Lleoliad: Down To Earth, Little Bryngwyn, Cefn Bryn, SA3 1ED. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol
â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd
derbyn cofnodion
cyfarfod Grŵp Llywio Partneriaeth AoHNE Gŵyr
a gynhaliwyd ar 26 Mawrth 2018 fel
cofnod cywir. |
|
Materion sy'n codi o'r cofnodion. Cofnodion: Arolwg Awyr Dywyll Gŵyr Rhoddodd Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr ddiweddariad
yn y Cyfarfod Blynyddol ar adroddiad Arolwg Awyr Dywyll Gŵyr. Amlinellodd
fod y cyngor ar hyn o bryd mewn trafodaethau ag Awyr Dywyll Cymru am ei fod yn
bwriadu cyflwyno cais am statws Cymuned Awyr Dywyll ar ddechrau 2019. Y gobaith
yw y byddai'r cais yn cyd-fynd â'r Wythnos Awyr Dywyll Ryngwladol ym mis Ebrill
2019. Roedd trafodaethau'n parhau rhwng adrannau'r cyngor a phartneriaid. |
|
Cyflwyniad - Gwaith a Rolau Partneriaeth AoHNE Gwyr a Thîm AoHNE Gwyr. Cofnodion: Rhoddodd Mike
Scott, Swyddog AoHNE Gŵyr, gyflwyniad ar waith Partneriaeth AoHNE
Gŵyr. Amlinellodd ddynodiad AoHNE Gŵyr, rôl Partneriaeth AoHNE
Gŵyr a gwaith Tîm AoHNE yn Ninas a Sir
Abertawe. |
|
Cyflwyniadau - Cyrff Partner. Cofnodion: Cymdeithas
Gŵyr Rhoddodd Robin Kirby, Cadeirydd Cymdeithas Gŵyr gyflwyniad ar waith y
gymdeithas. Tynnodd sylw at y ffaith fod gan y gymdeithas 14,000 o aelodau ar
hyn o bryd, a'i fod yn pryderu ynghylch Arglwyddiaeth Gŵyr, gan gynnwys
canol Dinas Abertawe, lle'r oedd yn canolbwyntio ar Farina Abertawe. Cyfeiriodd at y
gwaith cynllunio a wnaed gan y gymdeithas, y grantiau a'r gefnogaeth ariannol
yr oedd y gymdeithas wedi'u rhoi yn ystod y flwyddyn flaenorol a'r cylchgrawn ‘Guide to Gower’ y disgwylid iddo gael ei ailargraffu.
Amlygodd y rôl arwyddocaol sydd gan y gymdeithas ym mhenrhyn Gŵyr ac o ran
ei amcanion. Gofynnwyd
cwestiynau am gynllunio a mynediad ac atebwyd y rhain yn briodol. Diolchodd y
Cadeirydd i gynrychiolydd Cymdeithas Gŵyr am ei gyflwyniad. Cyfoeth Naturiol
Cymru Rhoddodd Hamish
Osborne, Arweinydd Tîm Abertawe, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
gyflwyniad am gefndir a gwaith CNC. Dywedodd mai CNC yw'r corff mwyaf yng Nghymru a noddir gan y
Llywodraeth, a bod ganddo 1,180 o staff a chyllideb o £180m. Rhoddodd fanylion
ynghylch rôl a diben cyffredinol CNC, yn enwedig ym
mhenrhyn Gŵyr, a chyfeiriodd at rai o'r safleoedd y mae'n eu rheoli yn yr
ardal. Gofynnwyd
cwestiynau ynghylch gwersylla anghyfreithlon, problemau baw cŵn, y
morglawdd yn Llanmadog a maint/biwrocratiaeth/tangyllido
CNC, a atebwyd yn briodol. Diolchodd y
Cadeirydd i gynrychiolydd CNC am ei gyflwyniad. Partneriaeth
Tirwedd Gŵyr Rhoddodd Arweinydd
Tîm AoHNE Gŵyr gyflwyniad ar gefndir a gwaith Partneriaeth Tirwedd
Gŵyr. Amlinellodd fod prosiect
Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn dod i ben ac amlygodd fod ei etifeddiaeth yn
bwysig. Rhoddodd
enghreifftiau o nifer o'r prosiectau a gefnogwyd gan y bartneriaeth a gwnaeth
sylw ar y gwaith partneriaeth a wnaed i gyflawni'r gwaith. Ychwanegodd y
cynhelir dathliad o'r rhaglen yn Sioe Gŵyr ym mis Awst ac y rhoddir
adroddiad terfynol i'r Grŵp Llywio ym mis Medi 2018. Gofynnwyd cwestiynau
ynghylch nodi adeiladau/gwrthrychau sy'n haeddu eu diogelu ym mhenrhyn
Gŵyr ac mewn perthynas ag adfer Capel Mount Hermon, prosiect Penclawdd, ac
ymatebwyd yn briodol i'r rhain. Diolchodd y
Cadeirydd i Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr am ei gyflwyniad. |
|
Cyflwyniadau - Lleisiau Gwyr. Cofnodion: Gŵyl
Gerdded Gŵyr Rhoddodd Stuart Mackinnon, Tread Gower/Gŵyl
Gerdded Gŵyr, gyflwyniad ar waith y ddau sefydliad ym mhenrhyn Gŵyr.
Diolchodd i Gyngor Abertawe a Chymdeithas Gŵyr am eu cefnogaeth ariannol
ac amlygodd fod 42 o deithiau cerdded wedi'i defnyddio yn ystod yr ŵyl
gerdded. Tynnodd sylw at y
teithiau cerdded yn yr ardal, yn ogystal â'r teithiau cerdded arfordirol a'r
rhaglen arweinyddiaeth sydd ar gael i bobl ifanc drwy Tread
Gower. Gofynnwyd cwestiynau ynghylch y defnydd o dir CNC,
taflenni a luniwyd ar gyfer yr ŵyl gerdded a gwersylla gwyllt ar e.e. Gefn
Bryn. Ymatebwyd i'r cwestiynau'n briodol. Diolchodd y
Cadeirydd i gynrychiolydd Tread Gower/Gŵyl
Gerdded Gŵyr am ei gyflwyniad. |
|
Cwestiynau Gan Y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Gofynnwyd
cwestiynau ynghylch y canlynol: - Cynllun
Llysgenhadon Gŵyr Gofynnodd Alan Glass am ddiweddariad ynghylch Cynllun Llysgenhadon
Gŵyr. Esboniodd Mike
Scott, Swyddog AoHNE Gŵyr, fod Partneriaeth Tirwedd Gŵyr bellach wedi
derbyn cyllid gan y Gronfa Datblygu Sgiliau i'w gynnal eleni. Byddai
Twristiaeth Bae Abertawe'n gweithredu fel corff
cynnal ac yn mynd ati i hyfforddi gwirfoddolwyr. Penderfynir ar y digwyddiadau/ardaloedd y
bydd y llysgenhadon yn mynd iddynt ar ôl yr hyfforddiant. Gwersylla
Anghyfreithlon ar Gefn Bryn Gofynnodd Hildegarde Roberts gwestiwn ynghylch plismona gwersyllwyr anghyfreithlon ar Gefn Bryn. Dywedodd Mike
Scott, Swyddog AoHNE Gŵyr, y dylid adrodd wrth yr heddlu am wersyllwyr anghyfreithlon (101 os nad yw'n argyfwng).
Ychwanegodd ei bod hi'n drosedd sifil ac mai perchennog y tir sy'n gyfrifol. Ni
allai Cyngor Abertawe weithredu mewn perthynas â'r fath faterion, ond byddai'r
heddlu'n cymryd camau pe baent yn ystyried yr ymddygiad yn ymddygiad
gwrthgymdeithasol. Llwybrau Troed Gofynnodd Jo
Scott a oedd unrhyw arian ychwanegol ar gael i gefnogi'r Tîm Mynediad i Gefn
Gwlad oherwydd bod rhai llwybrau troed mewn cyflwr gwael a'r gyllideb a
niferodd staff wedi'u lleihau'n sylweddol. Esboniodd Chris
Lindley, Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr fod cyllidebau wedi'u torri a bod y
sefyllfa'n annhebygol o wella. Ychwanegwyd bod sefydliadau fel Cymdeithas
Gŵyr/Cerddwyr Gŵyr wedi gweithio mewn partneriaeth â Chyngor
Abertawe, gan ddarparu cefnogaeth ariannol/wirfoddol mawr ei hangen i
brosiectau. Holodd John France hefyd pam na fu unrhyw sôn am y diwydiant
amaethyddol gan fod ffermwyr yn rheoli llawer o'r mynedfeydd i lwybrau
troed Eglurwyd bod cominwyr/Undeb
Cenedlaethol y Ffermwyr cael eu cynrychioli ar y Grŵp Partneriaeth. |
|
Dyddiadau cyfarfodydd 2017/2018 i gael eu cynnal am 7pm fel a ganlyn: · 24 Medi 2018 – Canolfan Barham, Capel Mount Pisgah, Parkmill, Abertawe; · 3 Rhagfyr 2018 – Lleoliad i'w gadarnhau; · 25 Mawrth 2018 – Lleoliad i'w gadarnhau. Cofnodion: Nodwyd y
dyddiadau/lleoliadau canlynol ar gyfer cyfarfodydd i'w cynnal yn ystod Blwyddyn
Ddinesig 2018-2019 - ·
24
Medi 2018 - Canolfan Barham, Capel Mount Pisgah, Parkmill, Abertawe; ·
3
Rhagfyr 2018 - Lleoliad i'w gadarnhau; ·
25
Mawrth 2018 - Lleoliad i'w gadarnhau. |