Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Y Cynghorydd P Downing & R A Fogarty personol a rhagfarnol a'i adael cyn trafodaeth “Mabwysiadu'r
Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor.” Y Cynghorydd D H Jenkins & P M Matthews gysylltiad personol â “Mabwysiadu'r Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor”. Y Cynghorydd C Anderson, M Baker & T
J Hennegan personol a rhagfarnol a'i adael cyn
trafodaeth “Gosod Rhenti CRT 2024/25.” Y Cynghorydd A Davies, P Downing, N Furlong & T M White gysylltiad personol â “.Gosod Rhenti CRT 2024/25.” Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a
rhagfarnol posib a all fod gan gynghorwyr a/neu
swyddogion ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y
dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog
fudd i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w
ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar
lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol. 1)
Datganodd y Cynghorwyr P
Downing ac R A Fogarty fudd personol a rhagfarnol â
Chofnod Rhif 87, "Mabwysiadu Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor” a
gadawsant cyn y drafodaeth. 2)
Datganodd y Cynghorwyr D H
Jenkins a P M Matthews gysylltiad personol â Chofnod 87 "Mabwysiadu
Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor." 3)
Datganodd y Cynghorwyr C
Anderson, M Baker a T J Hennegan fudd personol a rhagfarnol
â Chofnod 88 "Gosod Rhenti'r Cyfrif Refeniw Tai (CRT) 2024/25" a
gadawsant cyn y drafodaeth. 4)
Datganodd y Cynghorwyr A
Davies, P Downing, N Furlong a T M White gysylltiad personol â Chofnod Rhif 88,
"Gosod Rhenti'r Cyfrif Refeniw Tai (CRT) 2024/25.” |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod cyffredin y cyngor a
gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2023. |
|
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion
ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r
cyngor. |
|
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Penderfyniad: For Information Cofnodion: i)
Cydymdeimladau a)
Y Cyn-gynghorydd Nortridge Perrot Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar y Cyn-gynghorydd
Nortridge Perrott. Roedd Nortridge
yn cynrychioli Ward Uplands ar: Ø
Gyngor Dinas Abertawe 1994
- 1996. Ø
Dinas a Sir Abertawe -
1995/1999. Safodd bawb
fel arwydd o gydymdeimlad a pharch. ii)
Anrhydeddau'r Flwyddyn
Newydd Cyfeiriodd yr Aelod
Llywyddol at y Dinasyddion o Abertawe a oedd wedi derbyn dyfarniadau yn
Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd. a)
Aelod o Urdd yr
Ymerodraeth Brydeinig (MBE) i)
Robert Terence Grey.
Perchennog a Hyfforddwr Campfa Paffio yn ddiweddar, Clwb Paffio Amatur Gwent.
Am wasanaethau i Baffio Amatur yn Abertawe. ii)
Alfred Oluwafemi Oyekoya. Cyfarwyddwr,
Cefnogaeth Iechyd Meddwl Pobl Dduon, Asiaidd, a Lleiafrifoedd Ethnig. Am
wasanaethau i Gymunedau Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru. b)
Medal yr
Ymerodraeth Brydeinig (BEM) i)
Leslie John Want. Am wasanaethau i'r gymuned yn
Sgeti ac Abertawe. ii)
Santes Dwynwen Dywedodd yr Aelod
Llywyddol ei bod hi'n ddiwrnod Santes Dwynwen heddiw (25-01-2024), y Nawddsant
Cymreig a Cheltaidd ar gyfer cyfeillgarwch a chariad. Mae poblogrwydd a dathliadau Dydd Santes
Dwynwen wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Cofiwch
ddweud wrth eich partner eich bod chi'n ei garu. iv)
Marchnad Dan
Do Fawr Orau Prydain 2024 Dywedodd yr
Aelod Llywyddol fod Cymdeithas Genedlaethol Awdurdodau Marchnadoedd Prydain
wedi dyfarnu gwobr Marchnad Dan Do Fawr Orau Prydain i Farchnad Abertawe. Roedd
Marchnad Abertawe eisoes wedi ennill y wobr hon yn 2015 a 2020. v)
Diwygiadau/cywiriadau
i wŷs y cyngor a)
Eitem Frys - Hysbysiad o
Gynnig - Tata Steel Dywedodd yr Aelod Llywyddol, yn unol â pharagraff 100B
(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ei bod yn meddwl y dylid trafod yr
"Hysbysiad o Gynnig - Tata Steel” yn y cyfarfod
fel mater o frys. Rheswm dros y Mater Brys: O ystyried
bod Tata Steel wedi cyhoeddi yn ddiweddar eu bwriad i
gael gwared ar filoedd o swyddi eleni, a fydd yn cael effaith enfawr yn lleol
ac yn rhanbarthol, dyma'r unig gyfle i'r Cyngor hwn ystyried a thrafod y cynnig
hwn i roi pwysau ar Tata Steel a'r Llywodraeth. |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Penderfyniad: Er
Gwybodaeth Cofnodion: i)
Tata Steel Cyfeiriodd Arweinydd y
Cyngor at gyhoeddiad diweddar Tata Steel a fydd yn arwain at golli oddeutu 2,800
o swyddi. Dywedodd fod pob un o'r 22 o Arweinwyr Cyngor yng Nghymru yn gweithio
gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i lobïo Tata Steel i ailystyried y
penderfyniad. Roedd effaith y cynnig
yn ddinistriol gyda cholled amcangyfrifedig o £150m i'r economi ac o bosib dair
gwaith hynny ar gyfer elfennau cysylltiedig y gadwyn gyflenwi. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r
Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk
hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn
cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n
uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod
yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn
cyfnod o 10 munud. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Addewidion Magu Plant Corfforaethol. PDF 238 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet
dros Wasanaethau Gofal adroddiad a oedd yn amlinellu gwaith a
gwblhawyd gyda phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn Abertawe,
ynghylch dyletswydd y Cyngor i fod yn Rhieni Corfforaethol. Amlinellodd yr
adroddiad y saith maes addewid sy'n ymwneud â hawliau plant, a gynhyrchwyd ar y
cyd rhwng Cynghorwyr a phobl ifanc. Croesawodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal sawl derbynnydd gofal i'r
cyfarfod a gwahoddwyd Rose ac Aaron i annerch y Cyngor. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r adroddiad a'r addewidion a oedd ynghlwm wrtho. |
|
Adroddiad Cynnydd ar Gynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc Cyngor Abertawe 2021-2023. PDF 371 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet
dros Gymunedau adroddiad a oedd ynamlinellu'r cynnydd a wnaed o ran rhoi dull Cyngor
cyfan ar waith ar gyfer cyflwyno'r Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc wedi'i
adnewyddu. Penderfynwyd: 1) Cymeradwyo adroddiad
cynnydd 2021/2023 ar roi dull Cyngor cyfan ar waith ar gyfer cyflwyno'r Cynllun
Hawliau Plant a Phobl Ifanc wedi'i adnewyddu. 2) Rhoi caniatâd i ddiwygio'r cylch adrodd i
bum mlynedd yn unol â Llywodraeth Cymru.
Bydd y gwaith yn mynd rhagddo drwy gydol y cyfnod hwn gydag adroddiadau
cynnydd yn cael eu cynhyrchu ganol tymor ac ar ddiwedd y cylch. 3) Diwygio
Cynllun Hawliau Plant 2021 i adlewyrchu'r cylch adrodd diwygiedig. |
|
Mabwysiadu'r Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor. PDF 360 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn amlinellu'r gofyniad i
ystyried yn flynyddol a ddylid diwygio neu ddisodli Cynllun Gostyngiadau Treth
y Cyngor presennol y Cyngor a'r gofyniad naill ai i fabwysiadu cynllun newydd
neu ailfabwysiadu'r cynllun presennol erbyn 31 Ionawr
2024. Roedd hefyd yn argymell ailfabwysiadu'r cynllun
presennol fel y nodir yn Adran 3 o'r adroddiad ar gyfer y cyfnod 2024/2025. Penderfynwyd: 1) Nodi Rheoliadau Cynlluniau
Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 ("y
Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig") gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (Senedd
Cymru erbyn hyn) ar 26 Tachwedd 2013, fel y'u diwygiwyd. 2) Nodi'r diwygiadau i'r "Rheoliadau
Gofynion Rhagnodedig" a gynhwysir yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r
Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2024
i'w hystyried gan Senedd Cymru ar 16 Ionawr 2024. 3) Nodi canlyniad yr ymarfer ymgynghori a
gynhaliwyd gan y Cyngor ym mis Tachwedd 2023 ar feysydd dewisol y cynllun
presennol. 4) Y bydd meysydd dewisol y cynllun
presennol (2023/2024) (fel a nodir yn Adran 3 o'r adroddiad) yn aros yr un fath
ar gyfer y cyfnod 2024/2025. 5) Y
bydd y Cyngor yn mabwysiadu'r cynllun fel y'i nodir yn Adran 3 o'r adroddiad
hwn, i gynnwys unrhyw ddiwygiadau gorfodol a all fod yn angenrheidiol o
ganlyniad i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion
Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Diwygio) (Cymru) 2024. |
|
Gosod Rhenti CRT 2024/25. PDF 463 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau adroddiad sy'n cynnig cynnydd mewn rhenti a ffioedd a thaliadau ar
gyfer eiddo o fewn y CRT ar gyfer 2024/2025. Penderfynwyd: 1) Cynyddu rhenti'n unol â pholisi Llywodraeth Cymru fel a fanylwyd yn Adran
3.1 yr adroddiad. 2) Cymeradwyo
ffïoedd, taliadau a lwfansau fel a amlinellir yn Adran 3.2 yr adroddiad. Sylwer: 1)
Dywedodd y Cynghorydd C A Holley ei fod yn cytuno na
ddylai Cyngor Abertawe fod yn codi tâl gwasanaeth; fodd bynnag, hoffai gael
esboniad ynghylch yr hyn y mae Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (LCC) yn
ei wneud mewn perthynas â Thaliadau Gwasanaeth. Dywedodd Aelod
y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei
ddarparu. 2)
Gofynnodd y Cynghorydd P M Black a oedd tâl gwasanaeth ar
waith ar gyfer y Gwasanaeth Warden? Dywedodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu. |
|
Adolygiad o Ddosbarthiadau Etholiadol, Mannau Pleidleisio a Gorsafoedd Pleidleisio. PDF 779 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog
Canlyniadau adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y newidiadau
arfaethedig i Ddosbarthiadau Etholiadol, Mannau Pleidleisio a Gorsafoedd
Pleidleisio ac i gytuno ar ymchwiliad pellach i symud nifer o leoliadau
gorsafoedd pleidleisio o bosib. Penderfynwyd: 1) Nodi'r ymatebion i'r
ymgynghoriad a dderbyniwyd mewn perthynas â'r Adolygiad o Ddosbarthiadau
Etholiadol a Mannau Pleidleisio a grynhoir yn Atodiad 2 yr adroddiad. 2) Cymeradwyo'r cynigion terfynol i'r
Dosbarthiadau Etholiadol a'r Mannau Pleidleisio fel yr amlinellir yn Atodiad 3
yr adroddiad. 3) Bod y Swyddog Canlyniadau yn parhau i
fonitro Dosbarthiadau Etholiadol, Mannau Pleidleisio a Gorsafoedd Pleidleisio
lle nad oes lleoliad amgen addas ar gael ar y pryd. |
|
Diwygiadau i Gyfansoddiad y Cyngor - Cylch Gorchwyl Gweithgor y Cyfansoddiad. PDF 306 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro a
Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar y cyd a oedd yn hysbysu'r cyngor
o ddiwygiadau er mwyn symleiddio, gwella a/neu ychwanegu at Gyfansoddiad y
Cyngor. Roedd y diwygiadau'n
ymwneud ag argymhelliad gan Weithgor y Cyfansoddiad i ddiwygio'i Gylch
Gorchwyl. Penderfynwyd: 1)
Diwygio Cylch Gorchwyl
Gweithgor y Cyfansoddiad i gynnwys: "e) I ystyried unrhyw fater sy'n gofyn am
drafodaeth ar draws y Grŵp Gwleidyddol". |
|
Mabwysiadu'r Polisi Enwi. PDF 234 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet
dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a oedd yn argymell
mabwysiadu Polisi Enwi. Penderfynwyd: 1)
Mabwysiadu'r Polisi Enwi. |
|
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 543 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er
Gwybodaeth Cofnodion: 1) ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A Cyflwynwyd wyth (8) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a
gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor. Dangosir y cwestiynau atodol hynny yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arnynt
isod. Cwestiwn 3 Dywedodd Arweinydd y Cyngor
fod yr wybodaeth hon wedi'i chyhoeddi'n flaenorol fel rhan o Ddinas-ranbarth
Bae Abertawe; fodd bynnag, byddai'n darparu ateb ysgrifenedig. Cwestiwn 8 Gofynnodd y Cynghorydd S Bennett, "Pa gamau sy'n cael eu cymryd i gael
gwared ar blastig o afon Tawe cyn i'r llanw uchel fynd ag ef i'r môr? Dywedodd Arweinydd y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig. 2) ‘Cwestiynau
nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B Cyflwynwyd deuddeg (12) ‘cwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol ar eu
cyfer’ Rhan B. |
|
Eitem Frys - Hysbysiad o Gynnig - Tata Steel Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Dywedodd yr Aelod Llywyddol, yn unol â pharagraff 100B
(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ei bod yn ystyried yr "Hysbysiad o
Gynnig gan y Cynghorwyr R C Stewart, D H Hopkins, A S Lewis, C Anderson, A
Anthony, R Francis-Davies, L S Gibbard, H J Gwilliam, E J King, R V Smith, A H
Stevens, C A Holley, W G Lewis, M B Lewis, L V Walton ac N L Matthews mewn
perthynas â Tata Steel fel mater o frys i’w drafod yn
y cyfarfod. Rheswm dros y Mater Brys: O ystyried bod Tata Steel wedi
cyhoeddi yn ddiweddar eu bwriad i gael gwared ar filoedd o swyddi eleni, a fydd
yn cael effaith enfawr yn lleol ac yn rhanbarthol, dyma'r unig gyfle i'r Cyngor
hwn ystyried a thrafod y cynnig hwn i roi pwysau ar Tata
Steel a'r Llywodraeth. |
|
Hysbysiad o Gynnig - Tata Steel Cofnodion: Fe'i cynigiwyd gan y Cynghorydd R C Stewart a'i eilio gan y Cynghorydd C A
Holley. "Mae'r Cyngor hwn yn bryderus iawn yn dilyn
cyhoeddiad Tata a Llywodraeth y DU i roi'r gorau i gynhyrchu dur crai ym Mhort
Talbot drwy gau'r ddwy ffwrnais chwyth a cholli tua 2,500 o swyddi. Bydd colli 2,500 o swyddi yn golygu colled
uniongyrchol flynyddol o dros £100m i'r economi leol a cholled o dros £300m bob
blwyddyn, pan fyddwn yn ystyried y swyddi cysylltiedig a'r effeithiau ar y
gadwyn gyflenwi. Mae arweinwyr ar draws Cymru eisoes wedi
mynegi eu dicter ynglŷn â'r cyhoeddiad hwn. Mae cynhyrchu dur yn y DU yn cael ei
ystyried yn ddiwydiant strategol ac yn rhan o allu cenedlaethol hanfodol y DU. Bydd cael gwared ar y gallu i greu dur crai
yn y DU yn y modd hwn, gyda bwlch o sawl blwyddyn ac ansicrwydd sylweddol o ran
buddsoddi mewn technoleg arc trydanol amgen, yn gwneud y DU yn gynyddol
ddibynnol ar ddur wedi'i fewnforio. Bydd hyn yn ailadrodd y camgymeriadau a
wnaed yn y farchnad ynni drwy wneud y DU yn destun grymoedd y farchnad fel ei
bod yn dibynnu ar bwerau tramor am ei chyflenwad dur. Er ein bod yn llwyr gefnogi'r angen i
ddatgarboneiddio'r economi a'r ffordd o gynhyrchu dur, rydym yn teimlo'n gryf
bod yn rhaid i ni gael trosglwyddiad wedi'i reoli tuag at fod yn garbon isel a
di-garbon. Bydd cynnig Tata yn arwain at golledion
swyddi uniongyrchol ar raddfa fawr a llawer mwy o golledion swyddi
anuniongyrchol mewn cwmnïau a gwasanaethau cyflenwi cysylltiedig. I'r cymunedau
dan sylw, bydd hyn yn drychinebus. Rydym wedi gweld effaith cau safleoedd
diwydiannol mawr yng Nghymru o'r blaen ac nid yw llawer o'n cymunedau erioed
wedi adfer yn llwyr o'r effaith y mae digwyddiadau o'r fath yn ei chael ar
fywydau pobl. Mae potensial enfawr ar gyfer diwydiant
gwyrdd newydd yng Nghymru, sy'n gysylltiedig yn benodol â datblygiadau yn y
diwydiant ynni adnewyddadwy a charbon isel, sy'n cael ei ariannu a'i gyflawni
ar hyn o bryd gan y Fargen Ddinesig, a all ein helpu i drawsnewid i ffyrdd mwy
cynaliadwy o fyw a gweithio. Byddai cadw un o'r ffwrneisi chwyth yn
osgoi sefyllfa nad oes modd adfer ohoni. Byddai'n cynnal mwy o
swyddi wrth ganiatáu mwy o amser ar gyfer addasiadau yn y farchnad lafur ac
archwilio technolegau eraill a all ein galluogi i barhau i gynhyrchu dur crai
yng Nghymru a'r DU. Mae'r Cyngor hwn yn gofyn i'r Arweinydd,
fel Cadeirydd y Dinas-ranbarth, i ysgrifennu at Lywodraeth y DU a Tata i fynnu
bod Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Tata, a'r Undebau i
archwilio pob cyfle i ddiogelu gallu'r DU i gynhyrchu dur a diogelu swyddi yn y
diwydiant dur. Gofynnwn i dasglu rhanbarthol cwbl
gynrychioliadol gael ei sefydlu i archwilio'r holl opsiynau i ddiogelu swyddi a
chyfleoedd gwneud dur." Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig a amlinellir uchod. |