Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif Eitem

19.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Y Cynghorydd C M J Evans & S J Rice - Personol – Eitem 10 - Cwestiynau gan y Cynghorwyr.

Cofnodion:

Rhoddodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch buddiannau personol a rhagfarnus posib cynghorwyr a/neu swyddogion o ran yr agenda.

 

Gwnaeth Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd atgoffa cynghorwyr a swyddogion na ddylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnus" oni bai bod gan y cynghorydd/swyddog fuddiant i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

1)             Datganodd y Cynghorydd C M J Evans fuddiant personol yng Nghofnod 27 ‘Cwestiynau gan y Cynghorwyr’ – Cwestiwn 3.

 

2)       Datganodd y Cynghorydd S J Rice fuddiant personol yng Nghofnod 27 ‘Cwestiynau gan y Cynghorwyr’ – Cwestiwn 8.

20.

Cofnodion. pdf eicon PDF 443 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 Cymeradwywyd

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)             Cyfarfod blynyddol y cyngor a gynhaliwyd ar 16 Mai 2024.

 

2)             Cyfarfod seremonïol y cyngor a gynhaliwyd ar 17 Mai 2024.

21.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng nghyfarfod cyffredin diwethaf y Cyngor.

22.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

 

Cofnodion:

a)             Sarah Davies, cyn-arglwydd faeres a gwraig y cyn-gynghorydd W John F Davies

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar Sarah Davies, cyn-arglwydd faeres a gwraig y cyn-gynghorydd W John F Davies. Sarah oedd yr Arglwydd Faeres rhwng 2000 a 2001. Roedd Sarah hefyd yn chwaer yng nghyfraith i'r Cynghorydd Robert Francis-Davies. Rydym yn cydymdeimlo â'r teulu.

 

Safodd pawb a oedd yn bresennol mewn distawrwydd fel arwydd o gydymdeimlad a pharch.

 

b)             Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin

Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol ddinasyddion Abertawe a dderbyniodd wobrau yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin.

 

a)       Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE)

i)        Andrea Isabel Albutt. Llywydd Cymdeithas Llywodraethwyr Carchardai'n ddiweddar. Am wasanaethau i Wasanaeth Carchardai a Phrawf EF.

ii)        Rachel Ashe – Sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Mental Health Swims. Am wasanaethau i bobl â phroblemau iechyd meddwl.

iii)       Peter Brian Mizen. Prif Wyliwr Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau. Am wasanaethau i ddiogelwch morwrol.

iv)       Mark William Spencer Portsmouth. Am wasanaethau i chwaraeon yn y Mwmbwls.

v)       Matthew Lee Tyrrell. Postfeistr. Am wasanaethau i'r gymuned ym Mhenlle'r-gaer.

 

c)             Gofal Cymdeithasol Cymru – Gwobrau 2024

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod “Born into Care” yn brosiect amlasiantaeth dan reolaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Cyngor Abertawe. Mae'r prosiect yn cefnogi rhieni os oes perygl y bydd eu plentyn yn cael ei dderbyn i'r system ofal, o gamau cynnar beichiogrwydd hyd at enedigaeth y plentyn a'r tu hwnt. Cynigir gofal cynenedigol ychwanegol i rieni, cymorth magu plant a chymorth ymarferol, ymweliadau dwys â'r cartref a chymorth grŵp. Mae'r prosiect yn defnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfderau ac atebion ac yn rhoi lleisiau a phrofiadau teuluoedd wrth wraidd yr hyn y mae'n ei wneud.

 

Roedd yn falch iawn o adrodd bod y prosiect “Born into Care” wedi ennill gwobr Adeiladu Dyfodol Disglair i Blant a Theuluoedd yn ddiweddar yng Ngwobrau Gofal Cymdeithasol Cymru 2024.

 

d)             Diwygiadau/Cywiriadau i Wŷs y Cyngor

 

Amlinellodd yr Aelod Llywyddol y gwelliannau canlynol:

 

i)               Eitem 4 Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng nghyfarfod cyffredin diwethaf y Cyngor

Tud. 34. Brig y dudalen. Diwygio'r cyfeiriad at "Cyngor 6 Mehefin 2024" i ddarllen "Cyngor 6 Mawrth 2024".

 

ii)             Eitem 8 Recriwtio Cynghorydd Cymuned/Tref i'r Pwyllgor Safonau

Tud. 56. Brig y dudalen. Diwygio'r cyfeiriad at "Cyngor 6 Mehefin 2024" i ddarllen "Cyngor - 11 Gorffennaf 2024".

 

iii)           Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng nghyfarfod cyffredin diwethaf y Cyngor

Tud. 34. Brig y dudalen. Diwygio'r cyfeiriad at "Cyngor 6 Mehefin 2024" i ddarllen "Cyngor 6 Mawrth 2024".

 

iv)           Aelodaeth o Bwyllgorau

Mae'r grwpiau gwleidyddol wedi cyflwyno newidiadau i aelodaeth pwyllgorau. Dosbarthwyd adroddiad diwygiedig.

23.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

a)             Llongyfarchiadau i Aelodau Seneddol etholaethau Gŵyr, Gorllewin Abertawe a Chastell-nedd a Dwyrain Abertawe ar eu llwyddiant etholiadol diweddar – Etholiad Cyffredinol Senedd y DU – 4 Gorffennaf 2024

Llongyfarchodd Arweinydd y Cyngor Tonia Antoniazzi, Torsten Bell a Caroline Harris ar eu llwyddiant yn Etholiad Senedd y DU yn etholaethau Gŵyr, Gorllewin Abertawe a Chastell-nedd a Dwyrain Abertawe. Maent oll wedi cael eu hethol neu eu hailethol yn Aelodau Seneddol.

 

b)             Etholiad Cyffredinol Senedd y DU - 4 Gorffennaf 2024

Diolchodd Arweinydd y Cyngor ar ran Cyngor Abertawe a dinasyddion Abertawe i'r Swyddog Canlyniadau, Martin Nicholls, y Dirprwy Swyddogion Canlyniadau Huw Evans ac Alison O'Hara, y Tîm Gwasanaethau Etholiadol a DesignPrint am eu hymroddiad a'u proffesiynoldeb yn ystod Etholiad Cyffredinol Senedd y DU yn ddiweddar ar 4 Gorffennaf 2024.

 

Canmolodd hefyd aelodau'r Tîm Gwasanaethau Etholiadol am eu menter arloesol ddiweddaraf er mwyn cynorthwyo pleidleiswyr dall a rhannol ddall. Gosodwyd cod QR ym mhob bwth pleidleisio yng ngorsafoedd pleidleisio Abertawe. Roedd y côd QR yn cysylltu â fersiwn sain o'r papurau pleidleisio ar gyfer etholaethau Gŵyr a Gorllewin Abertawe.

 

c)             Diwygiadau i bortffolios y Cabinet - Portffolio'r Cabinet Addysg a Dysgu

Amlinellodd Arweinydd y Cyngor y diwygiad canlynol:

Dileu

Ychwanegu

Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif a Rhaglen Ansawdd mewn Addysg.

Rhaglen Ansawdd mewn Addysg /Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu.

 

d)             Ymgyrch i gynyddu ymwybyddiaeth o berygl cylchynau hedegog

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod cylchynau hedegog yn gynnyrch rhad sy'n deillio o ffrisbis solet. Maent yn cael eu gwerthu gan lawer o fanwerthwyr am gyn lleied ag £1 yr un ac yn aml maent yn cael eu colli neu eu taflu ar draethau. Mae morloi (yn enwedig rhai iau) yn anifeiliaid hynod chwilfrydig ac os ydynt yn rhoi eu pennau yn y cylchyn, gallant gael eu dal yn gyflym, ac mae bron bob amser yn amhosib i'r morlo ddianc. Dros amser, bydd y cylchyn yn dechrau torri cnawd yr anifail, gan achosi poen anfesuradwy, dioddefaint, haint a marwolaeth.

 

Morlo llwyd gogledd yr Iwerydd yw prif rywogaeth morloi ar arfordir Gŵyr. Mae oddeutu 38 y cant o'r boblogaeth fyd-eang yn y DU ac mae canran fach ohonynt ar arfordir Gŵyr. Mae aflonyddwch dynol yn broblem benodol i'r morloi sy'n ymweld â Gŵyr ac felly mae bygythiad y cylchynau hedegog yn rhoi straen ychwanegol ar forloi ar arfordir Gŵyr a'r tu hwnt (gall y cylchynau hyn deithio pellteroedd mawr yn y cefnfor).

 

Byddwn yn codi proffil peryglon cylchynau hedegog er mwyn ceisio atal morloi ac anifeiliaid eraill rhag dioddef ymhellach.

 

Nododd yr hoffai gyflwyno Rhybudd o Gynnig yng nghyfarfod nesaf y cyngor o ran y mater hwn.

 

Nododd arweinwyr y tri grŵp gwleidyddol arall eu bod yn cefnogi'r cynnig.

24.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk  hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser.  Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

Gofynnodd Susie Jewell a Phil Slater gwestiynau. Roedd y cwestiynau'n ymwneud â Chofnod 27 "Cwestiynau gan y Cynghorwyr – Cwestiynau 5 a 14".

 

Ymatebodd Arweinydd y Cyngor.

25.

Recriwtio Cynghorydd Cymuned / Tref i'r Pwyllgor Safonau. pdf eicon PDF 122 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn amlinellu'r broses o recriwtio cynrychiolydd Cynghorwyr Cymuned/Tref i'r Pwyllgor Safonau. Gofynnodd yr adroddiad i ddiwygio Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Safonau i gynorthwyo'r broses.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Diwygio Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Safonau fel ei fod wedi'i awdurdodi i lunio rhestr fer a chyfweld â Chynghorwyr Cymuned/Tref sydd wedi cyflwyno cais i fod yn aelod o'r Pwyllgor Safonau ac i wneud argymhelliad i'r Cyngor ynghylch penodiad.

26.

Aelodaeth Pwyllgorau. pdf eicon PDF 94 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyo'r enwebiadau/diwygiadau i gyrff gwahanol y cyngor.

 

Penderfynwyd diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod:

 

Pwyllgor Disgyblu Prif Swyddogion

Tynnu enwau'r Cynghorydd W G Lewis a'r Cynghorydd S J Rice

Ychwanegu swydd wag

 

Pwyllgor Apeliadau Disgyblu Prif Swyddogion

Tynnu enwau'r Cynghorydd W G Thomas a'r Cynghorydd T M White

Ychwanegu dwy swydd wag

 

Fforwm Cynghorau Cymuned/Tref

Tynnu enw’r Cynghorydd W G Thomas

Ychwanegu swydd wag

 

Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd

Tynnu enw’r Cynghorydd B J Rowlands

Ychwanegu'r Cynghorydd F D O'Brien

 

Pwyllgorau Trwyddedu Cyffredinol a Statudol

Tynnu enw’r Cynghorydd B J Rowlands

Ychwanegu'r Cynghorydd R D Lewis

 

Panel Ymddiriedolwyr

Tynnu enw'r Cynghorydd B J Rowlands

Ychwanegu'r Cynghorydd W G Thomas

 

Cyrff Allanol

 

Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru – Pwyllgor Craffu

Tynnu enw'r Cynghorydd M Jones

Ychwanegu lle Llafur gwag

27.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 195 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

1)             ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

Cyflwynwyd tair ar ddeg (13) o Gwestiynau Atodol Rhan A. Ymatebodd aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a oedd yn rhan o wŷs y cyngor.

 

Rhestrir y cwestiynau atodol hynny yr oedd angen ymateb yn ysgrifenedig iddynt isod.

 

Cwestiwn 6

Gofynnodd y Cynghorydd W G Thomas y cwestiynau canlynol o ran Banc Lloyds a chyfrifon ysgol:

1.       Pa ganran o ysgolion neu'n well byth ba ysgolion a wnaeth optio allan?

2.        Esboniwch ystyr 'nid yw hyn yn normal i Gymru'?

3.       Mae ysgolion cyfun yn defnyddio 'cyfrifon mynediad llog'. Pam nad yw ysgolion cynradd yn gwneud yr un peth? A ydynt wedi cael eu hyfforddi / eu cynghori ynghylch gwneud hynny? Os nad ydynt, a oes modd gwneud hynny?

4.       A all ysgolion ddewis symud eu cyfrifon banc o Fanc Lloyds?

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

2)       Cwestiynau nad oedd angen Cwestiynau Atodol Rhan B ar eu cyfer

Cyflwynwyd dau gwestiwn nad oedd angen Cwestiynau Atodol Rhan B ar eu cyfer.

28.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 133 KB

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

1)             ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

Cyflwynwyd pedwar Cwestiwn Atodol Rhan A. Ymatebodd aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a oedd yn rhan o wŷs y cyngor.

 

Rhestrir y cwestiynau atodol hynny yr oedd angen ymateb iddynt yn ysgrifenedig isod.

 

Cwestiwn 1

Gofynnodd y Cynghorydd J D McGettrick pryd byddai'r 20 o weithwyr newydd yn cael eu cyflogi?

 

Gofynnodd y Cynghorydd P N May a oedd y Rhaglen Hyfforddeiaethau ddiweddar wedi bod yn llwyddiant a faint o’r hyfforddeion a oedd wedi aros i fod yn weithwyr gwastraff parhaol?

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros y Gymuned (Gwasanaethau) y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

Cwestiwn 6

Gofynnodd y Cynghorydd J W Jones a oedd gan y cyngor unrhyw rwymedigaethau ariannol i’r prosiect Bae Copr ac, os felly, i ba raddau.

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

2)       Cwestiynau nad oedd angen Cwestiynau Atodol Rhan B ar eu cyfer

Cyflwynwyd dau gwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol Rhan B ar eu cyfer.

29.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 115 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r cyngor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas â'r eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y cyngor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

30.

Newid i'r Strwythur Uwch-reolwyr - Cyfarwyddiaeth Lleoedd.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a oedd yn nodi newidiadau interim arfaethedig i'r strwythur uwch-reoli yn y Gyfarwyddiaeth Lleoedd sy'n cynnal y gwaith o ddarparu gwasanaethau ac yn galluogi arbedion a gymeradwywyd fel rhan o'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2024/2025.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad.