Agenda a Chofnodion

Lleoliad: St Madoc Centre, Llanmadoc, Swansea, SA3 1DE. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

25.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

26.

Cofnodion. pdf eicon PDF 123 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod Partneriaeth AoHNE Gŵyr

a gynhaliwyd ar 25 Medi 2017 fel cofnod cywir.

 

27.

Materion sy'n codi o'r cofnodion.

Cofnodion:

Cofnod rhif 24 - Aelodaeth y Grŵp Llywio

 

Cynigiwyd y bydd Keith Marsh, Cyngor Cymuned Llandeilo Ferwallt, yn

cael ei gynnwys yn y Grŵp Llywio drwy gydol trafodaethau Tirweddau'r Dyfodol Cymru.

 

Penderfynwyd bod Keith Marsh yn cael ei gynnwys yn y Grŵp Llywio drwy gydol trafodaethau Tirweddau'r Dyfodol Cymru.

 

28.

Tirweddau'r Dyfodol Cymru - Adroddiad Egwyddorion Llywodraethu. pdf eicon PDF 93 KB

Cofnodion:

Rhoddodd Tîm AoHNE Gŵyr y diweddaraf am yr egwyddorion llywodraethu ar gyfer y tirweddau dynodedig.

 

Amlinellodd, ers cyfarfod y cyfarfod Grŵp Llywio, ei bod hi wedi dod yn fwyfwy amlwg bod AoHNE Dyffryn Gwy hefyd yn paratoi i ymgymryd â'r un ymarfer. O ganlyniad, roedd y gweithgor wedi cytuno i weithio ar y cyd ag AoHNE Dyffryn Gwy ar ymarfer ar y cyd.

 

Ychwanegwyd y byddai'r gweithgor yn ymgymryd â'r ymarfer hwn yn y flwyddyn newydd a byddai'n adrodd yn ôl yn y cyfarfod nesaf a drefnir ym mis Mawrth 2018.

 

Cynigiodd Howard Sutcliffe, AoHNE Bryniau Clwyd, i gynorthwyo yn y broses a rhannu ei brofiadau o'r un weithdrefn hefyd.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.

 

29.

Y Diweddaraf am Bartneriaeth Tirwedd Gwyr. pdf eicon PDF 88 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr fod Bwrdd Partneriaeth Tirwedd Gŵyr wedi cwrdd ddiwethaf ar 16 Hydref 2017 a darparwyd yr adroddiad cyllid/diweddariad a ddarparwyd yn y cyfarfod hwnnw er gwybodaeth.

 

Ychwanegwyd y cynhaliwyd cyfarfod Bwrdd Partneriaeth Tirwedd Gŵyr ar 7 Rhagfyr 2017 a chafwyd gweithdy ar etifeddiaeth rhaglen Partneriaeth Tirwedd Gŵyr. Rhoddodd aelodau Bwrdd Partneriaeth Tirwedd Gŵyr adborth ar y gweithdy.  Trafodwyd y materion canlynol: -

 

·         Etifeddiaeth Partneriaeth Tirwedd Gŵyr a sut yr ymdrinnir â hi yn y dyfodol;

·         Diwedd rhaglen a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri;

·         Mae Partneriaeth Tirwedd Gŵyr yn enghraifft dda o weithio mewn partneriaeth;

·         Archwilio ffynonellau eraill o ariannu ar gyfer y dyfodol;

·         Rôl Partneriaeth Tirwedd Gŵyr yn y dyfodol, ei chylch gwaith a sut y gallai ariannu prosiectau;

·         Rôl y Grŵp Llywio yn y dyfodol o ran Partneriaeth Tirwedd Gŵyr ac a fyddai Partneriaeth Tirwedd Gŵyr yn rhan o grŵp/is-grŵp parhaol y Grŵp Llywio.

 

Nododd Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr y byddai'r cynigion yn cael eu cyfeirio gan egwyddorion llywodraethu FLW, a bod cynigion ar gyfer llywodraethu Partneriaeth AoHNE yn y dyfodol yn debygol o gynnwys Partneriaeth Tirwedd Gŵyr.

 

Penderfynwyd ar y canlynol: -

 

1)    Dylid nodi cynnwys yr adroddiad.

2)    Bydd Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr yn cadarnhau'r egwyddorion llywodraethu gyda Llywodraeth Cymru ac yn adrodd yn ôl yn y cyfarfod nesaf.

 

30.

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe - Ymgynghoriad ar y Cynllun Lles Lleol Drafft. pdf eicon PDF 97 KB

Cofnodion:

Adroddodd Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr ar ymgynghoriad Cynllun Lles 2018 drafft Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe, yn ôl gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Esboniwyd y dechreuodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Abertawe drafodaethau am les yn yr ardal leol yn 2016. Gwelwyd o'r Asesiad o Les Lleol (a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2017) fod pobl o'r farn bod Abertawe'n lle gwych i fyw ynddo ond bod angen cydweithio'n fwy er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu byw'n dda, elwa o Abertawe ac ymfalchïo ynddi.

 

Mae Cynllun Lles Lleol drafft Abertawe bellach yn destun ymgynghoriad.

Drwy ddefnyddio gwybodaeth o'r asesiad a gwrando ar bobl, lluniwyd Cynllun Lles Lleol drafft gyda'r nod o wella lles yn yr ardal leol.  Ceisiwyd barn er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth gywir yn cael ei chynnwys yn y cynllun a threfnwyd cyfres o ddigwyddiadau.

 

Trafododd y grŵp y canlynol: -

 

·         Pwysigrwydd lles yn y gymdeithas;

·         Sut mae gwahanol sefydliadau/adrannau mewn sefydliadau ac unigolion yn ymateb i'r ymgynghoriad;

·         Ffyrdd o ymateb i'r ymgynghoriad, gan gynnwys ar lafar;

·         Pwysigrwydd derbyn ymatebion yn enwedig rhai sy'n ymwneud â'r amgylchedd naturiol, sy'n un o bedair o flaenoriaethau'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus;

·         Pwysigrwydd cymryd rhan yn y broses ymgynghori.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.

 

31.

Llygredd Golau/Awyr Dywyll. pdf eicon PDF 91 KB

Cofnodion:

Adroddodd Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr fod llygredd golau/awyr dywyll wedi cael eu trafod yng nghyfarfodydd diweddar y Grŵp Llywio a rhoddodd grynodeb/diweddariad o'r sefyllfa bresennol.

 

Ychwanegwyd y darparwyd tystiolaeth gyfredol sydd ar gael gan astudiaethau o Gymru gyfan sy'n seiliedig ar ddelweddau lloeren a data GIS. Cyhoeddwyd yr astudiaethau diweddaraf ar gyfer Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn 2009, a oedd yn ddiweddariad ar gyfer astudiaeth a gynhaliwyd ym 1997.  Roedd Cynllun Rheoli presennol AoHNE Gŵyr yn cynnwys Amcan 17: Asesu lefelau llonyddwch, sŵn ac aflonyddwch golau ar hyn o bryd, gyda'r bwriad o 'Ddatblygu ac ymgymryd ag ymagweddau cychwynnol/monitro ar gyfer llonyddwch/awyr dywyll.

 

Yn y cyd-destun hwnnw, roedd Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr wedi cwrdd â Llywodraeth Cymru, Awyr Dywyll Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru ac wedi cynnal trafodaethau â hwy.  Amlinellwyd bod angen data empeiraidd fel data cychwynnol er mwyn rhoi gwybod a fydd angen mwy o waith neu ddatblygiad i wneud AoHNE Gŵyr yn ardal/gyrchfan awyr dywyll. Gofynnwyd i Awyr Dywyll Cymru ymgymryd â'r gwaith maes a chofnodi priodol gan Gyngor Abertawe.  Byddai Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr yn cyhoeddi adroddiad i'w drafod yng nghyfarfod nesaf y Grŵp Llywio.

 

Trafodwyd y canlynol: -

 

·         Cynnwys Cymdeithas Seryddol Abertawe mewn trafodaethau;

·         Cymharu ag ardaloedd eraill yng Nghymru a'r posibilrwydd o gyfleoedd busnes sy'n ymwneud ag awyr dywyll;

·         Pryder ynghylch methu rheoli golau, effaith gadarnhaol y goleuadau stryd sy'n ystyriol o'r amgylchedd ac effaith negyddol rhai goleuadau e.e. cwrs golff Machynys, Llanelli;

·         Gwahanol lefelau o ddosbarthiad awyr dywyll, yr angen i lunio cynllun ac annog pobl i werthfawrogi awyr dywyll.

 

Penderfynwyd y dylid nodi cynnwys yr adroddiad.

 

32.

Adroddiad y Gronfa Datblygu Cynaliadwy. pdf eicon PDF 91 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog AoHNE Gŵyr adroddiad y Gronfa Datblygu Cynaliadwy.

 

Adroddwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cyllideb y Gronfa Datblygu Cynaliadwy ar gyfer 2018/19 fel £55,000. Ariennir 14 prosiect drwy gyllideb CDC ar gyfer 2017/18 ar hyn o bryd, ac mae cais arall ar waith. Rhagwelir y bydd cais ychwanegol ar gyfer 2017/18 hefyd.

 

Roedd ffigur y cronfeydd sydd wedi eu neilltuo yn cynnwys ffi reoli DASA sef £5,500 (10%). 

 

Cyfanswm yr arian sydd ar gael

£ 55,000.00

Cronfeydd sydd wedi eu neilltuo

£ 41,810.00

Cronfeydd sydd heb eu neilltuo

£ 13,190.00

Ceisiadau o dan ystyriaeth

£ 1,000.00

Ceisiadau eraill a ragwelir

£ 12,000.00

 

Yn ogystal, neilltuwyd y mwyafrif o'r gyllideb ar gyfer 2018/19 eisoes.

 

Nododd Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn hapus iawn gyda'r ffordd y mae'r gronfa wedi'i rheoli yn Abertawe a hoffai weld cyrff eraill yn dilyn esiampl debyg. Ychwanegwyd bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cynnal ymweliad safle â'r awdurdod ychydig fisoedd yn ôl ac roeddent yn hapus iawn gyda'r prosiectau lleol a gefnogir gan gyllideb CDC.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.

 

33.

Cymdeithas Genedlaethol AoHNE - Adborth o gyfarfod y Cadeiryddion ar 23 Tachwedd 2017. (llafar)

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd P Lloyd, Cadeirydd y Grŵp Llywio, adroddiad ar lafar ar gyfarfod cadeiryddion cenedlaethol AoHNE a gynhaliwyd yn Llundain ym mis Hydref 2017. Nododd fod y cyfarfod yn adeiladu ar y themâu a drafodwyd yn y gynhadledd, yn enwedig Brexit, deddfwriaeth sy'n effeithio ar yr amgylchedd hanesyddol a thirweddau dynodedig y DU.

 

Trafododd fanylion y siaradwyr a'r pynciau a amlygwyd. Mae'r rhain yn cynnwys y sefyllfa'n dilyn Brexit, yn enwedig sut y byddai DEFRA yn darparu cefnogaeth.

 

Trafododd y grŵp y materion a godwyd yn yr adroddiad ac amlygwyd pwysigrwydd ffermio i AoHNE a Pharciau Cenedlaethol.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.