Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Reynoldston Village Hall - Church Meadow, Reynoldston, Gŵyr, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Munud O Ddistawrwydd - JOHN BARROW

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at farwolaeth drist John Barrow, cyn-aelod o Fforwm Cefn Gwlad Gŵyr, yn ddiweddar. Hefyd, talodd Roger Button deyrnged ar ran y Grŵp Partneriaeth. Safodd pawb i ddangos parch.  

 

2.

Croeso a Chyflwyniadau.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol i Neuadd Bentref Reynoldston a dechrau'r cyfarfod. 

 

3.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir

Abertawe, ni ddatganwyd buddiannau.

 

4.

Cofnodion. pdf eicon PDF 28 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion cyfarfod Grŵp Llywio AoHNE Gŵyr

a gynhaliwyd ar 27 Mawrth 2017 fel cofnod cywir.

 

5.

Materion sy'n codi o'r cofnodion.

Cofnodion:

Derbyniad ffonau symudol a band llydan ym mhenrhyn Gŵyr   

 

Dywedodd Roger Button fod derbyniad ffonau symudol yn dal i fod yn wael iawn ym mhenrhyn Gŵyr, a bod hynny’n cael effaith andwyol ar yr apiau ffonau symudol ar gyfer cerdded a phrosiect Tirwedd Gŵyr.

 

Llygredd Golau

 

Nododd Chris Lindley, Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr, fod trafodaethau'n parhau ag AoHNE eraill a CNC o ran llonyddwch ac awyr dywyll yng Nghymru ar gyfer 2018/19, mater sydd wedi'i gynnwys ym mlaenraglen waith CNC.

 

6.

Cyflwyniad - Gwaith a Rolau Partneriaeth AoHNE Gwyr a Thîm AoHNE Gwyr.

Cofnodion:

Rhoddodd Mike Scott, Swyddog AoHNE Gŵyr, gyflwyniad ar waith Partneriaeth AoHNE Gŵyr.  Amlinellodd ddynodiad AoHNE Gŵyr, rôl Partneriaeth AoHNE Gŵyr a gwaith Tîm AoHNE yn Ninas a  Sir Abertawe.

 

7.

Cyflwyniad - Cyrff Partner.

Cofnodion:

Cymdeithas Gŵyr

 

Rhoddodd Gordon Howe, Cymdeithas Gŵyr, adroddiad am waith y gymdeithas, yn enwedig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Cyfeiriodd at grantiau a'r gefnogaeth ariannol a roddwyd gan y gymdeithas yn ystod y flwyddyn flaenorol, gan dynnu sylw at rôl bwysig y gymdeithas ym mhenrhyn Gŵyr.

 

Cyfoeth Naturiol Cymru

 

Rhoddodd Hamish Osborne, Arweinydd Tîm Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn Abertawe, gyflwyniad ar waith diweddaraf CNC ym mhenrhyn Gŵyr. Rhoddodd fanylion ynghylch rheoli CNC yn Abertawe a Chwm Tawe; diben y sefydliad; y stadau coetir, y gwarchodfeydd natur a chadwraeth y safleoedd a warchodir y mae'n eu rheoli ym mhenrhyn Gŵyr.

 

8.

Cyflwyniad - Tirweddau'r Dyfodol: Cyflawni dros Gymru.

Cofnodion:

Rhoddodd Chris Lindley, Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr, gyflwyniad ynghylch yr Adolygiad o Dirweddau Dynodedig Cymru. Cyfeiriodd at gynnwys yr adroddiad Tirweddau'r Dyfodol: Cyflawni dros Gymru, sef yr Adolygiad o Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol yng Nghymru. Tynnodd sylw hefyd at y goblygiadau i AoHNE Gŵyr.

 

9.

Adolygiad O Gynllun Gweithredu AOHNE 2015-2018.

Cofnodion:

Rhoddodd Mike Scott, Swyddog AoHNE Gŵyr, adolygiad o Gynllun Gweithredu'r AoHNE 2015-2018. Manylodd ar waith y 2 flynedd flaenorol a'r gwaith arfaethedig tan 2018.  Cyfeiriodd at y prosiectau a oedd wedi'u cefnogi ac a oedd wedi derbyn cymorth ariannol.

 

10.

Ethol Deg Aelod Grwp Llywio o'r Enwebiadau a Dderbyniwyd.

Cofnodion:

Esboniodd y Cadeirydd fod 13 o enwebiadau wedi'u derbyn am 10 o swyddi gwag fel aelodau o Grŵp Llywio'r Bartneriaeth. Felly, roedd angen etholiad.

 

Dosbarthwyd papurau pleidleisio i bawb a oedd yn bresennol.

 

PENDERFYNWYD ethol y canlynol i Grŵp Llywio Partneriaeth AoHNE Gŵyr am gyfnod o ddwy flynedd, yn unol â'r cylch gorchwyl:

 

Enw

Yn cynrychioli

Roger Button

Unigolyn

Rod Cooper

Unigolyn

Stephen Crocker

Twristiaeth Bae Abertawe

Stephen Heard

Clwb Marchogaeth Gŵyr/Cyngor Cymuned Porth Einon

Sue Hill

Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg Gwent

Gordon Howe

Cymdeithas Gŵyr

Michael Lewis

Unigol

Barbara Parry

Unigol

Paul Tucker

Cyngor Cymuned Llanrhidian Uchaf

Deborah Vine

Unigol

 

 

11.

Ethol Is-gadeirydd y Grwp Llywio ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2017-2018.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD ethol Stephen Heard fel Is-gadeirydd y Grŵp Llywio ar gyfer blwyddyn ddinesig  2017/18.

 

12.

Panel Grantiau'r Gronfa Datblygu Cynaliadwy (CDC) (sy'n cynnwys Cadeirydd y Grwp Llywio, 3 Chynghorydd a 4 aelod arall).

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem tan gyfarfod nesaf y Grŵp Llywio ar 25 Medi 2017.

 

13.

Panel Apeliadau Grantiau'r Gronfa Datblygu Cynaliadwy (CDC) (sy'n cynnwys Is-gadeirydd y Grwp Llywio, 1 Cynghorydd a 6 aelod arall nad ydynt eisoes ar Banel Grantiau'r CDC).

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem tan gyfarfod nesaf y Grŵp Llywio ar 25 Medi 2017.

 

14.

Cwestiynau gan y Cyhoedd. (10 munud).

Cofnodion:

Parcio – Cefn Bryn

 

Gofynnodd Ian Button gwestiwn am barcio ger Maen Ceti yng Nghefn Bryn. Yn y cyfarfod, trafodwyd pwnc parcio ar Gefn Bryn, effaith parcio ar bentref Reynoldston a'r opsiynau posib a oedd ar gael. Nodwyd bod yr ardal dan reolaeth Cyngor Cymuned Llanrhidian Isaf.

 

Datganodd Chris Lindley, Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr, y gofynnwyd i'r Bartneriaeth Datblygu Gwledig archwilio'r broblem yn fanwl a bod angen mabwysiadu ymagwedd bartneriaeth.

 

PENDERFYNWYD cyflwyno adroddiad diweddaru yn y cyfarfod nesaf a drefnir. 

 

Cefn Bryn – Dŵr ar y Ffordd

 

Gwnaeth Paul Tucker ymholiad am ddŵr ar y ffordd yng Nghefn Bryn a dywedodd y byddai'n beryglus yn y gaeaf. Ychwanegodd fod angen glanhau'r draeniau'n rheolaidd. Ychwanegodd Roger Button fod y dŵr wedi peri i'r ffordd gwympo o'r blaen.

 

Adeiladau/Henebion

 

Gofynnodd Mike Lewis gwestiynau am berchnogaeth Goleudy Whitford a'i gyflwr, yr adeiladau hanesyddol ar Burry Holmes a chyflwr Castell Pennard. Esboniwyd mai Cyngor Sir Gâr biau Goleudy Whitford a chydnabuwyd bod angen cyllid i wneud gwaith ar yr adeilad. Yn ogystal, datganwyd bod CADW yn hollol ymwybodol o'r problemau adeileddol yng Nghastell Pennard ac archwiliwyd y safle.

 

 

15.

Dyddiadau cyfarfodydd 2017/2018 i gael eu cynnal am 7pm fel a ganlyn

·         25 Medi 2017

·         11 Rhagfyr 2017

·         26 Mawrth 2018

·         25 Mehefin 2018 – Fforwm Blynyddol (dyddiad i'w gadarnhau)

 

Cofnodion:

NODWYD y cynhelir cyfarfodydd 2017/2018 am 7pm ar y dyddiadau canlynol:

 

·         25 Medi 2017;

·         11 Rhagfyr 2018;

·         26 Mawrth 2018.