Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Eitemau
Rhif Eitem

116.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y cysylltiadau personol a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ag eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffwyd cynghorwyr a swyddogion gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o gysylltiadau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog gysylltiad i'w ddatgan yn unig. Nid oedd angen dychwelyd ffurflenni os nad oedd unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd fod yn rhaid datgan unrhyw gysylltiad ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

1)              Datganodd y Cynghorwyr J E Burtonshaw, P Downing, M Durke, S M Jones, H M Morris, C L Philpott, A Pugh, R C Stewart ac M Sykes gysylltiad Personol â Chofnod 123 “Mabwysiadu Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor”;

 

2)              Datganodd y Cynghorydd R D Lewis gysylltiad Personol â Chofnod 123 “Mabwysiadu Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor” a gadawodd y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei thrafod;

 

3)              Datganodd y Cynghorydd T J Hennegan gysylltiad Personol â Chofnod 124 “Penodi Cyfarwyddwr Addysg Statudol Dros Dro”.

117.

Cofnodion. pdf eicon PDF 136 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)              Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor a gynhaliwyd ar 20 Rhagfyr, yn amodol ar ddangos bod y Cynghorydd J A Hale wedi ymddiheuro am ei absenoldeb.

118.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 93 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor.

119.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

1)              Gweddarlledu Cyfarfod y Cyngor

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol, fel rhan o'r gwaith cyfredol i fynd ati i weddarlledu cyfarfodydd y cyngor, y Cabinet, y Pwyllgor Cynllunio a Phwyllgor y Rhaglen Graffu, fod y cyfarfod y cyngor yn cael ei recordio at ddibenion gweddarlledu. Ni fydd y cyfarfod yn cael ei ffrydio'n fyw am ein bod yn dal yn y cyfnod profi; fodd bynnag, caiff ei recordio. Os bydd y prawf yn llwyddiannus, caiff y cyfarfod ei gyhoeddi ar-lein yn ddiweddarach fel podlediad.

 

2)              Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd

 

Dinasyddion Abertawe a dderbyniodd ddyfarniadau yn Anrhydeddau'r            Flwyddyn Newydd.

 

a)              Urdd Fictoraidd Brenhinol (RVO)

 

i)                David Byron Lewis. Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannw.

 

b)              Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE)

 

i)                Henry (Harry) Gregg, MBE. Am wasanaethau i bêl-droed. Bu'n rheoli Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe o 1972 i 1975. (Dinas y Deri);

 

ii)               William James Barry Liles. Cyn-bennaeth a Phrif Swyddog Gweithredol Coleg Sir Gâr a Phencampwr Sgiliau Cymru. Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant bellach. Am wasanaethau i sgiliau a phobl ifanc yng Nghymru. (Casllwchwr, Abertawe);

 

iii)             Dr Andrew William Guest Rees. Pennaeth Strategaeth Gwastraff, Llywodraeth Cymru. Am wasanaethau i'r amgylchedd ac ailgylchu yng Nghymru. (Gŵyr, Abertawe);

 

iv)             Pamela Sutton. Arweinydd Gweithredol, Yr Adran Gwaith a Phensiynau. Am wasanaethau i bobl dan anfantais ac sy'n ddi-waith yng Nghymru. (Abertawe).

 

c)              Aelod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE)

 

i)                Stephen Dennis Combe. Cyfarwyddwr, Llywodraethu Corfforaethol ac ysgrifennydd y bwrdd. Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Am wasanaethau i lywodraethu yng Nghymru. (Abertawe);

 

ii)               Melanie Louise Davies. Prif Nyrs yn Ysbyty Treforys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Am wasanaethau i gleifion ag anableddau dysgu. (Castell-nedd, Castell-nedd Port Talbot)

 

ch)     Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM)

 

i)                Dr Heather Christine Potter. Cyfarwyddwr Clinigol Ardal, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr ac Arweinydd Clinigol, Rhwydwaith Clwstwr Castell-nedd. Am wasanaethau i ofal iechyd. (Abertawe).

 

3)              Dydd Santes Dwynwen

 

Mae'n Ddydd Santes Dwynwen yfory, nawddsantes cyfeillgarwch a chariadon Cymru.

 

Mae poblogrwydd a dathliadau Dydd Santes Dwynwen wedi cynyddu'n sylweddol yn y blynyddoedd diweddar, gyda digwyddiadau arbennig megis cyngherddau a phartïon yn cael eu cynnal yn aml, a chardiau Cymraeg yn cael eu hargraffu. Mae Santes Dwynwen yn bendant yn dod yn fwy adnabyddus ymhlith poblogaeth Cymru heddiw.

 

4)              Diwygiadau/Cywiriadau i Wŷs y Cyngor

 

i)                Eitem 14, “Hysbysiad o Gynnig”. Mae fersiwn ddiwygiedig wedi'i dosbarthu.

120.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)              Bargen Ddinesig Dinas-ranbarth Bae Abertawe

 

Rhoddodd Arweinydd y Cyngor ddiweddariad ynghylch Bargen Ddinesig Dinas-ranbarth Bae Abertawe a dywedodd fod adolygiadau'n mynd rhagddynt.

 

2)              Morlyn Llanw Bae Abertawe

 

Rhoddodd Arweinydd y Cyngor y diweddaraf am Forlyn Llanw Bae Abertawe.

121.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

122.

Cyflwyniad Cyhoeddus - Dim.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw gyflwyniadau.

123.

mabwysiadu'r cynllun gostyngiad treth y cyngor pdf eicon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn esbonio'r gofyniad i ystyried yn flynyddol a ddylid diwygio neu ddisodli Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor presennol y cyngor a'r gofyniad naill ai i fabwysiadu cynllun newydd neu ail-fabwysiadu’r cynllun presennol erbyn 31 Ionawr 2019.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 ("y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig") gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (CCC) ar 26 Tachwedd 2013, fel y'u diwygiwyd;

 

2)              Nodi'r diwygiadau i'r "Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig" a gynhwysir yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2018 a ystyriwyd ac a gymeradwywyd gan CCC ar 8 Ionawr 2019.

 

3)              Nodi canlyniad yr ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd gan y cyngor ym mis Tachwedd 2018 ar feysydd dewisol y cynllun presennol;

 

4)              Y bydd y cynllun presennol (2018/2019), mewn perthynas â'r meysydd dewisol (fel y'u nodir yn Adran 3 yr adroddiad) yn aros yr un peth o 2019/2020;

 

5)              Mabwysiadu'r cynllun fel y'i nodir yn Adran 3 yr adroddiad ac adlewyrchu unrhyw ddiwygiadau i'r rheoliadau a wnaed gan CCC yn y cynllun.

 

Sylwer: Gofynnodd y Cyng. P M Black y cwestiwn canlynol:

 

"Mae paragraff 5.2 yr adroddiad yn nodi mai'r diffyg a ragwelir rhwng cyllid a'r gostyngiad Treth y Cyngor a delir i dderbynwyr yw £1,270k. Sut mae hyn yn cymharu â blynyddoedd blaenorol?"

 

Dywedodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid Dros Dro y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

124.

Dynodi Cyfarwyddwr Addysg Statudol Dros Dro. pdf eicon PDF 97 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad a oedd yn gofyn i'r cyngor benodi Pennaeth y Gwasanaeth Dysgwyr Diamddiffyn yn Gyfarwyddwr Addysg Statudol dros dro.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Penodi Mark Sheridan, Pennaeth y Gwasanaeth Dysgwyr Diamddiffyn yn Gyfarwyddwr Addysg Statudol y cyngor dros dro. Bydd hyn am gyfnod o dri mis i ddechrau tra bydd y Cyfarwyddwr Statudol ar absenoldeb salwch;

 

2)              Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau i estyn y cyfnod o dri mis os oes angen.

125.

Y Diweddaraf am gynnydd blaenoriaethau'r Adran Addysg ar gyfer 2017-2018. pdf eicon PDF 144 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad a roddodd y diweddaraf am gynnydd o ran bodloni'r blaenoriaethau a bennwyd ar gyfer blwyddyn academaidd 2017-2018 a'r blaenoriaethau amlinellol a bennwyd ar gyfer blwyddyn academaidd 2018-2019.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi'r cynnydd.

 

Sylwer:

 

A)              Gofynnodd y Cynghorydd A M Day y cwestiynau canlynol:

 

"Mae'r pwynt bwled olaf o dan "Heriau" ar dudalen 27 yr adroddiad yn dweud bod yr awdurdod mewn perygl o orfod talu costau sylweddol mewn perthynas â lleoliadau hanesyddol mewn ysgolion annibynnol yn Abertawe. Mae dau gwestiwn:

 

i)                 A oes gan Aelod y Cabinet unrhyw syniad o'r ffigurau posib o ran y costau hyn?

 

ii)               A all Aelod y Cabinet gadarnhau a delir y costau hyn yn ganolog neu o gyllidebau dirprwyedig ysgolion.

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Addysg, Dysgu a Sgiliau y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

B)              Gofynnodd y Cynghorydd C L Philpott y cwestiwn canlynol:

 

"Faint o bobl yr effeithiwyd arnynt gan gau Brondeg a lle maen nhw'n mynd yn awr?"

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

126.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 167 KB

Cofnodion:

1)              ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd naw (9) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(Aelodau) y Cabinet drwy atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Dangosir y cwestiwn/cwestiynau atodol hwnnw/hynny yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arno/arnynt isod:

 

Cwestiwn 3  Gofynnodd y Cynghorydd P M Black:

"A ellir cylchredeg yr ymateb i breswylwyr Dynfant y cyfeiriwyd ato gan y Cynghorydd L S Gibbard mewn perthynas â'r sgipiau pren yng nghanolfannau Clun a Garngoch, a ddarparwyd gan Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd i'r holl gynghorwyr?"

 

Nododd Arweinydd y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig.

 

Cwestiwn 5. Gofynnodd y Cynghorydd E W Fitzgerald:

"A ellir rhannu canlyniadau'r arolygon boddhad sy'n dangos lefelau uchel o foddhad yng Ngarngoch?"

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai'n rhannu'r arolygon boddhad.

 

Cwestiwn 7. Gofynnodd y Cynghorydd P M Black:

Ydy Cyngor Abertawe’n cynnal Gwasanaeth Cewynnau Go Iawn neu ydyn ni’n dibynnu ar y sector preifat i wneud hyn drosom ni?”

 

Nododd Arweinydd y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig.

 

2)       ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Cyflwynwyd dau (2) 'gwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol ar eu cyfer' Rhan B ar eu cyfer.

127.

Hysbysiad o gynnig - Cynghorydd M Sherwood, J E Burtonshaw, R C Stewart, C E Lloyd, M C Child, W Evans, R Francis-Davies, D H Hopkins, E J King, A S Lewis, J A Raynor & M Thomas. pdf eicon PDF 106 KB

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd M Sherwood a ellid diwygio'r cynnig. Dywedodd fod y rhai a gyflwynodd y cynnig gwreiddiol yn cefnogi'r cynnig diwygiedig. Y cynnig diwygiedig oedd y prif gynnig i'w drafod.

 

Y diwygiad oedd ychwanegu paragraff 8, fel a ganlyn:

 

“8.  Atal y mudo naturiol gan hawlwyr budd-daliadau i Gredyd Cynhwysol nes ei fod yn addas at y diben a nes bod problemau a phryderon wedi'u datrys."

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd M Sherwood a'i eilio gan y Cynghorydd J E Burtonshaw.

 

Mae'r cynnig diwygiedig yn darllen fel a ganlyn:

 

"Yn dilyn ymweliad diweddar yr Athro Alston â'r Deyrnas Unedig, mae'r cyngor yn nodi gyda braw adroddiad Adroddwr Arbennig y CU ar Dlodi Eithafol a Hawliau Dynol.

Rydym yn adleisio arsylwad yr Athro Alston sef er gwaethaf y ffaith mai ni yw pumed economi fwyaf y byd, mae'n ymddangos yn gwbl anghyfiawn fod 14 miliwn o bobl, pumed o'r boblogaeth, yn byw mewn tlodi, ac mae 1.5 miliwn yn anghenus ac ni allant fforddio i brynu'r hanfodion sylfaenol. Rydym yn cytuno â'r datganiad canlynol: "Mae'r ffaith bod bron un o bob dau o blant yn dlawd ym Mhrydain yr unfed ganrif ar hugain yn gwbl gywilyddus yn ogystal â bod yn anffawd gymdeithasol ac yn drychineb economaidd."

 

Croesawn ffocws yr adroddiad ar y system nawdd cymdeithasol, ac effeithiau creulon diwygio lles wrth esbonio sut digwyddodd y dirywiad dramatig hwn. Yn syml, mae newidiadau i fudd-daliadau wedi gorfodi pobl i sefyllfa o argyfwng, ac mae anrheithio gwasanaethau'r cyngor a'r trydydd sector wedi golygu bod yn rhaid iddynt droi at wasanaethau drutach.

 

Rydym yn cytuno ag arsylwadau niferus yr adroddiad am fethiannau llywodraeth bresennol y DU yn enw cyni a'r ffaith eu bod yn "gwadu'n" ddigywilydd y dirywiad dramatig yn ffyniant y rhai lleiaf cefnog yn y wlad. Felly, galwn ar y Prif Weinidog i ymateb i'r adroddiad drwy roi ei argymhellion ar waith ar frys:

 

1.               Gwrthdroi'r polisi rhewi budd-daliadau, y cyfyngiad dau blentyn, y terfyn budd-dal a'r dreth ystafell wely.

2.               Sicrhau bod gan lywodraethau lleol yr arian angenrheidiol i drechu tlodi yn y gymuned ac ystyried anghenion a sylfeini treth amrywiol yn yr Adolygiad Ariannu Teg cyfredol.

3.               Cynnal adolygiad annibynnol o effeithiolrwydd cosbau a chyfarwyddo staff yr Adran Gwaith a Phensiynau ar unwaith i archwilio ymagweddau mwy adeiladol a llai cosbol at annog cydymffurfio.

4.               Dileu'r oedi pum wythnos wrth dderbyn budd-daliadau dan Gredyd Cynhwysol, caniatáu taliadau ar wahân i aelodau gwahanol o'r aelwyd a hwyluso taliadau wythnosol neu bythefnosol.

 

ac, o'n profiad lleol ni o Gredyd Cynhwysol, ychwanegwn y canlynol:

 

5.               Gwneud i'r Adran Gwaith a Phensiynau ymddwyn fel benthyciwr cyfrifol a chynnal asesiadau fforddadwyedd o hawlwyr CC cyn rhoi arian ymlaen llaw sy'n aml yn gwthio pobl i ddyled nad oes modd ei rheoli.

6.               Adfer y lwfansau gwaith a gynhwyswyd yn wreiddiol mewn CC.

7.               Hwyluso taliadau uniongyrchol i landlordiaid er mwyn lleihau ôl-ddyledion rhent.

8.               Atal y mudo naturiol gan hawlwyr budd-daliadau i Gredyd Cynhwysol nes ei fod yn addas at y diben a nes bod problemau a phryderon wedi'u datrys."

 

Ein penderfyniad yw y bydd Arweinydd y Cyngor yn ysgrifennu at y Prif Weinidog, gan nodi cynnwys y cynnig hwn."

 

Yn unol â Rheol 30 Gweithdrefn y Cyngor, "Pleidlais", gofynnwyd am bleidlais gofnodedig. Cofnodwyd y bleidlais ar y newid fel a ganlyn:

 

O blaid (53 o Gynghorwyr)

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

C Anderson

T J Hennegan

C L Philpott

P M Black

C A Holley

S Pritchard

J E Burtonshaw

O G James

A Pugh

M C Child

L James

J A Raynor

J P Curtice

Y V Jardine

M Sherwood

N J Davies

J W Jones

P B Smith

A M Day

M H Jones

R V Smith

P Downing

P Jones

A H Stevens

C R Doyle

S M Jones

R C Stewart

M Durke

E J King

D G Sullivan

C R Evans

E T Kirchner

M Sykes

V M Evans

A S Lewis

G J Tanner

W Evans

M B Lewis

D W W Thomas

R Francis-Davies

W G Lewis

L G Thomas

L S Gibbard

P Lloyd

G D Walker

F M Gordon

P M Matthews

L V Walton

K M Griffiths

H M Morris

T M White

J A Hale

D Phillips

-

 

Yn erbyn (0 cynghorydd)

Y Cynghorydd

Y Cynghorydd

Y Cynghorydd

-

-

-

 

Ymatal (8 Cynghorydd)

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

E W Fitzgerald

P R Hood-Williams

B J Rowlands

S J Gallagher

L R Jones

W G Tyler-Lloyd

D W Helliwell

M A Langstone

-

 

Wedi gadael y cyfarfod oherwydd datganiad o gysylltiad personol (0 cynghorydd)

Y Cynghorydd/wyr

Y Cynghorydd/wyr

Y Cynghorydd/wyr

-

-

-

 

Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig diwygiedig a amlinellir uchod.

128.

Hysbysiad o gynnig - Cynghorydd P M Black, J W Jones, M H Jones, C A Holley, E W Fitzgerald & D G Sullivan. pdf eicon PDF 91 KB

Cofnodion:

Dywedodd y Cynghorydd P M Black fod cynnig diwygiedig wedi'i gylchredeg.  Dywedodd y cefnogwyd y cynnig diwygiedig gan y rheiny a oedd wedi'i gynnig yn wreiddiol, ynghyd â'r rheiny a ychwanegwyd yn ddiweddar at y cynnig. Y cynnig diwygiedig oedd y prif gynnig i'w drafod.

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd P M Black a'i eilio gan y Cynghorydd R C Stewart.

 

Mae'r cynnig diwygiedig yn darllen fel a ganlyn:

 

Hysbysiad o gynnig gan y Cynghorwyr P M Black, J W Jones, M H Jones, C A Holley, E W Fitzgerald, D G Sullivan, R C Stewart, J E Burtonshaw, M C Child, W Evans, R Francis-Davies, D H Hopkins, E J King, A S Lewis, C E Lloyd, J A Raynor, M Sherwood ac M Thomas

 

"Mae'r cyngor yn nodi bod Abertawe'n adnabyddus fel dinas sy'n dwlu ar gŵn ac mae llawer o'n preswylwyr yn talu symiau mawr o arian am gi bach o'u dewis, ac weithiau miloedd o bunnoedd.

 

Manteisir ar y cariad hwn at gŵn gan berchnogion ffermydd cŵn bach anghyfreithlon sy'n cadw cŵn bridio mewn amodau gwael iawn. Maent hefyd yn cynhyrchu cŵn bach y mae eu hiechyd yn wael, ac sy'n cael eu cymryd oddi wrth eu mamau'n rhy gynnar, gan arwain yn aml at broblemau cymdeithasu ymysg y cŵn.

 

Mae perchnogion newydd y cŵn hyn yn gorfod talu symiau mawr o arian ar gyfer biliau milfeddyg, ond yn aml mae'r ci bach yn dal i farw neu nid oes modd ei reoli. Derbynnir llawer o'r cŵn bach hyn gan sefydliadau elusennol lleol i geisio'u hailgartrefu.

 

Roedd Lucy'n un o'r cŵn bridio a achubwyd o fferm cŵn bach, ac mae Cyfraith Lucy yn ymgyrch i wahardd gwerthu cŵn bach gan drydydd partïon i helpu i atal hyn.

 

Mae'r cyngor yn nodi ymhellach fod gan ardaloedd yng ngorllewin Cymru nifer cynyddol o ffermydd cŵn bach anghyfreithlon sy'n defnyddio trydydd partïon i werthu'r cŵn bach, a bod y cŵn bach hyn yn cael eu gwerthu yn Abertawe neu i breswylwyr Abertawe.

 

Mae Llywodraeth y DU wedi cytuno i wahardd gwerthiannau cŵn bach gan drydydd partïon yn Lloegr ac mae nifer o Aelodau Cynulliad yn gofyn i Lywodraeth Cymru wneud yr un peth.

 

Mae'r cyngor yn credu, heb Gyfraith Lucy, y bydd ffermydd cŵn bach anghyfreithlon sy’n bridio cŵn a chŵn bach yn parhau i waelu y tu ôl i ddrysau cau yng Nghymru, gan beri i'r anifeiliaid ddioddef dan ddwylo pobl sy'n meddwl bod elw'n bwysicach na lles anifeiliaid.

 

Mae'r cyngor hwn wedi penderfynu:

 

1)              Cefnogi Ymgyrch Genedlaethol Cyfraith Lucy i wahardd gwerthiannau a ffermio cŵn bach trydydd parti.

 

2)              Ychwanegu ei enw at y rhestr gynyddol o sefydliadau cefnogi a bydd yn mynd ati'n rhagweithiol i dynnu sylw preswylwyr at yr ymgyrch ledled y sir.

 

3)              Gofyn i Arweinydd Cyngor Abertawe ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ac i'r holl AC sy'n cynrychioli ardal Abertawe, gan fynegi barn aelodau'r cyngor hwn y dylid gweithredu ar frys i wahardd gwerthiannau cŵn bach trydydd parti."

 

Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig diwygiedig a amlinellir uchod.