Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y cysylltiadau personol
a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a
swyddogion ag eitemau ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid
llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol"
os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan yn unig. Nid oes angen
dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a
swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y
daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: 1) Datganodd y Cynghorwyr M C Child, P
Downing, V M Evans, J W Jones, R D
Lewis, B J Rowlands, R C Stewart, G J Tanner ac M White gysylltiad personol â Chofnod 40 - “Adroddiad Blynyddol am
Weithio Rhanbarthol 2018/19". 2) Datganodd y Cynghorwyr M C Child, R
Francis-Davies, L S Gibbard, E T Kirchner ac R V Smith gysylltiad personol
â Chofnod 42 - “Adroddiad Blynyddol y
Partneriaethau Hamdden 2017/18. 3)
Datganodd y Cynghorwyr V M Evans, R C Stewart a D G Sullivan gysylltiad personol â Chofnod 43 -
“Cyd-bwyllgor Penodiadau - Bargen Ddinesig
Bae Abertawe". |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion
y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir: 1) Cyfarfod
cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2019. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth
a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod
cyffredin diwethaf o'r cyngor. |
|
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: 1)
Gwobrau Adeiladau Addysg Cymru 2019 Dywedodd yr
Aelod Llywyddol ei fod wrth ei fodd i gyhoeddi bod cynllun Ysgol Gyfun
Pentrehafod wedi ennill y wobr "Clod Uchel" yng nghategori "Arloesedd wrth Ddarparu Cyfleuster Addysg Gynaliadwy"
ac "Enillydd" yn y categori "Arloesedd
wrth Ddarparu Gwerth" yn ystod Gwobrau Adeiladau Addysg Cymru 2019. Mae'r wobr yn cydnabod arloesedd y tîm a oedd wedi helpu i ddarparu cyfleuster
addysg gynaliadwy sy'n hyrwyddo arferion ac ymddygiadau cynaliadwy gan yr holl
ddefnyddwyr a'r arloesedd a oedd wedi cyfrannu at
werth yn nyluniad y mannau dysgu, a'r gwerth hwnnw'n un ariannol a phrofiadol i
ddefnyddwyr y cyfleuster. Aeth ati i longyfarch pawb a gyfrannodd at y cynllun.
2)
Cymrodoriaeth er Anrhydedd Prifysgol
Cymru y Drindod Dewi Sant Dywedodd
yr Aelod Llywyddol ei fod yn bleser mawr iddo gyhoeddi bod y Cynghorydd Robert
Francis-Davies wedi derbyn Cymrodoriaeth er Anhrydedd
gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn ddiweddar. 3)
Gwobrau Cenedlaethol Fforwm Cronfeydd Pensiwn
Awdurdodau Lleol 2019 Dywedodd yr Aelod Llywyddol ei bod hi'n dda nodi
bod Cronfa Bensiwn Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr yng
Ngwobrau Cenedlaethol Fforwm Cronfeydd Pensiwn Awdurdodau Lleol 2019. Mae'n un
o 4 Cronfa Bensiwn i gael ei henwebi yn y categori Yr Ymagwedd Orau at
Fuddsoddi'n Gynaliadwy ar gyfer eu gwaith wrth ddatblygu eu Polisi Amgylcheddol
a Llywodraethu Cymdeithasol a'r ffaith eu bod wedi tynnu'n ôl o fuddsoddiadau
sy'n gysylltiedig â charbon wrth gydbwyso'u cyfrifoldebau ymddiriedol. Caiff yr enillydd ei gyhoeddi ar 19 Medi 2019 mewn
digwyddiad yn Llundain. 4)
Y teulu a Ddysgodd Wrando Dywedodd yr Aelod Llywyddol ei
bod hi'n bleser cyfeirio at lyfr a gafodd ei ysgrifennu gan grŵp o blant
7-11 oed sydd â phrofiad o'n system gofal yn Abertawe. Eu nod oedd cynhyrchu
llyfr sy'n gallu helpu Gweithwyr Cymdeithasol, Gofalwyr Maeth, Teuluoedd a Phlant
eraill i wrando ar ei gilydd yn well, dangos manteision cydweithio ac amlygu'r
ffaith ein bod ni i gyd yn ennill pan fyddwn yn defnyddio ymagwedd hawliau
plant. Creodd y grŵp ddyfais
draethiadol hynod soffistigedig, sef "drych hud" yn y stori a oedd yn
galluogi'r teulu i ailddechrau eu diwrnod gwael, pan nad oedd neb yn gwrando,
ac yn caniatáu i'r teulu ddechrau eto a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol. Y pwnc
allweddol o bwys i'r grŵp oedd helpu plant eraill i gael y 'Dechrau Gorau'
mewn bywyd, ac roedd cael gwrandawiad teg yn hanfodol i hyn. Trafododd y plant eu hatgofion
a'u straeon ac yna aethant ati i'w defnyddio nhw i lywio'r stori a'r cyfeiriad
y byddai'r llyfr yn ei ddilyn, gan ystyried y brîff y byddai'r llyfr yn cael ei
ddefnyddio i hyrwyddo negeseuon cadarnhaol i deuluoedd ar draws Abertawe a
Chymru. Roedd hon yn dasg heriol i'r plant o gofio'u
profiadau bywyd personol. Llinyn cydamserol trwy'r broses
gyfan, ac i'r grŵp cyfan, oedd pwysigrwydd teulu, derbyn gwrandawiad teg,
gwneud gwahaniaeth a'r gobaith gorau o gael teulu eu hunain yn y dyfodol. Arweiniwyd y llyfr gan dîm 'Dechrau Gorau
Abertawe' sy'n bodoli i gefnogi rhieni a phlant ar draws ein dinas. Datblygwyd
y negeseuon gyda rhieni a phlant yn Abertawe, ar gyfer rhieni a phlant Abertawe
trwy hyrwyddo negeseuon magu plant defnyddiol, cadarnhaol sy'n gallu helpu i
baratoi rhieni at enedigaeth, a phlant at ddosbarthiadau meithrin, yr ysgol a
thu hwnt. Dyma'r trydydd llyfr mewn cyfres o straeon a
ysgrifennwyd gan rieni ynghylch Negeseuon Dechrau Gorau Abertawe. Crëwyd a
datblygwyd y teulu Jack gan blant ysgol Abertawe, ac mae eu straeon, hyd yn
hyn, wedi hyrwyddo pwysigrwydd chwarae yn ystod plentyndod cynnar, a hefyd
bwysigrwydd bod mor iach ag y gallwch fod, a threulio amser gyda'ch gilydd.
Mae'r trydydd llyfr hwn yn canolbwyntio ar bwysigrwydd gwrando, ac mae'r plant
wedi creu stori wych i gefnogi'r agwedd bwysig hon ar blentyndod cynnar a'r tu
hwnt. Mae Thomas a Helen Docherty
yn dîm o awduron a darlunwyr sydd wedi gweithio ar y llyfr a'r ddau lyfr
blaenorol. Partneriaid allweddol eraill a oedd wedi cefnogi creu'r llyfr hwn
oedd Kate Phillips, Gary Mahoney a Tom Jones. Llongyfarchodd bawb a fu'n rhan o hyn. 5)
Cywiriadau/Diwygiadau i
Wŷs y Cyngor i)
Eitem 10 "Adroddiad Blynyddol 2018/19 - Cyfarwyddwr
y Gwasanaethau Cymdeithasol”. Diwygio'r
argymhelliad ar dudalen 31 i ddweud "2018/19" yn lle 2017/18. ii)
Eitem 13 “Diwygiadau i Gyfansoddiad y Cyngor”. Diwygio'r Pwyllgor a ailenwyd i ddarllen
"Pwyllgor Datblygu Polisi Cydraddoldebau a
Chenedlaethau'r Dyfodol". Cyfeirnodau ar dudalennau 125, 129 a 130. |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Bargen Ddinesig
Rhanbarth Bae Abertawe - Y Diweddaraf Dywedodd Arweinydd y
Cyngor ei fod wrth ei fodd ag ymrwymiad Llywodraethau Cymru a'r DU i ryddhau
gwerth £18 miliwn o'r arian sydd wedi'i neilltuo i'r Fargen Ddinesig. Dywedodd y bydd mwy o arian
yn cael ei ryddhau unwaith y caiff Cyfarwyddwr y Rhaglen ei benodi ac
argymhellion yr adolygiad eu gweithredu. 2) Gwobrau Cenedlaethol Fforwm Cronfeydd Pensiwn Awdurdodau Lleol 2019 Llongyfarchodd Arweinydd y Cyngor y Cynghorydd
Clive Lloyd a Phwyllgor y Gronfa Bensiwn gan fod Cronfa Bensiwn Abertawe wedi
cyrraedd rhestr fer ar gyfer gwobr yng Ngwobrau Cenedlaethol Fforwm Cronfeydd
Pensiwn Awdurdodau Lleol 2019. Mae'n un o 4 Cronfa Bensiwn i gael ei henwebu yn
y categori Yr Ymagwedd Orau at Fuddsoddi'n Gynaliadwy ar gyfer eu gwaith wrth
ddatblygu eu Polisi Amgylcheddol a Llywodraethu Cymdeithasol a'r ffaith eu bod
wedi tynnu'n ôl o fuddsoddiadau sy'n gysylltiedig â charbon wrth gydbwyso'u
cyfrifoldebau ymddiriedol. 3) Metro Gorllewin Cymru Ailadroddodd Arweinydd
y Cyngor ei gefnogaeth ar gyfer Metro Gorllewin Cymru a dywedodd y byddai
cyhoeddiad diweddar Lywodraeth DU o £20 miliwn tuag at Orsaf Drenau Parcffordd Abertawe yn gweithio fel rhan o isadeiledd
trafnidiaeth ehangach yn unig. 4)
Rhyddid er Anrhydedd y Ddinas i Catherine Zeta-Jones Amlinellodd Arweinydd y Cyngor lwyddiant y
digwyddiadau a oedd yn ymwneud â Catherine Zeta-Jones yn derbyn Rhyddid er
Anrhydedd y Ddinas. Diolchodd i bawb a
fu'n gysylltiedig â hyn, yn enwedig y Cynghorydd Robert Francis-Davies. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran
agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Cyflwyniad Cyhoeddus - Dim. Cofnodion: Ni dderbyniwyd cyflwyniadau cyhoeddus. |
|
Adroddiad blynyddol ar weithio rhanbarthol 2018/19 PDF 178 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Arweinydd y
Cyngor adroddiad a oedd yn rhoi'r diweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran
Gweithio Rhanbarthol yn ystod 2018-2019 yn benodol ar gyfer Ein Rhanbarth ar
Waith (ERW), Bae'r Gorllewin (Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg) a
Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi. Sylwer: Gofynnodd y Cynghorydd M H Jones gwestiwn ynghylch diffyg Craffu mewn
perthynas â Bae'r Gorllewin (Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg).
Esboniodd y Cynghorydd M C Child y byddai'r Bartneriaeth Ranbarthol yn
croesawu'r broses graffu. Dywedodd Arweinydd y
Cyngor y byddai'n ysgrifennu at y Cadeirydd i ofyn am y diweddaraf am y mater
craffu. |
|
Adroddiad Blynyddol 2017/18 - Prif Swyddog Y Gwasanaethau Cymdeithasol. PDF 144 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Cyfarwyddwr
y Gwasanaethau Cymdeithasol adroddiad a oedd yn rhoi ei gyfrif ef o daith
wella'r cyngor i 2018-2019, a pha mor dda oedd y cyngor yn bodloni ei ofynion
statudol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Roedd yr adroddiad
hefyd yn edrych yn ôl ar feysydd i'w gwella'r flwyddyn flaenorol, a'r heriau a
wynebwyd ac yn gosod blaenoriaethau ar gyfer 2019-2020. Mae'r adroddiad yn
nodi'r newidiadau a gafwyd o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn gwneud
cynnydd tuag at ganlyniadau llesiant cenedlaethol. Penderfynwyd derbyn a nodi Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol
2018-2019. Sylwer: Gofynnodd y Cynghorydd P M Black gwestiwn ynghylch
yr ymateb a gafodd o ran Cwestiwn 10 i'r Cynghorydd. Dywedodd nad oedd yr
ymateb yn ateb ei gwestiwn, ond ei fod yn rhoi manylion contract y cyngor
gyda'r YMCA yn lle. Nid oes gan y YMCA gontract i gynnal asesiadau statudol o
ofalwyr ifanc. Gofynnodd i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ddarparu
ateb diwygiedig a fyddai'n mynd i'r afael â'r holl bwyntiau yn y cwestiwn
gwreiddiol. Nododd Cyfarwyddwr y
Gwasanaethau Cymdeithasol y darperir ymateb ysgrifenedig. |
|
Adroddiad Blynyddol Partneriaethau Hamdden 17/18. PDF 153 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn darparu
gwybodaeth am weithdrefnau partneriaeth cyfleusterau allweddol ym mhortffolio'r
Gwasanaethau Diwylliannol. Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Cydbwyllgor Penodiadau - Bargen Ddinesig Bae Abertawe. PDF 110 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y
Cyngor adroddiad a oedd yn ceisio sefydlu Cyd-bwyllgor Penodiadau
Dinas-ranbarth Bae Abertawe i benodi Cyfarwyddwr y Rhaglen. Penderfynwyd: 1)
Sefydlu Cyd-bwyllgor Penodiadau Dinas-ranbarth Bae
Abertawe. Bydd y Cyd-bwyllgor yn gyfrifol am benodi Cyfarwyddwr Rhaglen ar
gyfer Bargen Ddinesig Dinas-ranbarth Bae Abertawe; 2)
Penodi Arweinydd y Cyngor (y Cynghorydd R C Stewart) a'r
Cynghorydd J P Curtice (Aelod Anweithredol) i Gyd-bwyllgor Penodiadau
Dinas-ranbarth Bae Abertawe; 3)
Dirprwyo'r dasg o greu rhestr fer o ymgeiswyr i Arweinwyr
Cyngor y pedwar awdurdod. |
|
Newidiadau i gyfansoddiad y Cyngor. PDF 122 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro a
Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar y cyd a oedd yn ceisio
gwneud diwygiadau er mwyn symleiddio, gwella a/neu ychwanegu at Gyfansoddiad y
Cyngor. Roedd y newidiadau arfaethedig yn ymwneud â'r
meysydd canlynol o Gyfansoddiad y Cyngor: a)
Rhan 2 - Erthyglau'r Cyfansoddiad - Erthygl 4 "Cyfarfod y cyngor"; b)
Rhan 3 - Cyfrifoldeb am Swyddogaethau - Cynllun
Dirprwyo; c)
Rhan 3 - Ymatebolrwydd ar gyfer Swyddogaethau -
Cylch Gorchwyl - Pwyllgorau Datblygu Polisi (PDP); d)
Rhan 4 - Rheolau Gweithdrefnau - Rheolau
Gweithdrefnau Ariannol. Cyflwynwyd y diwygiadau i Ran 4 - Rheolau
Gweithdrefnau - Rheolau Gweithdrefnau Ariannol fel yr amlinellir yn Atodiad A
o'r adroddiad er gwybodaeth yn unig, gan fod y newidiadau eisoes wedi cael eu
rhoi ar waith gan y Swyddog Monitro yn dilyn trafodaethau â'r Prif Swyddog
Cyllid dan Erthygl 15 "Adolygu a Diwygio'r Cyfansoddiad". Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y
dylai enw arfaethedig newydd Pwyllgor Datblygu Polisi Trawsnewid a Chyngor y
Dyfodol ddarllen Pwyllgor Datblygu Polisi Cydraddoldebau
a Chenedlaethau'r Dyfodol. Mae Cadeirydd ac Aelodaeth y Pwyllgor Datblygu
Polisi a ailenwyd yn aros yr un peth â'r corff gwreiddiol. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r diwygiadau i Ran 2 - Erthyglau'r Cyfansoddiad - Erthygl 4
"Cyfarfod y Cyngor" fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad; 2)
Cymeradwyo'r diwygiadau
i
Ran 3 - Cyfrifoldeb am Swyddogaethau - Cynllun Dirprwyo fel y'u hamlinellir yn
yr adroddiad; 3)
Cymeradwyo'r diwygiadau i Ran 3 - Ymatebolrwydd ar gyfer Swyddogaethau -
Cylch Gorchwyl - Pwyllgorau Datblygu Polisi (PDP) fel y'u hamlinellir yn yr
adroddiad; 4)
Y bydd Cadeirydd Pwyllgor Datblygu Polisi Cydraddoldebau a Chenedlaethau'r Dyfodol yn derbyn cyflog
uwch. |
|
Aelodaeth Pwyllgorau. PDF 91 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth y cyngor ar gyfer yr enwebiadau/diwygiadau i aelodaeth cyrff y
cyngor. Ychwanegodd ychydig o
ddiwygiadau i'r adroddiad hefyd. Penderfynwyd y dylid diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn: 1)
Panel Ymddiriedolwyr Tynnu enw'r Cynghorydd
W Evans. Ychwanegu lle Llafur gwag. |
|
Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol. PDF 127 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r
Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol. |
|
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 196 KB Cofnodion: 1)
‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A Cyflwynwyd
saith (7) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A.
Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar
ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor. Dangosir
y cwestiwn/cwestiynau atodol hwnnw/hynny yr oedd angen ymateb ysgrifenedig
arno/arnynt isod: Cwestiwn 1. Gofynnod y Cynghorydd P N May: "Pa fathau o dystiolaeth y mae eu hangen ar y cyngor er mwyn bod yn
debygol o erlyn person am dipio anghyfreithlon?" Dywedodd
Aelod y Cabinet dros Reoli'r Amgylchedd ac Isadeiledd y byddai ymateb
ysgrifenedig yn cael ei ddarparu. Cwestiwn 5. Gofynnodd y Cynghorydd E W Fitzgerald: "Faint o breswylwyr oedd wedi ysgrifennu atom, gan anfon eu tocynnau
parcio ceir fel prawf prynu ar ôl iddynt dderbyn Tocyn Gorfodi Parcio o
ganlyniad i fethu arddangos eu tocyn?" Dywedodd
Aelod y Cabinet dros Reoli'r Amgylchedd ac Isadeiledd y byddai ymateb
ysgrifenedig yn cael ei ddarparu. Question 6. Gofynnodd
y Cynghorydd A M Day: "1) A ymgynghorir â'r cyngor
fel corff ynghylch cau canghennau banciau? 2)
Sut bydd y bobl sydd wedi'u heithrio'n ddigidol yn cael
mynediad at wasanaethau bancio ar ôl i ganghennau banciau gau?” Dywedodd
Aelod y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda y byddai ymateb
ysgrifenedig yn cael ei ddarparu. 2) ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B Cyflwynwyd pedwar (4) cwestiwn Rhan B nad oedd angen cwestiynau atodol ar eu cyfer. |