Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

119.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Deallusrwydd Busnes gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gall fod gan gynghorwyr a swyddogion mewn eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid ond llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan.  Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan.  Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol:

 

1)              Datganodd y Cynghorwyr J P Curtice, S J Gallagher, T J Hennegan, R D Lewis, G J Tanner, D W W Thomas a G D Walker fudd personol yng nghofnod 126 "Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru - Cyflwyniad gan y Prif Swyddog Tân";

 

2)              Datganodd y Cynghorwyr T J Hennegan, P R Hood-Williams, L James, O G James, J W Jones, P Jones, M B Lewis, D Phillips, S Pritchard, W G Thomas, L V Walton a T M White fudd personol yng nghofnod 127 "Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio 2016/17".

120.

Cofnodion. pdf eicon PDF 168 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1) Cyfarfod Cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2017.

121.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Deallusrwydd Busnes adroddiad gwybodaeth yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng nghyfarfod cyffredin diwethaf y cyngor.

122.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

1)              Cydymdeimladau

 

a)              Yr Henadur Anrhydeddus a'r cyn-gynghorydd, David I E Jones.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol â thristwch at farwolaeth ddiweddar yr Henadur Anrhydeddus a'r cyn-gynghorydd, D I E Jones.  Dechreuodd yr Henadur Anrhydeddus Jones ei wasanaeth llywodraeth leol gyda Chyngor Bwrdeistref Dacorum ym mis Tachwedd 1980 cyn gwasanaethu yn ward etholiadol Penyrheol gyda hen Gyngor Bwrdeistref Dyffryn Lliw rhwng mis Mai 1994 a 31 Mawrth 1996.

 

Bu'n gwasanaethu ward etholiadol Penyrheol hefyd gyda Dinas a Sir Abertawe rhwng 1 Ebrill 1996 a mis Mai 2012. Ef oedd yr Arglwydd Faer ar gyfer y cyfnod 1998-1999.

 

Safodd pawb i ddangos cydymdeimlad a pharch.

 

2)              Gwobr Pluen Eira

 

Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol at lansiad Gwobr Pluen Eira'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGD) y llynedd lle bu'r awdurdod yn dathlu gwaith caled darparwyr gofal plant cofrestredig a'r plant yn eu gofal drwy gyflwyno gwobrau mewn categorïau amrywiol mewn perthynas â'r arddangosfeydd Nadolig roeddent wedi ymgymryd â nhw.

 

Nododd ei fod yn bleser ganddo gyhoeddi bod y Wobr Pluen Eira wedi bod yn llwyddiant eto eleni.

 

3)              Enillodd Ffordd Ddosbarthu'r Morfa wobr Prosiect Cynaladwyedd Amgylcheddol y Flwyddyn yng Ngwobrau Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant Cymru 2017.

 

Roedd yr Aelod Llywyddol yn falch o gyhoeddi bod Ffordd Ddosbarthu'r Morfa wedi ennill gwobr Prosiect Cynaladwyedd Amgylcheddol y Flwyddyn yng ngwobrau diweddar Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant Cymru 2017.

 

Cefnogwyd y prosiect gan Ddinas a Sir Abertawe, Llywodraeth Cymru a chyfraniadau gan ddatblygwyr preifat. Cafodd y prosiect ei ddylunio a'i oruchwylio gan Ddinas a Sir Abertawe gyda'r gwaith adeiladu fesul cam yn cael ei wneud gan Uned Adeiladu Priffyrdd fewnol yr awdurdod, T. Richard Jones Ltd ac Alun Griffiths (Contractors) Ltd. Mae'r mwyafrif o'r llwybrau yn olrhain hen gamlas Tawe, drwy'r ardal a adnabyddir fel Gwaith Copr yr Hafod sy'n hanesyddol sensitif.

 

Mae'r prosiect yn dangos enghreifftiau o arfer gorau o ran dylunio mewn amgylchedd heriol ond, yn ogystal â hynny, mae'r ffordd y cyflwynwyd y prosiect yn dangos y rôl allweddol sydd gan awdurdodau lleol o ran defnyddio ymagwedd gyfannol at adfywio. Anaml y gall prosiectau o'r fath ddangos tystiolaeth sy'n cefnogi fforymau trafnidiaeth lleol a rhanbarthol, yn ogystal â datblygwyr preifat, ecolegwyr a grwpiau cadwraeth hanesyddol. Cafodd yr her hon ei goresgyn gan gynllun Ffordd Ddosbarthu'r Morfa.

 

Roedd David Hughes ac Alun Thomas yn bresennol i dderbyn y wobr.

 

4)              Gohebiaeth gan y Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol

 

Nododd yr Aelod Llywyddol fod y Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol (AC Huw Irranca-Davies) wedi ysgrifennu i'r awdurdod yn ddiweddar i'w longyfarch ar lwyddiant Partneriaeth y Tîm am y Teulu mewn Ysgolion yng ngwobrau Gwasanaeth Cyhoeddus diweddar y Guardian.

 

Nododd fod "cydweithio a gweithio mewn partneriaeth yn effeithiol yn hanfodol i gyflwyno cefnogaeth o safon i deuluoedd ac mae'r Tîm am y Teulu mewn Ysgolion yn enghraifft dda iawn o sut gellir cyflawni hyn.  Drwy weithio gydag ysgolion, mae'r prosiect hwn yn galluogi mwy o deuluoedd i dderbyn y gefnogaeth gywir ar yr adeg gywir a fydd yn helpu i sicrhau lles cadarnhaol mwy o blant a'u galluogi i gyflawni eu potensial."

 

Llongyfarchiadau i bawb sy'n rhan o'r cynllun.

123.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)              Dathliadau'r Nadolig a Mins-peis

 

Diolchodd Arweinydd y Cyngor i'r Aelod Llywyddol a'r Dirprwy Aelod Llywyddol am gynnal digwyddiad cyn cyfarfod y cyngor (a thalu amdano eu hunain) i ddathlu'r Nadolig gyda mins-peis, rholiau selsig a phasteiod cartref.

 

2)              Digwyddiad 'Gyda'n Gilydd dros y Nadolig' - 12 Rhagfyr 2017

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at y digwyddiad 'Gyda'n Gilydd dros y Nadolig' a gynhaliwyd yn Neuadd Brangwyn ar 12 Rhagfyr 2017.  Nod y digwyddiad oedd cynorthwyo pobl ddigartref, ddiamddiffyn ac unig yn y gymdeithas drwy gynnal cinio a pharti Nadolig am ddim yn Abertawe.

 

Aeth dros 200 o bobl i'r digwyddiad 'Gyda'n Gilydd dros y Nadolig', a gynhaliwyd am yr ail flwyddyn yn olynol.  Roedd y digwyddiad, a drefnwyd gan JR Events and Catering gyda chefnogaeth gan yr awdurdod, yn cynnwys cinio Nadolig dau gwrs am ddim, coeden Nadolig, clecars Nadolig, cerddoriaeth fyw, cantorion, DJ a bwth tynnu lluniau.

 

Yn ogystal, roedd mannau gwybodaeth gyda chyngor ar dai, budd-daliadau a chynlluniau cyflogaeth.  Diolch i fusnesau lleol, roedd cyfle i bobl gael torri eu gwallt a chael gwiriadau dannedd am ddim hefyd.

 

Trefnodd tîm Safonau Masnach yr awdurdod i 120 o siwmperi a hwdis ffug gael eu rhoi i bobl mewn angen hefyd. Roedd y dillad ffug wedi cael eu hatafael yn flaenorol yn ystod cyrchoedd a'u rhoi i'r elusen 'His Church'. Mae'r cyngor yn aml yn rhoi dillad ffug i elusennau i'w hailddosbarthu i bobl mewn angen.

 

Llongyfarchodd Arweinydd y Cyngor yr holl gynghorwyr, swyddogion a gwirfoddolwyr a helpodd i wneud y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol.

 

3)              Dinas Diwylliant y DU

 

Nododd Arweinydd y Cyngor er nad enillodd Abertawe deitl Dinas Diwylliant y DU 2021 ei fod yn falch iawn o hyd o'r cais ac ymdrechion arbennig pawb a oedd yn gysylltiedig.  Llongyfarchodd Cofentri ar ei llwyddiant a dywedodd ei fod wedi mynd at Lywodraeth Cymru er mwyn gweld a allai Abertawe gadw'r £4,000,000 a addawyd petai'n ennill teitl Dinas Diwylliant y DU 2021.

 

4)       Live Verde – Llofnodi Memorandwm o Ddealltwriaeth

 

Nododd Arweinydd y Cyngor fod yr awdurdod wedi llofnodi Memorandwm o Ddealltwriaeth yn ddiweddar gyda Live Verde.  Lansiwyd llwyfan gweithredu Live Verde i fynd i'r afael â diffyg tai y DU drwy wneud y mwyaf o gryfderau, methodoleg, datrysiadau ynni a chefnogaeth ariannol partneriaid.

 

5)       Her Prifysgolion Santander Cycles

 

Nododd Aelod y Cabinet dros Dai, Ynni a Gwasanaethau Adeiladau fod Awdurdod Prifysgol Abertawe wedi ennill Her Prifysgolion Santander Cycles yn ddiweddar gan olygu y bydd yn derbyn gwerth £100,000 o gyfarpar ac isadeiledd i sefydlu cynllun rhannu beiciau ar gyfer y gymuned.

 

Nododd fod y cynllun ar agor i gynghorwyr a swyddogion y cyngor gydag aelodaeth hanner pris.

124.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

 

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan aelodau'r cyhoedd.

125.

Cyflwyniad Cyhoeddus -

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd cyflwyniadau cyhoeddus.

126.

Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru - Cyflwyniad gan y Prif Swyddog Tânr.

Cofnodion:

Rhoddodd Chris Davies (Prif Swyddog Tân) gyflwyniad ar Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.  Gofynnwyd llawer o gwestiynau i'r Prif Swyddog Tân.

 

Diolchodd y Cynghorydd J P Curtice, y Dirprwy Aelod Llywyddol, am y cyflwyniad.

127.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio 2016/17 pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd Is-gadeirydd y Pwyllgor Archwilio Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio ar gyfer blwyddyn ddinesig 2016-2017 er gwybodaeth.

128.

Polisi Sipsiwn a Theithwyr 2017. pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Gwasanaethau'r Amgylchedd a'r Gwasanaethau Tai, Ynni ac Adeiladau adroddiad ar y cyd a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y Polisi Sipsiwn a Theithwyr newydd.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo a chyhoeddi'r Polisi Sipsiwn a Theithwyr.

129.

Adolygiad o Lawlyfr y Cynghorwyr pdf eicon PDF 162 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn amlinellu'r adolygiad diweddar o Lawlyfr y Cynghorwyr gan Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd ar 7 Tachwedd 2017.  Argymhellodd y pwyllgor y dylid argymell Atodiad A yr adroddiad i'r cyngor i'w fabwysiadu.

 

Gofynnodd i'r diwygiadau canlynol gael eu gwneud i Atodiad A yr adroddiad:

 

i)                Ychwanegu paragraff 8.4 "Caniateir lwfans teithwyr pan fydd cynghorydd yn cludo teithiwr/wyr ar gyfer busnes yr awdurdod.  Mae'r gyfradd sy'n daladwy yn unol â phenderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol";

 

ii)               Ychwanegu paragraff 14 newydd fel a ganlyn:

 

14.     "Teithio ar feiciau modur

 

14.1     Mae lwfans beic modur ar gael fel a amlinellir gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol";

 

iii)             Ailrifo'r paragraffau sy'n weddill yn unol â hynny.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Mabwysiadu Llawlyfr y Cynghorwyr wedi'i ddiwygio fel a nodwyd yn Atodiad A yr adroddiad ynghyd â'r diwygiadau uchod.

130.

Newidiadau i'r Cyfansoddiad Cyngor. pdf eicon PDF 122 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar y cyd yn ceisio diwygiad i Gyfansoddiad y Cyngor er mwyn ei symleiddio, ei wella a/neu ychwanegu ato mewn perthynas â'r meysydd canlynol:

 

1)              Rhan 3 "Cyfrifoldeb am Swyddogaethau - Cynllun Dirprwyo”;

2)              Rhan 4 "Rheolau Gweithdrefnau - Rheolau Gweithdrefnau Craffu".

 

Cynigiodd yr adroddiad ddileu I14 "Pŵer i glywed apeliadau gan swyddogion o ran cymeradwyo pobl i yrru cludiant ysgol" o Gyfansoddiad y Cyngor gan fod y pŵer wedi'i gwmpasu yn J2 Swyddogaethau Dewis Lleol.

 

Yn ogystal, cynigiodd yr adroddiad ddiwygio paragraff 2.3 y Rheolau Gweithdrefnau Craffu.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Dileu paragraff I14 "Pŵer i glywed apeliadau gan swyddogion mewn perthynas â chymeradwyo pobl i yrru cludiant ysgol" y Swyddogaethau Amrywiol o'r Cynllun Dirprwyo;

 

2)              Ailddrafftio paragraff 2.3 y Rheolau Gweithdrefnau Craffu fel a ganlyn ac ychwanegu'r paragraffau ychwanegol:

 

“2.3      Fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith ac arweiniad gan Lywodraeth Cymru, mae'n rhaid i bwyllgorau craffu sy'n ymdrin â materion addysg gynnwys, yn eu haelodaeth sy'n gallu pleidleisio, gynrychiolwyr o grefyddau ac o riant-lywodraethwyr.  Bydd aelodaeth Pwyllgor y Rhaglen Graffu felly'n cynnwys:

 

1 x Cynrychiolydd Rhiant-lywodraethwr o ysgol gynradd;

1 x Cynrychiolydd Rhiant-lywodraethwr o ysgol uwchradd;

1 x Cynrychiolydd o Eglwys Gatholig (Ysgolion Ffydd a gynhelir gan yr ALl);

1 x Cynrychiolydd o'r Eglwys yng Nghymru (Ysgolion Ffydd a gynhelir gan yr ALl).

 

2.4       Bydd gan yr aelodau cyfetholedig hyn bleidlais yn y pwyllgor ac mewn paneli a gweithgorau craffu perthnasol ar eitemau sy'n ymwneud ag arolygu a chraffu swyddogaethau addysg yn unig.  Fodd bynnag, gallant aros a siarad ar unrhyw fater arall.

 

2.5       Yn unol â Deddf Heddlu a Chyfiawnder 2006, gall pwyllgor troseddu ac anhrefn dynodedig yr awdurdod hefyd gyfethol aelodau ychwanegol i wasanaethu ar y pwyllgor er mwyn ychwanegu gwerth ac arbenigedd i waith y pwyllgor. Gellir penodi aelodau cyfetholedig gyda neu heb hawliau pleidleisio yn ôl disgresiwn y pwyllgor.

 

3)              Mabwysiadu unrhyw newidiadau canlyniadol eraill.

131.

Aelodaeth Pwyllgorau. pdf eicon PDF 94 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes adroddiad yn amlinellu enwebiadau/diwygiadau i gyrff y cyngor.

 

Dywedodd nad oedd Arweinydd y Cyngor wedi gwneud unrhyw newidiadau i aelodaeth cyrff allanol yr awdurdod.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn:

 

i)                Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi Addysg a Sgiliau

Tynnu enw'r Cynghorydd M B Lewis.

Ychwanegu enw'r Cynghorydd S Pritchard.

 

ii)              Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi Lleihau Tlodi

Tynnu enw'r Cynghorydd G J Tanner.

Ychwanegu enw'r Cynghorydd B Hopkins.

 

iii)            Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol

Tynnu enw'r Cynghorydd C Anderson.

Ychwanegu enw'r Cynghorydd P Jones.

132.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 67 KB

Cofnodion:

1)              ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd pump (5) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A.  Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Dangosir isod y cwestiynau atodol hynny sy'n gofyn am ymateb ysgrifenedig.

 

Cwestiwn 1. Gofynnodd y Cynghorydd E W Fitzgerald:

 

Noda Aelod y Cabinet yn ei ymateb y bwriedir creu cyfanswm o 8,700 o swyddi newydd rhwng 2015 a 2025.  Yn y cyfamser, mae'r Atodlen o Ddiwygiadau nad ydynt yn Sylweddol i'r Cynllun Adnau yn ategu, ym mharagraff 1.3.9, mai 14,700 fydd cyfanswm nifer y swyddi newydd yn ystod cyfnod y cynllun.

 

Cadarnha ffigurau a gyflwynwyd gan y Centre for Cities ar gyfer 2004-2013 mai dim ond 900 o swyddi a grëwyd yn ystod y cyfnod 9 mlynedd hwn, ffigur digalon iawn.

 

Felly, er mwyn gwireddu'r ffigur o 14,700, mae'n ymddangos y dylai 5,100 o swyddi newydd fod wedi cael eu creu rhwng 2013 a 2015.  Fodd bynnag, ni allaf ddod o hyd i unrhyw dystiolaeth o hyn. All Aelod y Cabinet egluro os gwelwch yn dda?"

 

Nododd Arweinydd y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig.

 

Cwestiwn 3.   Gofynnodd y Cynghorydd A M Day:

 

"Allwch chi roi rhestr o finiau graean i gynghorwyr yn ôl wardiau etholiadol ar draws Abertawe?"

 

Nododd Arweinydd y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig.

 

2)       ‘Cwestiynau Rhan B nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer'

 

Ni chyflwynwyd unrhyw 'Gwestiynau Rhan B nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer'.