Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Small Hall, Pennard Parish Hall - Pennard Parish Hall. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

20.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni

ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

 

21.

Cofnodion. pdf eicon PDF 232 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Penderfynwyd derbyn cofnodion cyfarfod Grŵp Llywio AoHNE Gŵyr

a gynhaliwyd ar 24 Medi 2018 fel cofnod cywir.

 

22.

Materion yn codi o'r cofnodion.

Cofnodion:

·         Adroddiad y Gronfa Datblygu Cynaliadwy

 

Gofynnodd Rod Cooper a oedd y rhestr o brosiectau'r Gronfa Datblygu Cynaliadwy a ariannwyd ar gael. Esboniwyd y bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno ar ddiwedd y flwyddyn ariannol bresennol.

 

Penderfynwyd cyflwyno adroddiad blynyddol ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol.

 

23.

Cyflwyniad - Port Einon/Astudiaeth Dichonoldeb Horton - Bro Partnership.

Cofnodion:

Gwnaeth Rob Owen, Bro Partnership, cyflwyniad ynglŷn ag Astudiaeth Dichonoldeb Porth Einon/Horton. Dyma'r manylion yn y cyflwyniad -

 

·         Proses ymgynghori;

·         Dyma'r prif argymhellion:

-        Gwella rheolaeth Maes Parcio Porth Einon;

-        Gwella rheoli traffig;

-        Gwella'r toiledau (opsiynau tymor hir a thymor byr);

-        Newid cynllun ffordd, gwella parcio ar gyfer pobl anabl a chynnwys nodwedd ddiwylliannol a man casglu a gollwng;

-        Newid a gwella biniau sbwriel/casgliadau;

-        Lleihau i un ardal ar gyfer cŵn yn yr haf ac ychwanegu mwy o finiau baw cŵn;

-        Gwella darpariaeth/gwasanaeth lansio cychod a gwella darpariaeth storio ar gyfer cychod/cyfarpar;

-        Gwella mynediad i'r anabl i'r traeth;

-        Symud arwyddion diangen o lan y môr/gwella arwyddion achubwyr bywyd/arwyddion gwell ar gyfer llwybr yr arfordir/gwella arwyneb llwybrau;

-        Tirweddu'r ardal o flaen y siopau ym Mhorth Einon;

-        Gwella rheolaeth y twyni, gan gynnwys mynediad a gorfodi;

-        Adeiladu canolfan newydd ym Mhorth Einon sy'n cynnig darpariaethau nad ydynt yn cystadlu â busnesau presennol;

-        Hyrwyddo gwasanaethau bws a gwella safle bws a gwybodaeth;

-        Gwella mannau parcio ceir ar gyfer yr YHA a gwella mynediad i gerddwyr;

-        Gwella mynediad at y Tŷ Halen a'r modd y'i rheolir;

-        Cydlynu a rheoli digwyddiadau mawr yn well, e.e. treiathlon;

-        Datblygu brand a marchnata eglur ar gyfer Porth Einon, yn seiliedig ar hanes morol, chwaraeon traeth a dŵr;

-        Gwella mannau parcio ceir, arwyddion a'r arwyneb yn Horton;

-        Gwella'r bloc o doiledau yn Horton neu osod rhai newydd;

-        Gwella'r dehongliad o Orsaf yr RNLI yn Horton/efallai symud y siop i ganolfan newydd ym Mhorth Einon;

-        Gwella mynediad i gerddwyr o'r maes parcio i'r traeth yn Horton/cynnal a gwella'r llwybr estyll mewn mannau;

-        Cynnig trwydded o bosib er mwyn i werthwr weithredu o'r maes parcio yn Horton;

-        Sicrhau nad yw ceir yn cael eu parcio ar y llwybr rhwng Porth Einon a Horton;

-        Cyflwyno ymagwedd fesul cam er mwyn cynnwys opsiynau tymor byr, tymor canolig a thymor hir;

-        Gwasanaethau posib y gellid eu cyflwyno mewn canolfan newydd ym Mhorth Einon.

 

Gofynnod y Grŵp Llywio nifer o gwestiynau ynghylch y cyflwyniad, ac ymatebwyd iddynt yn briodol. Roedd y trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol: -

 

·         Y ddelwedd anffafriol sy'n cael ei chyfleu gan y cynwysyddion storio ym maes parcio Porth Einon;

·         Signal ffôn/gwasanaethau band eang gwael yn yr ardal;

·         Y ddarpariaeth gwasanaeth bws wael i Borth Einon a Horton;

·         Diffyg gwybodaeth a ddarparwyd ynglŷn â'r ymgynghoriad, diffyg ymgynghori â'r ardaloedd cyfagos i Borth Einon, diffyg ymateb gan Gyngor Cymuned Porth Einon, y ddau ddigwyddiad ymgynghori a drefnwyd a'r brîff cyfyngedig a roddwyd gan y cyngor;

·         Lleoliad daearyddol Porth Einon/Horton yn amharu ar fynediad.

·         Diffyg cyfathrebu rhwng adrannau'r cyngor;

·         Maint/pris posib canolfan newydd ar safle'r hen doiledau;

·         Materion parcio ar y ffordd i'r YHA;

·         Mynediad cyfyngedig i gerbydau mwy yn dod i mewn i Borth Einon;

·         Cyngor Cymuned/Cynghorydd Ward yn cynorthwyo i wella'r ardal;

·         Cydnabod yr astudiaethau tebyg sydd wedi cael eu cwblhau yn y gorffennol;

·         Sefydlu gweithgor/anfon sylwadau ymlaen at Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr er mwyn iddo gynnig ymateb erbyn 14 Rhagfyr 2018.

 

Diolchodd y cadeirydd i Rob Owen am ei gyflwyniad.

 

Penderfynwyd: -

 

1)    Cylchredeg y cyflwyniad i'r grŵp llywio;

2)    Dylid anfon sylwadau ynghylch yr astudiaeth dichonoldeb ymlaen i Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr er mwyn i ymateb gael ei anfon at Rob Owen ei ystyried ar gyfer ei adroddiad astudiaeth.

 

24.

Cynllun Rheoli AoHNE. pdf eicon PDF 375 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Chris Lindley, Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr amlinelliad o gyd-destun, proses a gofynion adolygiad Cynllun Rheoli AoHNE.

 

Amlinellwyd manylion y broses adolygu a blaenoriaethau/materion a argymhellwyd ar gyfer yr adolygiad.

 

Ychwanegwyd bod y Cynllun Gweithredu yn y Cynllun Rheoli presennol yn cynnwys cyfnod hyd at 2018. Cytunodd Cyngor Abertawe ar fersiwn wedi'i diweddaru ar gyfer 2018-21 â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fel sail cyflwyno rhaglen cymorth grant Partneriaeth AoHNE. Fel cam cyntaf, argymhellir y dylid adnewyddu ac adolygu'r cynllun gweithredu i gynnwys estyniad ar gyfer gweddill cyfnod presennol y cynllun (hyd at 2022) a chytuno ar hyn drwy'r bartneriaeth. Argymhellir hefyd wneud 'Y Diweddaraf am y Cynllun Rheoli' yn eitem sefydlog ar agenda'r Grŵp Llywio.

 

Penderfynwyd: -

 

1)    Adolygu'r cynllun gweithredu a'i ddiweddaru ar gyfer estyniad ar gyfer gweddill cyfnod presennol y cynllun (hyd at 2022) a chytuno ar hyn drwy'r bartneriaeth;

2)    Rhoi 'Y Diweddaraf am y Cynllun Rheoli' fel eitem sefydlog ar agenda'r Grŵp Llywio.

25.

Cais am Wobr Gymuned Awyr Dywyll - Y Diweddaraf am y Cynnydd. (Llafar)

Cofnodion:

Cyflwynodd Chris Lindley, Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr adroddiad diweddaru ar y cyfarfod cyntaf a drefnwyd gan Awyr Dywyll Cymru yn Neuadd Reynoldston ar 14 Tachwedd 2018. Dywedodd fod 27 o bobl yn bresennol, gan gynnwys busnesau a grwpiau diddordeb lleol, a chafwyd cyflwyniad i Awyr Dywyll, dynodi a nifer o faterion sy'n ymwneud â llygredd golau.

 

Ychwanegwyd y byddai digwyddiadau cynnwys y cyhoedd yn cael eu trefnu yn y flwyddyn newydd.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.

26.

Materion trawsffiniol AoHNE Gwyr - Safbwynt y Cyngor. pdf eicon PDF 222 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Chris Lindley, Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr adroddiad a oedd yn cyflwyno safbwynt y cyngor ynglŷn â ffiniau AoHNE Gŵyr, yng nghyd-destun datblygiad Pier y Mwmbwls.

 

Amlinellwyd bod yr adroddiad yn cyflwyno'r cyd-destun llawn ac yn esbonio pam mae'r cyngor yn ystyried yr 'Y Gorchymyn a Map y Gorchymyn' fel ffin gyfreithiol AoHNE Gŵyr. Y gorchymyn oedd wedi sefydlu'r sail statudol ar gyfer dynodi Gŵyr yn AoHNE; dylid ystyried map y gorchymyn fel rhan annatod o'r gorchymyn.

 

Ychwanegwyd bod y Gorchymyn a Map y Gorchymyn wedi eu cadarnhau gan lofnod a sêl y Gweinidog perthnasol yn dwyn dyddiad 10 Rhagfyr 1956, gyda'r newidiadau'n ymddangos mewn inc coch ar y gorchymyn a'r ardaloedd eithriedig wedi'u croeslinellu'n ddu ar fap y gorchymyn. Safbwynt y cyngor felly yw bod y gorchymyn wedi cael ei roi ar waith ar y dyddiad hwn ac felly mae'r gorchymyn a'i fap yn dangos ffiniau terfynol AoHNE Gŵyr.

 

Dylid ystyried unrhyw fap arall a luniwyd ers hyn fel dehongliad o'r ffin yn unig ac felly heb fod yn derfynol; mae hyn yn cynnwys copïau 1957 a gynhyrchwyd gan yr Arolwg Ordnans.

 

Dywedodd Rheolwr Cynllunio Strategol a'r Amgylchedd Naturiol fod effaith datblygiad Pier y Mwmbwls ar yr AoHNE yn bwysig, ni waeth a ydy'r safle y tu mewn neu'r tu allan i'r ffin.

 

Trafododd y grŵp yr adroddiad a'r mapiau a ddarparwyd.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.</AI7>

27.

Cronfa Datblygu Cynaliadwy. pdf eicon PDF 107 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Mike Scott, Swyddog AoHNE Gŵyr, adroddiad diweddaru am y Gronfa Datblygu Cynaliadwy.

 

Amlinellwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cyllideb gwerth £55,000 i'r Gronfa Datblygu Cynaliadwy ar gyfer 2018/19, gyda'r un peth ar gyfer 2019/20. Roedd eisoes 10 prosiect wedi'u cymeradwyo gyda chylllid y gronfa ar gyfer 2018/19, gyda 3 chais ychwanegol yn cael eu hystyried a disgwylir 3 chais ychwanegol.

 

Ychwanegwyd bod ffigur y cronfeydd sydd wedi eu neilltuo yn cynnwys ffi reoli DASA sef £5,500 (10%) ac roedd rhan helaeth o'r gronfa wedi ei neilltuo ar gyfer 2019/20 a 2020/21. Amlinellwyd y materion canlynol: -

 

Cyfanswm yr arian sydd ar gael

£ 55,000.00

Cronfeydd sydd wedi eu neilltuo

£ 41,200

Cronfeydd sydd heb eu neilltuo

£ 13,300

Ceisiadau sy'n cael eu hystyried gan y panel

£ 10,500

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.