Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol,
Democrataidd a Deallusrwydd Busnes gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gallai cynghorwyr a swyddogion eu cael
mewn eitemau ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol
Democrataidd a Deallusrwydd Busnes gynghorwyr a swyddogion y dylid ond llenwi'r
daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol"
os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan. Nid oedd angen dychwelyd
ffurflenni os nad oedd unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a
swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y
daflen. Yn unol â darpariaethau Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau
canlynol: 1) Datganodd y Cynghorwyr C Anderson, P M Black, J E Burtonshaw, M C
Child, J P Curtice, A M Day, P Downing, V M Evans, M Durke, E W Fitzgerald, R
Francis-Davies, W Evans, S J Gallagher, L S Gibbard, K M Griffiths, J A Hale, D
W Helliwell, C A Holley, P R Hood-Williams, D H Hopkins, L James, O G James, J
W Jones, L R Jones, S M Jones, E J King, M A Langstone, A S Lewis, M B Lewis, W
G Lewis, C E Lloyd, P Lloyd, P M Matthews, P N May, S Pritchard, J A Raynor, B
J Rowlands, M Sherwood, A H Stevens, R C Stewart, M Sykes, D W W Thomas, M Thomas, W G Thomas, L J Tyler-Lloyd, L V Walton
a T M White fudd personol yng Nghofnod 35 “Penodi Prif Weithredwr”; 2) Datganodd y Swyddogion G Borsden, H Evans, A Lowe, T Meredith, B
Smith a S Rees fudd personol yng Nghofnod 35 “Penodi Prif Weithredwr”; |
|
Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem fusnes/eitemau
busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei fod yn debygol o
ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf
Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad
i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir
yn yr adroddiad. Ystyriodd y
Pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes/eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd
yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad. PENDERFFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol. (SESIWN GAEËDIG) |
|
Hyfforddiant Recriwtio a Dethol. Cofnodion: Rhoddwyd trosolwg
byr o'r Broses Recriwtio a Dethol gan Bennaeth Adnoddau Dynol. PENDERFYNWYD y byddai'r hyfforddiant yn cael ei nodi. |
|
Penodi Prif Weithredwr. Cofnodion: Datganodd Pennaeth
Adnoddau Dynol fod y Pwyllgor Penodiadau wedi cyfweld â dau ymgeisydd ar gyfer
rôl y Prif Weithredwr yn ei gyfarfod yn gynharach yn y dydd. Argymhellodd y Pwyllgor Penodiadau fod un
ymgeisydd yn unig yn cael cyfweliad gan y cyngor. Rhoddodd yr ymgeisydd gyflwyniad 10 munud ac atebodd nifer o gwestiynau a
baratowyd ymlaen llaw. PENDERFYNWYD y byddai
Phil Roberts yn cael ei benodi'n Brif Weithredwr. |