Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Reynoldston Village Hall - Church Meadow, Reynoldston, Gŵyr, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Croeso a Chyflwyniadau.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol i Neuadd Bentref Reynoldston a dechrau'r cyfarfod. 

2.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir

Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

3.

Cofnodion. pdf eicon PDF 123 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd derbyn cofnodion cyfarfod Grŵp Llywio Partneriaeth AoHNE

Gŵyr Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mawrth 2019 fel

cofnod cywir.

4.

Materion yn codi o'r cofnodion.

Cofnodion:

Dim.

5.

Cylch gorchwyl. (Er gwybodaeth) pdf eicon PDF 72 KB

Cofnodion:

Adroddwyd am y Cylch Gorchwyl 'er gwybodaeth'.

6.

Cyflwyniad - Gwaith a Rolau Partneriaeth AoHNE Gwyr a Thîm AoHNE Gwyr.

Cofnodion:

Rhoddodd Mike Scott, Swyddog AoHNE Gŵyr, gyflwyniad ar waith Partneriaeth AoHNE Gŵyr. Amlinellodd ddynodiad AoHNE Gŵyr, rôl Partneriaeth AoHNE Gŵyr a gwaith Tîm AoHNE yn Ninas a Sir Abertawe.

7.

Cyflwyniadau gan y canlynol: -

·         Cyfoeth Naturiol Cymru;

·         Gwerinwyr Gŵyr;

·         Cymdeithas Gŵyr;

·         Tîm Cynllunio Strategol, Cyngor Abertawe.

Cofnodion:

·         Gwerinwyr Gŵyr

 

Rhoddodd Peter Lanfear o Werinwyr Gŵyr gyflwyniad ar waith Gwerinwyr Gŵyr. Tynnodd sylw at y traffig sy'n gyrru'n rhy gyflym ar y tir comin, colli da byw o ganlyniad i ddamweiniau traffig a cholli cynefin ar y tir comin o ganlyniad i'r lleihad sylweddol yn nifer y da byw sy'n pori ar y tir comin.

 

·         Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)

 

Rhoddodd Hamish Osborn o CNC gyflwyniad ar rôl a gwaith CNC. Amlygodd rôl y sefydliad o fewn AoHNE Gŵyr, gan gynnwys enghreifftiau o waith ar Benrhyn Gŵyr; gwaith CNC o ran rheoli coedwigaeth ac ansawdd dŵr; safleoedd dynodedig; gwaith rheoli tirwedd a warchodir; prosiectau llygod y dŵr a llyswennod; a rownd arian grant nesaf CNC yn hydref 2019.

 

·         Cymdeithas Gŵyr

 

Rhoddodd Guto Ap Gwent, cadeirydd Cymdeithas Gŵyr gyflwyniad ar waith y gymdeithas. Siaradodd am hanes y gymdeithas a'r rôl arwyddocaol sydd gan y gymdeithas ar Benrhyn Gŵyr, gan gynnwys ei amcanion. Cyfeiriodd at y gwaith cynllunio a wnaethpwyd gan y gymdeithas, ei rôl o ran twristiaeth a'r grantiau a'r cymorth ariannol a roddwyd gan y gymdeithas yn ystod y flwyddyn flaenorol.

 

·         Cyngor Abertawe, Y Tîm Cynllunio Strategol

 

Rhoddodd Tom Evans, Arweinydd y Tîm Cynllunio Strategol, gyflwyniad ar sut mae'r Cynllun Datblygu Lleol, a gymeradwywyd yn ddiweddar gan Gyngor Abertawe, wedi effeithio ar AoHNE Gŵyr a'i chymunedau.

8.

Adolygiad blynyddol o Gynllun Gweithredu AoHNE Gwyr.

Cofnodion:

Rhoddodd Chris Lindley, Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr, gyflwyniad a roddodd adolygiad blynyddol o Gynllun Gweithredu AoHNE Gŵyr. Dywedodd fod disgwyl i'r Cynllun ddod i ben yn 2021-22, ac mae'n amlinellu'r fframwaith ar gyfer y Cynllun Gweithredu. Rhoddodd y diweddaraf ynghylch y Cynllun Datblygu Lleol, Partneriaeth Tirwedd Gŵyr, cais Awyr Dywyll Gŵyr, prosiect wal Mewslade a Hwb Gwrychoedd Gŵyr ac amlinellodd y camau gweithredu arfaethedig ar gyfer 2019-20.

9.

Ethol deg aelod ar gyfer Grwp Llywio AoHNE Gwyr o'r enwebiadau a dderbyniwyd:

Cofnodion:

Esboniodd y Cadeirydd fod 12 o enwebiadau wedi'u derbyn am 10 o swyddi gwag fel aelodau o Grŵp Llywio'r Bartneriaeth.  Felly, roedd angen etholiad. 

 

Dosbarthwyd papurau pleidleisio i bawb a oedd yn bresennol.  Derbyniwyd 42 o bapurau pleidleisio.

 

Penderfynwyd ethol y canlynol i Grŵp Llywio Partneriaeth AoHNE Gŵyr am gyfnod o ddwy flynedd, yn unol â'r cylch gorchwyl: -

 

Roger Button                                   

James Chambers

John France

Steve Heard

Sue Hill

Gordon Howe

Philip Jenkins

Barbara Parry

Paul Thornton

Paul Tucker

 

Hoffai'r aelodau etholedig ymuno â'r canlynol ar y Grŵp Llywio: -

 

Y Cynghorydd Paul Lloyd (Cadeirydd)

Y Cynghorydd Jan Curtice

Y Cynghorydd Paxton Hood-Williams

Y Cynghorydd Lynda James

Y Cynghorydd Andrew Stevens

Hamish Osborn - Cyfoeth Naturiol Cymru

10.

Ethol Is-Gadeirydd y Grwp Llywio ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2019/2020.

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol Stephen Heard fel Is-gadeirydd y Grŵp Llywio ar gyfer blwyddyn ddinesig  2019/20.

11.

Panel Grantiau'r Gronfa Datblygu Cynaliadwy (sy'n cynnwys Cadeirydd y Grwp Llywio, 3 Chynghorydd a 4 aelod arall).

Cofnodion:

Penderfynwyd penodi'r canlynol i Banel Grantiau'r Gronfa Datblygu Cynaliadwy: -

 

Y Cynghorydd Paul Lloyd (Cadeirydd)

Y Cynghorydd Mark Child

Y Cynghorydd Lynda James

Y Cynghorydd Andrew Stevens

David Cole

Keith Marsh

James Chambers

John France

12.

Panel Apeliadau Grantiau'r Gronfa Datblygu Cynaliadwy (sy'n cynnwys Is-Gadeirydd y Grwp Llywio, 1 Cynghorydd a 6 aelod arall nad ydynt eisoes yn aelodau o Banel Grantiau'r Gronfa Datblygu Cynaliadwy.

Cofnodion:

Penderfynwyd: -

 

1)    ethol y canlynol fel aelodau Panel Apeliadau'r Gronfa Datblygu Cynaliadwy:

 

Stephen Heard (Cadeirydd)

Barbara Parry

 

2)    cadarnhau gweddill yr aelodau yng nghyfarfod trefnedig nesaf y Grŵp Llywio.

13.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 20 munud.

Cofnodion:

Gofynnodd Rob Vine, Neuadd Bentref Reynoldston, gwestiwn ynghylch y problemau parcio parhaus a gwersylla/parcio dros nos ar ben Cefn Bryn.

 

Trafodwyd y mater yn ddwys yn ystod y cyfarfod, gan gynnwys effaith y parcio/gwersylla dros nos a pharcio cyffredinol ar y dirwedd, pentref Reynoldston a'r opsiynau posib sydd ar gael. Ychwanegwyd mai gweithio mewn partneriaeth oedd yr opsiwn gorau er mwyn lliniaru problemau gan fod y tir dan berchnogaeth breifat.

 

Nodwyd bod yr ardal dan reolaeth Cyngor Cymuned Llanrhidian Isaf.  Er hynny, byddai llythyr ar y cyd gan Gynghorau Cymunedol Llanrhidian Isaf a Reynoldston yn amlygu'r materion ymhellach.

 

Hefyd, cafodd y bobl a oedd yn bresennol yn y cyfarfod eu hannog i adrodd am unrhyw faterion sy'n peri pryder i Heddlu De Cymru ar eu rhif 101.

 

Penderfynwyd trafod y pwnc yn ystod cyfarfod trefnedig nesaf y Grŵp Llywio.