Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: 1) Y Cynghorydd S J Rice Datgan Diddordeb Personol mewn Cofnod 23 “Adolygiad o'r Datganiad Polisi ar gyfer Trwyddedu.” and cofnod 24 “Cynnig i Gyhoeddi Asesiad Effaith Gronnol - Canol y Ddinas”. 2) Y Cynghorydd R D Lewis and F D O’Brien Datgan Diddordeb Personol yn y Cofnod 26 “Newidiadau i'r Cyfansoddiad” a gadawodd y cyfarfod cyn iddo gael ei ystyried. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a
rhagfarnol posib a all fod gan gynghorwyr a/neu swyddogion ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y
dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a
rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog gysylltiad i'w
ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan.
Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac
yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir
Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorydd S J
Rice gysylltiad personol â Chofnod 23 "Adolygiad o'r Datganiad o Bolisi
Trwyddedu" a Chofnod 24 "Cynnig i Gyhoeddi Asesiad Effaith Gronnol –
Canol y Ddinas". 2)
Datganodd y Cynghorwyr R D
Lewis a F D O'Brien gysylltiad personol â Chofnod 26 "Diwygiadau i
Gyfansoddiad y Cyngor - Cynllun Dirprwyo" a gadawsant y cyfarfod cyn iddo
gael ei ystyried. |
|
Cymeradwyo a llofnodi
cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod cyffredin y cyngor a
gynhaliwyd ar 4 Mai 2023. 2)
Cyfarfod blynyddol y cyngor a
gynhaliwyd ar 18 Mai 2023. 3)
Cyfarfod seremonïol y cyngor a
gynhaliwyd ar 19 Mai 2023. |
|
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog
Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i
gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor. |
|
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: a)
Cydymdeimladau i)
Cyn-Arglwydd Faeres, Ann
James - gwraig y cyn-Henadur Anrhydeddus, cyn-Arglwydd Faer a chyn-Gynghorydd,
Dennis H James Mynegodd yr Aelod
Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar y cyn-Arglwydd
Faeres, Ann James. Roedd Ann yn wraig i'r Cyn-Henadur Anrhydeddus, y
Cyn-Arglwydd Faer, a'r Cyn-gynghorydd, Dennis H James. Ann oedd yr Arglwydd
Faeres yn 2012-2013. ii)
Billy Evans, gŵr y
Cynghorydd Mandy Evans Mynegodd yr Aelod
Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar Bill Evans,
gŵr y Cynghorydd Mandy Evans. iii)
Morgan Ridler – Sefydliad
Elusennol Morgan's Army Cyfeiriodd yr Aelod
Llywyddol gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar Morgan Ridler. Roedd gan
Morgan ganser, a sefydlodd ei rieni, Natalie a Matthew, Sefydliad Elusennol Morgan's
Army i gynyddu ymwybyddiaeth o'r mathau niferus o ganserau
plentyndod ac i rannu eu taith gan obeithio y byddai'n helpu llawer o bobl
eraill i deimlo'n llai unig. Bu farw Morgan ym mis Mehefin 2023 a'r sefydliad
elusennol yw ei etifeddiaeth o gariad. Gellir rhoi rhodd drwy www.morgansarmy.co.uk iv)
Naemat Lawa Esmael a
Muhammad Esmael, West Cross Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar
Naemat Lawa Esmael a Muhammad Esmael. Bu farw Naemat a'i fab yn dilyn tân mewn
tŷ yn West Cross. Safodd pawb a oedd yn
bresennol fel arwydd o barch a chydymdeimlad. b)
Anrhydeddau
Pen-blwydd y Brenin 2023 Llongyfarchodd yr Aelod
Llywyddol ddinasyddion Abertawe a dderbyniodd wobrau yn Anrhydeddau Pen-blwydd
y Brenin. Cadlywydd
Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) i)
Yr Athro Medwin Hughes DL. Is-Ganghellor, Prifysgol Cymru a Phrifysgol
Cymru y Drindod Dewi Sant. Gwasanaethau i Addysg ac i'r Gymraeg. Aelod Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig
(MBE) i)
Elizabeth Anne Rix Prif
Nyrs, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgolion Portsmouth. Gwasanaethau i
Arweinyddiaeth Nyrsio. (Abertawe, Gorllewin Morgannwg). ii)
Non
Rhiannydd Stanford. Gwasanaethau i Dreiathlon yng Nghymru. (Leeds, gorllewin
Swydd Efrog). Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM) i)
John Leslie Stuart
Griffiths. Hyfforddwr, Clwb Athletau Harriers Abertawe. Gwasanaethau i Athletau
yng Nghymru. (Abertawe, Gorllewin Morgannwg) c)
Phil Sharman -
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Phil Sharman wedi ymddiswyddo yn ddiweddar
fel Aelod Cyfetholedig Statudol Annibynnol o'r Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio. Dechreuodd Phil y rôl ym mis Mai 2022. Ar ran yr awdurdod, diolchodd
i Phil am ei amser a'i ymrwymiad dros y 14 mis diwethaf. ch) Martin Nicholls – Prif Weithredwr Dywedodd yr Aelod
Llywyddol fod y cyngor yn ymwybodol bod Martin Nicholls, y Prif Weithredwr wedi
bod yn derbyn triniaeth ar gyfer math o lewcemia a'i fod yn ymateb yn dda. O
ganlyniad, roedd Martin wedi cofrestru ar gyfer digwyddiad Pretty Muddy
5k elusennol ym Mharc Singleton ar 29 Gorffennaf 2023 i godi arian ar gyfer
Ymchwil Canser. Byddai unrhyw nawdd ar gyfer yr achos teilwng hwn yn cael ei
werthfawrogi'n fawr. d)
Coleg
Gŵyr Abertawe
- Gwobrau Myfyrwyr 2023 Dywedodd yr
Aelod Llywyddol fod gan Gyngor Abertawe berthynas gref gyda Choleg Gŵyr
Abertawe. Mae'r cyngor yn gweithio'n agos gyda'r Coleg i ddarparu hyfforddiant
mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys prentisiaethau a'r rhaglen Datblygu
Rheoli fel rhan o'n Strategaeth Gweithlu. Roedd hi'n falch iawn o ddatgan bod
Cyngor Abertawe wedi ennill gwobr Partner Cyflogwr y Flwyddyn Coleg Gŵyr
Abertawe. |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Penderfyniad: Er
Gwybodaeth Cofnodion: a)
Sioe Awyr
Cymru 2023 - Abertawe Dywedodd Dirprwy Arweinydd ar y cyd y Cyngor fod rhai o'r
peilotiaid a'r arddangosfa hedfan orau'r byd wedi defnyddio amffitheatr
naturiol Bae Abertawe, dros y penwythnos diwethaf, i ddangos eu doniau, gydag
acrobateg awyr anhygoel. O jetiau i hofrenyddion i'r Red Arrows
anhygoel, yn sicr, roedd yn benwythnos i'w gofio. Croesawyd dros 180,000 o
ymwelwyr i'r Sioe Awyr a disgwylir i'r hwb i'r economi leol fod yn filiynau o
bunnoedd. Diolchodd i'r Cynghorydd Robert Francis-Davies a'r Tîm Digwyddiadau
Arbennig a phawb oedd yn rhan o drefnu'r Sioe Awyr. Llongyfarchodd Gyngor
Casnewydd hefyd am gynnal sioe Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog wych yn
ddiweddar. Mae Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog yn ddigwyddiad sy'n talu teyrnged i'n milwyr o'r presennol a'r
gorffennol. Bydd Cyngor Abertawe yn cynnal y diwrnod fel rhan o Sioe
Awyr Abertawe y flwyddyn nesaf ar 6 a 7 Gorffennaf 2024. b)
Penderyn Llongyfarchodd Dirprwy
Arweinydd ar y cyd y Cyngor Penderyn ar agor eu cyfleuster yn Abertawe ar 13
Gorffennaf 2023. Dyma ddechrau ailddatblygu coridor yr afon a bydd yn atyniad
gwych i dwristiaid yn ogystal â bod yn gyfleuster cynhyrchu mawr sy'n cynhyrchu
dros filiwn o boteli o wisgi Cymreig y flwyddyn - a bydd llawer ohono ar gyfer
allforio byd-eang. c)
Ysgol Llandeilo Ferwallt Dywedodd Dirprwy
Arweinydd ar y cyd y Cyngor ei fod yn edrych ymlaen at agor yr Ysgol Gyfun
Llandeilo Ferwallt newydd yn dilyn sawl blwyddyn o adnewyddu ac ailadeiladu.
Bydd y buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd yn darparu cyfleusterau modern
gwych i ddisgyblion yr ysgol. Dyma enghraifft arall o'n hymrwymiad i ddarparu'r
ysgolion a'r cyfleusterau gorau a mwyaf modern i'n plant. ch) Gwobrau MJ 2023 Dywedodd Dirprwy
Arweinydd ar y cyd y Cyngor ei bod yn anrhydedd i Gyngor Abertawe gael ei
gydnabod fel un o'r cynghorau sy'n perfformio orau yn y DU. Dyma'r eildro mewn
dwy flynedd. Er na enillodd y cyngor wobr "Awdurdod Lleol y
Flwyddyn," roeddem yn falch ein bod wedi dod yn un o'r rhai nesaf at y
gorau a chawsom ein cydnabod drwy ymdrechion anhygoel ein staff. Roedd yn
obeithiol y byddai'r cyngor yn llwyddiannus y flwyddyn nesaf. Roedd y cyngor hefyd wedi cyrraedd y rownd
derfynol yn y wobr "Tîm Gwasanaethau'r Cyngor Gorau" ar gyfer y Tîm
Adeiladu Mwy o Gartrefi. Mae hwn yn gyflawniad gwych a llongyfarchodd pawb a
gymerodd ran. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r
Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk
hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn
cael eu blaenoriaethu.Gall y cyhoedd ddod a gofyn
cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol
i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10
munud. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Na chafwyd cwestiynau
gan y cyhoedd. |
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraeth ac Archwilio 2022/23. PDF 483 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 2022-2023. Penderfynwyd cymeradwyo
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 2022-2023. |
|
Adolygu'r Polisi ar Drwyddedu Sefydliadau Rhyw. PDF 250 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a oedd yn
ceisio ystyriaeth o ganlyniadau'r ymgynghoriad ar adolygu'r polisi ar drwyddedu
sefydliadau rhyw ac i gytuno ar y Polisi diwygiedig ar Drwyddedu Sefydliadau
Rhyw i'w fabwysiadu a'i gyhoeddi. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo a chyhoeddi'r polisi ar Drwyddedu
Sefydliadau Rhyw, a atodwyd yn Atodiad A yr adroddiad ac y bydd yn dod i rym ar
26 Gorffennaf 2023. 2)
Cadw'r “ardaloedd perthnasol” cyfredol at
ddibenion penderfynu ar geisiadau am sefydliadau rhyw a'r “nifer priodol” o
sefydliadau rhyw ar gyfer pob ardal. |
|
Adolygiad o'r Datganiad Polisi ar gyfer Trwyddedu. PDF 326 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol
a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio ystyriaeth o'r ymateb i'r
ymgynghoriad ar adolygiad Datganiad Polisi ar gyfer Trwyddedu'r Cyngor. Penderfynwyd: 1)
Nodi canlyniad yr ymgynghoriad ar y
diwygiadau arfaethedig i'r polisi. 2)
Cymeradwyo'r diwygiadau arfaethedig. 3)
Mabwysiadu'r polisi diwygiedig fel yr atodir
yn Atodiad A yr adroddiad ar gyfer 2023-2028. |
|
Cynnig i Gyhoeddi Asesiad Effaith Gronnol - Canol y Ddinas. PDF 328 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd
yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a oedd
yn ceisio cytundeb i gyhoeddi'r Asesiad Effaith Gronnol
ar gyfer ardal canol y ddinas. Penderfynwyd cyhoeddi'r
Asesiad Effaith Gronnol ar gyfer ardal canol y ddinas. Sylwer: Dywedodd Aelod
y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad y byddai Seminar
Cynghorwyr yn cael ei darparu. |
|
Cynllun Datblygu Lleol Newydd Abertawe - Cytundeb Cyflawni a'r Camau Nesaf. PDF 370 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol
a Pherfformiad adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth am ganlyniad yr ymarfer
ymgynghori a gynhaliwyd ar Gytundeb Cyflawni drafft ac Adroddiad Adolygu drafft
CDLl Newydd Abertawe a gofynnodd am gymeradwyaeth i gyflwyno'r dogfennau
terfynol i Lywodraeth Cymru. Penderfynwyd: 1)
Nodi amserlen yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar Adroddiad
Adolygu drafft CDLl Abertawe a atodwyd yn Atodiad A yr adroddiad, a
chymeradwyo'r Adroddiad Adolygu terfynol a atodwyd yn Atodiad B yr adroddiad,
i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru. 2)
Nodi amserlen yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar Gytundeb
Cyflawni drafft CDLl Newydd Abertawe a atodwyd yn Atodiad C yr adroddiad, a
chyflwyno'r Cytundeb Cyflawni terfynol a atodwyd yn Atodiad Ch yr adroddiad i
Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo. 3)
Bod y Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas, neu swyddog
priodol a ddirprwyir, yn cael ei awdurdodi i wneud unrhyw newidiadau
argraffyddol, gramadegol, cyflwyniadol neu ffeithiol i Adroddiad Adolygu'r CDLl
a Chytundeb Cyflawni CDLl Newydd cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru. 4)
Bod y Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas, neu swyddog
priodol a ddirprwyir, yn cael ei awdurdodi i gynnal ymarfer Galw am Safleoedd
Ymgeisiol a pharatoi'r dogfennau cefndir ategol angenrheidiol, gan gynnwys
methodolegau asesu, sy'n ymwneud â'r cam hwn. 5)
Bod y Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas, neu swyddog
priodol a ddirprwyir, yn cael ei awdurdodi i ymgymryd â'r camau nesaf gofynnol
wrth baratoi'r CDLl Newydd, gan gynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol
ar Farn Sgrinio Asesiad Amgylcheddol Strategol ac Adroddiad Cwmpasu'r Arfarniad
Cynaliadwyedd Integredig drafft. Sylwer: Gofynnodd y
Cynghorydd E W Fitzgerald a oedd data cenedlaethol yn cael ei ystyried fel rhan
o'r Galw am Safleoedd Ymgeisiol, yn benodol y data sy'n ymwneud â niferoedd
tai, gan ei bod yn ymddangos bod Abertawe eisoes wedi eu bodloni. Dywedodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau
Corfforaethol a Pherfformiad y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu. Sylwer: Dywedodd Aelod
y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad y byddai Seminar
Cynghorwyr yn cael ei darparu. |
|
Newidiadau i'r Cyfansoddiad. PDF 246 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro a Phennaeth y Gwasanaethau
Democrataidd adroddiad ar y cyd a oedd yn hysbysu'r cyngor o ddiwygiadau er
mwyn symleiddio, gwella a/neu ychwanegu at Gyfansoddiad y Cyngor. Penderfynwyd: 1)
Diwygio'r Cynllun
Dirprwyo i gynnwys: "b) Rhoddir awdurdod dirprwyedig hefyd i Swyddogion Cyfrifol
ar gyfer trafodiadau gwaredu a phrydlesu lle nad yw'r
Rheolau Trafodiadau Tir yn berthnasol". 2)
Cymeradwyo unrhyw rifo
canlyniadol oherwydd y diwygiad hwn. |
|
Aelodaeth Pwyllgorau. PDF 113 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a oedd
yn gofyn am gymeradwyo'r enwebiadau/diwygiadau i wahanol Gyrff y Cyngor. Penderfynwyd
diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir
isod fel a ganlyn: 1)
Y Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Threchu
Tlodi Tynnu enw'r Cynghorydd J P Curtice. Ychwanegu enw'r Cynghorydd M Baker. |
|
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 379 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er
Gwybodaeth Cofnodion: 1) ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A Cyflwynwyd un ar ddeg (11) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au) perthnasol
y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor. Dangosir y cwestiynau atodol hynny yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arnynt
isod. Cwestiwn
11 i)
Gofynnodd y Cynghorydd E W
Fitzgerald am eglurder ynghylch brawddeg olaf yr ymateb ysgrifenedig yn benodol
"... ac er mwyn galluogi adfer ansawdd y dirwedd arbennig yn llawn yn
dilyn datgomisiynu unrhyw ddatblygiad cynhyrchu ynni gwynt". Dywedodd y gallai
defnyddio concrit yn yr ardaloedd mawn hyn niweidio ansawdd y dirwedd arbennig
yn barhaol, felly sut y byddai hyn yn cael ei gywiro? ii)
Dywedodd y Cynghorydd B J
Rowlands nad oedd y mawn sy'n cael ei dynnu o Fynydd y Gwair wedi ei warchod.
Beth fydd yr adran gynllunio yn ei wneud i warchod y tir yn y dyfodol a beth
sydd wedi'i ddysgu o'r methiant hwnnw? Dywedodd Aelod y
Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad y byddai ymateb
ysgrifenedig yn cael ei ddarparu. 2) Rhan B
‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Cyflwynwyd pum (5) 'Cwestiwn Rhan B nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu
cyfer'. |
|
Hysbysiad o Gynnig - Anifeiliaid Byw fel Gwobrau. PDF 201 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cynigiwyd gan y Cynghorydd C A Holley a'i eilio gan y
Cynghorydd J D McGettrick. "Mae'r cyngor hwn: ● Yn
pryderu am nifer yr achosion sy'n cael eu hadrodd i'r RSPCA bob blwyddyn,
ynghylch anifeiliaid anwes sy'n cael eu rhoi fel gwobrau drwy ffeiriau,
cyfryngau cymdeithasol a sianeli eraill yng Nghymru. ● Yn
pryderu am les yr anifeiliaid hynny sy'n cael eu rhoi fel gwobrau. ● Yn
cydnabod y gall llawer o achosion o anifeiliaid anwes sy'n cael eu rhoi fel
gwobrau fynd heb eu hadrodd bob blwyddyn yng Nghymru. ● Ar
hyn o bryd yn gwahardd rhoi anifeiliaid byw fel gwobrau, ar unrhyw ffurf, ar
dir Cyngor Abertawe ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu i wneud y
gweithgaredd hwn yn anghyfreithlon. Mae'r cyngor yn cytuno i: ● Ailddatgan
ei waharddiad ar roi anifeiliaid byw fel gwobrau, ar unrhyw ffurf, ar dir
Cyngor Abertawe, i benderfynu hysbysu'r RSPCA o'i bolisi, ac i roi
cyhoeddusrwydd gwell i'r gwaharddiad hwn ar ei wefan gyda dull adrodd clir i'r
cyhoedd; ac ● Ysgrifennu
at Lywodraeth Cymru, gan annog gwaharddiad llwyr ar roi anifeiliaid byw fel
gwobrau ar dir cyhoeddus a phreifat yng Nghymru." Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig a amlinellir uchod. |
|
Hysbysiad o Gynnig - Parti'r Cyfnod Clo ac Anrhydedd PDF 114 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Fe'i cynigiwyd gan y Cynghorydd D H Hopkins a'i eilio gan
y Cynghorydd A S Lewis. "Mae'r
cyngor hwn yn nodi, gyda phryder mawr a ffieidd-dod, fideo a gafodd ei ryddhau'n
ddiweddar yn dangos aelodau staff y Ceidwadwyr, a oedd yn gyflogedig gan
Lywodraeth y Ceidwadwyr yn ystod mis Rhagfyr 2020, yn torri rheolau Covid-19 yn
drahaus trwy gynnal partïon, peidio â chadw pellter cymdeithasol, cynnal
digwyddiadau cymdeithasol, yfed alcohol a diystyru rheolaethau a thorri
cyfreithiau a oedd ar waith ar y pryd. Mae'r
cyngor hwn yn condemnio'n llwyr yr ymddygiad a'r gweithredoedd a welir yn y
fideo, a fydd yn hynod sarhaus ac yn niweidiol i lawer o bobl yn Abertawe a
wnaeth y peth iawn ac a ufuddhaodd i'r rheolau Covid-19 a oedd ar waith ar y
pryd. Roedd
ufuddhau i'r rheolau a gwneud y peth iawn yn golygu, na allai pobl yn lleol ac
yn genedlaethol weld perthnasau oedd yn ddifrifol wael, ymweld â pherthnasau
mewn ysbyty na chartrefi gofal am fisoedd, ac na allent ddod ynghyd â ffrindiau
neu deulu ar gyfer dathliadau pen-blwydd neu adeg y Nadolig. Mae'r
cyngor hwn bellach yn condemnio'r rhestr anrhydeddau a gyflwynwyd gan y
cyn-Brif Weinidog cywilyddus, Boris Johnson, ac a gymeradwywyd
gan y Prif Weinidog presennol, Rushi Sunak, a roddodd anrhydeddau i o leiaf dau unigolyn a
welwyd yn torri'r gyfraith yn y fideo. Mae'r
cyngor hwn yn galw ar yr heddlu i ymchwilio i'r fideo ac erlyn yr unigolion dan
sylw lle profir bod achosion o dorri'r rheolau. Mae'r
cyngor hwn hefyd yn datgan y dylid dileu anrhydedd unrhyw un a anrhydeddwyd gan
y cyn-Brif Weinidog cywilyddus, Boris Johnson, os
ydynt wedi torri rheolau Covid-19." Penderfynwyd mabwysiadu'r
Hysbysiad o Gynnig a amlinellir uchod. |