Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: 1) Y
Cynghoryddwyr C Anderson, M Bailey, P N Bentu, P M
Black, J P Curtice, A Davies, A M Day, P Downing, C R Doyle, M Durke, C R
Evans, V M Evans, E W Fitzgerald, R A Fogarty, R Francis-Davies, N Furlong, L S
Gibbard, F M Gordon, K M Griffiths, H J Gwilliam, T J Hennegan, V A Holland, C
A Holley, P R Hood-Williams, B Hopkins, D H Hopkins, L James, O G James, Y V
Jardine, A J Jeffrey, D H Jenkins, J W Jones, L R Jones, M H Jones, M Jones, S
M Jones, S A Joy, S E Keeton, E J King, E T Kirchner, A S Lewis, M B Lewis, W G
Lewis, P Lloyd, M W Locke, N L Mathews, P M Matthews, P N May, J D McGettrick,
F O’Brien, A O’Connor, D Phillips, C L Philpott, J E Pritchard, S Pritchard, S
J Rice, B J Rowlands, R V Smith, A H Stevens, R C Stewart, W G Thomas, M S
Tribe, G D Walker, L V Walton, T M White & R A Williams - Polisi Lwfansau TGCh Cynghorwyr - Mai
2022 a thu hwnt - Personol 2) Y Cynghoryddwyr V M Evans & P
Lloyd - Hysbysiad
o Gynnig - Toriadau i Wasanaethau Bws
- Personol Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a
rhagfarnol posib a all fod gan gynghorwyr a/neu
swyddogion ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y
dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog
fudd i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w
ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar
lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorwyr C
Anderson, M Bailey, P N Bentu, P M Black, J P Curtice, A Davis, A M Day, P
Downing, C R Doyle, M Durke, C R Evans, V M Evans, E W Fitzgerald, R A Fogarty,
R Francis-Davies, N Furlong, L S Gibbard, F M Gordon, K M Griffiths, H J Gwilliam,
, T J Hennegan, V A Holland, C A Holley, P R Hood-Williams, B Hopkins, D H
Hopkins, L James, O G James, Y V Jardine, A J Jeffrey, D H Jenkins, J W Jones,
L R Jones, M H Jones, M Jones, S M Jones, S A Joy, S E Keeton, E J King, E T
Kirchner, A S Lewis, M B Lewis, W G
Lewis, P Lloyd, M W Locke, N L Matthews, P M Matthews, P N May, J D McGettrick,
F D O'Brien, A O'Connor, D Phillips, C L Philpott, J E Pritchard, S Pritchard,
S J Rice, B J Rowlands, R V Smith, A H Stevens, R C Stewart, W G Thomas, M S
Tribe, G D Walker, L V Walton, T M White ac R A Williams gysylltiad personol â
Chofnod 36, "Polisi Lwfansau TGCh y Cynghorwyr - Mai 2022 a thu hwnt”. |
|
Cymeradwyo a llofnodi
cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod cyffredin y cyngor a
gynhaliwyd ar 5 Hydref 2023. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r
ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf
o'r cyngor. |
|
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: a)
Cydymdeimladau i)
Margaret Smith -
Cyn-gynghorydd, Cyn-Arglwydd Faer a Henadur Anrhydeddus Cyfeiriodd yr Aelod
Llywyddol gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar Margaret Smith. Roedd Margaret
Smith yn Gyn-gynghorydd, cyn Arglwydd Faer 2004-2005, ac yn Henadur
Anrhydeddus. Cynrychiolodd Margaret
Smith Ward Pennard am tua 30 o flynyddoedd ar: Ø
Gyngor Dinas Abertawe 1976
- 1996. Ø
Dinas a Sir Abertawe 1995
- 2012. ii)
Adeline Evans, Mam y Cynghorydd Chris Evans Mynegodd yr Aelod
Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar Adeline
Evans, mam y Cynghorydd Chris Evans. Safodd pawb a oedd yn
bresennol mewn distawrwydd fel arwydd o gydymdeimlad a pharch. b)
Adolygiad Cymunedol
Abertawe Dywedodd yr Aelod
Llywyddol fod Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn cynnal adolygiad o
ffiniau cymunedau Abertawe. Agorodd y Cyfnod Ymgynghori Cychwynnol ar 25 Medi
2023 ac mae'n cau ar 19 Tachwedd 2023. Mae rhagor o wybodaeth am yr adolygiad ar
gael ar-lein yn www.cffdl.llyw.cymru/arolygon/09-23/swansea-community-review Dylid anfon ymatebion
i'r ymgynghoriad i consultations@boundaries.cymru neu Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, Hastings
House, Fitzalan Place, Caerdydd CF24 0BL. c)
Adolygiad Dosbarth
Etholiadol a Man Pleidleisio 2023 Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod y Swyddog Canlyniadau'n
cynnal Adolygiad Dosbarth Etholiadol a Man Pleidleisio 2023. Agorodd y Cyfnod
Ymgynghori ar 8 Tachwedd 2023 ac mae'n cau ar 20 Rhagfyr 2023. Mae rhagor o
wybodaeth am yr adolygiad ar gael ar-lein yn https://swansea.gov.uk/article/25356/Review-of-Polling-Districts-and-Polling-PlacesStations-2023 Dylid anfon ymatebion i'r ymgynghoriad at etholiadau@abertawe.gov.uk neu drwy lenwi
ffurflen ar-lein https://online1.snapsurveys.com/pollingdistrictreview |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: a)
Cronfa Bwyd y Gwyliau Dywedodd Arweinydd y Cyngor, tua diwedd tymor yr haf, fod Llywodraeth
Cymru wedi cadarnhau na fyddant yn parhau â'r ymrwymiad dros dro i brydau ysgol
am ddim yn ystod gwyliau'r haf. Ymatebodd y cyngor yn gyflym i'r her drwy
sefydlu Cronfa Bwyd y Gwyliau i helpu teuluoedd sy'n cael trafferth gyda
chaledi a'r argyfwng Costau Byw i ddarparu bwyd i blant oed ysgol yn ystod
gwyliau'r haf. Dyrannodd y cyngor gyllid a Swyddogion o'r Tîm Trechu Tlodi a'r Tîm
Partneriaethau a Chomisiynu a ddaeth at ei gilydd yn gyflym i ddatblygu cronfa
newydd, a lansiwyd ar 1 Awst 2023, a thargedwyd dros 130 o wasanaethau mewnol,
partneriaid a sefydliadau cymunedol presennol sydd wedi gweithio gyda
theuluoedd a phlant oed ysgol i helpu i liniaru tlodi bwyd plant ac ansicrwydd
bwyd yn ystod gwyliau haf yr ysgol eleni. Cefnogwyd y Tîm gan gydweithwyr yn y
Tîm Gwe a Chyfathrebu i gefnogi'r mynediad digidol at y gronfa. Roedd y canlyniadau mewn cyfnod mor fyr yn anhygoel. Trwy broses asesu a
chymeradwyo dreigl, llwyddodd 43 o geisiadau yn ystod mis Awst, gan arwain at
ddyrannu £140,080.27 ar gyfer sefydliadau ar draws cymunedau Abertawe, gan
gynnwys defnyddio parseli bwyd, bwyd ar gyfer digwyddiadau lleol, gweithdai
coginio a thalebau bwyd. Roedd hyn yn cyfateb i dros 65,000 o brydau bwyd i
blant oed ysgol yn ystod gwyliau'r haf. Arddangosodd hyn bartneriaethau cydweithredol rhagorol ein timau gyda
sefydliadau cymunedol ac mae'n tynnu sylw at y ffaith bod nifer o adrannau wedi
cydweithio'n gyflym i sicrhau bod y gefnogaeth fawr ei hangen yn cyrraedd
miloedd o deuluoedd a phobl ifanc. Gan adeiladu ar lwyddiant yr ymagwedd hon yn yr haf, mae'r un
cydweithwyr wedi lansio 'Cronfa Galluogi Cymunedau 2023/24' yn ddiweddar i
ddarparu gweithgareddau, bwyd gwyliau ysgol a mannau croesawgar cynnes yn
Abertawe'r gaeaf hwn. Roedd nifer o swyddogion o'r tîm yn bresennol:
Anthony Richards, Yvonne Bennett, a Sian Denty (Tîm Trechu Tlodi) a Mark
Gosney, Stephen Cable, Spencer Martin a Lisa Evans (Tîm Comisiynu a
Phartneriaethau). Diolchodd i'r rhai a oedd ynghlwm â Chronfa Bwyd y Gwyliau. b)
Dydd y Cofio a Gwrthdaro
Presennol Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod Abertawe'n falch
o'i statws fel Dinas Noddfa ac i fod yn Ddinas Hawliau Dynol gyntaf Cymru.
Dywedodd, wrth i ni baratoi i nodi penwythnos y Cofio, ei fod yn gyfle amserol
i droi ein meddyliau at y rhai sy'n cael eu dal mewn gwrthdaro ar draws y byd. Rydym i gyd yn drist iawn i glywed am
ddigwyddiadau yn Israel a Gaza. Mae Israeliaid a Phalestiniaid yn dioddef yn
ofnadwy, ac mae ein meddyliau gyda phawb sydd wedi'u heffeithio gan y gwrthdaro
hwn. Yn yr Wcráin, mae cymaint o fywydau'n parhau i gael eu colli ac mae nifer
o drefi, dinasoedd a chymunedau'n cael eu chwalu. Fel cynrychiolwyr pobl Abertawe, rydym i gyd yn
meddwl am y rhai yr effeithir arnynt gan y gwrthdaro hyn a'r nifer o achosion
eraill o wrthdaro sy'n digwydd ar draws y byd. Heno, caiff Neuadd y Ddinas heno
ei goleuo yn lliwiau Baner Heddwch y Byd. Byddwn yn parhau i gydweithio â'n holl gymunedau a
grwpiau ffydd i gefnogi pawb yr effeithir arnynt, a'r rhai yn ein dinas sy'n
poeni am eu teulu a'u ffrindiau. Safodd pawb am funud o dawelwch dros ddioddefwyr
gwrthdaro yn y gorffennol a'r presennol. c)
Gyda'n gilydd dros y Nadolig Dywedodd Arweinydd y Cyngor y bydd y digwyddiad
Gyda'n Gilydd dros y Nadolig yn dychwelyd i Neuadd Brangwyn ddydd Mawrth, 5
Rhagfyr 2023. Anogodd aelodau i'w gefnogi ac i helpu. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r
Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk
hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn
cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n
uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod
yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn
cyfnod o 10 munud. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2022/23. PDF 255 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a oedd yn
amlinellu drafft o Adolygiad Perfformiad Blynyddol y Cyngor ar gyfer 2022-2023.
Mae'r adroddiad yn bodloni'r gofyniad statudol i gyhoeddi hunan-asesiad
blynyddol ac adroddiad lles blynyddol o dan Ran 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac
Etholiadau (Cymru) 2021 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn
eu trefn. Penderfynwyd cymeradwyo cyhoeddi'r Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2022-2023. |
|
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros
Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio ystyried
canlyniad yr ymgynghoriad mewn perthynas â chynnig i gymeradwyo penderfyniad
newydd i beidio â rhoi trwyddedau mangre casino; a diwygiadau arfaethedig i
Ddatganiad o Egwyddorion (Polisi Gamblo) Dinas a Sir Abertawe. Roedd yr adroddiad
hefyd yn ceisio penderfyniad ynghylch cymeradwyo penderfyniad newydd i beidio â
rhoi trwyddedau mangre casino. Penderfynwyd: 1)
Ystyried canlyniad yr ymgynghoriad mewn perthynas â
chynnig i gymeradwyo penderfyniad newydd i beidio â rhoi trwyddedau mangre
casino a diwygiadau arfaethedig i Ddatganiad Egwyddorion Dinas a Sir Abertawe
(Polisi Gamblo). 2)
Ystyried y materion a nodir ym Mharagraff 4 yr adroddiad
a chytuno ar benderfyniad newydd i beidio â rhoi trwyddedau mangre casino. 3)
Cymeradwyo'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Gamblo i'w
gyhoeddi a nodi 7 Rhagfyr 2023 fel y dyddiad y daw'r penderfyniad i rym. Sylwer: Dywedodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau
Corfforaethol a Pherfformiad y byddai'n trefnu Seminar ar gyfer Cynghorwyr i
amlinellu gwaith yr Adran Drwyddedu a'r Pwyllgor Trwyddedu. |
|
Polisi Lwfansau TGCh Cynghorwyr - Mai 2022 a thu hwnt. PDF 479 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro a Phennaeth Gwasanaethau
Democrataidd adroddiad ar y cyd a oedd yn ceisio diwygio Polisi Lwfansau TGCh y
Cynghorwyr - Mai 2022 a thu Hwnt. Y cynnig yw caniatáu i Gynghorwyr ac Aelodau
Cyfetholedig Statudol hawlio eu Lwfans TGCh yn uniongyrchol gan y cyngor cyn
i'r eitem(au) gael eu prynu. Nod y cynnig hwn yw atal caledi ariannol gan roi
cydraddoldeb i bawb. Cynigiodd yr adroddiad hefyd ychwanegu adran, gan
awgrymu bod Cynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig Statudol yn yswirio eu hoffer
TGCh rhag difrod. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyir y diwygiadau i
Baragraffau 6.2, 6.6, 9.3 ac Atodiad 1 i Bolisi Lwfansau TGCh y Cynghorwyr -
Mai 2022 a thu hwnt fel yr amlinellir yn yr adroddiad ynghyd ag unrhyw
newidiadau canlyniadol eraill. 2)
Cyhoeddi'r fersiwn ddiwygiedig
ar wefan y cyngor a'i rhannu â'r holl Gynghorwyr a'r Aelodau Cyfetholedig
Statudol. |
|
Newidiadau i'r Cyfansoddiad. PDF 316 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro a Phennaeth
y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar y cyd a oedd yn hysbysu'r cyngor o
ddiwygiadau er mwyn symleiddio, gwella a/neu ychwanegu at Gyfansoddiad y
Cyngor. Roedd y diwygiadau'n
ymwneud â phenderfyniad gan y cyngor ar 7 Medi 2023 i ddiwygio'r Cynllun
Deisebau, a chreu Pwyllgor Deisebau. Roedd yr adroddiad yn ceisio sefydlu'r
Pwyllgor Deisebau, gan nodi ei faint, ei aelodaeth, a'i gylch gorchwyl. Mae
hefyd yn diwygio'r Cynllun Deisebau. Penderfynwyd: 1)
Creu Pwyllgor Deisebau sy'n
cynnwys 9 Cynghorydd yn unol â chymesuredd y Pwyllgor. 2)
Caiff Cynghorwyr eu neilltuo i wasanaethu ar Gyrff y Cyngor yn unol â'r
enwebiadau a dderbyniwyd gan Grwpiau Gwleidyddol. Y Cynghorwyr yw P M Black, O
G James, D H Jenkins, S E Keeton, A J O’Connor, S Pritchard, S J Rice, M S Tribe & T M
White. 3)
Cymeradwyo Cylch Gorchwyl y
Pwyllgor Deisebau fel a amlinellwyd: "Y Pwyllgor Deisebau 1.
Derbyn ac ystyried
Deisebau sy'n bodloni'r meini prawf yng Nghynllun Deisebau'r Cyngor (ac eithrio
Deisebau y mae'n rhaid eu cyfeirio'n uniongyrchol at gorff arall o dan y
cynllun). 2.
Gwneud adroddiad sy'n
amlinellu casgliadau, sylwadau, argymhellion etc mewn perthynas â'r Ddeiseb i
Aelod y Cabinet, y Cabinet neu'r Swyddog perthnasol. 3.
Nodi a gwahodd
cynrychiolydd/cynrychiolwyr o sefydliadau eraill i ddod i gyfarfod y Pwyllgor
Deisebau yn ôl yr angen i gynnig gwybodaeth neu i gynghori/annerch y Pwyllgor
ar faterion sy'n peri pryder. 4.
Mae amlder y cyfarfodydd
yn fater i Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau gan ddibynnu ar lwyth gwaith; Fodd
bynnag, rhagwelir y bydd cyfarfodydd y Pwyllgor yn cael ei gynnal yn ôl y gofyn
i ystyried Deisebau." 4)
Dileu Adran 10 y Cynllun
Deisebau yn ei gyfanrwydd a rhoi'r canlynol ar waith yn ei lle: “10. Beth sy'n digwydd yn y Pwyllgor Deisebau? 10.1 Unwaith y bydd eich deiseb
wedi'i chymeradwyo, bydd dyddiad cyfarfod y Pwyllgor yn cael ei nodi. Bydd hyn
yn dibynnu ar lwyth gwaith y Pwyllgor a'r amser a gymerir i gwblhau'r broses
ddilysu. 10.2 Gellir
gwahodd y canlynol i'r Pwyllgor Deisebau: i)
Y Prif Ddeisebydd a tua dau gefnogwr. ii)
Cynghorydd(wyr) Ward Lleol. iii)
Y Deiliad Portffolio'r Cabinet perthnasol, iv)
Y swyddogion perthnasol. Sylwer: Mae
Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau'n cadw'r hawl i ddiwygio'r rheini a wahoddir fel
bo'n briodol iddo. 10.3 Pwy all siarad yn y Pwyllgor
Deisebau: i)
Gall y Prif
Ddeisebydd neu un o Gefnogwyr y Ddeiseb siarad mewn perthynas â'r Ddeiseb. ii)
Y Cynghorydd(wyr) Ward Lleol iii)
Y Deiliad Portffolio'r Cabinet
perthnasol. iv)
Mae gan y Prif Ddeisebydd neu
un o gefnogwyr y ddeiseb, y Swyddog perthnasol a'r Deiliad Portffolio'r Cabinet
perthnasol hawl terfynol i roi crynodeb ar ddiwedd y ddadl ar y mater. Byddai
ganddynt hyd at 2 funud yr un fel arfer. Sylwer: Mae
gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ddisgresiwn absoliwt mewn perthynas â hyd
areithiau. 10.4 Gall Cynghorwyr ar y Pwyllgor
Deisebau ofyn cwestiynau mewn perthynas â'r mater(ion) a godwyd yn y Ddeiseb. 10.5 Ar ôl ystyried y ddeiseb, bydd
y Pwyllgor Deisebau yn gwneud penderfyniad ynghylch y camau gweithredu i'w
cymryd fel a ganlyn: i)
Cytuno bod angen camau gweithredu pellach ar
gyfer y mater(ion) a godwyd a chytuno i gyfeirio'r ddeiseb i Aelod y Cabinet, y
Cabinet, Corff y Cyngor neu'r Swyddog perthnasol. ii)
Cytuno nad oes angen camau gweithredu pellach
ar y mater(ion) a godwyd. 10.6 Fe'ch cynghorir ynghylch
penderfyniad y pwyllgor yn ysgrifenedig o fewn 10 niwrnod gwaith clir o
gyfarfod y Pwyllgor Deisebau.” |
|
Diwygiadau i Gyfansoddiad y Cyngor - Materion Cynllunio. PDF 143 KB Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
adroddiad ar y cyd a oedd yn hysbysu'r cyngor o ddiwygiadau er mwyn symleiddio,
gwella a/neu ychwanegu at Gyfansoddiad y Cyngor. Nododd yr adroddiad yr wybodaeth ddiweddaraf yng Nghyfansoddiad y Cyngor mewn perthynas â newidiadau i ddeddfwriaeth. |
|
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 366 KB Penderfyniad: Er
Gwybodaeth Cofnodion: 1) ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A’ Cyflwynwyd pymtheg (15) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au)
perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs
y Cyngor. Dangosir y cwestiynau atodol hynny yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arnynt
isod. Cwestiwn 1 Gofynnodd y Cynghorydd W G Thomas, "Beth oedd y gost i'r cyngor ar
gyfer y cynllun peilot i ddefnyddio Cerbydau Casglu Sbwriel Trydan?" Dywedodd Arweinydd y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig. Cwestiwn 4 Gofynnodd y Cynghorydd E W Fitzgerald, "Pam nad yw'r cyngor yn gofyn i
Lywodraeth Cymru fynd i'r afael ag anghysondebau rhwng ei deddfwriaeth a'i
Pholisïau a'i Arweiniad Cynllunio? Mae angen mynd i'r afael â'r
gwrthddywediadau hyn." Dywedodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad y
byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu. 2) Rhan B
‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Cyflwynwyd naw (9)
cwestiwn Rhan B 'Cwestiynau nad oedd angen cwestiynau atodol ar eu cyfer’. |
|
Hysbysiad o Gynnig - Toriadau i Wasanaethau Bws. PDF 190 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Mae'r Hysbysiad o Gynnig gwreiddiol wedi'i amlinellu isod. “Gofynnwn i
Lywodraeth Cymru weithio'n agos gyda chynghorau lleol yng Nghymru i sefydlu ein
cwmnïau bysiau ein hunain. Mae angen i ni ddeall bod toriadau i wasanaethau'n cael
effaith ar y gwasanaethau hanfodol i bawb ar draws Cymru, i bobl sy'n ceisio
cyrraedd y gwaith, a gofal iechyd y mae'r gwasanaethau'n ei gefnogi. Mae'n ddrwg gennym am y rownd bresennol o doriadau a
roddir ar waith gan weithredwyr bysus preifat a fydd yn effeithio ar y rhai
mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas. Gofynnwn i Arweinydd y Cyngor ysgrifennu i gefnogi'r Prif
Weinidog." Cyn y cyfarfod,
cyflwynodd y Grŵp Llafur Gynnig diwygiedig, a dderbyniwyd gan y cynigwyr
gwreiddiol. Y cynnig isod oedd y cynnig gwreiddiol. Cynigiwyd gan y
Cynghorydd C A Holley a'i eilio gan y Cynghorydd R C Stewart. "Rydym
yn nodi Bil Bysus Llywodraeth Cymru sydd ar ddod. Gofynnwn i Lywodraeth
Cymru weithio'n agos gyda chynghorau lleol yng Nghymru i sefydlu ein cwmnïau
bysiau ein hunain. Mae angen i ni ddeall bod toriadau i wasanaethau'n cael
effaith ar y gwasanaethau hanfodol i bawb ar draws Cymru, i bobl gyrraedd y
gwaith, a gofal iechyd y mae'r gwasanaethau'n eu cefnogi. Mae'n ddrwg gennym am y rownd bresennol o doriadau a
roddir ar waith gan weithredwyr bysus preifat a fydd yn effeithio ar y rhai
mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas. Rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i ddarparu cyllid
canlyniadol i Gymru, fel y gwnaed i'r Alban a Gogledd Iwerddon, o brosiect HS2.
Bydd hyn yn caniatáu i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mewn isadeiledd a
gwasanaethau trafnidiaeth yng Nghymru a gweithio gydag awdurdodau lleol i
ddarparu gwasanaethau trafnidiaeth gwell." Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig diwygiedig a
amlinellir uchod. |