Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Down To Earth, Little Bryngwyn, Cefn Bryn, SA3 1ED. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

28.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

29.

Cofnodion. pdf eicon PDF 122 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd derbyn cofnodion cyfarfod Grŵp Llywio AoHNE Gŵyr a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr 2018 fel cofnod cywir.

30.

Materion yn codi o'r cofnodion.

Cofnodion:

·         Cyflwyniad - Astudiaeth Dichonoldeb Porth Einon/Horton – Partneriaeth Bro

 

Roedd y Grŵp Llywio'n ceisio eglurhad ar y cynnydd a wnaed ers y cyfarfod blaenorol ac a wnaed unrhyw argymhellion i'r gwasanaethau bysus. Dywedodd Chris Lindley, Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr, fod ymatebion amrywiol wedi'u derbyn ac y byddai Peter Beynon, Cydlynydd Datblygu Cyrchfannau'n darparu cyflwyniad wedi'i ddiweddaru i gyfarfod y CDG ym mis Ebrill 2019. Ychwanegodd nad oedd argymhellion wedi'u gwneud ynghylch gwella gwasanaethau, ac y byddai'r cam nesaf yn cynnwys mwy o fanylion.

 

Dywedodd y Grŵp Llywio fod gwasanaeth bws da iawn yn gwasanaethu ardal Gŵyr.

31.

Cynllun Rheoli AoHNE. pdf eicon PDF 92 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr adroddiad am Gynllun Rheoli AoHNE Gŵyr.  Amlinellwyd y ffaith bod Cyngor Abertawe wedi cytuno ar fersiwn ddiweddaredig o'r cynllun gweithredu ar gyfer 2018-21 gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), fel sail i gyflwyno rhaglen cymorth grant Partneriaeth AoHNE. Roedd y cam cyntaf yn argymell y dylid diweddaru ac adolygu'r cynllun gweithredu i gynnwys estyniad ar gyfer gweddill cyfnod cyfredol y cynllun (hyd at 2022).

 

Darparodd yr adroddiad sylwadau/adolygiad o'r cynnydd hyd yn hyn yn erbyn y camau gweithredu/amcanion yn y Cynllun Gweithredu ac roedd hefyd yn argymell cyfres o gamau gweithredu ar gyfer gweddill cyfnod cyfredol y cynllun (hyd at 2022).

 

Trafododd y Grŵp Llywio'r canlynol: -

 

·         Y diffyg ymgynghoriad ymddangosiadol rhwng yr Adran Cynllunio a Thîm AoHNE Gŵyr;

·         Nifer o faterion bach ym mhenrhyn Gŵyr sy'n effeithio ar yr AoHNE e.e. yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn sefydlu perllan mewn cae uwchben Bae Fall;

·         Sut roedd Tîm AoHNE Gŵyr yn canolbwyntio ar yr hyn y gall/na all ei wneud, effaith polisïau'r CDLl i ddiogelu'r AoHNE a'r defnydd o'r Canllaw Dylunio AoHNE;

·         Amcan 22 - Datblygu dealltwriaeth glir o'r gweithgareddau hamdden yn yr AoHNE ac o gwmpas yr arfordir, yn enwedig cynnydd 'Prosiect Mapio Gweithgarwch Cymru';

·         Amcan 29 - Gwella'r ddarpariaeth o rwydweithiau a gwasanaethau teithio llesol a chynaliadwy ledled yr AoHNE - yn enwedig cysylltu gwasanaethau bysus â llwybr yr arfordir, yn debyg i Sir Benfro, a grantiau cludiant cynaliadwy/teithio llesol sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru.

·         Yr angen ymddangosiadol am fwy o fuddsoddiad yn AoHNE Gŵyr a mwy o bwyslais arni gan Gyngor Abertawe.

·         Buddsoddiad gan y cyngor drwy ddarparu dau swyddog dynodedig, wedi'u cefnogi gan rwydwaith o swyddogion i gefnogi'r AoHNE.

·         Ni chodwyd unrhyw faterion cyllidebol ynghylch yr AoHNE a'r gwerth a roddir i'r AoHNE gan y cyngor.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad a Chynllun Rheoli Gŵyr.

32.

Cynllun Datblygu Cynaliadwy. pdf eicon PDF 99 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Mike Scott, Swyddog AoHNE Gŵyr, adroddiad cyllidebol cryno am y Gronfa Datblygu Cynaliadwy (CDC).

 

Amlinellodd fod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cyllideb gwerth £55,000 i'r CDC ar gyfer 2018/19, gyda'r un peth ar gyfer 2019/20. Roedd y rhan helaeth o'r gronfa bellach wedi’i neilltuo ar gyfer 2019/20 a 2020/21. Darparwyd manylion ar gyfer 2018/19 fel a ganlyn: -

 

·         2018/19

 

Cyfanswm yr arian sydd ar gael

£ 55,000.00

Cronfeydd sydd wedi’u neilltuo

£ 55,000

Cronfeydd heb eu neilltuo

£ 0

Ceisiadau sy'n cael eu hystyried gan y panel

£ 0                        

 

Yn ystod y flwyddyn gyfredol, cymeradwywyd 16 o brosiectau gydag arian y CDC ar gyfer 2018/19, gan olygu y gwariwyd ei chyllideb gyfan.

 

Roedd ffigur y cronfeydd sydd wedi eu neilltuo yn cynnwys ffi reoli DASA sef £5,500 (10%). Amlinellwyd y blynyddoedd i ddod fel a ganlyn: -

 

·         2019/20

£37,160 wedi'i neilltuo, a rhagwelir 4 cais sy'n werth £17,840.

 

·         2020/21

£28,000 wedi'i neilltuo, a rhagwelir 3 chais sy'n werth £27,000.

 

Gofynnodd y Grŵp Llywio gwestiynau i'r swyddog, a ymatebodd yn briodol. Cafwyd trafodaethau am y canlynol: -

 

·         Adroddiad y CDC i gyfarfod blynyddol y bartneriaeth

·         Gweithdrefnau adrodd y CDC.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.

33.

Y Diweddaraf am y Prosiect Awyr Dywyll. pdf eicon PDF 110 KB

Cofnodion:

Darparodd Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr adroddiad i roi’r diweddaraf am y Prosiect Awyr Dywyll.

 

Amlinellodd y gweithgareddau a gynhaliwyd ers cyfarfod diwethaf Grŵp Llywio'r AoHNE i symud y cais yn ei flaen er mwyn dod yn Gymuned Awyr Dywyll a gydnabyddir yn rhyngwladol.

 

Ychwanegwyd bod Tîm AoHNE Gŵyr wedi prynu 4 Mesurydd Ansawdd Awyr ar gyfer arolygon monitro blynyddol yn y dyfodol. Byddai Llysgenhadon Gŵyr a gwirfoddolwyr eraill hefyd yn mynd ar gwrs hyfforddiant ar 27 Mawrth i'w galluogi i ymgymryd â'r gwaith monitro blynyddol.

 

Yn ogystal, byddai Grŵp Llywio'r Prosiect (sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Abertawe, Cymdeithas Gŵyr ac Awyr Dywyll Cymru) yn cwrdd yn fuan i drafod/gymeradwyo'r cais drafft. Byddai'r cais ffurfiol yn cael ei gyflwyno i'r Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol (IDA) ar ddiwedd mis Mai 2019. 

 

Nodwyd bod Cymdeithas Gŵyr wedi darparu'n hael gefnogaeth ariannol ar gyfer y prosiect.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.

34.

Cynllun Datblygu Lleol. (llafar)

Cofnodion:

Rhoddwyd diweddariad llafar i'r Grŵp Llywio am y Cynllun Datblygu Lleol gan Paul Meller, Rheolwr Cynllunio Strategol a'r Amgylchedd Naturiol.

 

Amlinellodd fod y CDLl wedi'i fabwysiadu gan Gyngor Abertawe ar 28 Chwefror a bod y cyfnod herio chwe wythnos wedi dod i ben ar 11 Ebrill 2019. Roedd nifer o bolisïau yn y CDLl yn ymwneud â'r AoHNE ac roedd gan y Tîm AoHNE fewnbwn uniongyrchol i ddrafftio'r polisïau hyn. Byddai'r CDLl ar gael i'w weld ar wefan y cyngor a chaiff ei gyhoeddi ar ôl 11 Ebrill 2019.

 

 

Gofynnodd y Grŵp Llywio nifer o gwestiynau ynghylch yr adroddiad ac ymatebodd y swyddog iddynt yn briodol. Roedd y trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol: -

 

·         Bod Cyngor Abertawe'n mynd ati i ddefnyddio'r CDLl a'r holl swyddogion perthnasol yn cydweithio i sicrhau ei fod yn cael ei gyflwyno'n llwyddiannus.

·         Y ffaith mai'r CDLl oedd y cynllun mwyaf diweddaredig yng Nghymru;

·         Yr holl bolisïau/ganllawiau blaenorol a oedd yn cydweddu â'r CDLl;

·         Bod y CDLl yn mynnu bod datblygiadau’n cynnwys canran fwy o dai fforddiadwy, datblygiadau arfaethedig yn Pennard a Scurlage a'r angen am ddatblygiadau tai fforddiadwy ychwanegol ledled Gŵyr/safleoedd posib;

·         Y swm enfawr o waith a wnaed gan swyddogion i gyflwyno'r CDLl.

 

Diolchodd y Cadeirydd a'r Grŵp Llywio i'r Rheolwr Cynllunio Strategol a'r Amgylchedd Naturiol a'i dîm am eu gwaith.

 

Penderfynwyd:   -

 

1)    Nodi cynnwys yr adroddiad;

2)    Darparu cyflwyniad ar adrannau gwahanol y CDLl sy'n berthnasol i'r AoHNE mewn cyfarfod yn y dyfodol.

35.

Partneriaeth Tirwedd Gwyr - Adroddiad Crynhoi Terfynol. (er gwybodaeth/i'w drafod) pdf eicon PDF 3 MB

Cofnodion:

Darparwyd crynodeb o adroddiad terfynol Partneriaeth Tirwedd Gŵyr 'er gwybodaeth'.

 

Amlinellodd Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr/Swyddog AoHNE Gŵyr gynnwys yr adroddiad a diolchodd i'r holl unigolion/sefydliadau a oedd wedi cyfrannu at y prosiect. Aethant ati i amlygu bod y prosiect wedi mynd o fod yn un risg uchel i fod yn risg isel ar y diwedd ac roedd hyn yn adlewyrchiad o'r gwaith a gwblhawyd.

 

Roedd trafodaethau'n ystyried cyfleoedd posib ar gyfer y dyfodol, cyflogi llai o ymgynghorwyr ar brosiectau yn y dyfodol, sefydlu brîff ehangach na thwristiaeth yn unig ar brosiectau yn y dyfodol a bod prosiectau'n gadael ôl gweladwy.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.

36.

Fforwm Blynyddol AoHNE - 24 Mehefin 2019.

Cofnodion:

Dywedodd Swyddog AoHNE Gŵyr y byddai cyfarfod blynyddol y Grŵp Partneriaeth ar 24 Mehefin 2019 yn cynnwys etholiadau i'r Grŵp Llywio, Panel y CDC a Phanel Apeliadau'r CDC. Amlinellodd rai o'r digwyddiadau arfaethedig y bwriedir eu cynnal yn ystod y flwyddyn nesaf.

 

Mae lleoliadau posib ar gyfer y Fforwm Blynyddol yn cynnwys Neuadd Reynoldston, Canolfan Gymunedol Pen-clawdd a Chanolfan Gymunedol Pennard.

 

Penderfynwyd y bydd Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd yn cadarnhau un o'r uchod fel lleoliad ar gyfer Fforwm Blynyddol y Bartneriaeth ar 24 Mehefin 2019.

37.

Plastic Collections from Campsites.

Cofnodion:

Nodwyd bod Cyngor Abertawe wedi cychwyn casglu plastig o wersyllfeydd a oedd yn newid cadarnhaol iawn.

38.

Clefyd Coed Ynn.

Cofnodion:

Esboniodd Hamish Osborn, CNC, fod Clefyd Coed Ynn yn dechrau effeithio'n sylweddol ar benrhyn Gŵyr, yn enwedig ar dir a reolir gan CNC. Ychwanegodd y materion a allai waethygu ac amlygodd y pecyn cymorth a ddarparodd arweiniad ar Facebook. Dosbarthodd gylchlythyr CNC hefyd a oedd yn amlygu'r clefyd.

39.

Y Morglawdd yn Llanmadog.

Cofnodion:

Gofynnwyd am y cynnydd o ran atgyweirio'r morglawdd yn Llanmadog.

 

Dywedwyd y ceisir cyllid a gobeithiwyd y gellid dod i hyd i ateb.