Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ethol Aelod Llywyddol ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2018-2019. Cofnodion: Derbyniwyd enwebiad ar gyfer y Cynghorydd D W W
Thomas. Cynigiwyd ac eiliwyd yr enwebiad. Penderfynwyd penodi'r Cynghorydd D W W
Thomas yn Aelod Llywyddol ar gyfer blwyddyn ddinesig 2018-2019. Bu'r Cynghorydd D W W Thomas (Aelod Llywyddol) yn llywyddu |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ethol Dirprwy Aelod Llywyddol ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2018-2019. Cofnodion: Derbyniwyd enwebiad ar gyfer y Cynghorydd J P Curtice. Cynigiwyd ac eiliwyd
yr enwebiad. Penderfynwyd penodi'r Cynghorydd J P Curtice yn Ddirprwy Aelod
Llywyddol ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2018-2019. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Deallusrwydd
Busnes gyngor ynghylch y cysylltiadau personol a rhagfarnol posib y gallai fod
gan gynghorwyr a swyddogion ag eitemau ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y
dylid llenwi'r daflen "Datganiadau o gysylltiadau personol a
rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog gyswllt i'w ddatgan.
Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan.
Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw gysylltiad ar
lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol: (1) Datganodd y Cynghorwyr C Anderson, P M Black, J E
Burtonshaw, M C Child, , J P Curtice, N J Davies, A M Day, P Downing, C R
Doyle, M Durke, C R Evans, V M Evans, W Evans, E W Fitzgerald, R
Francis-Davies, S J Gallagher, L S Gibbard, K M Griffiths, J A Hale, D W
Helliwell, T J Hennegan, C A Holley, P R Hood-Williams, B Hopkins, D H Hopkins,
O G James, L James, J W Jones, L R Jones, M H Jones, P K Jones, S M Jones, E J
King, E T Kirchner, M A Langstone, A S Lewis, M G Lewis, R D Lewis, W G Lewis,
C E Lloyd, P Lloyd, P M Matthews, P N May, H M Morris, S Pritchard, A Pugh, J A
Raynor, C Richards, B J Rowlands, M Sherwood, P B Smith, R V Smith, A H
Stevens, R C Stewart, D G Sullivan, M Sykes, G J Tanner, D W W Thomas, L G Thomas, M Thomas, W G Thomas, L J
Tyler-Lloyd, G D Walker a T M White gyswllt personol â Chofnod 7 "Materion
Cyfansoddiadol 2018-2019.”; |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir: 1) Cyfarfod
cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 26 Ebrill 2018. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: 1)
Gwobrau Cyhoeddodd yr Aelod Llywyddol yn dilyn Seremoni Dyfarniadau Blynyddol
Cymunedau Gwelliant Parhaus Cymru Gyfan (AWCIC) a gynhaliwyd ar 22 Mai yn
Orendy Margam, yr enillodd Rhaglen Gomisiynu Anghenion Cymhleth Bae'r Gorllewin
y wobr am y categori 'Cyflawni Diben Cyffredin', a bod Rhaglen Bae'r Gorllewin
yn gyffredinol wedi ennill y wobr am y 'Fenter Llywodraeth Leol Orau'. Mae hyn yn gyflawniad gwych i'r bartneriaeth, ac yn
brawf o waith caled ac ymroddiad cydweithwyr o'r holl sefydliadau partner. Estynnodd ei longyfarchiadau i bawb. 2)
Diwygiadau/Cywiriad i Wŷs y Cyngor a)
Eitem 8 "Materion
Cyfansoddiadol 2018-2019” Amlinellodd yr Aelod
Llywyddol y newidiadau canlynol i'r adroddiad: 1)
Angen newid y ffigurau y cyfeirir atynt ar dudalen 11,
paragraff 4.2. Mae pob un o'r ffigurau a
welir yn y paragraff yn £200 islaw yr hyn y dylent fod. Mae'r fersiynau diwygiedig eisoes wedi'u
dosbarthu.
2)
Tudalen 19 - Newid PDP Diogelu i PDP Pobl a newid
dyddiadur y cyngor yn unol â hynny. 3)
Tudalen 20 - Fforwm Cyswllt Myfyrwyr Abertawe - ychwanegu
Ward Glandŵr. 4)
Dyddiadur y Cyngor - Tudalen 42 (Medi) - Symud y Pwyllgor
Archwilio o ddydd Iau 13 i ddydd Mawrth 11. 5)
Mae newidiadau/diweddariadau i restr o aelodaeth
pwyllgorau, cyrff allanol ac aelodau hyrwyddo wedi'u dosbarthu yn y siambr a
byddant yn cael eu hatodi at y cofnodion. Un newid arall i'r rhestr o
bwyllgorau (tudalen 4) – Cydbwyllgor Ymgynghori – dileu G J Tanner ac ychwanegu D H
Hopkins. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Amlinellodd
Arweinydd y Cyngor enwau'r cynghorwyr sydd wedi'u dewis i fod yn Aelodau
Cabinet y Cyngor. Amlinellodd hefyd bortffolios y Cabinet:
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Materion Cyfansoddiadol 2018-2019. PDF 307 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan y Swyddog Monitro a oedd yn hysbysu'r cyngor o
faterion cyfansoddiadol angenrheidiol y mae angen eu trafod yng Nghyfarfod
Blynyddol y Cyngor. Byddai materion o'r fath yn galluogi'r cyngor i weithredu'n
effeithlon ac yn gyfreithlon. Atgoffwyd y cynghorwyr gan y Swyddog Monitro o'r newidiadau a wnaed i'r
adroddiad a amlinellwyd eisoes gan yr Aelod Llywyddol yn ei gyhoeddiadau. Penderfynwyd: 1) Penodi Cyrff y
Cyngor a nifer y seddi a ddyrannwyd iddynt fel a restrir isod ar gyfer Blwyddyn
Ddinesig 2018-2019:
2) Telir Cyflog
Uwch i "Arweinydd y Cyngor a Dirprwy Arweinydd y Cyngor",
Band 1, Grŵp A: a) Arweinydd y Cyngor (£53,300); b) Dirprwy Arweinydd y Cyngor (£37,300). 3) Telir Cyflog Uwch i "Aelodau’r Weithrediaeth",
Band 2, Grŵp A, (£32,100): a) Aelodau’r Cabinet
x 8. 4) Telir Cyflog
Uwch i "Gadeiryddion Pwyllgorau", Band 3, Grŵp A,(£22,300): a)
Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol; b)
Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio; c)
Cadeirydd y Pwyllgor Datblygu Polisi'r Economi ac
Isadeiledd; d)
Cadeirydd y Pwyllgor Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau; e)
Cadeirydd y Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl; f)
Cadeirydd y Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau Tlodi; g)
Cadeirydd y Pwyllgor Datblygu Polisi Trawsnewid a Chyngor
y Dyfodol h)
Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu. 5) Penderfyniad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yw
rhaid talu Cyflog Uwch, Band 4 (yn amodol ar y rheol 10%),
(£22,300) i "Arweinydd yr Wrthblaid Fwyaf"; 6) Telir Cyflog
Dinesig, Lefel 1 i'r swyddi canlynol (yn amodol nad ydynt eisoes yn derbyn
Cyflog Uwch): a)
Yr Arglwydd Faer (£24,300); b)
Dirprwy Arglwydd Faer (£18,300). 7) Ailbenodi Aelod Llywyddol a Dirprwy Aelod Llywyddol,
a'u bod nhw'n cadeirio cyfarfodydd y cyngor. Ni fydd y swyddi hyn yn derbyn
Cyflog Uwch; 8) Y cyngor i eithrio'r pwyllgorau a restrir yn
Atodiad C yr adroddiad o Reoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau
Gwleidyddol) 1990 ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2018-2019 i ganiatáu mwy o
gynrychiolaeth gan Grwpiau'r Wrthblaid; 9) Y cynghorwyr a glustnodwyd i wasanaethu ar Gyrff y Cyngor yn unol â'r
enwebiadau a dderbynnir gan y Grwpiau Gwleidyddol fel y nodir yn Atodiad 1
y cofnodion hyn; 10) Penderfyniad Arweinydd y Cyngor i benodi cynghorwyr i wasanaethu ar
Gyrff Allanol i gael ei nodi fel y nodir yn Atodiad 2 y cofnodion hyn; 11) Ailgadarnhau
mabwysiadu Cyfansoddiad y Cyngor y gellir ei weld yn www.abertawe.gov.uk/cyfansoddiad; 12) Ailethol y Cynghorydd Peter M Black yn Gadeirydd Pwyllgor y
Gwasanaethau Democrataidd; 13) Talu'r Aelodau Cyfetholedig hynny sy'n gymwys am daliadau Aelod
Cyfetholedig am gyfanswm o 20 niwrnod llawn y flwyddyn ddinesig; 14) Ailgadarnhau
Llawlyfr y Cynghorwyr sydd i'w weld yn www.abertawe.gov.uk/llawlyfrcynghorwyr; 15) Dylai
Adrannau B ac C Llawlyfr y Cynghorwyr fel a argymhellwyd gan Bwyllgor y
Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 16 Ebrill 2018 a amlinellir yn Atodiad
F yr adroddiad gael eu mabwysiadu; 16) Dylid nodi rhestr Meysydd yr
Aelodau Hyrwyddo a'r cynghorwyr cyfrifol a amlinellir yn Atodiad 3 y cofnodion
hyn: 17) Dylid
nodi Pellteroedd Milltiredd Cynghorwyr 2017-2022. 18) Cadarnhau a mabwysiadu Dyddiadur Cyrff y Cyngor 2018-2019 a restrir yn Atodiad
F yr adroddiad; 19) Cynnal
unrhyw ddiwygiadau canlyniadol i Gyfansoddiad y Cyngor a/neu'r Cynghorwyr o
ganlyniad i'r adroddiad hwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) - Polisi Diogelu Data PDF 112 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes adroddiad a oedd
yn ceisio cymeradwyaeth i fabwysiadu Polisi Diogelu Data diwygiedig y cyngor. Penderfynwyd mabwysiadu’r Polisi Diogelu Data
diwygiedig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Pwyllgorau Datblygu a Chyflwyno Polisi Adroddiad Blynyddol 2017/2018. PDF 161 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Arweinydd a chadeiryddion y pum PDChP
adroddiad a oedd yn amlinellu eu gwaith yn ystod blwyddyn ddinesig 2017-2018. Penderfynwyd: 1) Bydd cynlluniau gwaith PDP yn
cael eu sefydlu ar ddechrau'r flwyddyn ddinesig drwy gyfarfod rhwng
cadeiryddion y Pwyllgorau Datblygu Polisi, Aelodau Cabinet a'r Cyfarwyddwyr; 2) Bydd cynlluniau gwaith PDP yn
gryno ac yn gyflawnadwy, yn cyd-fynd â chyllidebau'r
cyngor a blaenoriaethau corfforaethol, ni fyddant yn dyblygu gwaith craffu a
bydd ganddynt yr adnoddau cywir; 3) Bydd gan eitemau yng
nghynlluniau gwaith PDP gwmpas clir a graddfeydd amser clir a bydd
canlyniadau'n cael eu pennu o'r dechrau; 4) Sefydlu ymagwedd safonol (ond
hyblyg) at weithio a datblygu polisi ar draws PDP, gan ystyried y pum ffordd o
weithio a bennwyd gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. Cofnodion: Penderfynwyd gosod y Sêl Gyffredin ar unrhyw ddogfen
angenrheidiol i weithredu unrhyw benderfyniad a gymeradwywyd neu a gadarnhawyd
mewn cyfarfodydd yn ystod y flwyddyn ddinesig flaenorol. |