Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Reynoldston Village Hall - Church Meadow, Reynoldston, Gŵyr, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

26.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir

Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

27.

Cofnodion. pdf eicon PDF 255 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod blynyddol Partneriaeth AoHNE Gŵyr a gynhaliwyd ar 23 Medi 2019 fel cofnod cywir.

28.

Materion yn codi o'r cofnodion.

Cofnodion:

Dim.

29.

Cais am Ddyfarniad Cymuned Awyr Dywyll - Diweddariad. pdf eicon PDF 272 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog AoHNE Gŵyr adroddiad diweddaru ar ran Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr am Gais Cymuned Awyr Dywyll Gŵyr.

 

Eglurwyd bod un mater yn weddill y byddai'n cymryd mwy o amser i'w ddatrys gyda'r Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol (IDA). I grynhoi, roedd y mater yn ymwneud â chael dulliau diogelu ar waith mewn cyfarwyddyd cynllunio ynghylch 'tymheredd lliw' goleuadau datblygu ym mhenrhyn Gŵyr. Roedd yr IDFA yn ceisio trothwyau o 3000kelvin yn yr AoHNE. Disgrifiwyd bod 3000kelvin yn lliw 'gwyn cynnes', a byddai'r trothwy yn cyfyngu ar olau sbectrwm glas a oedd yn gysylltiedig ag effeithiau ar iechyd dynol a bywyd gwyllt.

 

Nid oedd yr IDA yn derbyn yr ymagwedd arfaethedig a ddarparwyd - roedd am sicrhau bod terfyn y trothwy wedi'i gynnwys yn y Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) cyn i'r cyngor benderfynu ar y cais. Ychwanegwyd bod Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr yn gweithio gyda chydweithwyr yn yr adran polisïau cynllunio i wneud y newidiadau angenrheidiol, ond y byddai'n cymryd cryn amser yn y flwyddyn newydd i orffen y CCA. Amlinellwyd y camau gweithredu a oedd ar ôl ar gyfer y prosiect hefyd.

 

Trafododd y grŵp y canlynol: -

 

·         Materion diogelwch sy'n gysylltiedig â diffyg goleuadau a sut roedd templed y CCA wedi'i ddefnyddio'n helaeth ledled y DU ac wedi canolbwyntio ar sawl maes gan gynnwys diogelwch.

·         Darparu goleuadau ar y briffordd lle bo'r angen, a pheidio â chyfyngu ar oleuadau ar y briffordd;

·         Enghreifftiau o oleuo da/gwael yn yr AoHNE;

·         Y trothwy 3000 kelvin a fynnir gan yr IDA,

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.

30.

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru - Fframwaith Datblygu Cenedlaethol. pdf eicon PDF 309 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog AoHNE Gŵyr adroddiad 'er gwybodaeth' ar ran Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr.  Eglurwyd bod Llywodraeth Cymru newydd orffen ymgynghoriad ffurfiol ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (FfDC) Drafft a fyddai'n gosod y cyfeiriad ar gyfer datblygu yng Nghymru o 2020 i 2040.

 

Ychwanegwyd bod y FfDC drafft yn mynd i'r afael â blaenoriaethau cenedlaethol drwy'r system gynllunio, gan gynnwys: -

 

·         cynnal a datblygu economi lewyrchus;

·         datgarboneiddio;

·         datblygu ecosystemau cydnerth; a

·         gwella iechyd a lles ein cymunedau.

 

Roedd manylion yr ymgynghoriad hefyd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru a darparwyd ymateb Cyngor Abertawe i'r FfDC drafft a oedd yn codi pwyntiau penodol am Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol.

31.

Adolygiad Canllaw Dylunio AHNE Gwyr. pdf eicon PDF 119 KB

Cofnodion:

Darparodd Swyddog AoHNE Gŵyr adroddiad diweddaru am Adolygiad o Ganllaw Dylunio AoHNE Gŵyr. Ychwanegwyd, yn dilyn mabwysiadau'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) ym mis Chwefror 2019, fod y Canllaw Dylunio wedi'i ddiweddaru a'i ehangu gan y Tîm Cynllunio Polisi, drwy weithio gyda Nathaniel Lichfield & Partners.  Byddai'r rhifyn diweddaredig yn cynnwys adrannau newydd ar gabanau; Goleuo ac Arwyddion Hysbysebu.

 

Disgwylid y byddai'r ymgynghoriad cyhoeddus 6 wythnos yn dechrau ar ddiwedd mis Ionawr ac y byddai'n cael ei fabwysiadu a'i gyhoeddi ym mis Mai 2020.

 

Trafododd y Grŵp Llywio'r canlynol: -

 

·         Yr arweiniad ar wahân sy'n cael ei ddrafftio ar gyfer parciau carafanau;

·         Adolygiad o'r Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA);

·         Dulliau gweithio'r Grŵp Llywio wrth gynorthwyo â drafftio/chraffu ar bolisïau sy'n effeithio ar yr AoHNE;

·         Sut yr ymgynghorir â'r Grŵp Llywio'n effeithiol a chynnwys y grŵp yn uniongyrchol wrth ddrafftio/adolygu polisïau.

·         Gwybodaeth berthnasol yn cael ei ddosbarthu i'r Grŵp Llywio e.e. cael gwybod am brosiectau perthnasol yn yr AoHNE.

 

Penderfynwyd:   -

 

1)    Nodi cynnwys yr adroddiad;

2)    Sefydlu Gweithgor ar ddechrau'r flwyddyn newydd o aelodaeth y Grŵp Llywio er mwyn rhoi mewnbwn uniongyrchol i'r adolygiad.

 

32.

Materion Parcio Cefn Bryn. (Llafar)

Cofnodion:

Darparodd Steve Heard, Is-gadeirydd, ddiweddariad llafar ynghylch cyfarfod y Gweithgor a gynhaliwyd i drafod y problemau parcio cyfredol yng Nghefn Bryn.

 

Ychwanegodd fod yr Is-Grŵp wedi tynnu sylw at y canlynol: -

 

·         Nid oedd neb yn mynd i'r afael â'r broblem parcio ar ael y bryn;

·         Roedd pobl yn parcio ym mhellach ar Gefn Bryn, gan achosi erydiad;

·         Yr unig le y gallai ymwelwyr barcio i allu ymweld â Maen Ceti (Carreg Arthur) oedd yr ardal bresennol ar ben Cefn Bryn;

·         Mae angen lleihau'r lle parcio sydd ar gael ar ael y bryn er mwyn gallu rheoli'r parcio/parcio dros nos.

·         Rhaid bod ymwelwyr yn gallu parcio yn rhywle.

 

Gwnaeth y Grŵp Llywio sylw ar yr wyneb ar ael Cefn Bryn; yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer y dyfodol; addysgu ymwelwyr am anifeiliaid; cael ymwelwyr oddi ar y ffordd wrth aros ar ben y bryn; opsiynau ariannu a'r effaith ar y SoDdGA

 

Penderfynwyd nodi cynnwys y diweddariad.

33.

Cronfa Datblygu Cynaliadwy. pdf eicon PDF 216 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd Steve Heard, Is-gadeirydd, ddiweddariad llafar ynghylch cyfarfod y Gweithgor a gynhaliwyd i drafod y problemau parcio cyfredol yng Nghefn Bryn.

 

Ychwanegodd fod yr Is-Grŵp wedi tynnu sylw at y canlynol: -

 

·         Nid oedd neb yn mynd i'r afael â'r broblem parcio ar ael y bryn;

·         Roedd pobl yn parcio ym mhellach ar Gefn Bryn, gan achosi erydiad;

·         Yr unig le y gallai ymwelwyr barcio i allu ymweld â Maen Ceti (Carreg Arthur) oedd yr ardal bresennol ar ben Cefn Bryn;

·         Mae angen lleihau'r lle parcio sydd ar gael ar ael y bryn er mwyn gallu rheoli'r parcio/parcio dros nos.

·         Rhaid bod ymwelwyr yn gallu parcio yn rhywle.

 

Gwnaeth y Grŵp Llywio sylw ar yr wyneb ar ael Cefn Bryn; yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer y dyfodol; addysgu ymwelwyr am anifeiliaid; cael ymwelwyr oddi ar y ffordd wrth aros ar ben y bryn; opsiynau ariannu a'r effaith ar y SoDdGA

 

Penderfynwyd nodi cynnwys y diweddariad.

34.

Is-grwp Cynllun Rheoli AHNE Gwyr. (Llafar)

Cofnodion:

Adroddwyd bod yr is-grŵp wedi'i drefnu ond eu bod yn aros i ddyddiad cwrdd gael ei drefnu'n derfynol. Holodd y Grŵp Llywio a oedd angen aelodau ychwanegol ar gyfer yr Is-grŵp.

 

Penderfynwyd:   

 

1)    Nodi cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf;

2)    Anfon yr ymholiad ynghylch yr aelodaeth ychwanegol ymlaen at Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr.

35.

Llwybrau Troed Amlddefnydd Arfaethedig.

Cofnodion:

Hysbyswyd y Grŵp Llywio gan Chris Dale, Arweinydd Tîm Mynediad i Gefn Gwlad, o gynigion Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) i newid hawliau mynediad.

 

Trafododd y Grŵp Llywio'r mater yn fanwl fel a ganlyn: -

 

·         Cynigion/newidiadau deddfwriaethol gan Lywodraeth Cymru;

·         Ymgynghoriadau LlCC ynghylch mynediad i lwybrau troed, gwahaniaethu rhwng llwybrau ceffyl/llwybrau troed ac agosrwydd at lwybrau troed tai preswyl ym mhenrhyn Gŵyr.

·         Caniatáu i feicwyr ddefnyddio llwybrau ceffyl ym mhenrhyn Gŵyr yn Ryer’s Down, Bryn Llanmadog a Harding’s Down;

·         Difrod posib i'r cloddwaith/henebion sylweddol yn yr ardal;

·         Problemau diogelwch posib a achosir gan feicwyr yn brawychu ceffylau ar lwybrau troed, ymddygiad gwael beicwyr tuag at geffylau/marchogion a mynd i'r afael â'r 'ymagwedd dawel';

·         Addysgu defnyddwyr (yn enwedig beicwyr) ynghylch defnyddio llwybrau troed/ llwybrau ceffyl;

·         Sicrhau nad yw penderfyniad LlCC yn cael ei farnu ymlaen llaw;

·         Osgoi 'ralïau' ar rannau bach o drac/llwybr troed

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.

36.

Grwp Llywio Grwp Gweithredu Tir Comin.

Cofnodion:

Amlygodd John Marson, Grŵp Gweithredu Diogelwch Tir Comin Gŵyr y nifer uchel o anifeiliaid sy'n cael eu lladd ar dir comin Gŵyr oherwydd cyflymder traffig.  Ychwanegodd fod cominwyr Gŵyr yn symud eu hanifeiliaid o'r tir comin gan olygu bod coed/deiliant yn tyfu'n wyllt. Amlygodd hefyd fod angen arwyddion rhybudd cyflymder ychwanegol.

 

Penderfynwyd ychwanegu'r eitem at agenda'r cyfarfod nesaf a drefnir.

37.

Diffyg Ymateb gan y Gwasanaethau Cynllunio.

Cofnodion:

Gwnaeth Gordon Howe, Cymdeithas Gŵyr, sylw, yn ei brofiad ef, ar yr ymateb araf iawn/diffyg ymateb gan Gyngor Abertawe o ran y cwynion a gyflwynwyd.  Ychwanegodd ei fod yn dymuno osgoi mynd ar drywydd materion drwy'r Ombwdsmon ac anogodd bawb i fod yn ymwybodol o'r materion a oedd yn niweidio'r AoHNE.

38.

Coetir yn Cartersford.

Cofnodion:

Amlygodd Gordon Howe, Cymdeithas Gŵyr, fod coed wedi'u torri yn Cartersford a bod carafán yng nghanol y coetir hwn, sy'n anghyfreithlon yn ei farn ef. Gofynnodd am gamau gweithredu er mwyn atal y dinistr/symud y garafán.

 

Dywedwyd wrtho nad oedd angen camau gorfodi ar hyn o bryd a bod trwydded torri coed wedi'i rhoi gan CNC ar gyfer y gwaith.