Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

17.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Deallusrwydd Busnes gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gallai cynghorwyr a swyddogion eu cael mewn eitemau ar yr agenda.

 

Gwnaeth Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd atgoffa cynghorwyr a swyddogion y dylid ond llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan.  Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan.  Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol:

 

1)           Datganodd y Cynghorwyr T J Hennegan a G J Tanner fudd personol yng Nghofnod 24 "Adnewyddu Tai'r Sector Preifat ac Addasiadau i'r Anabl: Polisi i ddarparu cymorth 2017-22;

 

2)           Datganodd y Cynghorwyr C Anderson, P M Black,  J E Burtonshaw, M C Child, S E Crouch, J P Curtice, N J Davies, A M Day, P Downing, V M Evans, W Evans, E W Fitzgerald, F M Gordon, J A Hale, T J Hennegan, B Hopkins, L James, Y V Jardine, M H Jones, S M Jones , E J King, E T Kirchner, A S Lewis, M B Lewis, C E Lloyd, P Lloyd, P N May, D Phillips, C L  Philpott, J A Raynor, C Richards, P B Smith, R V Smith, R C Stewart, D G Sullivan, G J Tanner, D W W Thomas, L G Thomas, M Thomas, L J Tyler-Lloyd, G D Walker, L V Walton a T M White fudd personol yng Nghofnod 25 "Lwfansau a Threuliau Cynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig 2016-2017";

 

3)           Datganodd y Cynghorwyr P M Black, M C Child, N J Davies, M Day, P Downing, V M Evans, E W Fitzgerald,  F M Gordon, B Hopkins, L James, O G James, Y V Jardine, L R Jones, M H Jones, S M Jones, E T Kirchner, I E Mann, P N May, C L Philpott, S Pritchard, C Richards, K M Roberts, B J Rowlands, P B Smith, R V Smith, A H Stevens, R C Stewart, D G Sullivan, G J Tanner, L G Thomas, L J Tyler-Lloyd a T M White fudd personol yng Nghofnod 26 "Lwfansau a Threuliau Cynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig 2016-2017".

18.

Cofnodion. pdf eicon PDF 184 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)           Cyfarfod Blynyddol y Cyngor a gynhaliwyd ar 25 Mehefin 2017 yn amodol ar dudalen 27, aelodaeth y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael ei diwygio a thynnu Jane Harries;

 

2)           Cyfarfod seremonïol y cyngor a gynhaliwyd ar 26 Mai 2017.

19.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor.

Cofnodion:

Ni chafwyd ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng nghyfarfod cyffredinol diwethaf y cyngor.

20.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

1)            Cydymdeimladau

 

a)         Ymosodiadau terfysgol a digwyddiadau trychinebus

 

Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol â thristwch mawr at yr ymosodiadau terfysgol ar Bont Llundain, Borough Market ar 3 Mehefin a gerllaw Mosg Finsbury Park ar 18 Mehefin 2017, ynghyd â'r tân trychinebus a difethol yn Nhŵr Grenfell, Llundain a'r Digwyddiad Tanc yng Nghastellmartin, Sir Benfro ar 14 Mehefin 2017.

 

Roedd baneri y tu allan i adeiladau Canolfan Ddinesig y cyngor wedi eu hanner-ostwng a chynhaliwyd munud o dawelwch.

 

Safodd pawb i ddangos cydymdeimlad a pharch.

 

2)            Chelbie Williams, Ysgol Gyfun Pentrehafod - Ysgoloriaeth Virgin i'r India

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol mai Chelbie Williams o Ysgol Gyfun Pentrehafod yw'r ferch gyntaf o Gymru i gael ei dewis am ysgoloriaeth nodedig a fydd yn ei gweld hi'n teithio i'r India i helpu i adeiladu ysgolion i blant sy'n byw mewn tlodi.  Mae'n un o 30 o fyfyrwyr ledled y DU a ddewiswyd ar gyfer yr ysgoloriaeth i'r India.

 

Yr hyn sy'n gwneud ei llwyddiannau'n fwy arbennig byth yw'r ffaith y cafodd ei symud i gynllun Cwricwlwm Amgen Pentrehafod (Pace) ar ôl dioddef o anawsterau emosiynol, gan gynnwys hunan-barch isel, dair blynedd yn ôl.  Mae'r cynllun Pace yn helpu plant diamddiffyn sydd mewn perygl o gael eu gwahardd ddychwelyd i'r llwybr cyffredin.

 

Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol Chelbie ar ei llwyddiant nodedig.

 

3)            Gwobr Perfformiad Rhagorol Grŵp Diogelwch Galwedigaethol De-orllewin Cymru (SWWOSG)

 

Gwnaeth yr Aelod Llywyddol longyfarch y Gwasanaeth Iechyd, Diogelwch, Lles a Rheoli Argyfwng Corfforaethol am ennill gwobr Grŵp Diogelwch Galwedigaethol De-orllewin Cymru am berfformiad rhagorol wrth leihau damweiniau, hyfforddiant iechyd a diogelwch a'u gwaith ar drawsnewid diwylliannol a gwella iechyd a lles.

 

Cyflwynwyd y wobr i Craig Gimblett, Tracey Williams, Katja Davies a Sarah Owens.

 

4)            Gwobr Blatinwm y Safon Iechyd Corfforaethol (CHS)

 

Y cyngor yw ail awdurdod lleol yng Nghymru i ennill Gwobr Blatinwm y Safon Iechyd Corfforaethol am ei ymroddiad at fynd y tu hwnt i'w ddyletswyddau corfforaethol a chymdeithasol drwy wneud gwir wahaniaeth wrth wella gwasanaethau a chefnogaeth i ein cymunedau a'n staff.

 

Y Safon Iechyd Corfforaethol yw marc safon Llywodraeth Cymru o ran hyrwyddo iechyd corfforaethol yng Nghymru ers 2005.  Er bod safonau eraill yn canolbwyntio ar staff yn unig, dim ond y sawl sy'n gallu dangos sut maent yn llwyddo i gyflawni rhagoriaeth a mwy ar draws chwe maen prawf craidd wrth gefnogi iechyd a lles preswylwyr, eu staff eu hunain a staff cyflogwyr eraill sy'n cael eu gwobrwyo â'r safon blatinwm.

 

Cafodd Gwasanaeth Datblygu Gwaith Cyngor Abertawe, sy'n dathlu ei ddegfed pen-blwydd eleni, ei defnyddio fel ein hastudiaeth achos, gan ddangos sut caiff oedolion ag anableddau dysgu eu cefnogi i ddatblygu sgiliau gwaith y gallant yna eu defnyddio i gefnogi cymunedau'r ddinas.

 

Cafodd pob un o saith tîm project y gwasanaeth eu cynnwys yn y dystiolaeth a gyflwynwyd, gan amrywio o'r timau NEAT adnabyddus i wasanaethau arlwyo yng Nghiosg Parc Victoria, planhigfa ffrwythau a llysiau Fforestfach a'r Tîm Cynnal a Chadw sy'n cefnogi gwaith rheoli bywyd gwyllt a chynefinoedd amgylcheddol.

 

Cafodd enghreifftiau o waith rhagorol eu cyflwyno gan aelodau'r gweithgor lles ar draws y 6 maen prawf a oedd yn cynnwys cludiant, caffael, cynaladwyedd, adeiladau corfforaethol a gwasanaethau eiddo, cyfleusterau, cyfranogiad cymunedol, cyflogaeth a sgiliau, gan arwain i gydnabyddiaeth o'n rôl arweiniol a blaengar.

 

Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol Wasanaeth Iechyd, Diogelwch, Lles a Rheoli Argyfwng Corfforaethol a fu'n arwain y cais am wobr, a phob aelod o staff arall y mae ei gyfraniad yn gwneud gwahaniaeth yn ein cymunedau bob dydd.

 

Cyflwynwyd y wobr i Craig Gimblett, Sue Reed, Katja Davies, Tracey Williams, Sarah Owens a Steve Rees .

 

5)            Prentis y Flwyddyn Coleg Gŵyr Abertawe

 

Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol Lyn Hovvels, prentis plymer gyda'r Gwasanaethau Adeiladau Corfforaethol, a enillodd y wobr Prentis y Flwyddyn Coleg Gŵyr Abertawe.  Dywedodd fod hyn yn llwyddiant arbennig i Lyn a'r Gwasanaethau Adeiladau Corfforaethol oherwydd dyma'r tro cyntaf i un o brentisiaid yr awdurdod ennill y wobr.  Cafodd Lyn ei ddewis o blith y cannoedd o brentisiaid a fynychodd Coleg Gŵyr fel y gorau o'u plith, ac i'r rheini ohonoch sy'n adnabod Lyn yn bersonol, rydw i'n siŵr y byddwch i gyd yn cytuno nid oes yr un prentis arall sy'n ei haeddu'n fwy. Da iawn Lyn, a dal ati.

 

Cyflwynwyd y wobr i Lyn Hovvels.

 

6)            Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2017

 

Dinasyddion Abertawe a/neu bobl â chysylltiadau ag Abertawe a dderbyniodd gwobrau yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.

 

a)            Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE)

 

i)             Peter Malcolm Black.  Cynghorydd ward Cwmbwrla, Cyngor Dinas a Sir Abertawe.  Am wasanaethau i wleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus yng Nghymru. (Abertawe).

 

b)           Aelod Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE)

 

i)             Ms Sally Jane Hyman. Cadeirydd Ymddiriedolwyr yr RSPCA. Cangen Llys Nini. Am wasanaethau i les anifeiliaid a'r amgylchedd. (Baglan, Castell-nedd Port Talbot).

 

c)            Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM)

 

i)             Capten David Cledlyn Jones. Am wasanaethau i berthnasoedd Eingl-Almaenaidd ac Addysg yr Ail Ryfel Byd. (Pennard, Abertawe);

 

ii)            Mrs Ann Georgina Khoshbin. Am wasanaethau i Addysg. (Blackpill, Abertawe).

 

7)            Diwygiadau i Wŷs y Cyngor

 

a)            Eitem 10 "Lwfansau a Threuliau Cynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig 2016-2017".

 

Tudalen 74.  Newid y cofnodion mewn perthynas â'r Cynghorydd Robert C Stewart fel a ganlyn:

 

i)             Dylai'r golofn lwfans teithio fod yn “£2,541.55”.

ii)            Dylai colofn y cyfanswm fod yn “£68,738.96”

 

b)            Eitem 12 "Aelodaeth Pwyllgorau”.  Dosbarthwyd fersiwn wedi'i diweddaru.

21.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)            Aelodau Hyrwyddo

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei fod wedi penodi'r aelodau hyrwyddo ychwanegol canlynol:

 

a)     Aelod hyrwyddo dros ddigartrefedd - y Cynghorydd M Sykes;

b)     Aelod hyrwyddo dros blant sy'n derbyn gofal - y Cynghorydd C R Evans.

 

2)            Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod trafodaethau eisoes wedi cychwyn ynghylch sefydlu Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

 

3)            Sgwâr Digidol - Penodi Gweithredwr Arena

 

Rhoddwyd diweddariad am benodi Gweithredwr Arena'r Sgwâr Digidol gan Arweinydd y Cyngor.

 

4)            Tonia Antoniazzi – AS Gŵyr

 

Llongyfarchodd Arweinydd y Cyngor, Tonia Antoniazzi, ar gael ei hethol yn Aelod Seneddol Gŵyr yn ddiweddar.

 

5)            Tân yn Nhŵr Grenfell, Gogledd Kensington, Datganiad ar Lundain

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor â thristwch mawr at y tân dinistriol yn Nhŵr Grenfell yn Llundain ar 14 Mehefin 2017.  Galwodd ar yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Tai, Ynni ac Adeiladau i roi gwybodaeth friffio i'r cyngor.

 

Rhoddwyd addewidion gan Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Tai, Ynni ac Adeiladau i'r cyngor ynghylch yr 11 o dyrau fflatiau yn Abertawe, ac atebodd gwestiynau am eu diogelwch.

 

Sylwer:

 

1)            Gofynnodd y Cynghorydd C L Philpott am ddiweddariad o ran pryd y byddai allweddi'r balconïau i fflatiau Clyne Court yn cael eu dychwelyd i'r preswylwyr.

 

2)            Gofynnodd y Cynghorydd G D Walker am ganlyniadau'r ymarfer 'byw' diweddaf yr ymgymerwyd ag ef gan y Gwasanaeth Tân ar dyrau o fflatiau'r cyngor.

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Tai, Ynni ac Adeiladau y byddai ymatebion ysgrifenedig yn cael eu darparu.

22.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Gofynnwyd sawl cwestiwn gan aelodau'r cyhoedd.  Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet yn briodol.  Ni chafwyd cwestiynau a oedd yn gofyn am ymateb ysgrifenedig.

23.

Cyflwyniad Cyhoeddus - Dim.

Cofnodion:

Rhoddwyd cyflwyniad gan Sue Shannon-Jones am Symudiad Prifysgol y Drydedd Oes (U3A), sef sefydliad unigryw a chyffrous sy'n darparu cyfleoedd i gyfoethogi a thrawsnewid bywydau.  Mae pobl sydd wedi ymddeol neu sydd wedi hanner-ymddeol yn gallu dod ynghyd i ddysgu gyda'i gilydd, nid ar gyfer ennill cymwysterau ond, yn hytrach, er pleser pur dysgu.

 

Mae aelodau'n rhannu eu sgiliau a'u profiad bywyd: mae dysgwyr yn addysgu ac mae'r addysgwyr yn dysgu, ac nid oed unrhyw wahaniaeth rhyngddynt.  Cefnogir y symudiad U3A gan y sefydliad cenedlaethol, Ymddiriedolaeth Prifysgol y Drydedd Oes.

 

Rhoddwyd diolch am y cyflwyniad gan y cynghorydd R C Stewart, Arweinydd y Cyngor.

24.

Adnewyddu Tai'r Sector Preifat ac Addasiadau i'r Anabl: Polisi i ddarparu cymorth 2012-2017 pdf eicon PDF 83 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Tai, Ynni ac Adeiladau a oedd yn amlinellu newidiadau arfaethedig Adnewyddu Tai'r Sector Preifat ac Addasiadau i'r Anabl: Polisi i ddarparu cymorth 2012-2017 presennol, ac i gyhoeddi polisi newydd ar gyfer 2017-2022.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)            Cymeradwyo'r newidiadau i'r adroddiad a amlinellwyd a chyhoeddi polisi newydd ar gyfer 2017-2022.

25.

Lwfansau a Gwariant Arian Cynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig 2016-2017. pdf eicon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gwybodaeth gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a oedd yn cyflwyno swm y lwfansau a'r treuliau a dalwyd i bob Cynghorydd ac Aelod Cyfetholedig yn ystod 2015-2016 dan y Cynllun Lwfansau Cynghorwyr.

 

Nodiadau:  Tudalen 74.  Newidiwyd y cofnodion mewn perthynas â'r Cynghorydd Robert C Stewart ar dudalen 74 fel a ganlyn:

 

i)       Dylai'r golofn lwfans teithio fod yn “£2,541.55”.

ii)      Dylai colofn y cyfanswm fod yn “£68,738.96”.

26.

Cyflwyno teitl yr Henadur Anrhydeddus. pdf eicon PDF 161 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad ar y cyd gan yr Aelod Llywyddol a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a'r Swyddog Monitro a oedd yn cytuno mewn egwyddor i roi teitl 'Henadur Anrhydeddus' i gyn-Gynghorwyr a nodir yn yr adroddiad, yn unol â meini prawf y cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)            Cytunodd y cyngor mewn egwyddor i roi teitl Henadur Anrhydeddus i gyn-Gynghorwyr R G (Bobby) Davies, John Newbury, Ioan M Richard, R June Stanton a Ceinwen Thomas i gydnabod eu gwasanaethau blaenllaw i Ddinas a Sir Abertawe a'i awdurdodau blaenorol.

 

2)            Trefnir Cyfarfod Seremonïol y Cyngor am 3.00pm ar 24 Awst 2017 er mwyn rhoi'r teitl i'r cyn-gynghorwyr a enwir uchod.

27.

Aelodaeth Pwyllgorau. pdf eicon PDF 57 KB

Cofnodion:

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes fod adroddiad diwygiedig wedi'i ddosbarthu.

 

Cyfeiriodd at yr adroddiad gan nodi bod Arweinydd y Cyngor hefyd wedi gwneud y newidiadau canlynol i gyrff allanol yr awdurdod:

 

1)            Panel Mabwysiadu

Tynnu enw'r Cynghorydd J P Curtice.

Ychwanegu'r Cynghorydd C Richards.

 

2)            Grŵp Llywio EOTAS

Ychwanegu'r Cynghorydd J A Raynor.

 

3)            Gwerinwyr Gŵyr

Tynnu enw'r Cynghorydd K M Roberts.

Ychwanegu'r Cynghorydd A H Stevens.

 

4)            Coleg Gŵyr

Tynnu enw'r Cynghorydd C Richards.

Ychwanegu'r Cynghorydd R V Smith.

 

5)            Cytundeb rhwng Awdurdodau ar gyfer Gwastraff Bwyd

Tynnu enw'r Cynghorydd W G Lewis.

Ychwanegu'r Cynghorydd V M Evans.

 

6)            Bwrdd Rheoli UCD

Ychwanegu'r Cynghorydd J A Raynor.

 

7)            Consortiwm Gwastraff Rhanbarthol De-orllewin Cymru

Tynnu enw'r Cynghorydd W G Lewis.

Ychwanegu'r Cynghorydd V M Evans.

 

8)            Pwyllgor Rheoli Gwastraff Rhanbarthol De-orllewin Cymru

Tynnu enw'r Cynghorydd W G Lewis.

Ychwanegu'r Cynghorydd V M Evans.

 

9)            Partneriaeth Adfywio Economaidd Abertawe

Ychwanegu'r Cynghorydd D H Hopkins.

 

10)         Llys Prifysgol Abertawe

Tynnu enw'r Cynghorydd S Pritchard.

Ychwanegu'r Cynghorydd R Francis-Davies.

 

11)         Pwll Cenedlaethol Cymru

Tynnu enw'r Cynghorydd M B Lewis.

Ychwanegu'r Cynghorydd M C Child.

 

12)         Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Tynnu enw'r Cynghorydd J P Curtice.

Ychwanegu'r Cynghorydd J A Raynor.

 

13)         Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Bae'r Gorllewin

Tynnu'r Cynghorydd P Jones.

 

PENDERFYNWYD diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn:

 

1)            Pwyllgor Disgyblu Prif Swyddogion

Ychwanegu'r Cynghorydd J A Hale.

 

2)            Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd

Tynnu enw'r Cynghorydd J P Curtice.

Ychwanegu'r Cynghorydd M Durke.

 

3)            Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol

Ychwanegu'r Cynghorydd B J Rowlands.

 

4)            Pwyllgor Cynllunio

Tynnu enw'r Cynghorydd C Richards.

Ychwanegu'r Cynghorydd P B Smith.

 

5)            Pwyllgor Polisi a Datblygu 1 (Addysg a Sgiliau)

Tynnu enwau'r Cynghorwyr M Durke, L S Gibbard, J A Hale, Y V Jardine, W G Lewis a B J Rowlands.

Ychwanegu'r Cynghorwyr M A Langstone, M B Lewis, C L Philpott, S Pritchard, K M Roberts, M Sykes a D W W Thomas.

 

6)            Pwyllgor Polisi a Datblygu 2 (Economi ac Isadeiledd)

Tynnu enwau'r Cynghorwyr M Durke, Y V Jardine, M A Langstone, D Phillips, L J Tyler-Lloyd a T M White.

Ychwanegu'r Cynghorwyr P R Hood-Williams, J W Jones, P Jones, S M Jones, P M Matthews a W G Thomas.

 

7)            Pwyllgor Polisi a Datblygu 3 (Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol)

Tynnu enwau'r Cynghorwyr J P Curtice, D W Helliwell, P M Matthews, H M Morris, C Richards, G Tanner a W G Thomas.

Ychwanegu'r Cynghorwyr C Anderson, M Durke, J A Hale, C A Holley, M B Lewis, B J Rowlands, A H Stevens a L J Tyler-Lloyd.

 

8)            Pwyllgor Polisi a Datblygu 4 (Diogelu)

Tynnu enwau'r Cynghorwyr T J Hennegan, M B Lewis, R D Lewis, P M Matthews, S Pritchard a D W W Thomas.

Ychwanegu'r Cynghorwyr J C Curtice, P R Hood-Williams, Y V Jardine, L James, K M Roberts, M Sykes a G Tanner.

 

9)            Pwyllgor Polisi a Datblygu 5 (Lleihau Tlodi)

Tynnu enwau'r Cynghorwyr C Anderson, P R Hood-Williams, M B Lewis, K M Roberts, B J Rowlands, M Sykes a T M White.

Ychwanegu'r Cynghorwyr P Downing, D W Helliwell, O G James, R D Lewis, D Phillips, C Richards, G Tanner a L G Thomas.

 

10)         Pwyllgor Safonau

Ychwanegu'r Cynghorydd Cymuned P Crayford.

 

11)         Pwyllgor Trwyddedu Statudol

Ychwanegu'r Cynghorydd B J Rowlands.

 

12)         Bwrdd Magu Plant Corfforaethol

Tynnu enw'r Cynghorydd H M Morris.

 

13)         Gweithgor y Cyfansoddiad

Ychwanegu'r Cynghorydd W Evans.

 

14)         Panel Llywodraethwyr yr ALl

Tynnu enwau'r Cynghorwyr C R Evans a V M Evans.

Ychwanegu'r Cynghorwyr W G Lewis ac S Pritchard.

 

15)         Bwrdd Pensiwn Lleol

Tynnu enw'r Cynghorydd M B Lewis.

Ychwanegu'r Cynghorydd T M White.

 

16)         Ymweliadau Rota'r Gwasanaethau Cymdeithasol

Tynnu enw'r Cynghorydd C R Evans.  Ychwanegu'r Cynghorydd W G Lewis.

 

17)         Fforwm Cyswllt Myfyrwyr

Ychwanegu enwau'r Cynghorwyr R Francis-Davies, A S Lewis ac M Thomas.

 

18)         Panel Ymddiriedolwyr

Tynnu enw'r Cynghorydd V M Evans.  Ychwanegu'r Cynghorwyr W Lewis, A Pugh ac L R Jones.

28.

Newidiadau i'r Cyfansoddiad. pdf eicon PDF 76 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad ar y cyd gan yr Aelod Llywyddol, Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a'r Swyddog Monitro a oedd yn ceisio diwygio er mwyn symleiddio, gwella a/neu ychwanegu at Gyfansoddiad y Cyngor mewn perthynas â'r meysydd canlynol:

 

1)           Rhan 3 – Cyfrifoldeb Dros Swyddogaethau – Cylch Gorchwyl.

 

Yn dilyn Cyfarfod Blynyddol y Cyngor ar 25 Mai 2017, cyfarfu'r pum Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi ac etholwyd Cadeirydd ac Is-Gadeirydd ar gyfer y pwyllgorau.  Mae'r Cadeiryddion a'r Is-Gadeiryddion yn trosglwyddo i'r pwyllgorau a ail-enwyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)            Ail-enwi'r pum Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi fel a amlinellir isod:

 

Enw gwreiddiol

Enw a gynigir

Cadeirydd (Cyng.)

Is-Gadeirydd (Cyng.)

PDChP 1

PDChP Addysg a Sgiliau

R V Smith

F M Gordon

PDChP 2

PDChP Economi ac Isadeiledd

V M Evans

N J Davies

PDChP 3

PDChP Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol

E T Kirchner

C R Evans

PDChP 4

PDChP Diogelu

C R Doyle

E J King

PDChP 5

PDChP Lleihau Tlodi

P B Smith

A Pugh

 

2)            Amlinellir newidiadau i'r cylch gorchwyl yng Nghyfansoddiad y Cyngor isod, ynghyd ag unrhyw newidiadau i'w mabwysiadu o ganlyniad:

 

Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi - Economi ac Isadeiledd

 

1)            Ysgogi datblygu polisïau economi ac isadeiledd corfforaethol y cyngor, i'w hystyried a'u mabwysiadu gan y Cabinet a/neu'r cyngor lle bo'n briodol.

 

Sylwer: Gall Pwyllgorau Datblygu a Chyflwyno Polisi gyfethol eraill i'r pwyllgor am bwnc penodol neu am dymor os yw'r pwyllgor yn ystyried y gall hynny ei helpu yn ei rôl.

 

Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi - Addysg a Sgiliau

 

1)            Ysgogi datblygu polisïau addysg a sgiliau corfforaethol y cyngor, i'w hystyried a'u mabwysiadu gan y Cabinet a/neu'r cyngor lle bo'n briodol.

 

Sylwer: Gall Pwyllgorau Datblygu a Chyflwyno Polisi gyfethol eraill i'r pwyllgor am bwnc penodol neu am dymor os yw'r pwyllgor yn ystyried y gall hynny ei helpu yn ei rôl.

 

Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi - Lleihau Tlodi

 

1)            Ysgogi datblygu polisïau lleihau tlodi corfforaethol y cyngor, i'w hystyried a'u mabwysiadu gan y Cabinet a/neu'r cyngor lle bo'n briodol.

 

Sylwer: Gall Pwyllgorau Datblygu a Chyflwyno Polisi gyfethol eraill i'r pwyllgor am bwnc penodol neu am dymor os yw'r pwyllgor yn ystyried y gall hynny ei helpu yn ei rôl.

 

Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi - Diogelu

 

1)            Ysgogi datblygu polisïau diogelu corfforaethol y cyngor, i'w hystyried a'u mabwysiadu gan y Cabinet a/neu'r cyngor lle bo'n briodol.

 

Sylwer: Gall Pwyllgorau Datblygu a Chyflwyno Polisi gyfethol eraill i'r pwyllgor am bwnc penodol neu am dymor os yw'r pwyllgor yn ystyried y gall hynny ei helpu yn ei rôl.

 

Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi - Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol

 

1)            Ysgogi datblygu polisïau trawsnewid a chyngor y dyfodol corfforaethol y cyngor, i'w hystyried a'u mabwysiadu gan y Cabinet a/neu'r cyngor lle bo'n briodol.

 

Sylwer: Gall Pwyllgorau Datblygu a Chyflwyno Polisi gyfethol eraill i'r pwyllgor am bwnc penodol neu am dymor os yw'r pwyllgor yn ystyried y gall hynny ei helpu yn ei rôl.

29.

Addewid Cynghorwyr ar Safonau. pdf eicon PDF 67 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i ail-fabwysiadu'r Addewid Cynghorwyr ar Safonau.

 

Yn unol â Rheol 30 Gweithdrefn y Cyngor, "Pleidlais", gofynnwyd am bleidlais gofnodedig.  Cofnodwyd y bleidlais ar y newid fel a ganlyn:

 

O blaid (53 o Gynghorwyr)

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

C Anderson

D H Hopkins

J A Raynor

J E Burtonshaw

O G James

C Richards

M C Child

V V Jardine

K M Roberts

S E Crouch

L R Jones

B J Rowlands

J.P. Curtice

P Jones

M Sherwood

N J Davies

E J King

P B Smith

P Downing

E T Kirchner

R V Smith

C R Doyle

M A Langstone

A H Stevens

C R Evans

A S Lewis

R C Stewart

V M Evans

M B Lewis

M Sykes

W Evans

W G Lewis

G. J. Tanner

S J Gallagher

C E Lloyd

D W W Thomas

L S Gibbard

P Lloyd

M. Thomas

F M Gordon

I E Mann

W G Thomas

J A Hale

P N May

L J Tyler-Lloyd

D W Helliwell

D Phillips

L V Walton

T J Hennegan

S Pritchard

T M White

B Hopkins

A Pugh

-

 

Yn erbyn (2 Gynghorydd)

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

E. W. Fitzgerald

M H Jones

-

 

Ymatal (8 Cynghorwyr)

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

P M Black

L James

D G Sullivan

A M Day

S M Jones

G D Walker

K M Griffiths

C L Philpott

-

 

Wedi gadael y cyfarfod oherwydd datganiad o fudd personol (0 cynghorwyr)

Cynghorydd

Cynghorydd

Cynghorydd

-

-

-

 

O ganlyniad i'r bleidlais a gofnodwyd, mabwysiadwyd yr argymhellion gofnodedig:

 

PENDERFYNWYD:

 

1)            Ail-fabwysiadu Addewid Cynghorwyr ar Safonau;

 

2)            Ei bod hi'n ofynnol i bob Cynghorydd lofnodi'r "Addewid Cynghorwyr ar Safonau".

30.

Dull Datrys Anghydfodau Lleol i Gynghorwyr. pdf eicon PDF 64 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad ar y cyd gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a'r Swyddog Monitro a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i ail-fabwysiadu'r Dull Datrys Anghydfodau Lleol i Gynghorwyr.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)            Ail-fabwysiadu'r Dull Datrys Anghydfodau Lleol i Gynghorwyr fel yr amlinellwyd yn Atodiad A;

 

2)            Y dylai cynghorwyr geisio datrys unrhyw gŵyn sydd ganddynt am Gynghorwyr eraill drwy'r broses gyfryngu fewnol lle bynnag y bo modd, cyn cyfeirio'r mater at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

31.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

1)         ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd saith (7) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A.  Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Roedd ymateb ysgrifenedig yn ofynnol ar gyfer y cwestiwn/cwestiynau atodol canlynol.

 

Cwestiwn 3

 

a)            Gofynnod y Cynghorydd P N May:

 

i)             "Mae awtomeiddio'r system yn ddefnyddiol.  Mae'n hanfodol lansio ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus cyn ei chyflwyno.  Pryd bydd yn cael ei chyflwyno'n llawn?  A ellid defnyddio'r Cerbyd Gofodi Sifil?"

 

Nododd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Amgylcheddol y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

Cwestiwn 4

 

b)           Y Cynghorydd P M Black:

 

ii)            "Mae'r DVLA yn caniatáu mynediad i'r cyhoedd i system cofrestru cerbydau ar-lein i wirio a yw cerbyd wedi'i drethu neu beidio.  A fyddai modd cyflwyno system debyg yn achos Hawlenni Parcio Preswylwyr?"

 

Nododd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Amgylcheddol y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

2)        ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Cyflwynwyd un (1) 'cwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol' Rhan B.