Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Deallusrwydd
Busnes gyngor ynghylch y cysylltiadau personol a rhagfarnol
posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ag eitemau ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y
dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o gysylltiadau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog
gysylltiad i'w ddatgan. Nid oes angen
dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a
swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw gysylltiad ar lafar ac yn ysgrifenedig
ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorwyr C
Anderson, M C Child, V M Evans, R Francis-Davies, J A Hale, M B Lewis, R D
Lewis, C Richards, K M Roberts, B J Rowlands, R V Smith ac A H Stevens
gysylltiad personol â Chofnod 36 "Adroddiad Blynyddol y Partneriaethau
Hamdden”; 2)
Datganodd y Cynghorydd R C
Stewart gysylltiad personol â Chofnod 37 “Bargen Ddinesig Bae Abertawe”; 3)
Datganodd y Cynghorwyr C
Anderson, P M Black, J E Burtonshaw, M C Child, J P Curtice, N J Davies, A M
Day, C R Doyle, P Downing, M Durke, C R Evans, V M Evans, W Evans, E W
Fitzgerald, R Francis-Davies, F M Gordon, K M Griffiths, J A Hale, D W
Helliwell, T J Hennegan, C A Holley, P R
Hood-Williams, B Hopkins, D H Hopkins, L James, O G James, Y V Jardine, J W
Jones, L R Jones, M H Jones, P K Jones, E J King, E T Kirchner, A S Lewis, M B
Lewis, R D Lewis, W G Lewis, C E Lloyd, I E Mann, P M Matthews, P N May, H M
Morris, C L Philpott, S Pritchard, A Pugh, J A Raynor, C Richards, K M Roberts,
B J Rowlands, M Sherwood, R V Smith, A H Stevens, R C Stewart, D G Sullivan, M
Sykes, D W W Thomas, M Thomas, G J Tanner, W G
Thomas, L J Tyler-Lloyd, G D Walker ac L V Walton gysylltiad personol â Chofnod
38 "Adolygiad o Drefniadau Etholiadol ar gyfer Dinas a Sir Abertawe
Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru." |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion
y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd
cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod
cywir: 1) Cyfarfod
Cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 21 Mehefin 2018. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Deallusrwydd Busnes adroddiad
gwybodaeth yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng
nghyfarfod cyffredin diwethaf y cyngor. |
|
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: 1)
Newidiadau/cywiriadau i
wŷs y cyngor i)
Eitem 13 yr agenda
“Adolygiad o Drefniadau Etholiadol ar gyfer Dinas a Sir Abertawe Comisiwn
Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru” Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod taflen wedi cael ei
dosbarthu gan ddiwygio ychydig fanylion yn yr adroddiad. Roedd y diwygiadau
mewn perthynas â'r wardiau etholiadol canlynol - Fairwood, Gogledd Cilâ, De
Cilâ, Penclawdd, Penderi, Penllergaer, Townhill ac Uplands. ii)
Eitem 15 yr Agenda,
“Diwygiadau i Gyfansoddiad y Cyngor” Dywedodd yr Aelod Llywyddol y dylid diwygio'r argymhelliad fel ei fod yn
dweud "Cymeradwyo'r newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor fel a amlinellir yn
Atodiad A a B yr adroddiad ar y cyd ag unrhyw
newidiadau canlyniadol ychwanegol". |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1) Morlyn Llanw Bae Abertawe Darparodd Arweinydd y Cyngor ddiweddariad ynghylch
y gwaith parhaus i gyflwyno Morlyn Llanw Bae Abertawe. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran
agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Gofynnwyd sawl cwestiwn gan aelodau'r cyhoedd. Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet yn
briodol. Rhestrir y cwestiynau hynny a
oedd yn gofyn am ymateb ysgrifenedig isod: 1) Gofynnodd Nortridge
Perrott gwestiynau i Arweinydd y Cyngor mewn perthynas
â Chofnod 37 “Bargen Ddinesig Bae Abertawe”. "Sut mae'r 11 o
brosiectau ym Margen Ddinesig Bae Abertawe yn gweithio gyda Deddf Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015?" Nododd Arweinydd y
Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig. |
|
Cyflwyniad Cyhoeddus - Gofalwyr Ifanc yn Abertawe. Cofnodion: Rhoddodd Ifor Glyn (Cyfarwyddwr) ac Alexandra Atkins (Rheolwr Prosiect Gofalwyr sy'n Oedolion Ifanc) gyflwyniad
ar waith y Gofalwyr Ifanc yn Abertawe.
Dywedon nhw mai sefydliad gwirfoddol arbenigol yw Canolfan Gofalwyr
Abertawe ac mae'n darparu cefnogaeth i ofalwyr nad ydynt yn cael eu talu a
chyn-ofalwyr yn Ninas a Sir Abertawe. Mae Canolfan Gofalwyr Abertawe'n
cynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth am ddim i wneud bywyd yn haws i'r
gofalwr a'r person sy'n derbyn gofal.
Maent yn ceisio darparu cyfleoedd i ofalwyr gwrdd â gofalwyr eraill,
rhannu profiadau a gweithio gyda'i gilydd i newid pethau er lles pawb. Diolchodd y Cynghorydd W Evans iddynt am eu cyflwyniad. |
|
Adolygu'r Polisi ar Drwyddedu Sefydliadau Rhyw. PDF 140 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Cyflwyno'r Cabinet
adroddiad a oedd yn ceisio ystyriaeth o ganlyniadau'r ymgynghoriad ar adolygu'r
polisi ar drwyddedu sefydliadau rhyw ac i gytuno ar y Polisi diwygiedig ar Drwyddedu
Sefydliadau Rhyw i'w fabwysiadu a'i gyhoeddi. Penderfynwyd: 1)
cymeradwyo a mabwysiadu'r polisi diwygiedig ar Drwyddedu
Sefydliadau Rhyw, sydd wedi'i atodi fel Atodiad A yr adroddiad; 2) Cadw'r “ardaloedd perthnasol” cyfredol at ddibenion penderfynu ar geisiadau am sefydliadau rhyw a'r “nifer priodol” o sefydliadau rhyw ar gyfer pob ardal. |
|
Adolygiad o'r Datganiad Polisi ar gyfer Trwyddedu. PDF 143 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Cyflwyno'r Cabinet
adroddiad a oedd yn ceisio ystyriaeth o'r ymateb i'r ymgynghoriad ar adolygiad
Datganiad Polisi ar gyfer Trwyddedu'r Cyngor. Penderfynwyd: 1)
Ystyried yr ymateb i'r ymgynghoriad ar y diwygiadau
arfaethedig i'r polisi; 2)
Cymeradwyo'r diwygiadau arfaethedig; 3)
Mabwysiadu'r polisi diwygiedig fel yr atodir yn Atodiad A
yr adroddiad. |
|
Adroddiad Blynyddol Partneriaethau Hamdden. PDF 153 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros
Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn dweud wrth y cyngor am
weithdrefnau partneriaeth cyfleusterau allweddol ym mhortffolio'r Gwasanaethau
Diwylliannol. Penderfynwyd: 1)
Y dylid nodi'r adroddiad. Sylwer: Gofynnodd y Cynghorydd W G Thomas am ddadansoddiad
o'r costau sy'n berthnasol i "Wariant Arall" gwerth £236,286 ar gyfer
Chwaraeon Traeth a Dŵr 360 y cyfeirir ato ar dudalen 113 Gwŷs y
cyngor. Nododd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth y byddai ymateb
ysgrifenedig yn cael ei ddarparu. |
|
Bargen Ddinesig Bae Abertawe. PDF 148 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor a'r Prif
Weithredwr adroddiad ar y cyd a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i sefydlu
Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'r trefniadau llywodraethu
cysylltiedig. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo sefydlu
Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'r strwythur llywodraethu
cysylltiedig fel a amlinellir yn yr adroddiad ac Arweinydd y Cyngor yw
aelodaeth yr awdurdod hwn; 2)
Cymeradwyo cytundeb drafft y
Cyd-bwyllgor a dirprwyo awdurdod i'r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag
Arweinydd y Cyngor, i wneud y fath fân ddiwygiadau i'r cytundeb fel y mae eu
hangen, a sicrhau bod yr awdurdodau partner a llywodraethau Cymru a'r DU yn
cytuno ar y rhain, er mwyn cwblhau'r cytundeb; 3)
Cymeradwyo sefydlu Cyd-bwyllgor
Craffu Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'r Cynghorwyr J P Curtice, P Downing ac M
H Jones yw aelodaeth yr awdurdod hwn; 4)
Cymeradwyo'r cynnig i'r cyngor
gyfrannu £50 mil y flwyddyn dros 5 mlynedd i dalu ar y cyd am gostau
gweithredu'r Cyd-bwyllgor, Bwrdd y Strategaeth Economaidd, Bwrdd y Rhaglen a'r
Cyd-bwyllgor Craffu, a swyddogaethau'r Corff Atebol a'r Swyddfa Ranbarthol, a
chytuno ar yr egwyddor y caiff mwy o gyllid ei ddarparu sydd gyfwerth â'r 1.5%
o'r cyllid a neilltuir yn benodol ar gyfer y Fargen Ddinesig. Dirprwyo'r cytundeb ar sail darparu'r cyllid
hwn i Bennaeth y Gwasanaethau Ariannol a'r Ganolfan Gwasanaethau (Swyddog Adran
151) mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor. 5)
Awdurdodi Pennaeth y
Gwasanaethau Ariannol a'r Ganolfan Gwasanaethau (Swyddog Adran 151) i
archwilio'r benthyciad cymesur mwyaf priodol a'i roi ar waith i ariannu
prosiectau rhanbarthol a gyflwynir yn ardaloedd gwahanol y cyngor. 6)
Awdurdodi Pennaeth y
Gwasanaethau Ariannol a'r Ganolfan Gwasanaethau (Swyddog Adran 151) i gyd-drafod
â Chyd-gyfarwyddwyr y sail ddyrannu fwyaf priodol ar gyfer cadw trethi
annomestig rhanbarthol o ran yr 11 o brosiectau. Sylwer: gofynnodd y Cynghorydd J W Jones beth oedd cyfran y
gost ar gyfer Cyngor Abertawe yn seiliedig ar yr 11 o brosiectau y cyfeirir
atynt ar dudalen 128 Gwŷs y Cyngor. Dywedodd Arweinydd y Cyngor y bydd ef yn dosbarthu'r sleidiau sy'n cynnwys
yr wybodaeth eto. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Canlyniadau a
Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar y cyd a oedd yn ceisio cymeradwyaeth
i ddarparu arsylwadau cychwynnol yr awdurdod ar Gomisiwn Ffiniau a
Democratiaeth Leol Cymru mewn perthynas â'r adolygiad o drefniadau etholiadol
Dinas a Sir Abertawe. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau
Democrataidd fod yr adroddiad hwn wedi cael ei ystyried gan Weithgor y
Cyfansoddiad ar 11 Gorffennaf 2018.
Cynghorodd y grŵp hwnnw y dylai'r cyngor gymeradwyo'r adroddiad i'w
gyflwyno fel rhan o'r cyfnod ymgynghori. Dosbarthwyd taflen ddiwygio hefyd er
mwyn diwygio rhai o'r elfennau yn yr adroddiad. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r arsylwadau
cychwynnol fel a amlinellir ym Mharagraff 6 yr adroddiad (fel y'u diwygiwyd)
a'u hanfon i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru. |
|
Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Syr Karl Jenkins PDF 107 KB Cofnodion: Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor adroddiad
a oedd yn ceisio ystyriaeth o gyflwyno Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir
Abertawe i Syr Karl Jenkins CBE B.Mus
FRAM LRAM. Penderfynwyd: 1)
Cyflwyno
Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Syr Karl
Jenkins CBE B.Mus FRAM LRAM; 2)
Cynnal Cyfarfod Seremonïol
y Cyngor ar 4 Hydref 2018 i gyflwyno'r teitl Rhyddid er Anrhydedd. |
|
Newidiadau i'r Cyfansoddiad. PDF 121 KB Cofnodion: Cyflwynwyd yr Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro a
Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar y cyd a oedd yn ceisio
gwneud diwygiadau er mwyn symleiddio, gwella a/neu ychwanegu at Gyfansoddiad y
Cyngor. Roedd y newidiadau arfaethedig yn ymwneud â'r
meysydd canlynol o Gyfansoddiad y Cyngor: a)
Rhan 4 - Rheolau Gweithdrefnau'r Cabinet - Gweithdrefn Herio. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r
newidiadau i gyfansoddiad y cyngor fel y'u hamlinellir yn Atodiad A a B yr adroddiad ar y cyd ag unrhyw newidiadau canlyniadol
ychwanegol. |
|
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 161 KB Cofnodion: 1)
Rhan A ‘Cwestiynau Atodol’ Cyflwynwyd chwe (6) 'Chwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au)
perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs
y Cyngor. Nid
oedd angen ymateb ysgrifenedig ar gyfer y cwestiynau atodol. 2) ‘Cwestiynau Rhan B nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu
cyfer' Cyflwynwyd wyth (8) 'Cwestiwn Rhan B nad oedd angen
Cwestiynau Atodol ar eu cyfer'. |