Lleoliad: Barham Centre, Mount Pisgah Chapel, Parkmill, Swansea. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol
â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiadau. |
|||||||
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cytuno bod cofnodion
cyfarfod blynyddol Partneriaeth AoHNE Gŵyr a
gynhaliwyd ar 25
Mehefin 2018, yn gofnod cywir, yn amodol ar y diwygiad
canlynol: - Cofnod
rhif 5 - Cyrff partner - Cymdeithas Gŵyr Newid
cyfanswm aelodaeth Cymdeithas Gŵyr i 1,000 o aelodau. |
|||||||
Materion yn codi o'r cofnodion. Cofnodion: Nid oedd dim. |
|||||||
Adroddiad ar Gynhadledd Tirweddau am Byth. PDF 96 KB Cofnodion: Rhoddodd y
Cadeirydd adroddiad ysgrifenedig ac adborth ynghylch Cynhadledd Landscapes for Life, yr aeth iddi gyda Swyddog AoHNE Gŵyr. Cynhaliwyd y gynhadledd ym Mhrifysgol Caint, Caergaint rhwng 24 a 26
Gorffennaf 2018 a'r thema oedd "Shaping the
Long View". Ychwanegodd fod
Llywodraethau Cymru a'r DU wedi nodi eu hymrwymiad i dirweddau sydd wedi'u
hamddiffyn a chyda hyn mewn cof, cynigiodd yr NAAONB
fod dangos a mesur manteision rheoli tirweddau o bwysigrwydd hanfodol yn y
blynyddoedd sydd i ddod. Edrychodd y gynhadledd ar sut roedd gwaith rhwydwaith y teulu o AoHNE wedi
cyflawni aer glân, dŵr glân a digonol, a phlanhigion a bywyd gwyllt sy'n
ffynnu. Edrychwyd hefyd ar sut i
leihau'r perygl i bobl, yr amgylchedd a'r economi drwy ddefnyddio adnoddau
naturiol mewn ffordd fwy cynaliadwy. Y
prif nod oedd sicrhau bod harddwch naturiol AoHNE yn cael ei werthfawrogi a'i
ddiogelu. Roedd y gynhadledd hefyd am
archwilio sut gallai cysylltu pobl â natur wella harddwch a threftadaeth yr
amgylchedd naturiol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Gofynnodd y
Grŵp Llywio gwestiynau ynghylch effaith trafodaethau Brexit a gynhaliwyd
ac esboniwyd bod siaradwyr yn y gynhadledd wedi mynegi eu barn ar y canlyniadau
posib. Nododd y Cadeirydd hefyd fod
cynhyrchwyr bwyd yn paratoi ar gyfer effaith Brexit a newid yn yr hinsawdd,
gyda rhai yn rhoi'r gorau i gnydau traddodiadol o blaid
gwinllannoedd/ffrwythau. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|||||||
Datganiad Llywodraeth Cymru - Tirweddau Dynodedig - Gwerthfawr a Chydnerth. PDF 498 KB Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad Gwerthfawr a Chydnerth Llywodraeth Cymru a oedd yn amlinellu
blaenoriaethau'r Llywodraeth ar gyfer Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol
a Pharciau Cenedlaethol. Amlygodd Swyddog
AoHNE Gŵyr bedwar nod ar gyfer AoHNE yng Nghymru, sef lleoedd sy'n cael eu
gwerthfawrogi; amgylcheddau gwydn; cymunedau cadarn; a ffyrdd cadarn o weithio. Nododd y
grŵp yr angen i gael cyfleusterau da, glân a hygyrch, yn arbennig doiledau
cyhoeddus i dwristiaid. Nodwyd bod
llawer o ardaloedd i dwristiaid yn codi tâl am ddefnyddio'r toiled er mwyn
cadw'r cyfleusterau'n lân. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|||||||
Llythyr oddi wrth Gweinidog Llywodraeth Cymru at AoHNE Gwyr. PDF 193 KB Cofnodion: Darllenwyd
llythyr Hannah Blythyn AC, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Amgylchedd, a
oedd yn gofyn am farn ynghylch creu mwy o gydraddoldeb ar gyfer AoHNE a
Pharciau Cenedlaethol yng Nghymru, er gwybodaeth. |
|||||||
Cyfarfod Bwrdd - Cofnodion Drafft - Awst 2018. PDF 216 KB Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion drafft cyfarfod Partneriaeth Tirwedd Gŵyr a gynhaliwyd ar 9 Awst
2018 er gwybodaeth. Dywedodd Swyddog
AoHNE Gŵyr wrth y Grŵp Llywio y cynhelir cyfarfod olaf y bartneriaeth
unwaith y byddai'r adroddiad gwerthuso wedi'i gwblhau. Pan fyddai Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn
llofnodi'r adroddiad, byddai hynny'n golygu bod y gwaith wedi dod i ben. Cytunwyd hefyd ar Gynllun Cynnal a Chadw a
Rheoli 10 mlynedd gan y bartneriaeth, dan amodau ariannu Cronfa Dreftadaeth y
Loteri. Dywedodd y
Grŵp Llywio fod angen etifeddiaeth ar Gronfa Dreftadaeth y Loteri a
dylai'r Cynllun Cynnal a Chadw a Rheoli gael ei orfodi ar sefydliadau partner o
ran cynnal a chadw prosiectau pan dderbyniwyd arian. Penderfynwyd y dylid nodi cynnwys y diweddariad. |
|||||||
Prosiect Cymunedol Awyr Dywyll Gwyr. PDF 89 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Adroddodd Swyddog AoHNE Gŵyr fod y tîm AoHNE wedi llunio dechrau ar
gyfer prosiect a fyddai'n datblygu'r gwaith er mwyn cyflwyno cais ffurfiol i'r
Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol, er mwyn i AoHNE Gŵyr fod yn 'Gymuned
Awyr Dywyll'. Sicrhawyd arian grant drwy Cyfoeth Naturiol Cymru a Chymdeithas
Gŵyr. Mae'r arian hwn wedi
galluogi'r cyngor i benodi Gwasanaethau Hyfforddiant Awyr Dywyll Cymru er mwyn
cyflwyno cefnogaeth dechnegol, gynghorol a busnes ar gyfer y prosiect. Atodwyd copi o'r cais am grant i Gymdeithas
Gŵyr er gwybodaeth er mwyn i'r Grŵp Llywio gael crynodeb a chefndir
i'r prosiect. Dywedodd y Grŵp Llywio ei fod yn cefnogi'r cais a rhoddwyd
enghreifftiau o oleuo gwael ar benrhyn Gŵyr ac yn y cyffiniau. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|||||||
Adroddiad y Gronfa Datblygu Cynaliadwy. PDF 92 KB Cofnodion: Adroddwyd bod
Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cyllideb y Gronfa Datblygu Cynaliadwy (CDC) ar
gyfer 2019/20 fel £55,000. Ychwanegodd
fod 8 prosiect ag arian CDC yn 2018/19, gyda chais arall yn cael ei ddatblygu,
a rhagwelir y bydd 4 arall, a oedd wedi neilltuo llawer o'r arian ar gyfer
2019/20. Roedd ffigur y
cronfeydd sydd wedi eu neilltuo yn cynnwys ffi reoli DASA sef £5,500 (10%).
Cadarnhawyd mai
cyllideb y CDC ar gyfer 2018/19 a 2019/20 fyddai £55,000, a chafwyd arwydd y
byddai'r gyllideb ar gyfer 2020/21 yr un peth.
Roedd llawer o'r gronfa wedi'i chlustnodi ar gyfer 2019/20, gyda £30,350
eisoes wedi'i glustnodi, a rhagwelir y bydd £25,310 arall, a fyddai'n rhoi
pwysau mawr ar y gronfa. Gofynnodd y
Grŵp Llywio am restr flynyddol o ble dyrannwyd yr arian. Penderfynwyd - 1)
Dylid
nodi cynnwys yr adroddiad; 2)
Bydd
adroddiad blynyddol yn cael ei gyflwyno i gyfarfodydd y Grŵp Llywio yn y
dyfodol. |
|||||||
Cynllun Rheoli AoHNE - Dechrau'r Broses Adolygu. (Llafar) Cofnodion: Dywedodd Swyddog
AoHNE Gŵyr wrth y Grŵp Llywio y byddai'r adolygiad nesaf o Gynllun
Rheoli AoHNE Gŵyr yn dechrau'n fuan.
Ychwanegodd yr erys y weledigaeth gyffredinol yr un peth, ond efallai
bydd angen addasu'r amcanion a'r cynlluniau.
Darperir adroddiad i gyfarfod nesaf y Grŵp Llywio ym mis Rhagfyr
2018. Awgrymwyd pynciau
gan y Grŵp Llywio y dylid eu cynnwys yn y cynllun megis morweddau a'r prosiect awyr dywyll. Penderfynwyd - 1)
Nodi
cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf; 2)
Cyflwyno
adroddiad arall i gyfarfod y Grŵp Llywio ar 3 Rhagfyr 2018. |
|||||||
Port Eynon & Horton Feasibility Study. Cofnodion: Cyfeiriodd Gordon
Howe, Cymdeithas Gŵyr, at gyfarfod diweddar a gynhaliwyd gan ymgynghorwyr
ynghylch astudiaeth dichonoldeb ar Borth Einon a Horton. Ychwanegodd mai Is-adran Twristiaeth Cyngor
Abertawe, oedd wedi penodi'r ymgynghorwyr.
Trafodwyd
cyfleusterau a gwasanaethau lleol yn y cyfarfod ac archwiliwyd ffyrdd o wella'r
gymuned i breswylwyr ac ymwelwyr. Dywedodd Swyddog
AoHNE Gŵyr ei fod yn ymwybodol o'r astudiaeth ac roedd wedi siarad â'r
ymgynghorwyr ym mis Mai 2018. Dywedodd
Rheolwr Cynllunio Strategol a'r Amgylchedd Naturiol ei fod newydd gael gwybod
am yr astudiaeth a byddai'n hysbysu'r bobl briodol am ei siom nad oeddent wedi
ymgynghori ag ef na'r Gwasanaethau Cynllunio. Mynegwyd pryder
gan y Grŵp Llywio nad oedd wedi bod yn rhan o'r broses ymgynghori. Ychwanegwyd y dylai Tîm AoHNE Gŵyr hefyd
fod wedi cael ei gynnwys yn llawer mwy na'r hyn a gafwyd. Trafododd y cyfarfod hefyd yr opsiynau posib
a gyflwynwyd. Penderfynwyd - 1)
Nodi
cynnwys y trafodaethau; 2)
Gofyn
i'r ymgynghorwyr roi cyflwyniad yng nghyfarfod nesaf y Grŵp Llywio ar 3
Rhagfyr 2018. |