Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Y Cynghorydd M Durke Eitem 8 Adroddiad
Blynyddol 2022/23 - Prif Swyddog Y
Gwasanaethau Cymdeithasol. – personol. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a
rhagfarnol posib a all fod gan gynghorwyr a/neu swyddogion ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y
dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a
rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan. Nid
oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd
cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn
ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir
Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol: 1) Datganodd y
Cynghorydd M Durke gysylltiad personol â Chofnod 50 “Adroddiad Blynyddol
50/2022 - Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol”. |
|
Cymeradwyo a llofnodi
cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir yn amodol ar
ychwanegu enw'r Cynghorydd B Hopkins at y rhestr o'r rheini a oedd yn
bresennol: 1)
Cyfarfod cyffredin y cyngor a gynhaliwyd
ar 7 Medi 2023. |
|
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r
ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf
o'r cyngor. |
|
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: a)
Gwasanaethau Adeiladu a
Thimau Tai - Enillwyr Gwobr APSE (Cymdeithas Rhagoriaeth Gwasanaethau
Cyhoeddus) Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Gwasanaethau
Adeiladu a Gwasanaeth Timau Tai'r cyngor
wedi ennill Gwobr APSE ar y cyd ar gyfer y Tîm Gwasanaethau Gorau yn y categori
Gwasanaethau Tai, Adeiladu ac Adeiladau. Llongyfarchodd bawb a fu'n rhan o hyn. b)
Tîm Heneiddio'n Dda - ar
restr fer Gwobr APSE (Cymdeithas Rhagoriaeth Gwasanaethau Cyhoeddus) Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Tîm Heneiddio'n Dda
y Cyngor ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr APSE yn y categori menter Iechyd a Lles
orau. Mae hyn ar gyfer eu tro wythnosol er lles, mewn partneriaeth ag Action
for Elders, a gychwynnwyd yn dilyn cyfnod clo COVID. Er nad oedd wedi ennill y
wobr, roedd cyrraedd y rhestr fer o dros 300 o gyflwyniadau yn gyflawniad
eithriadol. Llongyfarchodd y tîm a diolchodd iddynt am eu hymroddiad a'u
hymrwymiad tuag at gefnogi ein poblogaeth hŷn. Maent yn cael effaith sylweddol
ar fywydau llawer o'n preswylwyr o bob rhan o'r ddinas ac yn eu cefnogi i fyw'n
dda a heneiddio'n dda. c)
Gwasanaeth Ieuenctid
Evolve - ar restr fer ar gyfer Gwobr Diogelwch Cymunedol Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Gwasanaeth Ieuenctid
Evolve y cyngor wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Diogelwch Cymunedol
am waith rhagorol. Mae'n gyflawniad gwych i fod ar y rhestr fer ac i gydnabod
yr effaith y mae Gweithwyr Allgymorth Ieuenctid yn ei chael gyda'n pobl ifanc
yn ein cymunedau ar draws y ddinas. Cynhelir y seremoni wobrwyo ar 17 Hydref
2023, ac ar ran y cyngor, dymunodd bob lwc iddynt. d)
Pont Bae Copr – Gwobrau
Dylunio Dur Adeiladu 2023 2023 Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol yr holl staff a
oedd yn gysylltiedig â phont eiconig Bae Copr sydd bellach yn croesi
Oystermouth Road, gan gysylltu canol y ddinas â'r arena a'r parc arfordirol.
Yng Ngwobrau Dylunio Dur Adeiladu 2023 yn ddiweddar, enillodd penseiri'r
cyngor, ACME, wobr am eu safon ddylunio ragorol y bont. e)
Arolwg i Breswylwyr Dywedodd yr Aelod Llywydd fod y cyngor wedi lansio Arolwg
i Breswylwyr yn ddiweddar yn gofyn beth yw eu barn am wasanaethau a staff y
cyngor. Gobeithir y bydd yr adborth yn helpu i wella eto yr hyn y mae'r cyngor
yn ei wneud drwy ymateb i farn preswylwyr. Mae hefyd yn gyfle iddynt ddweud pa
wasanaethau y byddent yn eu blaenoriaethu a'u rhoi mewn trefn blaenoriaeth, a
bydd hyn yn bwydo i mewn i'n trafodaethau cyllidebol yn ystod y misoedd nesaf.
Mae'r arolwg i'w gael yn www.abertawe.gov.uk/arolwgpreswylwyr f)
Adolygiad Cymunedol
Abertawe Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Comisiwn Ffiniau a
Democratiaeth Leol Cymru yn cynnal adolygiad o ffiniau cymunedau Abertawe.
Agorodd y Cyfnod Ymgynghori Cychwynnol ar 25 Medi 2023 ac mae'n cau ar 19
Tachwedd 2023. Mae rhagor o wybodaeth am yr adolygiad ar gael yn www.cffdl.llyw.cymru/arolygon/09-23/swansea-community-review Dylid anfon ymatebion i'r ymgynghoriad i consultations@boundaries.cymru neu Gomisiwn Ffiniau a
Democratiaeth Leol Cymru, Hastings House, Fitzalan Place, Caerdydd CF24 0BL. |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Ni wnaeth
Arweinydd y Cyngor unrhyw gyhoeddiadau. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r
Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk
hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn
cael eu blaenoriaethu.Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os
bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr
agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Gofynnodd David Davies gwestiwn mewn perthynas â Chofnod 52 "Cynnydd
Ymrwymiadau Polisi". i)
"A
fyddai cystadleuaeth ledled Abertawe yn briodol lle gallai pob ysgol enwebu ei
Darllenydd y Flwyddyn, bachgen a merch; byddent yn ymddangos gerbron Panel a
drefnwyd gan y cyngor a fyddai'n beirniadu'r enillwyr ac yn cyflwyno Cwpan
iddynt hwy a'r ysgol. Efallai y gallai ein Gweinidog Addysg ddewis llyfr
penodol ar gyfer y cystadleuwyr ac yna asesu eu gwerthusiad beirniadol ohono
a'u dychymyg. Cymru yw gwlad y beirdd a gallai'r gystadleuaeth
hon ysbrydoli darpar awduron y dyfodol. Mae gan Gaerdydd ei Chanwr y Byd, gadewch
i Abertawe gael ei Darllenwyr y Flwyddyn." Croesawodd Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu yr
awgrym a dywedodd y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu. |
|
Adroddiad Blynyddol 2022/23 - Prif Swyddog Y Gwasanaethau Cymdeithasol. PDF 275 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol adroddiad a oedd yn darparu ei gyfrif ef
o daith wella'r cyngor i 2022-2023, a pha mor dda y mae'r cyngor yn bodloni ei
ofynion statudol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
2014. Roedd yr adroddiad yn adolygu meysydd ar gyfer gwella’r llynedd a'r
heriau a wynebwyd ac roedd yn gosod blaenoriaethau newydd. Roedd yr adroddiad
yn nodi'r newidiadau sydd wedi digwydd o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol i
gyflawni cynnydd tuag at ganlyniadau lles cenedlaethol. Penderfynwyd: 1)
Derbyn Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y
Gwasanaethau Cymdeithasol 2022/2023. Sylwer: Gofynnodd
y Cynghorydd C A Holley gwestiwn yn ymwneud â'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl
Plant a Phobl Ifanc (CAHMS). Gofynnodd "Beth yw'r amserlen ar gyfer
ymweliad ar ôl atgyfeirio?" Nododd
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol y darperir ymateb ysgrifenedig. |
|
Adroddiad Blynyddol Craffu 2022-23. PDF 232 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Cyflwynodd
Gadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu adroddiad gwybodaeth a oedd yn amlinellu
gwaith craffu ar gyfer blwyddyn ddinesig 2022-2023. |
|
Cynnydd Ymrwymiadau Polisi. PDF 330 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Sylwer: 1)
Gofynnodd y Cynghorydd P M Black, "Beth
yw amserlen cyflwyno Wi-Fi Am Ddim i'r Cyhoedd ac i ba raddau y gwneir hyn? Dywedodd
Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd y byddai ymateb ysgrifenedig
yn cael ei ddarparu. 2)
Gofynnodd y Cynghorydd P N May, "Faint o
bwyntiau gwefru cerbydau trydan oedd ar gael cyn i'r targed gael ei osod? Beth
yw'r targed rhifiadol nawr?" Dywedodd
Arweinydd y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig. |
|
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 321 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: 1) ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A’ Cyflwynwyd tri (3) 'Chwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a
gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor. Dangosir y cwestiynau
atodol hynny yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arnynt isod. Gofynnodd y Cynghorydd P N May, "A ellir dosbarthu copi o'r canllawiau
ar gyfer strwythurau presennol?" Dywedodd Aelod y Cabinet dros
Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael
ei ddarparu. 2) Rhan B
‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Cyflwynwyd chwe (6) 'chwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol' ar eu
cyfer Rhan B. |
|
Hysbysiad o Gynnig - Coetir Coffa. PDF 108 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd y cynnig diwygiedig Cofnodion: Cyflwynwyd yr Hysbysiad o Gynnig gwreiddiol a amlinellwyd isod gan y
Cynghorydd C M J Evans, M W Locke / S Bennett. "Rydym yn
galw am adroddiad i'r cyngor a all amlinellu sut y gellir darparu a chynnal
coetir coffa, i nodi can mlynedd ers codi'r senotaff a'r aberth a wnaed gan ein
lluoedd arfog wrth wasanaethu ein gwlad. Byddai coeden yn cael ei phlannu yn
enw pob person a enwir ar y Senotaff, a chaiff cofnod ei greu ar-lein ar eu
cyfer y gellir ei gyrchu drwy gôd QR, sy'n amlinellu manylion eu bywydau a'u
teuluoedd i sicrhau nad yw eu henwau a'u haberth yn cael eu colli i
hanes". Cyn y cyfarfod,
cyflwynodd y Grŵp Llafur Gynnig diwygiedig, a dderbyniwyd gan y cynigwyr
gwreiddiol. Y cynnig isod oedd y cynnig gwreiddiol. Cynigiwyd gan y
Cynghorydd C M J Evans ac eiliwyd gan y Cynghorydd W G Lewis. "Rydym yn galw am adroddiad i'r Cabinet a allai amlinellu'r opsiynau
ar gyfer darparu a chynnal coetir coffa, i nodi canmlwyddiant y senotaff a'r
aberth a wnaed gan bobl o bob cymuned sy'n gwasanaethu yn ein lluoedd arfog
wrth wasanaethu ein gwlad. Bydd yr opsiynau'n ystyried sefyllfa'r gyllideb, strategaeth plannu coed
bresennol y cyngor a'r gwaith cyfredol i fapio rhannau o dir y cyngor i gynyddu
gorchudd coed ymhellach fel rhan o'i strategaeth sero net. Dylai'r adolygiad
ystyried yr opsiynau i blannu coeden yn enw pob person, a chreu cofnod ar-lein
y gellir ei gyrchu drwy gôd QR, sy'n amlinellu manylion bywydau a theuluoedd y
bobl hyn i sicrhau nad yw eu henwau a'u haberth yn cael eu colli i hanes". Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig diwygiedig a
amlinellir uchod. |