Lleoliad: St Madoc Centre, Llanmadoc, Swansea, SA3 1DE. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem | ||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol
â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. |
|||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd derbyn cofnodion cyfarfod
Grŵp Llywio Partneriaeth AoHNE Gŵyr a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 2017 fel
cofnod cywir. |
|||||||||||
Materion sy'n codi o'r cofnodion. Cofnodion: Tirweddau'r Dyfodol Cymru - Adroddiad am Egwyddorion Llywodraethu Hysbyswyd y Grŵp Llywio gan Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr y bu'n rhaid
gohirio'r cyfarfod gwreiddiol ag AoHNE Dyffryn Gwy ar 1 Mawrth oherwydd yr
eira. Bu'n rhaid aildrefnu'r cyfarfod ar
gyfer 24 Ebrill 2018. Aelodaeth Esboniwyd y byddid yn chwilio am rywun i gymryd lle Rebecca Wright, yr oedd
ei rôl â CNC wedi newid ac nid oedd mor berthnasol
i'r Grŵp Llywio. |
|||||||||||
Cofnodion: Darparodd Arweinydd Tîm AoHNE
Gŵyr y datganiad am Dirweddau Dynodedig, dyddiedig 13 Mawrth 2018, gan
Hannah Blythyn AC, Gweinidog yr Amgylchedd.
Tynnodd sylw at y prif bwyntiau
a amlinellwyd yn y datganiadau gan gynnwys: cyhoeddi datganiad polisi sy'n
cwblhau'r broses adolygu; effaith Brexit a rheoli tir yn y dyfodol; cynnal y
tir/cynnyrch; diogelu a gwireddu buddion nwyddau cyhoeddus; a chryfhau statws
cynlluniau craffu a'r broses o graffu arnynt. Penderfynwyd
nodi cynnwys
yr adroddiad. |
|||||||||||
Arolwg Awyr Dywyll Gwyr PDF 549 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Arweinydd Tîm AoHNE adroddiad am Arolwg Awyr Dywyll Gŵyr. Amlinellwyd bod
Gwasanaethau Hyfforddiant Awyr Dywyll Cymru wedi'u comisiynu ym mis Rhagfyr
2017 gan Gyngor Abertawe i ymgymryd ag astudiaeth waelodlin o ansawdd awyr
dywyll yn AoHNE Gŵyr. Ymgymerwyd
â'r astudiaeth yn ystod mis Rhagfyr ar nosweithiau clir, di-leuad. Amlygodd yr
adroddiad ganfyddiadau'r astudiaeth ac roedd yn cynnwys argymhellion ar gyfer
datblygu gweithgareddau. Hysbysodd yntau'r grŵp o'r gofynion y mae eu hangen ac
ychwanegodd er mwyn cyflawni statws awyr dywyll, roedd yn rhaid mynd i'r afael
â sawl mater gwahanol a'u rhoi ar waith.
Roedd y rhain yn cynnwys materion megis cael gwaelodlin a system fonitro
ddigonol, cynllun goleuadau a datblygiadau newydd a fyddai'n cydymffurfio â'r
cynllun. Trefnwyd
digwyddiad yn Rhosili ar 15 Ebrill 2018 fel digwyddiad rhagflas a phrynwyd
nifer o docynnau. Trafododd y
grŵp yr adroddiad ac roedd yn gadarnhaol iawn ynghylch posibilrwydd o'r
AoHNE yn cyflawni statws awyr dywyll.
Tynnwyd sylw at bwysigrwydd hyn i
dwristiaeth, ynghyd â'r angen i gynnwys busnesau yn y broses. Dywedodd y
cadeirydd fod yr argymhellion a ddarparwyd gan Awyr Dywyll Cymru a gynhwysir yn
yr adroddiad yn fan cychwyn da. Roedd y
rhain yn cynnwys • Cyflwyno
rhaglen addysg ar gyfer:
I.
Y Cyhoedd
II.
Ysgolion III.
Staff a grwpiau gwirfoddolwyr yr AoHNE IV.
Staff Cyngor Abertawe • Cynnal
astudiaethau SQM i fonitro lefelau llygredd golau; • Cynnal
trafodaethau â chynrychiolwyr o Gyngor Abertawe i archwilio gostyngiadau posib mewn
llygredd golau o ardal y Mwmbwls/ddinas; • Cynnal
trafodaethau â Chyngor Sir Gâr i archwilio'r gostyngiad posib mewn llygredd
golau o ardaloedd Llanelli/Porth Tywyn; • Cysylltu â
busnesau yn yr ardal i hyrwyddo'r defnydd o awyr dywyll yn ystod misoedd yr haf
i gynyddu ffyniant economaidd yn yr ardal. Dywedodd y Rheolwr Cynllunio Strategol a'r
Amgylchedd Naturiol fod gan y cyngor ganllawiau cynllunio atodol ar gyfer golau
a fyddai'n cael eu hadolygu ar ôl i'r Cynllun Datblygu Lleol gael ei gyhoeddi. Ychwanegodd ei bod hi'n bwysig ymgynghori â'r
cyhoedd ynghylch nodau cyflawni statws awyr dywyll. Ychwanegodd Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr fod yr holl AoHNE yng Nghymru'n awyddus i gyflawni statws awyr dywyll ac y
byddent yn ystyried datblygu materion drwy weithio mewn partneriaeth i leihau
costau. Penderfynwyd: - 1)
Cymeradwyo'r argymhellion a
gynhwysir yn yr adroddiad; 2)
Darparu adroddiad ychwanegol
i'r cyfarfod blynyddol. |
|||||||||||
Cyfoeth Naturiol Cymru - Rhaglen Partneriaeth Genedlaethol AoHNE 2018-2021. PDF 411 KB Cofnodion: Cyflwynodd Arweinydd Tîm AoHNE
Gŵyr Raglen Bartneriaeth Genedlaethol AoHNE 2018-2021 Cyfoeth Naturiol
Cymru (CNC). Tynnodd sylw at y gefnogaeth
a'r arian grant a ddarparwyd gan CNC a'r gefnogaeth y
byddai'n ei darparu yn ystod y 3 blynedd nesaf, a oedd yn hynod fuddiol i'r
AoHNE. Gwnaed sylw gan Hamish Osborn, CNC, ar y Rhaglen bartneriaeth ac amlygodd y gwaith
partneriaeth rhwng y Tîm AoHNE, y Tîm Cadwraeth Natur a CNC. Cyfeiriodd hefyd at y prosiectau sy'n cael eu
cefnogi ar benrhyn Gŵyr. Penderfynwyd
nodi cynnwys
yr adroddiad. |
|||||||||||
Adroddiad y Gronfa Datblygu Cynaliadwy. PDF 92 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Swyddog AoHNE Gŵyr adroddiad y Gronfa Datblygu Cynaliadwy (CDC). Adroddwyd bod Llywodraeth Cymru wedi
cadarnhau mai cyllideb y CDC ar gyfer 2017/18 fyddai £55,000. Ar hyn o bryd, mae 18 o brosiectau a oedd wedi
derbyn arian gan y CDC ar gyfer 2017/18, wedi neilltuo'r cyllid yn llawn ar
gyfer 2017/18. Roedd ffigur y
cronfeydd sydd wedi eu neilltuo'n cynnwys ffi reoli DASA sef £5,500 (10%).
Cadarnhawyd mai cyllideb
y CDC ar gyfer 2018/19 a 2019/20 fyddai £55,000, a chafwyd arwydd y byddai'r
gyllideb ar gyfer 2020/21 yr un peth. Roedd rhan
helaeth o'r gronfa wedi'i neilltuo, gyda £26,590 (a £22,000 ychwanegol yn
ddisgwyliedig) wedi'i neilltuo ar gyfer 2018/19, a £27,650 (a £25,000
ychwanegol yn ddisgwyliedig) ar gyfer 2019/20. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|||||||||||
Partneriaeth Tirwedd Gwyr PDF 191 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr adroddiad ariannol Partneriaeth Tirwedd Gŵyr
(PTG) o gyfarfod y PTG a
gynhaliwyd ar 15 Chwefror. Nododd fod llawer iawn o waith i'w gwblhau a bod dau gyfarfod bwrdd wedi'u
trefnu cyn diwedd y rhaglen. Byddai'n
cwrdd â'r Tîm Cyllid Allanol i asesu'r gwariant cyn cwblhau'r prosiect. Ychwanegodd bod
Swyddog Monitro Cronfa Dreftadaeth y Loteri, a oedd wedi'i benodi i fonitro'r
rhaglen, wedi cysylltu ag ef. Roedd y
swyddog wedi dweud nad oedd PTG yn achos pryder ac
fe'i hystyrir yn brosiect risg isel.
Roedd hyn yn bennaf oherwydd y modd yr oedd y Tîm Cyllid Allanol wedi
rheoli diwedd y prosiect. Byddai adroddiad
terfynol yn cael ei anfon ymlaen at Gronfa Treftadaeth y Loteri ym mis
Gorffennaf 2018. Rhaid cwblhau cynllun
monitro hefyd ynghyd â nodi gwaith addysgol gydag ysgolion/grwpiau. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|||||||||||
Dyddiadau Cyfarfodydd y Dyfodol yn 2018-2019. 7 p.m. ar: - · 25 Mehefin 2018 · 24 Medi 2018 · 3 Rhagfyr 2018 · 25 Mawrth 2019 Cofnodion: Rhoddwyd
dyddiadau cyfarfodydd yn 2018-2019.
Ychwanegwyd y byddai Cyfarfod Blynyddol 25 Mehefin 2018 yn cael ei gynnal
yn Down To Earth, safle Little Bryngwyn. |