Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Rhif | Eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y cysylltiadau personol
a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a
swyddogion ag eitemau ar yr agenda. Atgoffwyd cynghorwyr a swyddogion gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o gysylltiadau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog gysylltiad
i'w ddatgan yn unig. Nid oes angen
dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y
dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorwyr C
Anderson, P M Black, J E Burtonshaw, M C Child, S E Crouch, J P Curtice, N J
Davies, A M Day, P Downing, C R Doyle, M Durke, C R Evans, V M Evans, W Evans,
E W Fitzgerald, R Francis-Davies, L S Gibbard, F M Gordon, K M Griffiths, J A
Hale, D W Helliwell, T J Hennegan, C A Holley, P R Hood-Williams, B Hopkins, O
G James, L James, Y V Jardine, J W Jones, L R Jones, M H Jones, P K Jones, S M
Jones, E J King, E T Kirchner, M A Langstone, A S Lewis, M B Lewis, W G Lewis,
C E Lloyd, P Lloyd, I E Mann, P M Matthews, P N May, H M Morris, C L Philpott,
S Pritchard, A Pugh, C Richards, J A Raynor, K M Roberts, B J Rowlands, M
Sherwood, P M Smith, R V Smith, A H Stevens, R C Stewart, D G Sullivan, G J
Tanner, D W W Thomas, L G Thomas, M Thomas, W G
Thomas, L J Tyler-Lloyd, G D Walker a T M White gysylltiad personol â Chofnod
94 "Adroddiad Drafft Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth
Ariannol 2019-2020 - Ymgynghoriad". |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo a
llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo'r
cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir: 1) Cyfarfod cyffredin o'r cyngor a gynhaliwyd ar 25 Hydref 2018. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r
ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf
o'r cyngor. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: 1)
Gwobr
Cyfreithiwr sy'n Ymwneud â Phobl/Tîm y Flwyddyn Cyfreithwyr mewn Llywodraeth
Leol (LlL) Dywedodd yr Aelod Llywyddol ei fod yn
falch o gyhoeddi bod Stephanie Williams a Stephen Holland o Dîm Gwasanaethau
Cyfreithiol Adran Addysg yr awdurdod wedi ennill Gwobr Cyfreithiwr sy'n Ymwneud
â Phobl/Tîm y Flwyddyn Cyfreithwyr mewn Llywodraeth Leol (LlL).
Mae hyn i gydnabod y gwasanaeth rhagorol maent yn ei ddarparu i ysgolion. Roedd y gwerth a roddwyd ar wasanaeth pwrpasol y
tîm gan benaethiaid ledled Abertawe wedi creu cryn argraff ar y beirniaid, a'i
disgrifiodd fel "estyniad hanfodol o gymuned yr ysgol", ac a
ganmolodd "broffesiynoldeb llwyr ac ymagwedd gwrtais y cyfreithwyr
arbenigol a oedd yn rhan ohono". Roedd Stephanie Williams a Stephen
Holland o'r Gwasanaethau Cyfreithiol yn bresennol i dderbyn y wobr. 2)
Gwobrau Dathlu
Rhagoriaeth Mewn Caffael Cyhoeddus Cyfleoedd y Llywodraeth (GO) Cymru 2018-2019 Dywedodd yr Aelod Llywyddol ei fod yn
falch o gyhoeddi bod y Tîm Cyfleusterau yn y gwasanaeth Eiddo Corfforaethol
ynghyd â'r Weinyddiaeth Celfi wedi cael canmoliaeth uchel yng ngwobrau GO eleni
ar gyfer y Prosiect Gweithio Ystwyth. Mae'r Wobr Budd Cymdeithasol a Chymunedol
ym maes Caffael GO yn tynnu sylw at y gwaith da a wnaed wrth adnewyddu'r
amgylchedd swyddfa gweithio ystwyth newydd. Mae'r wobr yn cydnabod y rôl hanfodol y
gall caffael cyhoeddus ei chwarae yng Nghymru wrth ddarparu cymdeithas fwy
cynaliadwy a theg. Mae'n tynnu sylw at
sefydliadau sydd wedi gwreiddio gofynion buddion cymdeithasol a chymunedol yn
eu gweithgareddau caffael a chadwyn gyflenwi er mwyn galluogi gwell canlyniadau
i ddinasyddion Cymru. 3)
Gwobrau
Gwasanaethau Blynyddol APSE (Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus) Dywedodd yr Aelod
Llywyddol fod Gwobrau Gwasanaethau Blynyddol APSE (Cymdeithas Rhagoriaeth mewn
Gwasanaeth Cyhoeddus) a gynhaliwyd ym
mis Medi'n cydnabod ac yn dathlu cyflwyno gwasanaethau rheng flaen llywodraeth
leol neilltuol. Derbyniwyd dros 370 o gynigion ganddynt eleni gan awdurdodau
lleol o bob rhan o'r DU, a chyrhaeddodd Cyngor Abertawe'r
rhestr fer mewn pum categori. Cynhaliwyd y gwobrau yng Nghaeredin,
ac rwy'n falch o gyhoeddi y cyhoeddwyd mai'r Gwasanaethau Adeiladau oedd
enillwyr y Wobr Menter Orau'r Gweithlu. Cydnabuwyd Gwasanaethau
Adeiladau Cyngor Abertawe ar gyfer y wobr nodedig hon oherwydd eu rhaglen
hyfforddi a datblygu staff ac am eu rhaglen brentisiaeth sydd wedi derbyn bron
200 o brentisiaid ers iddi gychwyn yn 2003. Roedd yr adran wedi cydnabod ac
ailgynhyrchu'r ymagwedd arfer gorau hon ar draws ei holl ddarpariaeth
gwasanaeth a fydd yn sicrhau bod digon o staff a sgiliau "addas at y
diben" ar gyfer y tîm yn y dyfodol. Roedd Emma Lewis a Malcolm
Jones o'r Gwasanaethau Adeiladau'n bresennol i dderbyn y wobr. 4)
Cynllun Prentisiaethau a
Phrentis y Flwyddyn Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Cynllun
Prentisiaethau'r awdurdod wedi bod yn gweithredu ers 2003 a bod dros 200 o
brentisiaid wedi bod yn rhan ohono yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae'r Cynllun
Prentisiaethau'n caniatáu i'r awdurdod ddatblygu cenhedlaeth newydd o seiri, plymeriaid, trydanwyr, plastrwyr a phersonél aml-grefft. Prentis cyffredinol y Flwyddyn oedd Luke Evans a
oedd newydd gwblhau ei 4edd flwyddyn. Yr enillwyr eraill oedd: Gwobr Prentis Blwyddyn 1af Prentis Mecanyddol a Thrydanol y Flwyddyn yw Lewis
Morgan; Prentis Crefft y Flwyddyn yw Joshua Collins. Gwobr Prentis 2il Flwyddyn Prentis Mecanyddol a Thrydanol y Flwyddyn yw Connor
Phillips; Prentis Crefft y Flwyddyn yw Joshua Phelps. Gwobr Prentis 3edd Flwyddyn Prentis Mecanyddol a Thrydanol y Flwyddyn yw Llewellyn
Richards; Prentis Crefft y Flwyddyn yw Rory
Grey. 5)
Y Lluoedd
Arfog - Gwobr Aur Cynllun Cydnabod
Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn Dywedodd yr Aelod Llywyddol ei fod yn falch bod
ymdrechion y cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog wedi'u cydnabod gyda Gwobr Aur
dan Gynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn. Ni yw'r unig gyngor
yng Nghymru sydd wedi derbyn y wobr hon a drefnir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Aeth Spencer Martin a Stephen Jenkins i Lundain yn ddiweddar i dderbyn y wobr. Roedd Spencer Martin a Stephen Jenkins
yn bresennol i dderbyn y wobr. 6)
Prosiect
Diamond yn ennill Gwobr Diana Dywedodd yr Aelod
Llywyddol fod Prosiect Diamond, cynllun sy'n helpu
plant sy'n derbyn gofal yn Abertawe i ddysgu mwy am fywyd yn y brifysgol i'w
hysbrydoli, cynyddu eu dyheadau, datblygu eu hyder a'u hunanbarch
a grymuso'u llais wedi ennill Gwobr Diana'n ddiweddar. Dechreuodd Prosiect Diamond fel sesiwn ragflas undydd i blant hŷn ond mae
wedi tyfu o ganlyniad i'w brwdfrydedd a chefnogaeth gan Dîm Addysg Plant sy'n
Derbyn Gofal Cyngor Abertawe a Phartneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach De-orllewin
Cymru. Mae'r bobl ifanc bellach yn mynd
i gyfarfodydd a diwrnodau mas rheolaidd ym Mhrifysgol Abertawe ac yn bwriadu
ehangu ymhellach fel y gallant fentora plant iau fel
nhw eu hunain i achub ar gyfleoedd nad oeddent o bosib yn meddwl y byddent o
fewn cyrraedd iddynt. Sefydlwyd Gwobr Diana ym
1999 gan Lywodraeth Prydain a oedd am barhau ag etifeddiaeth y Dywysoges Diana
drwy sefydlu ffordd ffurfiol o gydnabod pobl ifanc a oedd yn gwneud llawer mwy
na'r disgwyl yn eu cymunedau lleol. Caiff y bobl ifanc sy'n
rhan o Brosiect Diamond eu gwahodd yn awr i fynd i
seremoni yng Nghaerdydd i dderbyn eu gwobr. Dyma'r ail dro maent wedi cael
cydnabyddiaeth am eu gwaith yn ddiweddar ar ôl ennill gwobr yng Ngwobrau Rho
Bump Cyngor Abertawe fis diwethaf. Llongyfarchodd bawb a fu'n rhan o hyn. 7)
Gwobrau
Cenedlaethol Cerbydluoedd Dywedodd yr Aelod Llywyddol ei fod yn
falch o gyhoeddi bod yr awdurdod wedi cael ei ddewis i fod ar restrau byr dwy
wobr genedlaethol ar gyfer cerbydluoedd. Y gyntaf yw
gwobrau Green Fleet i'w cynnal yn Leeds ar 22
Tachwedd 2018, lle mae'r awdurdod ar restr fer y categori Cerbydlu
Sector Cyhoeddus y Flwyddyn (canolig i fawr). Yr ail yw Gwobrau What Van i'w cynnal yn Llundain ar 13 Rhagfyr 2018, lle
mae'r awdurdod ar restr fer y categori Cerbydlu
Gwyrdd y Flwyddyn. Mae'r
enwebiadau hyn yn seiliedig ar gyflwyno 40 o faniau
trydan, yr ymagwedd gyffredinol y mae'r awdurdod wedi'i mabwysiadu i leihau
effaith amgylcheddol ein cerbydlu a'r bwriad i
fabwysiadu Polisi Cerbydlu Gwyrdd. 8)
Ymgyrch y
Rhuban Gwyn Dywedodd yr Aelod
Llywyddol fod Ymgyrch y Rhuban Gwyn yn fudiad byd-eang sy'n gweithio i roi
terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched.
Dywedodd y bydd yr awdurdod yn nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn drwy gynnal
nifer o ddigwyddiadau yn y Ganolfan Ddinesig, Abertawe ar 26 Tachwedd 2018. 9)
Newidiadau/cywiriadau i
wŷs y cyngor i)
Eitem 17 yr Agenda,
“Hysbysiad o Gynnig” Dywedodd yr Aelod
Llywyddol fod y Cyng. C Holley wedi gofyn am dynnu'r Hysbysiad o Gynnig sydd
wedi'i argraffu ar dudalennau 60 i 62 o Wŷs y Cyngor yn ôl. ii)
Hysbysiad o Gynnig Brys Dywedodd
yr Aelod Llywyddol, yn unol â pharagraff 100B (4)(b) Deddf Llywodraeth Leol
1972, ei fod yn ystyried bod yr Hysbysiad o Gynnig a gylchredwyd yn fater brys. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Gorymdaith y Nadolig Ymddiheurodd Arweinydd y Cyngor am Orymdaith y
Nadolig a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2018, gan ddweud ei fod wedi siomi'r
disgwyliadau'n fawr. Dywedodd fod camau wedi'u
cymryd yn gyflym a bod y contract â'r cwmni allanol wedi'i derfynu. Dywedodd mai'r awdurdod a drefnodd orymdaith
lwyddiannus y Nadolig yn 2017 ac y bydd yn ymrwymedig i'w drefnu'n fewnol y
flwyddyn nesaf gan ddefnyddio tîm mewnol yr awdurdod a gyflwynodd y Sioe Awyr
ac a ymunodd â'r BBC i gyflwyno'r Penwythnos Mwyaf gan BBC Music. 2)
Setliad Llywodraeth Cymru Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod yr awdurdod wedi
derbyn rhywfaint o newyddion gwell am y gyllideb am newid. Er bod yr awdurdod wedi
derbyn ffigurau pennawd Cymru gyfan hyd yn hyn, mae'n edrych fel y bydd £1.5m
ychwanegol yn cyrraedd yn ystod 2018-2019. Bydd yr arian hwn yn helpu'r awdurdod rywfaint â'r
diffyg arian ar gyfer tâl athrawon (a fydd yn helpu i liniaru pwysau ar ysgolion)
a phwysau gofal cymdeithasol y gaeaf. 3)
Newidiadau i Bortffolios y Cabinet Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei fod wedi diwygio
Portffolio'r Cabinet fel a ganlyn: i)
Dirprwy Arweinydd Portffolio Cabinet y cyngor sy'n gyfrifol am ddeisebau. ii)
Tynnwyd Cymunedau'n Gyntaf o Bortffolio Cabinet y Gwasanaethau Plant a'i
ychwanegu at Bortffolio'r Cabinet ar gyfer Cymunedau Gwell. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac
ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Gofynnwyd un cwestiwn gan aelod o'r cyhoedd
ynghylch yr eitemau canlynol ar yr agenda: 1)
Hysbysiad o Gynnig Brys -
Brexit Ymatebodd yr Aelod
Cabinet perthnasol yn unol â hyn. Ni chafwyd cwestiynau a oedd yn gofyn am ymateb
ysgrifenedig. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyflwyniad Cyhoeddus - Dim. Cofnodion: Ni dderbyniwyd cyflwyniadau cyhoeddus. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor - 2019/20 PDF 130 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet
dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes adroddiad a oedd yn manylu
ar gyfrifo sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer Dinas a Sir Abertawe, ei Gynghorau
Cymuned/Tref ac Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe ar gyfer 2019-2020. Mae'n ofynnol i'r cyngor bennu Sylfeini Treth
y Cyngor ar gyfer 2019-2020 erbyn 31 Rhagfyr 2018. Penderfynwyd: 1) Cymeradwyo'r Sylfeini Treth y Cyngor ar
gyfer 2019-2020; 2) Yn unol â
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth Gyngor) (Cymru) 1995, fel y'i diwygiwyd, mai dyma fydd cyfrifiad
Dinas a Sir Abertawe ar gyfer y flwyddyn 2019-2020:
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn
hysbysu'r cyngor o Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar
Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) 2019-2018 ac amlinellodd y penderfyniadau a gynigiwyd gan yr IRPW. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys
ymateb drafft argymelledig Pwyllgor y Gwasanaethau
Democrataidd i'r ymgynghoriad, a roddwyd ar 6 Tachwedd 2018. Penderfynwyd: 1)
Mabwysiadu'r sylwadau a nodwyd yn Atodiad A yr adroddiad
fel ymateb ffurfiol yr awdurdod i'r IRPW. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adolygiad o Lawlyfr y Cynghorwyr PDF 67 KB Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth ar gyfer argymhellion Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd ar 6
Tachwedd 2018 yn dilyn ei adolygiad o Adran A "Cydnabyddiaeth Ariannol
Cynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig (Cyflogau, Lwfansau a Threuliau)" o'r
Llawlyfr i Gynghorwyr. Penderfynwyd: 1)
Mabwysiadu'r diwygiadau i Adran A "Cydnabyddiaeth
Ariannol Cynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig (Cyflogau, Lwfansau a
Threuliau)" o'r Llawlyfr i Gynghorwyr fel y'u hamlinellir yn Atodiad A yr
adroddiad. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Newidiadau i'r Cyfansoddiad. PDF 133 KB Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro a
Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar y cyd yn ceisio diwygiad i
Gyfansoddiad y Cyngor er mwyn ei symleiddio, ei wella a/neu ychwanegu ato mewn
perthynas â'r meysydd canlynol: a)
Rhan 3 "Cyfrifoldeb am
Swyddogaethau" - Cylch Gorchwyl y Bwrdd Magu Plant Corfforaethol a
Phwyllgor y Gronfa Bensiwn; b)
Rhan 4 "Rheolau
Gweithdrefnau" - Rheolau Gweithdrefnau'r cyngor - "Cyfarfod Arbennig
o'r cyngor" a "Cyflwyniad Cyhoeddus a Hawl i Holi"; c)
Rhan 4 "Rheolau
Gweithdrefnau" - Rheolau Gweithdrefnau'r Cabinet - "Gweithdrefn Galw
i Mewn"; ch) Rhan 4 "Rheolau
Gweithdrefnau" - Rheolau Gweithdrefnau Contract - Goddefebau,
Gweithdrefnau Tendrau Unigol a Hepgoriadau; d)
Rhan 6 "Cynllun Lwfansau
Cynghorwyr" Penderfynwyd: 1)
Diwygio Paragraff 7 a) Cylch
Gorchwyl y Bwrdd Magu Plant Corfforaethol fel y'i hamlinellir yn Rhan 3
"Cyfrifoldeb am Swyddogaethau" Cyfansoddiad y Cyngor. “7 a) Byddai'r Bwrdd fel arfer yn cwrdd bob
chwarter ond gall gwrdd yn ôl y galw”. 2)
Ychwanegu'r paragraff canlynol
at Gylch Gorchwyl Pwyllgor y Gronfa Bensiwn fel y'i hamlinellir yn Rhan 3
"Cyfrifoldeb ar gyfer Swyddogaethau" Cyfansoddiad y Cyngor: “12. Cymeradwyo Datganiad o Gyfrifon Pensiwn yr
Awdurdod". 3)
Diwygio Rheol 10 Gweithdrefn y Cyngor sy'n ymwneud â
"Chyfarfod Arbennig o'r Cyngor" fel y'i hamlinellir yn Rhan 4
"Rheolau Gweithdrefnau" Cyfansoddiad y cyngor i'w chynnwys yn yr
eitemau busnes canlynol: a)
Cyhoeddiadau/Negeseuon gan yr Aelod Llywyddol; b)
Cyhoeddiadau/Negeseuon gan Arweinydd y Cyngor; c)
Cwestiynau gan y Cyhoedd. 4)
Diwygio paragraff 26.5 Rheol 26 Gweithdrefn y Cyngor sy'n
ymwneud â "Chyflwyniadau Cyhoeddus a Hawl i Holi" fel y'i hamlinellir
yn Rhan 4 "Rheolau Gweithdrefnau" Cyfansoddiad y Cyngor i ddarllen: "26.5 Yn ôl
disgresiwn yr Aelod Llywyddol, gall unrhyw Sefydliad Trydydd Sector neu
sefydliad arall roi cyflwyniad i'r cyngor ar fater y mae'r cyngor yn gyfrifol
amdano. Dyrennir cyflwyniadau ar sail y cyntaf i'r felin.” 5)
Diwygio teitl Rheol 26 Gweithdrefn y Cyngor i ddarllen
fel a ganlyn: “26. Cyflwyniadau a Chwestiynau gan y Cyhoedd 6)
Diwygio ac ailrifo Rheol 14
Gweithdrefn y Cyngor sy'n ymwneud â "Threfn Busnes" fel y'i
hamlinellir yn Rhan 4 "Rheolau Gweithdrefnau" Cyfansoddiad y cyngor i
gynnwys y canlynol: “Cyhoeddiadau/Negeseuon gan Arweinydd y Cyngor”. 7)
Diwygio Paragraff 18.3.1 Rheol 18.3 Gweithdrefnau'r
Cabinet sy'n ymwneud â "Dilysrwydd Galw i Mewn" fel y'i hamlinellir
yn Rhan 4 "Rheolau Gweithdrefnau" Cyfansoddiad y Cyngor i ddarllen: “18.3.1
Ni chaiff ei wneud erbyn 23.59 ar 3ydd diwrnod gwaith clir
cyhoeddi'r penderfyniad;" 8)
Diwygio Rheol 20 Gweithdrefnau Contractau sy'n ymwneud â
"Goddefebau, Gweithdrefnau Tendro Unigol a Hepgoriadau" fel y'u hamlinellir yn Rhan 4
"Rheolau Gweithdrefnau" Cyfansoddiad y Cyngor fel bod y ddyletswydd i
ystyried cymeradwyo neu hepgor yr holl oddefebau,
gweithdrefnau tendrau unigol a hepgoriadau yn cael ei
throsglwyddo i Bennaeth y Gwasanaethau Masnachol, ac y cedwir cofrestr ohonynt. 9)
Dileu'r Cynllun Lwfansau Cynghorwyr fel y'i hamlinellir
yn Rhan 6 "Cynllun Lwfansau Cynghorwyr" yn ei gyfanrwydd a rhoi'r
canlynol yn ei le: "Gellir
gweld gwybodaeth sy'n ymwneud â Chydnabyddiaeth Ariannol Cynghorwyr ac Aelodau
Cyfetholedig yn Atodlen
Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau." |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol. PDF 125 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r
Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 162 KB Cofnodion: 1)
‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A Cyflwynwyd
wyth (8) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A.
Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar
ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor. Dangosir
y cwestiwn/cwestiynau atodol hwnnw/hynny yr oedd angen ymateb ysgrifenedig
arno/arnynt isod: Cwestiwn 6 Gofynnodd y Cyng. C L Philpott: "A all Aelod y Cabinet
ddarparu nodyn briffio i'r holl gynghorwyr sy'n amlinellu'r rheolau sydd ar
waith o ran cynllun chwistrellu chwyn yr awdurdod?" Nododd
Aelod y Cabinet dros Reoli'r Amgylchedd ac Isadeiledd y byddai ymateb
ysgrifenedig yn cael ei ddarparu. 2) ‘Cwestiynau
nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B Cyflwynwyd
tri (3) 'chwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol' ar eu cyfer Rhan B. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Hysbysiad o gynnig - Cynghorydd C A Holley, M H Jones, P M Black, A M Day and J W Jones. PDF 99 KB Cofnodion: Tynnwyd yr eitem yn ôl. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Eitem Frys Cofnodion: Dywedodd
yr Aelod Llywyddol ei fod, yn unol â pharagraff 100B (4)(b) Deddf Llywodraeth
Leol 1972, yn ystyried y dylai'r "Hysbysiad o Gynnig" gan: y
Cynghorwyr R C Stewart, C A Holley, P M Black, J E Burtonshaw, M C Child, A M
Day, W Evans, R Francis-Davies, D H Hopkins, J W Jones, M H Jones, E J King, A
S Lewis, C E Lloyd, J A Raynor, M Sherwood ac M Thomas mewn perthynas â Brexit
gael ei ystyried yn y cyfarfod fel mater o frys. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhybydd o Gynnig Brys: Councillors R C Stewart, C A Holley, P M Black, J E Burtonshaw, M C Child, A M Day, W Evans, R Francis-Davies, D H Hopkins, J W Jones, M H Jones, E J King, A S Lewis, C E Lloyd, J A Raynor, M Sherwood and M Thomas Cofnodion: Rheswm dros y
Mater Brys:Adroddir yn helaeth yn y wasg fod
y Prif Weinidog yn gobeithio cyflawni cytundeb Brexit ar 25 Tachwedd 2018, pan
fydd yn mynd i uwchgynhadledd frys o'r EU ym Mrwsel at y diben penodol hwnnw.
Deellir yn gyffredinol y gellid cynnal y bleidlais mor gynnar â 7 Rhagfyr 2018.
Felly, mae angen clir i
ymdrin â'r Hysbysiad o Gynnig hwn ar frys. Fe'i cynigiwyd
gan y Cynghorydd R C Stewart a'i eilio gan y Cynghorydd C A Holley. “Daeth
yn amlwg dros y pythefnos diwethaf fod y cytundeb i adael yr UE ym mis Mawrth 2019
yn gytundeb nad yw'n bodloni'r rhai sydd am aros yn y UE na'r Brexitwyr, ac nid oes fawr o obaith y bydd y Senedd yn
cytuno arno. Er mwyn mynegi
ein barn yn glir i Lywodraeth y DU ynghylch sut dylent ddatrys y sefyllfa hon,
mae'r cyngor yn galw ar y Llywodraeth i alw Etholiad Cyffredinol a/neu roi
cyfle i'r bobl, gan gynnwys pobl ifanc 16 ac 17 oed, fwrw pleidlais ynghylch y
cytundeb drwy Bleidlais y Bobl. Dylai'r bleidlais gynnwys opsiwn i aros yn yr UE neu adael heb
gytundeb. O gofio bod refferendwm
Brexit wedi'i lethu gan symiau enfawr o wybodaeth anghywir, mae'r cyngor hwn yn
galw ar holl asiantaethau'r Llywodraeth i sicrhau bod unrhyw wybodaeth
berthnasol ar gael yn hawdd i'r cyhoedd. Rydym wedi
penderfynu galw ar Arweinydd y Cyngor i ysgrifennu at y Prif Weinidog gan
nodi'r farn a fynegwyd yn y cynnig hwn." Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig a
amlinellwyd uchod fel y'i diwygiwyd. |