Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad
a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. |
|
Ffilmio Cyfarfod Seremonïol y Cyngor Cofnodion: Cynigiodd yr Arglwydd Faer y dylid rhoi
caniatâd i’r rheiny a oedd yn bresennol ffilmio gweithgareddau Cyfarfod Seremonïol y Cyngor, a phenderfynwyd caniatáu hyn. |
|
Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Syr Karl Jenkins CBE B.Mus FRAM LRAM. Cofnodion: Croesawodd yr Arglwydd Faer yr Arglwydd Raglaw, yr Uchel Siryf, arweinwyr dinesig,
gwesteion nodedig, aelodau'r cyngor a Syr Karl
Jenkins CBE B.Mus FRAM LRAM i Gyfarfod Seremonïol y
Cyngor. Cyfeiriodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor at benderfyniad cyfarfod y cyngor a
gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf 2018 (cyfeirir ato yng Nghofnod 39), lle
penderfynodd y cyngor i roi Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Syr Karl Jenkins, gan ei gydnabod fel un o'r cyfansoddwyr mwyaf
cynhyrchiol yn y byd heddiw. Syr Karl Jenkins yw'r cyfansoddwr cyntaf a aned yng Nghymru i
gael ei urddo'n farchog am wasanaethau i gyfansoddi a chroesi genres cerddorol. Siaradodd y Cyng. M H Jones, a gynrychiolodd arweinydd yr wrthblaid fwyaf
ac arweinwyr y pleidiau gwleidyddol eraill o blaid y cynnig. Penderfynwyd rhoi rhyddid er anrhydedd Dinas a Sir
Abertawe i Syr Karl Jenkins, gan ei gydnabod fel un
o'r cyfansoddwyr mwyaf cynhyrchiol yn y byd heddiw. Yna cyflwynodd yr Arglwydd Faer y Sgrôl Rhyddid er Anrhydedd i Syr Karl Jenkins gan roi Rhyddid Dinas a Sir Abertawe iddo. Ymatebodd Syr Karl Jenkins drwy ddiolch i'r
cyngor am yr anrhydedd. |