnyddio storio ynni mewn batris a defnyddio pympiau o'r ddaear.

·                 Bod yn arloesol wrth adeiladu prosiectau blaenllaw megis Ysgol Pentrehafod, arddangos lleihau gwastraff a chynaladwyedd.

·                 Ennill buddsoddiad ar gyfer technoleg werdd arloesol, megis "Cart" fel rhan o Fargen Ddinesig y Dinas-ranbarth.

·                 Parhau i geisio cyfleoedd i ychwanegu at ein cerbydlu o gerbydau trydan, sef yr un fwyaf yng Nghymru eisoes.

·                 Parhau i gyflwyno ein strategaeth Lleihau Carbon: Lleihad o 42% mewn allyriadau ers ein blwyddyn gwaelodlin.

·                 Sicrhau cyllideb ar gyfer cynnydd syfrdanol mewn llwybrau Teithio Llesol (cerdded a beicio) drwy'r sir ac wedi cefnogi cynllun beicio cymunedol Prifysgol Abertawe.

·                 Wedi dod yn Awdurdod Lleol Gwrth-ffracio yn 2016, wedi iddo basio deddf i "wrthwynebu unrhyw ddatblygiad nwy anghonfensiynol (ffracio)" sydd hefyd wedi ein hymrwymo i weithio tuag at fod yn awdurdod lleol nad ydym yn defnyddio tanwydd ffosil erbyn 2025.

·                 Gweithredu gweithio ystwyth fel y gall ein gweithlu leihau orfod teithio'n ddiangen.

·                 Datblygu arferion caffael lleol i leihau ein hôl troed carbon.

·                 O ran addysg, rydym wedi ymuno â rhaglenni EcoYsgolion rhyngwladol yn ddiweddar sy'n annog ysgolion i hyrwyddo ailgylchu a lleihau defnydd o ynni a dŵr.

·                 Annog ein disgyblion Cyfnod Sylfaen i ddysgu yn yr awyr agored gan sicrhau parch at natur, bioamrywiaeth ac ecosystemau.

·                 Yng Nghyfnod Allweddol 4, datblygu partneriaethau gyda'n prifysgolion i sefydlu gweithdai STEM gan gynnwys effaith newid yn yr hinsawdd.

 

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd gweithio'n agos gydag ymchwilwyr er mwyn cael yr  wybodaeth ddiweddaraf a'r ddealltwriaeth gliriaf am yr hyn y gallwn ni ei wneud i ymateb i'r angen brys i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

 

Felly, mae'r cyngor hwn yn datgan argyfwng hinsawdd, ac mae'n galw ar lywodraeth y DU i wneud yr un peth. Rydym yn ymrwymo i'r canlynol:

 

1.               Galw ar lywodraethau'r DU a Chymru i ddarparu'r pwerau a'r adnoddau angenrheidiol i ni er mwyn sicrhau bod Abertawe'n dod yn garbon niwtral erbyn 2030.

 

2.               Hyrwyddo'r argyfwng hinsawdd a hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r gwir am newid yn yr hinsawdd i'r cyhoedd lleol.

 

3.               Gweithio gydag arbenigwyr ymchwilio a datblygu perthnasol i:

 

a.               Adolygu ein strategaethau a'n cynlluniau gweithredu presennol er mwyn mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

b.               Nodi newidiadau pellach i'r polisi neu'r camau gweithredu y gallem eu cymryd, o fewn cwmpas ein pwerau a'n hadnoddau, i ateb ger yr argyfwng hinsawdd.

c.               Ceisio help partneriaid lleol megis Prifysgol Abertawe a chyrff ymchwilio eraill i lunio adroddiad o fewn blwyddyn i'w rannu â'r gymuned, a fydd yn esbonio'r gwaith sydd ar waith ar hyn o bryd a'r cyflawniadau a gafwyd hyd yn hyn, yn ogystal â'r targedau ar gyfer y dyfodol.

 

4.               Cael y diweddaraf am waith pellach y cyngor yn y maes hwn yn flynyddol drwy adran amcan corfforaethol Adroddiad o Adolygiad Blynyddol y cyngor - Cynnal a gwella adnoddau naturiol a bioamrywiaeth Abertawe."

 

Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig a amlinellir uchod.

 

Sylwer: Gofynnodd i'r Cynghorydd W G Thomas:

 

"Hoffwn nodi gwaith gwych y cyngor mewn perthynas ag adeiladu tai ynni effeithlon a'r effaith ar leihau carbon. Beth yw'r hyn a allwn ni ei wneud i wella'r agweddau hynny yn eiddo a swyddfeydd y cyngor?"

 

Nododd Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

29.

Hysbysiad o Gynnig - Fferm Gartref. pdf eicon PDF 91 KB

Cofnodion:

Cynigiwyd gan y Cynghorydd A M Day a'i eilio gan y Cynghorydd C L Philpott.

 

Mae'r cynnig yn darllen fel a ganlyn:

 

"Nodwn fod y Cabinet wedi cymeradwyo cyhoeddi Hysbysiadau o Wybodaeth Flaenorol mewn perthynas â nifer o safleoedd y mae'r cyngor yn berchen arnynt. Nodwn yr awgrym mai Home Farm, sydd ym Mharc Singleton, yw un o'r safleoedd a restrir ar wefannau GwerthwchiGymru.

 

Nodwn hefyd fod y disgrifiad yn nodi bod y cyngor yn ceisio partneriaid i "fwyafu gwerth y safle a sicrhau enillion datblygwyr o gynigion preswyl, masnachol a defnydd cymysg a arweinir gan y farchnad.' Mae'r Hysbysiad o Wybodaeth Flaenorol hwnnw hefyd yn nodi:

 

Home Farm, Parc Singleton - cynllun 42 uned ar hyn o bryd a fydd, o bosib, yn cynnwys 20% o dai fforddiadwy a gefnogir gan yr ymateb cyn cyflwyno cais.

 

Nodwn anawsterau ariannol y cyngor ond ni ddylai Home Farm, sydd wedi'i leoli o fewn parc arddangos Abertawe, gael ei ecsbloetio er mwyn gwneud elw.

 

Nodwn fod pryder sylweddol ymhlith y cyhoedd o ran y cynnig, yn enwedig llechfeddiant datblygiadau preswyl ym mharc mwyaf y ddinas, colli mynediad posib at rai o adeiladau mwyaf hanesyddol y ddinas, cynnydd mewn traffig o ddatblygiad o'r fath a diffyg gwahaniad rhwng cerddwyr a thraffig cerbydau a phroblemau wrth gael mynediad i'r safle ar Lôn Sgeti ac oddi yno.

 

O ystyried hyn a sefydlu Grŵp Cyfeillion Parc Singleton yn ddiweddar, rydym yn galw ar y Cabinet i gynnal y trafodaethau ehangaf posib ynghylch defnyddiau addas a phriodol eraill ar gyfer Home Farm sy'n cyd-fynd â'i leoliad."

 

Cynigodd y Cynghorydd C E Lloyd gynnig diwygiedig a eiliwyd gan y Cynghorydd M Thomas.  O ran pleidleisio, derbyniwyd y cynnig diwygiedig a daeth yn gynnig annibynnol.

 

Mae'r cynnig diwygiedig yn darllen fel a ganlyn:

 

"Nodwn fod y Cabinet wedi cymeradwyo cyhoeddi Hysbysiadau o Wybodaeth Flaenorol mewn perthynas â nifer o safleoedd y mae'r cyngor yn berchen arnynt. Nodwn yr awgrym mai Home Farm yw un o'r safleoedd a restrir ar wefannau GwerthwchiGymru.

 

Nodwn hefyd fod y disgrifiad yn nodi bod y cyngor yn ceisio partneriaid i "fwyafu gwerth y safle a sicrhau enillion datblygwyr o gynigion preswyl, masnachol a defnydd cymysg a arweinir gan y farchnad..." ac mae'r Hysbysiad o Wybodaeth Flaenorol hefyd yn nodi:

 

Home Farm, Parc Singleton - cynllun 42 uned ar hyn o bryd a fydd, o bosib, yn cynnwys 20% o dai fforddiadwy a gefnogir gan yr ymateb cyn cyflwyno cais.

 

Mae'r cyngor yn nodi adborth cychwynnol gan breswylwyr yn dilyn cyhoeddi'r Hysbysiad o Wybodaeth Flaenorol a sefydlu Grŵp Cyfeillion Parc Singleton yn ddiweddar. Mae felly yn galw ar y Cabinet i gynnal y trafodaethau ehangaf posib ynghylch defnyddiau addas a phriodol eraill ar gyfer safle Home Farm, sy'n cyd-fynd â'i leoliad.

 

Gofynnwn i'r Arweinydd sefydlu gweithgor trawsbleidiol i ystyried opsiynau dichonadwy ar gyfer addasu Home Farm a dylid adrodd i'r Cabinet o fewn y chwe mis nesaf."

 

Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig diwygiedig a amlinellir uchod.

30.

Hysbysiad o Gynnig - Oedran Pensiwn Statudol. pdf eicon PDF 92 KB

Cofnodion:

Cynigiwyd gan y Cynghorydd L S Gibbard ac fe'i eiliwyd gan y Cynghorydd C E Lloyd.

 

Mae'r cynnig yn darllen fel a ganlyn:

 

"Mae'r cyngor yn nodi'r cynnig blaenorol a basiwyd ym mis Rhagfyr 2016 a oedd yn galw ar y llywodraeth i wneud trefniadau trosiannol teg o ran pensiwn y wladwriaeth i fenywod o'r 1950au sydd, yn annheg, wedi gorfod ysgwyddo baich y cynnydd yn oedran pensiwn statudol y wladwriaeth heb unrhyw rybudd o gwbl ac maent yn credu ei fod yn annerbyniol nad yw'r llywodraeth wedi gweithredu ar ran y 15,000 o fenywod o Abertawe yr effeithir arnynt oherwydd ei weithrediadau.

 

Nodwn hefyd adolygiad barnwrol y gwrandawiad yn yr Uchel Lys a gynhaliwyd ar 5 a 6 Mehefin 2019 ac rydym yn aros yn amyneddgar i glywed canlyniad yr achos.

 

Mae'r cyngor hwn yn gofyn bod yr Arweinydd yn ysgrifennu at y Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Gwaith a Phensiynau i amlinellu cefnogaeth barhaus Cyngor Abertawe i'r menywod sy'n brwydro yn erbyn anghydraddoldeb o ran pensiwn y wladwriaeth.

 

Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig a amlinellir uchod.