Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor
ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib a all fod gan gynghorwyr
a/neu swyddogion ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau
personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w
ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan.
Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac
yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi
cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod cyffredin y
cyngor a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2023. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r
ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf
o'r cyngor. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: a)
Cydymdeimladau i)
Huw Mowbray - Rheolwr Strategol Datblygu ac
Adfywio Ffisegol Am flynyddoedd lawer,
helpodd Huw i lunio'r broses o adfywio Canol y Ddinas ac roedd yn cael ei
barchu'n fawr gan ein Partneriaid a'n Datblygwyr. Gellir gweld effaith Huw ar y
Ddinas heddiw yn y datblygiadau niferus sydd wedi helpu i drawsnewid Canol y Ddinas. Dywedodd fod meddyliau a chydymdeimlad y cyngor gyda theulu, ffrindiau a
chydweithwyr Huw. ii)
Patrick
Arran - Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar
Patrick Arran. Roedd Patrick yn gyn-bennaeth y gwasanaethau cyfreithiol. Dywedodd fod meddyliau a chydymdeimlad y cyngor gyda theulu, ffrindiau a
chydweithwyr Patrick. Safodd bawb fel arwydd
o gydymdeimlad a pharch. b)
Adolygiad Dosbarth Etholiadol
a Man Pleidleisio 2023 Dywedodd yr
Aelod Llywyddol fod y Swyddog Canlyniadau'n cynnal Adolygiad Dosbarth
Etholiadol a Man Pleidleisio 2023. Agorodd y Cyfnod Ymgynghori ar 8 Tachwedd
2023 ac mae'n cau ar 20 Rhagfyr 2023. Mae rhagor o wybodaeth am yr adolygiad ar
gael ar-lein yn https://swansea.gov.uk/article/25356/Review-of-Polling-Districts-and-Polling-PlacesStations-2023 Dylid anfon
ymatebion i'r ymgynghoriad at etholiadau@abertawe.gov.uk neu drwy
lenwi ffurflen ar-lein https://online1.snapsurveys.com/pollingdistrictreview c)
Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel
2023 Dywedodd yr
Aelod Llywyddol gynhaliwyd y Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel cyntaf yn ddiweddar
yng Ngwesty'r Village, Abertawe. Nod y gwobrau yw dathlu gwaith prosiectau,
partneriaethau a phobl sy'n mynd ati i wneud cymunedau'n fwy diogel ar draws
Cymru. Mae'r Gwobrau'n arddangos y gwaith gwych sy'n cael ei wneud ar draws
Cymru i atal a lleihau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trais yn erbyn Menywod a
Merched, a Chamfanteisio ac i wneud cymunedau'n fwy diogel o ran y meysydd
hynny. Dywedodd ei
bod yn hapus iawn i gyhoeddi bod pedwar prosiect Cyngor Abertawe yn cael eu hanrhydeddu yn
ystod y gwobrau: ·
Cafodd brosiect Flip
the Streets y Tîm Integreiddio Cymunedol gymeradwyaeth uchel yn y categori
Cydraddoldeb, Cynhwysiant a Chydlyniant. ·
Cafodd brosiect
Caban y Nadolig Abertawe Mwy Diogel y Tîm Integreiddio Cymunedol ei ganmol yn
fawr yn y categori Partneriaethau. ·
Cafodd panel CMET
(Coll, Camfanteisio a Masnachu Cyd-destunol) mewn Gwasanaethau Plant a
Theuluoedd gymeradwyaeth uchel yn y categori Diogelu. ·
Y Tîm Cydlynu
Ardaloedd Lleol mewn Gwasanaethau i Oedolion, y Gwasanaeth Atal a Threchu Tlodi
oedd yr enillwyr cyffredinol yn y categori Cydraddoldeb, Cynhwysiant a
Chydlyniant. Rhoddodd
longyfarchiadau i'r Tîm Cydlynu Ardaloedd Lleol ar ennill y wobr hon a
diolchodd iddynt am eu gwaith yn ein cymunedau. Dylent fod yn falch o'r effaith
y maent yn ei chael ar wella bywydau unigolion a chysylltu ein cymunedau ar
draws y ddinas. d)
Gyda'n gilydd dros y Nadolig Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Cyngor Abertawe, mewn partneriaeth â JR
Events & Catering, wedi cynnal menter Gyda'n gilydd dros y Nadolig ar 5
Rhagfyr 2023. Roedd y digwyddiad yn darparu cinio Nadolig am ddim i'r rheini
sy'n ddigartref, yn unig neu mewn angen. Diolchodd i bawb a wnaeth helpu. Dywedodd
fod llawer o Gynghorwyr a Swyddogion yn gwisgo dillad Nadolig i gyfarfod y
cyngor heno. Bydd yr arian a godir yn cael ei roi i gefnogi elusennau yn
Abertawe. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: a)
Fforwm
Cynghori'r Gweinidog ar gyfer Heneiddio gyda Llywodraeth Cymru Dywedodd
Arweinydd y Cyngor fod y Cynghorydd Hayley Gwilliam, Aelod y Cabinet dros y
Gymuned wedi cael ei dewis i gymryd rhan yn Fforwm Cynghori'r Gweinidog ar
gyfer Heneiddio gyda Llywodraeth Cymru. Bydd hi'n cymryd rhan fel Arweinydd
Heneiddio'n Dda. Bydd y rhestr o Gyrff Allanol yn cael ei newid yn unol â
hynny. b)
Cartrefi i Wcráin Dywedodd
Arweinydd y Cyngor fod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt wedi
ysgrifennu ato yn diolch i Swyddogion y Cyngor am eu cefnogaeth a'u gwaith
caled gyda'r rhaglen Cartrefi i Wcráin. Dywedodd y Gweinidog fod y cyngor yn
chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau y gallai Cymru gyflawni ei huchelgais o fod
yn Genedl Noddfa. Roedd gwesteion o Wcráin a noddwyd gan Lywodraeth Cymru yn
cael eu lletya mewn tri lleoliad llety cychwynnol ar draws Abertawe, sef y Mercure, Gwesty'r Village a
Gwesty'r Grand. Roedd y lleoliadau hyn yn darparu llety mawr ei angen i
deuluoedd y mae angen amgylchedd diogel a gofalgar arnynt yn ystod cyfnod o
ansicrwydd sylweddol yn dilyn dechrau'r rhyfel yn Wcráin. c)
Gorymdaith y
Nadolig Diolchodd
Arweinydd y Cyngor i Dîm Digwyddiadau Arbennig y Cyngor am gynnal Gorymdaith
Nadolig ardderchog. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r
Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk
hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn
cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n
uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod
yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn
cyfnod o 10 munud. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
gwestiynau gan y cyhoedd. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad Cyllideb Canol Blwyddyn 2023/24. Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Rhoddodd y
Swyddog Adran 151 ddiweddariad llafar ar Ddatganiad Cyllideb Canol Tymor
2023-2024. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adolygu'r refeniw wrth gefn. PDF 469 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd: 1)
Nodi
bod Cronfa wrth gefn Cyfartalu Cyfalaf wedi cael ei chreu o'r tanwariant ar
daliadau dyled a'r adolygiad sylfaenol gan y cyngor o'r cyfrifiad o'r
Ddarpariaeth Isafswm Refeniw. Dylid ychwanegu at y gronfa wrth gefn hon lle
bynnag y bo modd, trwy danwariant ariannu cyfalaf mewn blwyddyn, i helpu gydag
unrhyw faterion amseru sy'n ymwneud â'r angen i ariannu unrhyw brosiectau'r
Fargen Ddinesig cyn derbyn cyllid gan gyrff eraill. 2)
I'r
graddau hyn, ac yn dilyn adolygiad o'r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd ar hyn
o bryd, cymeradwyo ailddosbarthu cronfeydd wrth gefn sydd wedi'u clustnodi fel
y manylir isod ar yr adeg hon:
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor - 2024/2025. PDF 296 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn manylu ar gyfrifo
sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer Dinas a Sir Abertawe, ei Gynghorau Cymuned/Tref
ac Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe ar gyfer 2024/2025. Mae'n ofynnol i'r
cyngor bennu Sylfeini Treth y Cyngor erbyn 31 Rhagfyr. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r Sylfeini
Treth y Cyngor ar gyfer 2024/2025. 2)
Yn unol â Rheoliadau
Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor) (Cymru) 1995, fel y'u
diwygiwyd, dyma fydd cyfrifiad Dinas a Sir Abertawe ar gyfer y flwyddyn
2024/2025:
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adolygiad o Lawlyfr y Cynghorwyr PDF 387 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn
amlinellu adolygiad o Lawlyfr y Cynghorwyr a cheisiodd gymeradwyaeth i gynnwys
arweiniad ar Ddefnydd o Logo'r Cyngor yn Adran C, "Protocolau". Trafododd Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad yn ystod ei
gyfarfod ar 6 Tachwedd 2023 ac argymhellodd Llawlyfr y Cynghorwyr diwygiedig a
fyddai'n cynnwys Arweiniad ar Ddefnydd o Logo'r Cyngor i'r cyngor i'w
fabwysiadu. Penderfynwyd mabwysiadu Llawlyfr y Cynghorwyr diwygiedig a
fyddai'n cynnwys yr Arweiniad ar Ddefnydd o Logo'r Cyngor. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 354 KB Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: 1) ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A’ Cyflwynwyd deg (10) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a
gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor. Dangosir y cwestiynau atodol hynny yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arnynt
isod. Cwestiwn 2 Gofynnodd y Cynghorydd E W Fitzgerald: i)
Oes modd i mi gael ateb 'ie'
neu 'na' i'm cwestiwn ysgrifenedig? ii)
Ble mae'r lleoliadau a nodwyd
ar gyfer plannu coed yn dilyn yr Arolwg Canopi Coed? Dywedodd Aelod y Cabinet dros y Gymuned y byddai ymateb ysgrifenedig yn
cael ei ddarparu. 2) Rhan B
‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Cyflwynwyd chwe (6) 'chwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol' ar eu
cyfer Rhan B. |