Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ethol Aelod Llywyddol ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2022-20223.

Cofnodion:

 

 

Gofynnodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd am enwebiadau.

 

Cynigiwyd enwebiad ar gyfer y Cynghorydd J P Curtice, ac fe’i heiliwyd.

 

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd J P Curtice yn Aelod Llywyddol ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2022-2023.

 

Y Cynghorydd J P Curtice (Aelod Llywyddol) fu'n llywyddu

 

2.

Ethol Dirprwy Aelod Llywyddol ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2022-2023.

Cofnodion:

Gofynnodd yr Aelod Llywyddol am enwebiadau.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd enwebiad ar gyfer y Cynghorydd C R Evans.

 

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd C R Evans yn Ddirprwy Aelod Llywyddol ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2022-2023.

 

3.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y cysylltiadau personol a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ag eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen

"Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

1) Datganodd y Cynghorwyr C Anderson, M Bailey, S Bennett, P N Bentu, P M Black, J P Curtice, A Davis, A M Day, P Downing, C R Doyle, M Durke, C M J Evans, V M Evans, C R Evans, E W Fitzgerald, R A Fogarty, R Francis-Davies, N Furlong, L S Gibbard, F M Gordon, K M Griffiths, H J Gwilliam, J A Hale, T J Hennegan, V A Holland, C A Holley, P R Hood-Williams, B Hopkins, D H Hopkins, O G James, L James, Y V Jardine, A J Jeffery, D Jenkins, M H Jones, M Jones, S M Jones, L R Jones, J W Jones, S A Joy, S E Keeton, E J King, E T Kirchner, H Lawson, A S Lewis, M B Lewis, R D Lewis, W G Lewis, P Lloyd, M W Locke, P M Matthews, N L Matthews, P N May, J D McGettrick, H M Morris, F D O'Brien, A J O'Connor, D Phillips, C L Philpott, J E Pritchard, S Pritchard, A Pugh, S J Rice, K M Roberts, B J Rowlands, R V Smith, A H Stevens, R C Stewart, L G Thomas, W G Thomas, M S Tribe, G D Walker, L V Walton, T M White and R A Williams gysylltiad personol â Chofnod 8 "Materion Cyfansoddiadol 2022-2023

 

4.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. pdf eicon PDF 214 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)           Cyfarfod Cyffredin y Cyngor a gynhaliwyd ar 17 Mawrth 2022 am 5pm.

2)           Cyfarfodydd Arbennig y Cyngor a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2022 am 4pm a 13 Ebrill, 2022

 

 

5.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

a)    Phil Roberts, Prif Weithredwr - Ymddeoliad

 

Amlinellodd y Llywydd mai hwn fyddai cyfarfod y cyngor olaf Phil Roberts, y Prif Weithredwr, cyn iddo ymddeol.

 

Roedd Phil wedi bod yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun yr Olchfa ac yna graddiodd gydag anrhydedd mewn Economeg ym Mhrifysgol Caerfaddon ac yna enillodd radd ôl-raddedig yn Ysgol Economeg Llundain.

 

Mae wedi gweithio ar lefel uwch mewn amrywiaeth o swyddi ar gyfer sefydliadau yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat ac fel darlithydd ôl-raddedig ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd. Mae hefyd wedi ymgymryd â gwaith recriwtio ar gyfer Gweithrediaeth Tai Gogledd Iwerddon.

 

Dechreuodd Phil ei yrfa fel Gweithiwr Tai gyda Chymorth Tai Cymru (06/1984-06/1985), cyn dod yn Hyfforddai Tai gyda Bwrdeistref Brent yn Llundain (06/1985-10/1985). Yn dilyn ei gyfnod byr fel alltud yn Llundain, gwelodd y goleuni a dychwelodd i Abertawe.

 

Ymunodd â Chyngor Dinas Abertawe ym mis Awst 1986 fel Hyfforddai Tai cyn cael ei ddyrchafu i fod yn Rheolwr Gwasanaeth ym mis Hydref 1992. Blaen-y-maes a Phen-lan oedd y Swyddfeydd Tai Rhanbarthol cyntaf yn Abertawe, a bu Phil yn rheoli Swyddfa Dai Ardal Blaen-y-maes (DHO).

 

Wrth i Phil weithio fel Rheolwr Gweithrediadau Tai concrit rhag-gastiedig wedi'i atgyfnerthu (PRC), roedd yn gwneud llawer o waith i ffurfio'r Gymdeithas Tenantiaid gyntaf yn Abertawe.

 

Yn dilyn ad-drefnu Llywodraeth Leol ym mis Ebrill 1996, penodwyd Phil yn Gyfarwyddwr Tai Cynorthwyol gyda Dinas a Sir Abertawe. Ym mis Awst 2003 fe'i penodwyd yn Bennaeth Tai. Mae wedi gweithredu fel Cyfarwyddwr Dros Dro’r Gwasanaethau Cymdeithasol a Chyfarwyddwr Adfywio Dros Dro cyn cael ei benodi'n Gyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Thai ym mis Tachwedd 2006 ac yn Gyfarwyddwr Corfforaethol (Lleoedd) ym mis Ebrill 2013.

 

Ym mis Ionawr 2016, roedd wedi dangos hanes profedig yn Abertawe ac fe'i penodwyd yn Brif Weithredwr Dinas a Sir Abertawe (Cyngor Abertawe).

 

Mae gan Phil dri mab a chwech wyres, y mae pob un ohonynt yn byw yn Abertawe. Mae'n gerddor brwd ac yn treulio'r rhan fwyaf o'i amser sbâr yn cerdded ac yn heicio.

 

Talodd y Cynghorwyr Rob Stewart, Chris Holley, Lyndon Jones a Peter May deyrnged ar ran eu grwpiau gwleidyddol a phobl Abertawe i wasanaeth Phil a'i ymroddiad i'w rolau amrywiol dros y blynyddoedd, gan ddymuno’r gorau iddo ar gyfer ymddeoliad hir ac iach.

 

Diolchodd Phil Roberts i'r aelodau am eu sylwadau.

 

b)           Cynghorwyr a etholwyd yn ddiweddar a'r Cynghorwyr hynny nad ydynt yn ceisio cael eu hailethol neu heb eu hailethol ar 5 Mai 2022

 

Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol y Cynghorwyr hynny a etholwyd yn ddiweddar yn dilyn yr Etholiadau Llywodraeth Leol ar 5 Mai 2022. Diolchodd hefyd i'r cyn-Gynghorwyr hynny a ddewisodd naill ai beidio â cheisio cael eu hailethol neu na chawsant eu hailethol yn yr Etholiad Llywodraeth Leol ar 5 Mai 2022. Diolchodd yr Aelod Llywyddol iddynt am wasanaethu eu cymunedau a phreswylwyr Abertawe yn ystod cyfnod eu swyddi fel Cynghorwyr.

 

c)            Gŵyl Genedlaethol Cymdeithas Bêl-droed Ysgolion Cymru

 

Roedd tîm pêl-droed merched Ysgol Gynradd Glyncollen yn cynrychioli Abertawe yn ddiweddar yng Ngŵyl Genedlaethol Cymdeithas Bêl-droed Ysgolion Cymru. Llwyddon nhw i ennill pob gêm a nhw yw Pencampwyr Cymru yn y gystadleuaeth 5-pob-ochr genedlaethol i blant dan 11 oed.

 

Fe'u llongyfarchwyd ar ran y cyngor gan yr Aelod Llywyddol ar y cyflawniad hwn.

 

d)           Caderman – Her Ewropeaidd 2022

 

Mae Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn dechrau yfory ar y Caderman – Her Ewropeaidd 2022. Gan ddechrau yn Lappeenranta, y Ffindir, ger ffin Rwsia, bydd ef a'i ffrindiau’n beicio tua 720 milltir ar draws y Ffindir a Sweden ac yn gorffen yn Trondheim ar arfordir gorllewinol Norwy.

 

Bydd yr antur yn mynd â nhw drwy dref o'r enw Hell yn Norwy, felly byddant yn llythrennol ar y Briffordd i Hell.

 

Mae'n her hunan-gynhaliol sy'n golygu y byddant yn cario popeth y mae ei angen arnynt ar gyfer yr antur gan gynnwys adenydd olwynion, cadwynau, tiwbiau mewnol, dillad a dillad thermol sbâr. Maen nhw wedi codi dros £46,000 hyd yma ar gyfer elusennau canser dros y 13 mlynedd diwethaf. Eleni maen nhw'n codi arian ar gyfer Blood Cancer UK.

 

Mae croeso i chi gyfrannu drwy eu tudalen Just Giving.

https://www.justgiving.com/fundraising/caderman2022?utm_source=Sharethis&utm_medium=fundraising&utm_content=caderman2022&utm_campaign=pfp-email&utm_term=8bb34699c96b4cfabbd8913f19e96234

 

e)            Cywiriadau/Diwygiadau i Wŷs y Cyngor

 

i)             Eitem 9 "Materion Cyfansoddiadol 2022-2023”

 

Dileu pob cyfeiriad yn yr adroddiad at "Bwyllgor Cyflawni Corfforaethol Adnoddau Naturiol a Bioamrywiaeth" a rhoi "Pwyllgor Cyflawni Corfforaethol Newid yn yr Hinsawdd" yn eu lle.

 

6.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Cynigiwyd ac eiliwyd enwebiad ar gyfer y Cynghorydd R C Stewart.

 

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Rob Stewart yn Arweinydd y Cyngor.

 

7.

Enwau cynghorwyr y mae arweinydd y Cyngor wedi'u dewis i fod aelodau o'r Cabinet. (er gwybodaeth)

Cofnodion:

Amlinellodd Arweinydd y Cyngor enwau'r cynghorwyr sydd wedi'u dewis i fod yn Aelodau Cabinet y Cyngor.  Amlinellodd hefyd bortffolios y Cabinet:

 

Enwau'r Cynghorwyr

Portffolio'r Cabinet

Rob C Stewart

Ø Arweinydd y Cyngor

Ø Economi a Strategaeth

David Hopkins

Ø Dirprwy Arweinydd y Cyngor

ØGwasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol

Andrea Lewis

Ø Dirprwy Arweinydd y Cyngor

ØTrawsnewid Gwasanaethau

Robert Smith

ØAddysg a Dysgu

Louise Gibbard

ØGwasanaethau Gofal

Andrew Stevens

ØAmgylchedd ac Isadeiledd

Robert Francis-Davies

Buddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth

Alyson Pugh

ØLles

Elliott King

ØDiwylliant a Chydraddoldebau

Cyril Anderson

Hayley Gwilliam

ØCymuned

 

8.

Materion Cyfansoddiadol 2022-2023. pdf eicon PDF 697 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad ar y cyd gan y Swyddog Monitro a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a oedd yn hysbysu'r cyngor o faterion cyfansoddiadol angenrheidiol sydd angen eu trafod yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor. Byddai materion o'r fath yn galluogi'r cyngor i weithredu'n effeithlon ac yn gyfreithlon.

 

Penderfynwyd:

 

1)            Nodi penderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol mewn perthynas â Chyflogau Sylfaenol, Dinesig ac Uwch Gyflogau, Ffïoedd Aelodau Cyfetholedig a Chyfraniad tuag at Gostau Gofal a Chymorth Personol fel y nodir yn Atodiad A.

 

2)          Talu Cyflog Uwch i'r canlynol:

 

Ø   Arweinydd y Cyngor.

Ø   Dirprwy Arweinydd y Cyngor.

Ø   Aelodau'r Cabinet x 8.

Ø   Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol.

Ø   Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio.

Ø   Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu.

Ø   Cadeirydd Pwyllgor Datblygu Corfforaethol yr Economi ac Isadeiledd.

Ø   Cadeirydd y Pwyllgor Cyflawni Corfforaethol Addysg a Sgiliau.

Ø   Cadeirydd y Pwyllgor Cyflawni Corfforaethol Newid yn yr Hinsawdd.

Ø   Cadeirydd y Pwyllgor Cyflawni Corfforaethol Trawsnewid Sefydliadol.

Ø   Cadeirydd y Pwyllgor Cyflawni Corfforaethol Diogelu Pobl a Threchu Tlodi.

 

3)         Penderfyniad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW), sef bod yn rhaid talu Cyflog Uwch, Band 4 (yn amodol ar y rheol 10%), i Arweinydd yr wrthblaid fwyaf.

 

4)         Talu Cyflog Dinesig i'r canlynol (ar yr amod nad ydynt eisoes yn cael Cyflog Uwch):

 

Ø   Arglwydd Faer (Pennaeth Dinesig).

Ø   y Dirprwy Arglwydd Faer (Dirprwy Bennaeth Dinesig).

 

5)          Ailsefydlu swyddi'r Aelod Llywyddol a'r Dirprwy Aelwyd Llywyddol a'u bod yn Cadeirio Cyfarfodydd y Cyngor. Ni fydd y swyddi hyn yn derbyn Cyflog Uwch.

 

6)          Telir cyflog sy'n cyfateb i gyflog Uwch-gyflog "Cadeirydd Pwyllgor" Band 3 i Gadeirydd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn fel y'i diffinnir gan IRPW; fodd bynnag, y Gronfa Bensiwn fydd yn talu'r taliad ychwanegol sy'n ychwanegol at y Cyflog Sylfaenol.

 

7)           Penodi Cyrff y Cyngor a Nifer y Seddi a Neilltuwyd fel y'u rhestrir yn Atodiad C. Caiff Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Cyflawni Corfforaethol ei fabwysiadu a'i ychwanegu at Gyfansoddiad y Cyngor.

 

8)           Caiff y Pwyllgorau a restrir yn Atodiad D eu heithrio gan y cyngor o Reoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 8 er mwyn caniatáu rhagor o gynrychiolaeth ar y Pwyllgorau hyn gan Grwpiau Gwleidyddol yr Wrthblaid.

 

9)           Caiff Cynghorwyr eu neilltuo i wasanaethu ar Gyrff y Cyngor yn unol â'r enwebiadau a dderbyniwyd gan Grwpiau Gwleidyddol. Nodi'r rhestr o Ardaloedd Aelodau Hyrwyddo a'r Cynghorwyr sy'n gyfrifol, fel yr amlinellwyd yn Atodiad E.

 

10)         Bydd Cyfansoddiad y Cyngor (www.swansea.gov.uk/constitution) yn cael ei ailddatgan a'i fabwysiadu gan gynnwys unrhyw ddiwygiadau a wnaed yn y cyfarfod hwn.

 

11)         Ethol Cynghorydd yn Gadeirydd Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd. Ailddatgan Llawlyfr y Cynghorwyr (www.swansea.gov.uk/CllrsHandbook)

 

12)         Nodi penderfyniad Arweinydd y Cyngor i benodi Cynghorwyr i wasanaethu ar Gyrff Allanol, fel a amlinellwyd yn Atodiad F y cofnodion.

 

13)         Caiff y pellteroedd rhwng cartrefi'r Cynghorwyr a Neuadd y Ddinas eu hanfon drwy e-bost at Gynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig Statudol a'r rhain yw'r pellteroedd y cytunwyd arnynt at ddibenion hawlio.

 

14)         Cadarnhau a mabwysiadu Dyddiadur Cyrff y Cyngor fel y'i rhestrir yn Atodiad G.

 

15)         Cynnal unrhyw ddiwygiadau canlyniadol i Gyfansoddiad y Cyngor a'r/neu'r Cynghorwyr o ganlyniad i'r adroddiad hwn.

 

 

9.

Diwygiadau i Gyfansoddiad y Cyngor - Polisi Cyfarfodydd Aml-leoliad, Gweithdrefn Deisebau a Chylch Gorchwyl y Pwyllgor Safonau. pdf eicon PDF 241 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar y cyd a oedd yn rhoi gwybod i'r cyngor o'r diwygiadau er mwyn symleiddio, gwella a/neu ychwanegu at Gyfansoddiad y Cyngor.

 

Penderfynwyd:

 

1)         Cymeradwyo'r Polisi Cyfarfodydd Aml-leoliad sydd ynghlwm yn Atodiad A.

2)         Cymeradwyo'r Cynllun Deisebau sydd wedi'i atodi yn Atodiad B.

3)         Cymeradwyo Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Safonau yn Atodiad C.

 

 

10.

Diwygiadau i Gyfansoddiad y Cyngor. pdf eicon PDF 240 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn cyflwyno'r newidiadau angenrheidiol a wnaed i'r Cyfansoddiad yn dilyn cychwyn rhai adrannau o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

 

11.

Protocol Datrys Anghydfodau Cynghorwyr. pdf eicon PDF 237 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i ail-fabwysiadu'r Dull Datrys Anghydfodau Lleol i Gynghorwyr.

 

Penderfynwyd:

 

1)        Ail-fabwysiadu'r Dull Datrys Anghydfodau Lleol i Gynghorwyr fel yr amlinellwyd yn Atodiad A.

 

12.

Diogelwch Personol i Gynghorwyr. pdf eicon PDF 424 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn rhoi arweiniad i Gynghorwyr ar faterion diogelwch personol a gweithio ar eich pen eich hun.

 

Penderfynwyd:

 

1)        Y dylid nodi'r Arweiniad a'u hanfon drwy e-bost at bob Cynghorydd.

 

13.

Recriwtio Cynghorydd Cymuned / Tref i'r Pwyllgor Safonau. pdf eicon PDF 227 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn amlinellu'r cynigion ar gyfer recriwtio Cynghorydd Cymuned/Tref i'r Pwyllgor Safonau.

 

Penderfynwyd:

 

1)            Y bydd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn cysylltu â phob un o'r 24 Cyngor Cymuned/Tref yn Abertawe i ofyn am ddatganiadau o ddiddordeb a cheisiadau.

 

2)          Rhoi awdurdod i'r Pwyllgor Safonau lunio rhestr fer a chyfweld â Chynghorwyr Cymuned/Tref sydd wedi gwneud cais i fod yn aelodau o'r Pwyllgor Safonau ac i wneud argymhelliad i'r cyngor ynghylch penodiad.

 

14.

Penodi Aelod/Aelodau Annibynnol i'r Pwyllgor Safonau. pdf eicon PDF 232 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad oedd yn gofyn am ystyriaeth ar gyfer  argymhelliad Panel Swyddi Gwag y Pwyllgor Safonau ar 14 Ebrill 2022 a phenodi dau Aelod Annibynnol (Cyfetholedig Statudol) (Lleyg) i'r Pwyllgor Safonau.

 

Penderfynwyd:

1)        Penodi Janet Pardue-Wood yn Aelod Annibynnol (Cyf[1]etholedig Statudol) (Lleyg) y Pwyllgor Safonau am gyfnod o 6 blynedd yn dechrau ar 24 Mai 2022. Bydd ei chyfnod yn y swydd yn dod i ben ar 23 Mai 2028.

2)        Penodi Mark Rees yn Aelod Annibynnol (Cyfetholedig Statudol) (Lleyg) o'r Pwyllgor Safonau am gyfnod o 6 blynedd gan ddechrau ar 19 Hydref 2022. Bydd ei gyfnod yn y swydd yn dod i ben ar 18 Hydref 2028.

 

15.

Sêl Gyffredin.

Cofnodion:

Penderfynwyd gosod y Sêl Gyffredin ar unrhyw ddogfen angenrheidiol i weithredu unrhyw benderfyniad a gymeradwywyd neu a gadarnhawyd mewn cyfarfodydd yn ystod y flwyddyn ddinesig flaenorol.