Lleoliad: Reynoldston Village Hall - Church Meadow, Reynoldston, Gŵyr, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod
blynyddol Partneriaeth AoHNE Gŵyr a gynhaliwyd ar 23 Medi 2019 fel cofnod cywir. |
|
Materion yn codi o'r cofnodion. Cofnodion: Dim. |
|
Cais am Ddyfarniad Cymuned Awyr Dywyll - Diweddariad. PDF 272 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Swyddog AoHNE Gŵyr adroddiad diweddaru ar ran Arweinydd Tîm AoHNE
Gŵyr am Gais Cymuned Awyr Dywyll Gŵyr. Eglurwyd bod un mater yn weddill y byddai'n cymryd mwy o amser i'w ddatrys
gyda'r Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol (IDA). I grynhoi, roedd y mater yn
ymwneud â chael dulliau diogelu ar waith mewn cyfarwyddyd cynllunio ynghylch
'tymheredd lliw' goleuadau datblygu ym mhenrhyn Gŵyr. Roedd yr IDFA yn
ceisio trothwyau o 3000kelvin yn yr AoHNE. Disgrifiwyd bod 3000kelvin yn lliw
'gwyn cynnes', a byddai'r trothwy yn cyfyngu ar olau sbectrwm glas a oedd yn
gysylltiedig ag effeithiau ar iechyd dynol a bywyd gwyllt. Nid oedd yr IDA yn derbyn yr ymagwedd arfaethedig a ddarparwyd - roedd am sicrhau
bod terfyn y trothwy wedi'i gynnwys yn y Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) cyn
i'r cyngor benderfynu ar y cais. Ychwanegwyd bod Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr
yn gweithio gyda chydweithwyr yn yr adran polisïau cynllunio i wneud y
newidiadau angenrheidiol, ond y byddai'n cymryd cryn amser yn y flwyddyn newydd
i orffen y CCA. Amlinellwyd y camau gweithredu a oedd ar ôl ar gyfer y prosiect
hefyd. Trafododd y
grŵp y canlynol: - ·
Materion
diogelwch sy'n gysylltiedig â diffyg goleuadau a sut roedd templed y CCA wedi'i
ddefnyddio'n helaeth ledled y DU ac wedi canolbwyntio ar sawl maes gan gynnwys
diogelwch. ·
Darparu
goleuadau ar y briffordd lle bo'r angen, a pheidio â chyfyngu ar oleuadau ar y
briffordd; ·
Enghreifftiau
o oleuo da/gwael yn yr AoHNE; ·
Y
trothwy 3000 kelvin a fynnir gan yr IDA, Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru - Fframwaith Datblygu Cenedlaethol. PDF 309 KB Cofnodion: Cyflwynodd Swyddog AoHNE Gŵyr adroddiad 'er gwybodaeth' ar ran
Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr. Eglurwyd
bod Llywodraeth Cymru newydd orffen ymgynghoriad ffurfiol ar y Fframwaith
Datblygu Cenedlaethol (FfDC) Drafft a fyddai'n gosod y
cyfeiriad ar gyfer datblygu yng Nghymru o 2020 i 2040. Ychwanegwyd bod y FfDC drafft yn mynd i'r afael â
blaenoriaethau cenedlaethol drwy'r system gynllunio, gan gynnwys: - ·
cynnal a datblygu economi
lewyrchus; ·
datgarboneiddio; ·
datblygu ecosystemau cydnerth;
a ·
gwella iechyd a lles ein
cymunedau. Roedd manylion yr ymgynghoriad hefyd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru a
darparwyd ymateb Cyngor Abertawe i'r FfDC drafft a
oedd yn codi pwyntiau penodol am Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol. |
|
Adolygiad Canllaw Dylunio AHNE Gwyr. PDF 119 KB Cofnodion: Darparodd Swyddog AoHNE Gŵyr adroddiad diweddaru am Adolygiad o
Ganllaw Dylunio AoHNE Gŵyr. Ychwanegwyd, yn dilyn mabwysiadau'r Cynllun
Datblygu Lleol (CDLl) ym mis Chwefror 2019, fod y Canllaw Dylunio wedi'i
ddiweddaru a'i ehangu gan y Tîm Cynllunio Polisi, drwy weithio gyda Nathaniel Lichfield & Partners. Byddai'r
rhifyn diweddaredig yn cynnwys adrannau newydd ar
gabanau; Goleuo ac Arwyddion Hysbysebu. Disgwylid y byddai'r ymgynghoriad cyhoeddus 6 wythnos yn dechrau ar ddiwedd
mis Ionawr ac y byddai'n cael ei fabwysiadu a'i gyhoeddi ym mis Mai 2020. Trafododd y Grŵp Llywio'r canlynol: - ·
Yr arweiniad ar wahân sy'n cael ei ddrafftio ar gyfer
parciau carafanau; ·
Adolygiad o'r Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA); ·
Dulliau gweithio'r Grŵp Llywio wrth gynorthwyo â
drafftio/chraffu ar bolisïau sy'n effeithio ar yr AoHNE; ·
Sut yr ymgynghorir â'r Grŵp Llywio'n effeithiol a
chynnwys y grŵp yn uniongyrchol wrth ddrafftio/adolygu polisïau. ·
Gwybodaeth berthnasol yn cael ei ddosbarthu i'r Grŵp
Llywio e.e. cael gwybod am brosiectau perthnasol yn yr AoHNE. Penderfynwyd: - 1)
Nodi cynnwys yr adroddiad; 2)
Sefydlu Gweithgor ar ddechrau'r flwyddyn newydd o
aelodaeth y Grŵp Llywio er mwyn rhoi mewnbwn uniongyrchol i'r adolygiad. |
|
Materion Parcio Cefn Bryn. (Llafar) Cofnodion: Darparodd Steve
Heard, Is-gadeirydd, ddiweddariad llafar ynghylch cyfarfod y Gweithgor a
gynhaliwyd i drafod y problemau parcio cyfredol yng Nghefn Bryn. Ychwanegodd fod
yr Is-Grŵp wedi tynnu sylw at y canlynol: - ·
Nid
oedd neb yn mynd i'r afael â'r broblem parcio ar ael y bryn; ·
Roedd
pobl yn parcio ym mhellach ar Gefn Bryn, gan achosi erydiad; ·
Yr
unig le y gallai ymwelwyr barcio i allu ymweld â Maen Ceti
(Carreg Arthur) oedd yr ardal bresennol ar ben Cefn Bryn; ·
Mae
angen lleihau'r lle parcio sydd ar gael ar ael y bryn er mwyn gallu rheoli'r
parcio/parcio dros nos. ·
Rhaid
bod ymwelwyr yn gallu parcio yn rhywle. Gwnaeth y
Grŵp Llywio sylw ar yr wyneb ar ael Cefn Bryn; yr opsiynau sydd ar gael ar
gyfer y dyfodol; addysgu ymwelwyr am anifeiliaid; cael ymwelwyr oddi ar y ffordd
wrth aros ar ben y bryn; opsiynau ariannu a'r effaith ar y SoDdGA Penderfynwyd nodi cynnwys y diweddariad. |
|
Cronfa Datblygu Cynaliadwy. PDF 216 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Darparodd Steve
Heard, Is-gadeirydd, ddiweddariad llafar ynghylch cyfarfod y Gweithgor a gynhaliwyd
i drafod y problemau parcio cyfredol yng Nghefn Bryn. Ychwanegodd fod
yr Is-Grŵp wedi tynnu sylw at y canlynol: - ·
Nid
oedd neb yn mynd i'r afael â'r broblem parcio ar ael y bryn; ·
Roedd
pobl yn parcio ym mhellach ar Gefn Bryn, gan achosi erydiad; ·
Yr
unig le y gallai ymwelwyr barcio i allu ymweld â Maen Ceti
(Carreg Arthur) oedd yr ardal bresennol ar ben Cefn Bryn; ·
Mae
angen lleihau'r lle parcio sydd ar gael ar ael y bryn er mwyn gallu rheoli'r
parcio/parcio dros nos. ·
Rhaid
bod ymwelwyr yn gallu parcio yn rhywle. Gwnaeth y
Grŵp Llywio sylw ar yr wyneb ar ael Cefn Bryn; yr opsiynau sydd ar gael ar
gyfer y dyfodol; addysgu ymwelwyr am anifeiliaid; cael ymwelwyr oddi ar y
ffordd wrth aros ar ben y bryn; opsiynau ariannu a'r effaith ar y SoDdGA Penderfynwyd nodi cynnwys y diweddariad. |
|
Is-grwp Cynllun Rheoli AHNE Gwyr. (Llafar) Cofnodion: Adroddwyd bod yr
is-grŵp wedi'i drefnu ond eu bod yn aros i ddyddiad cwrdd gael ei drefnu'n
derfynol. Holodd y Grŵp Llywio a oedd angen aelodau ychwanegol ar gyfer yr
Is-grŵp. Penderfynwyd: 1)
Nodi
cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf; 2) Anfon yr ymholiad ynghylch yr aelodaeth ychwanegol ymlaen at Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr. |
|
Llwybrau Troed Amlddefnydd Arfaethedig. Cofnodion: Hysbyswyd y
Grŵp Llywio gan Chris Dale, Arweinydd Tîm Mynediad i Gefn Gwlad, o
gynigion Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) i newid
hawliau mynediad. Trafododd y
Grŵp Llywio'r mater yn fanwl fel a ganlyn: - ·
Cynigion/newidiadau
deddfwriaethol gan Lywodraeth Cymru; ·
Ymgynghoriadau
LlCC ynghylch mynediad i lwybrau troed, gwahaniaethu
rhwng llwybrau ceffyl/llwybrau troed ac agosrwydd at lwybrau troed tai preswyl
ym mhenrhyn Gŵyr. ·
Caniatáu
i feicwyr ddefnyddio llwybrau ceffyl ym mhenrhyn Gŵyr yn Ryer’s Down, Bryn Llanmadog a Harding’s
Down; ·
Difrod
posib i'r cloddwaith/henebion sylweddol yn yr ardal; ·
Problemau
diogelwch posib a achosir gan feicwyr yn brawychu ceffylau ar lwybrau troed,
ymddygiad gwael beicwyr tuag at geffylau/marchogion a mynd i'r afael â'r
'ymagwedd dawel'; ·
Addysgu
defnyddwyr (yn enwedig beicwyr) ynghylch defnyddio llwybrau troed/ llwybrau
ceffyl; ·
Sicrhau
nad yw penderfyniad LlCC yn cael ei farnu ymlaen
llaw; ·
Osgoi
'ralïau' ar rannau bach o drac/llwybr troed Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Grwp Llywio Grwp Gweithredu Tir Comin. Cofnodion: Amlygodd John Marson, Grŵp Gweithredu Diogelwch Tir Comin Gŵyr y
nifer uchel o anifeiliaid sy'n cael eu lladd ar dir comin Gŵyr oherwydd
cyflymder traffig. Ychwanegodd fod cominwyr Gŵyr yn symud eu hanifeiliaid o'r tir comin
gan olygu bod coed/deiliant yn tyfu'n wyllt. Amlygodd hefyd fod angen arwyddion
rhybudd cyflymder ychwanegol. Penderfynwyd ychwanegu'r eitem at agenda'r cyfarfod nesaf a drefnir. |
|
Diffyg Ymateb gan y Gwasanaethau Cynllunio. Cofnodion: Gwnaeth Gordon
Howe, Cymdeithas Gŵyr, sylw, yn ei brofiad ef, ar yr ymateb araf
iawn/diffyg ymateb gan Gyngor Abertawe o ran y cwynion a gyflwynwyd. Ychwanegodd ei fod yn dymuno osgoi mynd ar
drywydd materion drwy'r Ombwdsmon ac anogodd bawb i fod yn ymwybodol o'r
materion a oedd yn niweidio'r AoHNE. |
|
Coetir yn Cartersford. Cofnodion: Amlygodd Gordon
Howe, Cymdeithas Gŵyr, fod coed wedi'u torri yn Cartersford a bod carafán
yng nghanol y coetir hwn, sy'n anghyfreithlon yn ei farn ef. Gofynnodd am gamau
gweithredu er mwyn atal y dinistr/symud y garafán. Dywedwyd wrtho
nad oedd angen camau gorfodi ar hyn o bryd a bod trwydded torri coed wedi'i
rhoi gan CNC ar gyfer y gwaith. |