Lleoliad: Minor Hall, Reynoldston Village Hall - Church Meadow, Reynoldston, Gower, Swansea. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Croeso a Chyflwyniadau. Cofnodion: Croesawodd
y cadeirydd bawb a oedd yn bresennol i Minor Hall, Neuadd Bentref Reynoldston a
dechrau'r cyfarfod. |
|||||||||
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol
â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
ni ddatganwyd buddiannau. |
|||||||||
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion
cyfarfod blynyddol Partneriaeth AoHNE Gŵyr a
gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2016 yn gofnod cywir. |
|||||||||
Materion yn codi o'r cofnodion. Cofnodion: Nid
oedd unrhyw fater yn codi o'r cofnodion. |
|||||||||
Ynn yn gwywo. (Llafar) Cofnodion: Rhoddodd Chris
Lindley, Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr, gyflwyniad i'r Grŵp Llywio am
glefyd coed ynn. Cyfeiriodd at fap o'r DU a ddarparwyd gan Cyfoeth Naturiol
Cymru (CNC) a ddangosodd yr achosion o ynn yn gwywo, gan gynnwys lleoliad y
coed afiach yn Gŵyr. Cafodd y clefyd ei gludo o Ewrop a daethpwyd o hyd
i'r achosion cyntaf a nodwyd yn y DU yn Nwyrain Anglia yn 2012. Esboniodd fod clefyd coed ynn yn glefyd ffwng sy'n effeithio ar goed ynn.
Bydd coed afiach yn dangos tystiolaeth o ddifrod i'r dail, gwywo i'r corun ac
anafiadau. Ychwanegodd mai ynn oedd y
mwyafrif o'r coetir ar benrhyn Gŵyr, gan olygu y gallai'r
afiechyd gael effaith sylweddol ar ganopi'r coetir a'r dirwedd ffisegol. Nododd nad oedd
unrhyw ofynion rheoli statudol ar gyfer coed afiach, a dywedodd y byddai cael
gwared ar y coed yn wrthgynhyrchiol gan fod cryn dipyn y gellir
ei wneud er mwyn rheoli neu atal y clefyd. Dangoswyd
enghreifftiau o'r clefyd gan AoHNE Twyni Caint, a dywedwyd bod de-ddwyrain
Lloegr yn dechrau dod i delerau â'r clefyd. Mae prosiectau presennol sy'n
ymchwilio i'r clefyd yn cynnwys prosiect 'Living Ash' sy'n archwilio i ymwrthedd i'r clefyd. Gofynnodd y
grŵp gwestiynau i Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr ac ymatebwyd iddynt yn
briodol. Gofynnwyd a oedd yn bosib adrodd am unrhyw achosion o glefyd coed ynn
i CNC/Tîm AoHNE Gŵyr. PENDERFYNWYD: - 1)
Nodi
cynnwys y cyflwyniad llafar; 2)
Y
dylai Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr gylchredeg gwybodaeth am glefyd coed ynn
i'r Cynghorau Cymuned a Thref. |
|||||||||
Canclwm Japan ar Benrhyn Gwyr. (Llafar) Cofnodion: Rhoddodd Mike
Scott, Swyddog AoHNE Gŵyr, y diweddaraf ar lafar am Ganclwm Japan. Rhoddwyd y diweddariad mewn ymateb i sylwadau
a wnaed yn y Cyfarfod Blynyddol ynghylch contractwyr Dinas a Sir Abertawe'n torri Canclwm Japan wrth dorri gwrychoedd ym
Mhenrhyn Gŵyr. Ychwanegodd fod arolwg ar waith ar hyn o bryd er mwyn
cadarnhau i ba raddau y mae Canclwm Japan wedi ymledu ym Mhenrhyn Gŵyr. Ychwanegodd nad
oedd y contractwyr a oedd yn torri'r gwrychoedd i fod i dorri'r canclwm. Fodd bynnag, roedd yn amlwg nad oedd hyn bob
amser yn digwydd yn ymarferol. Roedd Dinas a Sir Abertawe'n cynnal rhaglen chwistrellu ac roedd triniaeth
newydd yn cael ei threialu. PENDERFYNWYD y dylid nodi cynnwys yr adroddiad. |
|||||||||
Anafusion ffyrdd ar gominau Gwyr. (Llafar) Cofnodion: Rhoddodd Mike
Scott, Swyddog AoHNE Gŵyr, y diweddaraf ar lafar am anafiadau ffyrdd ar
diroedd comin penrhyn Gŵyr. Tynnwyd
sylw at y mater yn y Cyfarfod Blynyddol ac roedd trafodaethau â Chominwyr Gŵyr yn parhau. Tynnwyd sylw at gyflwyniad
llwyddiannus camerâu cyflymder cyfartalog rhwng Llanrhidian a Thregŵyr, a'r gobaith oedd y byddai cynlluniau tebyg
yn cael eu cyflwyno ar diroedd comin Penrhyn Gŵyr. PENDERFYNWYD nodi cynnwys y diweddariad. |
|||||||||
Cynllun Datblygu Lleol a Grwp Gweithredu Lleol. PDF 64 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Darparodd Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr adroddiad i'r
grŵp am y Rhaglen Datblygu Gwledig (RhDG) a'r
Grŵp Gweithredu Lleol (GGLl). Amlinellwyd bod y RhDG
yn rhaglen Undeb Ewropeaidd (UE) sy'n dod â datblygiad gwledig yn unol â
blaenoriaethau'r UE. Mae'r rhaglen yn nodi ac yn cytuno ar ardaloedd lle gall
cefnogaeth UE roi'r gwerth ychwanegol mwyaf, ac mae'n rhan o'r Polisi
Amaethyddol Cyffredin (PAC). Roedd PAC Cymru wedi galluogi ariannu gweithgareddau sy'n cefnogi ffermwyr,
cefn gwlad a chymunedau gwledig. Roedd y gweithgareddau hyn wedi annog
rheolaeth gynaliadwy amaethyddiaeth a'r amgylchedd mewn pedwar maes allweddol: ·
Amaethyddiaeth ·
Coedwigaeth, amgylchedd a chefn gwlad ·
Cadwyn gyflenwi ar gyfer amaethyddiaeth a choedwigaeth ·
Ansawdd bywyd mewn ardaloedd gwledig Cymdeithas anghorfforedig yw'r
Grŵp Gweithredu Lleol (GGLl), sy'n: - ·
Ceisio
cynyddu gallu sefydliadau ac unigolion lleol i ddatblygu prosiectau a'u rhoi ar
waith; ·
Llunio
gweithdrefn ddethol dryloyw sy'n osgoi gwrthdaro buddiannau, yn sicrhau bod o leiaf
50% o'r pleidleisiau mewn penderfyniadau dethol yn cael eu bwrw gan bartneriaid
nad ydynt yn awdurdodau cyhoeddus; ·
Blaenoriaethu
prosiectau yn unol â'u cyfraniad at gyflawni amcanion
a thargedau'r Strategaeth Datblygu Lleol (SDLl); ·
Paratoi
a chyhoeddi cynigion neu weithdrefn cyflwyno prosiect barhaus a meini prawf
dethol diffiniol; ·
Derbyn
ac asesu ceisiadau am gefnogaeth; ·
Dewis
prosiectau, gan gytuno ar lefelau cefnogaeth grant cyn eu cymeradwyo. Gwerth
£445k o arian grant, graddfa ymyriad 80%.
Bydd y corff arweiniol yn sicrhau cydymffurfio a chymhwysedd; ·
Monitro
rhoi'r SDLl ar waith, a'r prosiectau a gefnogir, ac
yn gwerthuso gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r strategaeth. Ychwanegwyd mai Dinas a Sir Abertawe oedd y corff arweiniol. Darparwyd hefyd
weledigaeth ac amcanion y SDLl, yn ogystal ag
aelodaeth bresennol y GGLl a'r tri is-grŵp. PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |
|||||||||
Cronfa Datblygu Cynaliadwy. PDF 53 KB Cofnodion: Darparodd Swyddog
AoHNE Gŵyr adroddiad yn rhoi'r diweddaraf am y Gronfa Datblygu Cynaliadwy.
Ychwanegwyd bod y Tîm AoHNE yn
gweithredu cynllun grantiau bach, Y Gronfa Datblygu Cynaliadwy (CDC), gan
ddefnyddio arian gan Lywodraeth Cymru. Nod y gronfa oedd cefnogi prosiectau
blaengar, cynaliadwy ac amgylcheddol sy'n cynnwys cymunedau lleol mewn
Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AoHNE). Nod y CDC yw datblygu a phrofi dulliau o gyflawni ffordd o fyw fwy
cynaliadwy mewn ardaloedd gwledig o harddwch ac amrywiaeth naturiol gwych, a
hynny drwy bartneriaeth. Mae'r cynllun yn ceisio cadw a gwella'r
nodweddion lleol, megis y diwylliant, y bywyd gwyllt, y dirwedd, y defnydd o'r
tir a'r cymunedau lleol. Mae cynnal lles cymdeithasol a dichonoldeb economaidd
cymunedau hefyd yn nodau pwysig o'r cynllun. Gellir cyflwyno ceisiadau ar gyfer grantiau
bach sy'n llai na £3,000 neu grantiau mwy sy'n werth hyd at £25,000. Caiff
ceisiadau dros £3,000 eu hasesu gan Panel Grantiau'r CDC, sef is-grŵp
Grŵp Llywio Partneriaeth AoHNE. Ar
gyfer y flwyddyn bresennol, y gyllideb ar gyfer y gronfa oedd £55,000. Mae 15 o
brosiectau'n cael eu hariannu ar hyn o bryd, gyda 4 o geisiadau ychwanegol
naill ai'n ddisgwyliedig neu dan asesiad. Ar hyn o bryd, roedd £3,131.52 heb ei
neilltuo ar gyfer 2016/17, ond roedd yn debygol y byddai hwn yn cael ei
neilltuo'n llawn erbyn diwedd mis Hydref. Mae'r ffigur
cronfeydd neilltuedig yn cynnwys ffi reoli DASA sef £5,500 (10%).
Esboniwyd na
fyddai'r gyllideb ar gyfer 2017/18 yn cael ei chadarnhau tan fis Mawrth/Ebrill
2017. Fodd bynnag, roedd 4 prosiect yn cael eu hariannu ar hyn o bryd ar gyfer
2017/18, gyda 2 gais dan asesiad, a 3 arall yn ddisgwyliedig o fewn y ddeufis
nesaf. Roedd cyllideb o £48,600 yn ddisgwyliedig, gyda £25,670 eisoes wedi ei
neilltuo, a disgwylir ceisiadau gwerth £20,600. Roedd yn debygol y byddai'r
gronfa wedi ei neilltuo'n llawn cyn 2017/18. PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |
|||||||||
Unrhyw fater arall. Cofnodion: Trafodwyd y
canlynol: - Darpariaeth a
Glendid Toiledau ym Mhenrhyn Gŵyr Nododd Barbara Parry fod profiadau ymwelwyr â Phenrhyn Gŵyr
yn cael eu niweidio oherwydd darpariaeth toiledau gwael, a chyflwr gwael
toiledau'r cyngor. Ychwanegodd fod angen gwella'r cyfleusterau os oedd y cyngor
am ddenu mwy o dwristiaid i Benrhyn Gŵyr. Trafododd y
grŵp gyflwr cyfleusterau toiled penodol ym Mhenrhyn Gŵyr. Nododd y Cynghorydd J P Curtice, fel
Hyrwyddwr Pobl Hŷn, ei bod hi'n ymwybodol o broblemau tebyg ar draws
Abertawe. PENDERFYNWYD tynnu sylw'r Aelod(au)
Cabinet perthnasol at y mater. Darpariaeth
Band eang/Derbyniad Ffonau Symudol ym Mhenrhyn Gŵyr Mynegwyd pryder
ynghylch darpariaeth band eang/derbyniad ffôn symudol gwael ym Mhenrhyn
Gŵyr. Ychwanegwyd nad yw rhai apiau ffônau
symudol yn gweithio oherwydd derbyniad ffôn gwael. PENDERFYNWYD y byddai Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr yn
diweddaru'r grŵp am y mast ffôn symudol yn Horton. |