Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Rhif | Eitem | |||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol,
Democrataidd a Deallusrwydd Busnes gyngor ynghylch y buddiannau personol a
rhagfarnol posib y gallai cynghorwyr a swyddogion eu cael mewn eitemau ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
gynghorwyr a swyddogion y dylid ond llenwi'r daflen "Datgeliadau o
fuddiannau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w
ddatgan. Nid oes angen dychwelyd
ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan.
Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar
lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau Côd Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: 1)
Datganodd y cynghorwyr M C Child, L S Gibbard, J W Jones,
R D Lewis, C L Philpott ac R V Smith fudd personol yng Nghofnod 79,
"Datganiad o Gyfrifon"; 2)
Datganodd Phil Roberts (Prif Weithredwr) fudd personol a
rhagfarnol yng Nghofnod 85 “Diwygio Etholiadol Llywodraeth Leol yng Nghymru
(Cwestiynau 38-40) – Ymateb i'r Ymgynghoriad”. |
||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel
cofnod cywir: 1)
Cyfarfod Arbennig y Cyngor a
gynhaliwyd ar 24 Awst 2017; 2)
Cyfarfod Cyffredin y Cyngor a
gynhaliwyd ar 24 Awst 2017. |
||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol,
Democrataidd a Deallusrwydd Busnes adroddiad gwybodaeth yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd
yng nghyfarfod cyffredin diwethaf y cyngor. |
||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: 1)
Cydymdeimladau - Y
Cyn-gynghorydd a'r Henadur Anrhydeddus Gordon Dennis Mynegodd yr Aelod
Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar y Cyn-gynghorydd
a'r Henadur Anrhydeddus Gordon Dennis. Bu Gordon Dennis yn cynrychioli Ward
Etholiadol Llwchwr Uchaf ar Gyngor Dinas a Sir Abertawe a Chyngor Bwrdeistref
Dyffryn Lliw gynt. Bu'n gwasanaethu ar
Gyngor Bwrdeistref Dyffryn Lliw o 6 Mai 1987 i 31 Mawrth 1996 a Chyngor Dinas a
Sir Abertawe o 4 Mai 1995 i 5 Mai 1999. Bu'n Faer Dyffryn Lliw 1994-1995 a
rhoddwyd y teitl Henadur Anrhydeddus iddo ar 30 Mawrth 2000. Safodd pawb i ddangos cydymdeimlad a pharch. 2)
Abertawe - Cais am Statws
Dinas Diwylliant y DU 2021 Dywedodd yr Aelod Llywyddol
y byddai nifer o gynghorwyr ac arweinwyr grwpiau gwleidyddol yn cyrraedd
cyfarfod y cyngor ychydig yn hwyr, gan eu bod yn Amgueddfa Genedlaethol y
Glannau i ddangos cefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer cyflwyno cais electronig
Abertawe i fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2021 i'r Adran Faterion Digidol,
Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn Llundain. Dywedodd y
gallai cynghorwyr hefyd chwarae rôl bwysig wrth gefnogi'r ymgyrch a lledaenu'r
neges ar draws y ddinas a'r sir drwy fynd â nifer o sticeri ffenestr finyl a
gofyn i fusnesau lleol eu harddangos fel rhan o ymgyrch Abertawe, Cefnogi'r
Cais. Mae holl
leoliadau'r cyngor eisoes wedi'u cynnwys megis llyfrgelloedd, canolfannau
hamdden, adeiladau cymunedol, etc. 3)
Cymdeithas Rhagoriaeth
mewn Gwasanaeth Cyhoeddus – Gwobrau Gwasanaeth Blynyddol 2017 – Tîm Gwasanaeth
Gorau'r Flwyddyn – Gwasanaeth Rheoli Gwastraff ac Ailgylchu Llongyfarchodd yr Aelod
Llywyddol Chris Howell a'i dîm am ennill gwobr y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn
Gwasanaeth Cyhoeddus ar gyfer Gwasanaeth Rheoli Gwastraff ac Ailgylchu. Roedd y gwaith hynod flaengar a llwyddiannus
i drawsnewid canolfannau ailgylchu'r cyngor wedi sicrhau'r wobr. Yn
hytrach na'u cau, penderfynodd y tîm drawsnewid y 3 safle llai a oedd yn
perfformio'n wael yn ganolfannau ailgylchu ac ailddefnyddio'n unig, a gwahardd
deunyddiau ailgylchadwy o'r sgipiau ar gyfer
gweddillion ar safleoedd Llansamlet a Chlun.
Mae hyn wedi arwain at leihau gwastraff gweddilliol a fyddai wedi mynd i
safleoedd tirlenwi dros 80%, a chynyddu cyfradd ailgylchu gyfunol y safleoedd o
55% i oddeutu 90%. Roedd Chris Howell yn
bresennol i dderbyn y wobr. 4)
Cymdeithas Rhagoriaeth
mewn Gwasanaeth Cyhoeddus – Gwobrau Gwasanaeth Blynyddol 2017 – Tîm Gwasanaeth Gorau'r
Flwyddyn – Gwasanaeth Priffyrdd, Cynnal a Chadw dros y Gaeaf a Goleuadau Stryd Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol Stuart Davies a'i dîm am ennill gwobr
Tîm Gwasanaeth y Flwyddyn y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus ar
gyfer Gwasanaeth Priffyrdd, Cynnal a Chadw dros y Gaeaf a Goleuadau Stryd. Aeth
y wobr i'r Gwasanaeth Priffyrdd a Chludiant gyda ffocws penodol ar PATCH a'r
fenter i drwsio tyllau yn y ffordd, yn ogystal â rhai o'r gwelliannau i
oleuadau stryd. Roedd ystadegau swyddogol yn dangos bod gan Gyngor Abertawe un o'r
rhwydweithiau ffyrdd a gynhelir orau yng Nghymru, ond roedd ganddo enw gwael
ymhlith preswylwyr am dyllau yn y ffordd. Roeddent o'r farn fod adroddiadau'n
cael eu hanwybyddu ac nid oedd y tyllau'n cael eu trwsio'n ddigon cyflym. Roedd newid canfyddiad y cyhoedd am y
Gwasanaeth Priffyrdd yn canolbwyntio ar newid teimladau. Drwy rym y cyfryngau
cymdeithasol, roedd y cyhoedd wedi cyfleu neges glir nad oeddent yn hapus a'r
nod oedd trawsnewid hyn yn adborth cadarnhaol yn y dyfodol. Ateb y Tîm Priffyrdd oedd mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r canfyddiad
drwy ddefnyddio dull hwylus o adrodd a fyddai'n gwarantu atgyweiriad o fewn 48
awr ac ymateb gyda ffotograffau i bob hysbysiad lle darparwyd e-bost. Roedd y ffocws ar wybodaeth, gwneud cysylltiadau'n hwylus a rhoi
ymatebion da, gan ymateb fel gwasanaeth i gwsmeriaid yn hytrach na cheidwad
ased cyhoeddus. Ers lansio'r ymgyrch i atgyweirio tyllau yn y ffordd o fewn 48 awr yr
haf diwethaf, mae dros 3,000 o dyllau yn y ffordd wedi cael eu hatgyweirio o
fewn deuddydd o roi gwybod amdanynt (gyda 93% o gwsmeriaid yn cael eu bodloni).
Ac mae'r ymrwymiad i'r addewid wedi helpu i gynyddu cyfanswm yr atgyweiriadau
ffyrdd i dros 11,200 dros y flwyddyn ddiwethaf. Roedd Bob Fenwick yn
bresennol i dderbyn y wobr. 5) Gwobrau
Menter y Frenhines Dywedodd yr Aelod
Llywyddol fod Gwobrau Menter y Frenhines yn wobrau o fri a roddir i gwmnïau neu
unigolion sy'n rhagorol yn eu maes yn y DU. Rhennir y gwobrau ar draws pedwar categori,
sef: Arloesedd, Masnach Ryngwladol, Datblygu
Cynaliadwy a Hyrwyddo Cyfleoedd drwy Symudedd Cymdeithasol. Cynllun Prentisiaethau
Rhanbarthol a Rennir sydd wedi ennill sawl gwobr yn y diwydiant adeiladu ac ar
draws de-orllewin Cymru yw Cyfle Building Skills. Mae'r fenter, a gefnogir gan Fwrdd Hyfforddiant y Diwydiant Adeiladu,
Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid amrywiol, yn
gweithredu o fewn ffiniau rhanbarthol pum awdurdod lleol, sef Cyngor Dinas a
Sir Abertawe, Sir Gâr, Ceredigion, Sir Benfro a Chastell-nedd, sy'n ei gefnogi. Llongyfarchodd Wasanaethau Adeiladu Corfforaethol yr awdurdod, sy'n aelod
sefydlu’r fenter Cyfle, am gael eu cydnabod am eu cyfraniad gweithredol a
pharhaus, ar lawr gwlad ac ar lefel bwrdd, gyda gwobr y bowlen goffaol. Roedd Chris Cutforth yn
bresennol i dderbyn y wobr. |
||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Martin Nicholls –
Cyfarwyddwr Corfforaethol Lleoedd Llongyfarchodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor Martin
Nicholls am gael ei benodi'n gynharach y diwrnod hwnnw'n Gyfarwyddwr
Corfforaethol Lleoedd. 2)
Cymdeithas Rhagoriaeth
mewn Gwasanaeth Cyhoeddus a Gwobrau'r Frenhines Adleisiodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor y
llongyfarchiadau a roddwyd eisoes gan yr Aelod Llywyddol am y gwobrau a
enillwyd, gan dalu teyrnged i holl swyddogion y cyngor am eu hymroddiad a'u
cefnogaeth. 3)
Abertawe – Cais am Statws
Dinas Diwylliant y DU Llongyfarchodd Dirprwy
Arweinydd y Cyngor yr holl swyddogion sydd wedi cynorthwyo'r broses o baratoi
cais Abertawe i fod yn Ddinas Diwylliant y DU. Ymagwedd Tîm Abertawe oedd hi ac
roedd yn bleser nodi bod cefnogaeth drawsbleidiol unfrydol i'r cais. 4)
Morlyn Llanw Bae Abertawe Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor nad oedd
Llywodraeth y DU wedi cyflwyno unrhyw newyddion o hyd ynghylch cymeradwyo
Morlyn Llanw Bae Abertawe; fodd bynnag, roedd yn braf nodi y bu sylwadau
cadarnhaol amdano yng nghynadleddau diweddar y Blaid Lafur a'r Democratiaid
Rhyddfrydol. Hefyd, plediodd Arweinydd Grŵp y Ceidwadwyr
gefnogaeth lawn ei grŵp i'r prosiect a nododd y byddai'n codi'r mater
gyda'r Prif Weinidog ar y penwythnos. |
||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau
gan aelodau'r cyhoedd. |
||||||||||||||||
Cyflwyniad Cyhoeddus - Dim. Cofnodion: Ni
dderbyniwyd cyflwyniadau cyhoeddus. |
||||||||||||||||
Cofnodion: Cyflwynodd
Geraint Norman a David Williams, Swyddfa Archwilio Cymru (SAC), "Adroddiad
Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol 2016-2017 ar gyfer Dinas a Sir Abertawe, gan
Swyddfa Archwilio Cymru". Ymatebodd Geraint Norman (SAC) i gwestiynau technegol ac
ymatebodd Ben Smith (Swyddog Adran 151) i gwestiynau am sefyllfa Dinas a Sir
Abertawe. PENDERFYNWYD: 1)
Cymeradwyo a llofnodi'r llythyr sylwadau terfynol; 2)
Cymeradwyo'r datganiad. Sylwer: Cyfeiriodd y Cynghorydd P M Black at
dudalen 26 gwŷs y cyngor a gofynnodd y canlynol: "Mae
Atodiad 4 yn datgan bod y cyngor yn dal y gweithredoedd ar gyfer nifer o
asedau, ond nid yw'r rhain wedi'u cofrestru gyda'r Gofrestrfa Tir hyd yn hyn.
Faint o dir yr awdurdod sydd heb ei gofrestru?" Dywedodd Arweinydd
y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig. |
||||||||||||||||
Cofnodion: Cyflwynodd
Geraint Norman and David Williams, Swyddfa Archwilio Cymru (SAC),
"Adroddiad Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol 2016-2017 ar gyfer Cronfa
Pensiwn Dinas a Sir Abertawe, gan Swyddfa Archwilio Cymru". Ymatebodd Geraint Norman (SAC) i gwestiynau technegol ac
ymatebodd Ben Smith (Swyddog Adran 151) i gwestiynau am sefyllfa Dinas a Sir
Abertawe. PENDERFYNWYD: 1)
Cymeradwyo a llofnodi'r llythyr sylwadau terfynol; 2)
Cymeradwyo'r datganiad. |
||||||||||||||||
Datganiad o Gyfrifon 2016/17. PDF 97 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Adran 151 adroddiad a amlinellodd yr amserlen berthnasol i gwblhau ac
archwilio Datganiad o Gyfrifon y cyngor ar gyfer 2016-2017. Yn unol â gofynion Rheoliadau Cyfrifon ac
Archwilio (Cymru) 2014, dywedodd y byddai'n rhaid i'r cyngor gymeradwyo
Datganiad o Gyfrifon 2016-2017 erbyn 30 Medi 2017. PENDERFYNWYD cymeradwyo Datganiad o Gyfrifon 2016-2017. Sylwer: Gofynnodd y Cynghorydd P M Black y
cwestiynau canlynol: 1)
"Mae tudalen 139 Datganiad o Gyfrifon
2016-2017 yn cyfeirio at ffioedd cartrefi gofal. A all y Swyddog Adran 151
esbonio'r mater a'r costau sy'n gysylltiedig ag ef? 2)
Mae tudalen 140 Datganiad o Gyfrifon 2016-2017 yn cyfeirio at Bay Leisure Limited (Abertawe). A
yw swm y gronfa'n ddigonol i dalu am unrhyw broblemau gyda'r gyllideb cynnal a
chadw?" Dywedodd Arweinydd
y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig. |
||||||||||||||||
Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2016/17. PDF 284 KB Cofnodion: Cyflwynodd
y Swyddog Adran 151 adroddiad gwybodaeth a amlinellodd weithgareddau rheoli
Trysorfa'r cyngor yn ystod 2016-2017 ac a gymharodd y perfformiad go iawn yn
erbyn y strategaeth a bennwyd ar ddechrau'r flwyddyn. |
||||||||||||||||
Y Can Niwrnod Cyntaf a Thu Hwnt. PDF 177 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Arweinydd y Cyngor adroddiad er gwybodaeth a oedd yn cofnodi cyflawniadau
a llwyddiannau Cyngor Abertawe yn ystod
ei 100 niwrnod cyntaf ar ôl yr etholiad ar 4 Mai 2017 ac a oedd yn manylu ar y
cynigion ar gyfer gweithredu dros y misoedd nesaf a'r tu hwnt. |
||||||||||||||||
Penodi Aelod/Aelodau Annibynnol i'r Pwyllgor Safonau. PDF 99 KB Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn
amlinellu argymhelliad Panel Swyddi Gwag y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 4
Medi 2017. Yr argymhelliad oedd penodi Michaela Jones a Mike
Lewis yn aelodau annibynnol o'r Pwyllgor Safonau o 1 Hydref 2017. PENDERFYNWYD: 1)
Bod y
cyngor yn nodi argymhelliad Panel Swyddi Gwag y Pwyllgor Safonau ar 4 Medi
2017; 2)
Penodi
Michaela Jones a Mike Lewis yn
aelodau annibynnol o'r Pwyllgor Safonau o 1 Hydref 2017; 3) Y bydd eu cyfnod 6 mlynedd yn eu swyddi'n dod i ben ar 30 Medi 2023. |
||||||||||||||||
Aelodaeth Pwyllgorau. PDF 99 KB Cofnodion: Dywedodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a Gweithrediadau Busnes fod un
newid ychwanegol i'r adroddiad. Cyfeiriodd at yr adroddiad gan nodi bod Arweinydd y Cyngor hefyd wedi gwneud
y newidiadau canlynol i gyrff allanol yr awdurdod: 1)
Llys Prifysgol Cymru Tynnu enw'r Cynghorydd R
Francis-Davies. Dywedodd hefyd fod
Arweinydd y Cyngor wedi cyhoeddi'n flaenorol y bydd y Cynghorwyr J E Burtonshaw
ac M Sherwood yn rhannu rôl Aelod y Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol ar sail
chwarterol. Y Cynghorydd J E Burtonshaw
oedd Aelod y Cabinet tan 31 Awst 2017 ac mae'r Cynghorydd M Sherwood wedi
ymgymryd â'r rôl am 3 mis, gan ddechrau ar 1 Medi 2017. Nodir cyfnodau eu swyddi ar gyfer y Cabinet a'r
Panel Ariannu Allanol isod:
PENDERFYNWYD: 1)
Y dylid
nodi'r adroddiad; 2)
Diwygio
aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn: i)
Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno
Polisi ar yr Economi ac Isadeiledd Tynnu
enw'r Cynghorydd W G Thomas. Ychwanegu
enw'r Cynghorydd M A Langstone. ii)
Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno
Polisi - Addysg a Sgiliau Ychwanegu
enw'r Cynghorydd M H Jones. iii)
Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno
Polisi - Diogelu Tynnu
enw'r Cynghorydd M Sykes. Ychwanegu
enw'r M B Lewis. |
||||||||||||||||
Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad diwygiedig a
ddarparodd ymateb i gwestiynau 1-37 a 41-46 ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar
Ddiwygio Etholiadol Llywodraeth Leol yng Nghymru erbyn 10 Hydref 2017.
Darparodd yr adroddiad diwygiedig ymateb trawsbleidiol cytunedig i 31 o'r 46 o
gwestiynau. PENDERFYNWYD: 1) Cyflwyno
ymateb i Ddiwygio Etholiadol Llywodraeth Leol yng Nghymru fel a amlinellwyd yn
Atodiad A yr adroddiad diwygiedig. |
||||||||||||||||
Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a ddarparodd ymateb
i gwestiynau 38-40 ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Ddiwygio Etholiadol
Llywodraeth Leol yng Nghymru erbyn 10 Hydref 2017. PENDERFYNWYD: 1) Cyflwyno
ymateb i Ddiwygio Etholiadol Llywodraeth Leol yng Nghymru fel a amlinellwyd yn Atodiad
A yr adroddiad. |
||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 152 KB Cofnodion: 1) ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A Cyflwynwyd naw (9) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au)
perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs
y Cyngor. Roedd
ymateb ysgrifenedig yn ofynnol ar gyfer y cwestiwn/cwestiynau atodol canlynol. Cwestiwn 5 a)
Gofynnodd y Cynghorydd C A Holley y canlynol: i)
“Beth mae ymgynghorwyr yr
awdurdod yn ei ddweud ynghylch manwerthu gwell a chanol y ddinas?” Dywedodd
Arweinydd y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig. Cwestiwn 7 b)
Gofynnodd y Cynghorydd P M
Black y canlynol: ii)
"A all Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a
Dysgu Gydol Oes ddarparu dadansoddiad manwl o geisiadau Blwyddyn 10 ar gyfer yr
holl bynciau a restrir yn y broses holi ac ateb?" Datganodd
Aelod Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes y darperir ymateb
ysgrifenedig. 2) ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan
B Cyflwynwyd dau (2) 'gwestiwn nad oedd angen cwestiynau
atodol' Rhan B. |