Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636824
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol,
Democrataidd a Deallusrwydd Busnes gyngor ynghylch y cysylltiadau personol a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion
ag eitemau ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o
gysylltiadau personol a rhagfarnol" dim ond os
oes gan y cynghorydd/swyddog gysylltiad i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes
unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan
unrhyw gysylltiad ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
gysylltiadau. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 112 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r cyngor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried
yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr
adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o
ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A
Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas â'r eitemau
busnes a nodir yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y cyngor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y
cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd
yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Penodi Rolau Uwch-reolwyr (Cyfarwyddwr Addysg, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Swyddog Cyllid) Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad
a oedd yn cadarnhau penodiad i'r swyddi canlynol: 1)
Cyfarwyddwr Addysg; 2)
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol; 3)
Prif Swyddog Cyllid. Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod angen diwygio'r adroddiad gan ei fod yn
nodi mai Ben Smith oedd y Prif Swyddog Cyllid a gymeradwyodd yr adroddiad. Roedd
Ben Smith wedi datgan cysylltiad yn yr adroddiad a Paul Cridland oedd y Swyddog
Cyllid a gymeradwyodd yr adroddiad. Dywedodd yr Aelod Llywyddol y dylid
rhoi Rheol 44 Gweithdrefn y Cyngor "Atal Rheolau Gweithdrefn" ar
waith er mwyn cael gwared ar y gofyniad i ymgeiswyr roi cyflwyniad ac ymateb i
gwestiynau gan mai un ymgeisydd yn unig a oedd wedi cael ei gymeradwyo ar gyfer
pob swydd. Awgrymodd hefyd y dylid cael
gwared ar y gofyniad am bleidlais gudd a chynnal pleidlais syml drwy godi llaw
yn lle hynny. Amlinellodd y Prif Weithredwr yr
adborth o'r broses benodi ar gyfer pob ymgeisydd. Penderfynwyd: 1)
Rhoi Rheol 44 Gweithdrefn y Cyngor "Atal
Rheolau Gweithdrefn" ar waith er mwyn cael gwared ar y gofyniad ar gyfer y
canlynol: i)
Ymgeiswyr i roi cyflwyniad ac ymateb i
gwestiynau; ii) Pleidlais gudd. Dylid cynnal pleidlais
syml drwy godi llaw yn lle hynny. 2)
Penodi Nick
Williams yn Gyfarwyddwr Addysg; 3)
Penodi Dave Howes
yn Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol; 4)
Penodi Ben Smith
yn Brif Swyddog Cyllid. Sylwer: O ganlyniad i'r penderfyniad hwn, gwahoddwyd
pob ymgeisydd i Siambr y Cyngor a chynigiwyd y swyddi
iddynt. Derbyniodd pob ymgeisydd y cynnig. |