Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Reynoldston Village Hall - Church Meadow, Reynoldston, Gŵyr, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Croeso a Chyflwyniadau.

Cofnodion:

Croesawodd y cadeirydd bawb a oedd yn bresennol i Neuadd Bentref Reynoldston a dechrau'r cyfarfod.  </AI1>

 

2.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir

Abertawe, ni ddatganwyd buddiannau.

 

3.

Cofnodion. pdf eicon PDF 77 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD y dylid derbyn cofnodion cyfarfod Grŵp Llywio AoHNE Gŵyr a  gynhaliwyd ar 21 Rhagfyr 2015 fel cofnod cywir.

 

4.

Materion yn codi o'r cofnodion.

Cofnodion:

 

Arwydd wedi'i oleuo

 

Gwnaeth Gordon Howe sylw bod yr arwydd anghyfreithlon yn ei le o hyd yn Llan-y-tair-mair (Knelston) er gwaethaf adrodd amdano amser maith yn ôl. 

 

5.

Gwaith a Rolau Partneriaeth AoHNE a Thîm AoHNE. (Llafar)

Cofnodion:

Rhoddodd Swyddog AoHNE Gŵyr gyflwyniad ar waith Partneriaeth AoHNE

Gŵyr. 

Amlinellodd ddynodiad AoHNE Gŵyr, rôl Partneriaeth AoHNE Gŵyr a gwaith

Tîm AoHNE yn Ninas a Sir Abertawe.

 

6.

Adroddiad Partneriaid - Cymdeithas Gwyr. (Llafar)

Cofnodion:

 Rhoddodd Gordon Howe, Cyfeillion Gŵyr, adroddiad diweddaru ar waith y gymdeithas yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.  Dywedodd fod y gymdeithas wedi rhoi dros £75,000 o grantiau i Benrhyn Gŵyr yn ystod y flwyddyn flaenorol a thynnodd sylw at rôl arwyddocaol y gymdeithas ar Benrhyn Gŵyr.

 

Gwnaeth sylw hefyd ynghylch rôl Dinas a Sir Abertawe ar Benrhyn Gŵyr a'r angen i ddiogelu'r AoHNE fod yn flaenoriaeth i'r awdurdod, i breswylwyr ac i'r rhai sy'n gweithio ar Benrhyn Gŵyr.

 

Canmolodd Dîm AoHNE Gŵyr am ei waith a thynnodd sylw at y gwelliannau a wnaed gan y Gwasanaethau Cynllunio, yn enwedig ar ei wefan. 

 

7.

Adroddiad Partneriaid - Cynllun Datblygu Lleol. (Llafar)

Cofnodion:

Rhoddodd Paul Meller, Rheolwr Cynllunio Strategol ac Amgylchedd Naturiol, y diweddaraf ynghylch y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).  Dywedodd fod yr CDLl yn cynnwys nifer o bolisïau a effeithiodd ar yr AoHNE ac y lluniwyd y cynllun i greu lle ar gyfer twf mewn poblogaeth.

 

Roedd yr awdurdod wedi dechrau hysbysu'r broses ymgynghori ar y cynllun adnau a bu'n cynnal cyfres o sioeau teithiol trwy gydol mis Gorffennaf a mis Awst 2016 lle gallai'r cyhoedd wneud sylwadau ffurfiol i swyddogion.

 

Ychwanegodd y trefnwyd un sioe deithiol i'w chynnal ym Mhennard.  Fodd bynnag, roedd datblygiadau ar Benrhyn Gŵyr yn gyfyngedig iawn o'u cymharu ag ardaloedd eraill Abertawe.  Roedd yr wybodaeth ar gael ar wefan y cyngor ac roedd copïau caled ar gael am y ffi briodol.  Anfonwyd copi o'r cynllun adnau at yr holl gynghorau cymuned a thref.

 

Mewn ymateb i bryderon ynghylch gorfodi, gwnaeth sylw bod yr adnoddau'n lleihau yn y cyngor a'i bod yn bwysig i bobl weithio gyda'i gilydd i ddod o hyd i atebion i broblemau.  Ychwanegodd fod nifer o faterion gorfodi heb eu datrys a bod y broses, yn anffodus, yn araf ac yn drofaus.  Fodd bynnag, nid oedd dim yn cael ei anwybyddu ac roedd swyddogion yn gweithio'n galed er mwyn datblygu'r materion heb eu datrys.

 

8.

Adroddiad Partneriaid - Cyfoeth Naturiol Cymru. (Llafar)

Cofnodion:

 Rhoddodd Hamish Osborne, Arweinydd Tîm Abertawe, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), y diweddaraf ynghylch gwaith CNC, yn enwedig mewn perthynas â

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Rhoddodd fanylion ynghylch rheoli CNC yn Abertawe a Chwm Tawe; diben y sefydliad; y stadau coetir, gwarchodfeydd natur a chadwraeth safleoedd a warchodir mae'n eu rheoli ar Benrhyn Gŵyr, gan gynnwys problemau gyda llarwydd ac ynn yn gwywo; rheoli rhostir; a rheoleiddio ansawdd dŵr. 

 

Tynnodd sylw at y gwaith partneriaeth agos rhwng CNC a Thîm AoHNE Gŵyr a'r angen am waith partneriaeth parhaol ar Benrhyn Gŵyr.

 

Ar ben hynny, amlinellodd ofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a chynllun Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus a'i berthnasedd i Benrhyn Gŵyr.

 

Holodd y Cynghorydd R. Fisher, Cyngor Cymuned Porth Einon, am dorri canclwm Japan mewn gwrychoedd ar Benrhyn Gŵyr gan Ddinas a Sir Abertawe sy'n arwain at ei ledaenu a byddai'n difetha gwrychoedd o fewn cyfnod byr.  Nodwyd mai cyfrifoldeb perchnogion tir yw clirio a gwaredu canclwm Japan yn briodol.

 

9.

Adroddiad Partneriaid - Partneriaeth Tirwedd Gwyr. (Llafar)

Cofnodion:

Rhoddodd Chris Lindley, Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr, gyflwyniad ar rôl Partneriaeth Tirwedd Gŵyr (PTG). 

 

Amlinellodd gefndir PTG a dweud bod y rhaglen yn cymryd rhan mewn dros 50 o brosiectau sy'n ymwneud â chadw a dathlu nodweddion arbennig Gŵyr. Cafodd y rhaglen £1.9m grant £1.3m gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

 

Amlinellodd waith partneriaeth PTG a thynnodd sylw at y gwaith a wnaed gan sefydliadau partner a Chynllun Cyflwyno PTG.

 

 

10.

Cyflwyniadau - Lleisiau Gwyr.

Cofnodion:

Rhoddwyd 10 munud i'r canlynol drafod pwnc sy'n ymwneud ag AoHNE Gŵyr:

 

a)    Da byw'n marw ar ffyrdd Gŵyr – John Barrow.

 

Amlinellwyd bod 8 buwch, 7 ceffyl a bron 20 dafad wedi'u lladd ers Nadolig 2015 ar ffyrdd Comin Fairwood.  Ychwanegwyd ei bod yn cymryd oddeutu 3 blynedd i fagu anifail a gallu ei roi ar y comin ar gyfer pori a heb hynny, byddai'r tiroedd comin, na ellir eu rheoli'n beiriannol, yn llawn tyfiant.  Y ffactor pennaf yn y marwolaethau hyn oedd cyflymder ac roedd angen taer i fesurau rheoli a gorfodi traffig gael eu cyflwyno.

 

Gwnaed sylw yn y cyfarfod ar y materion a godwyd a'r opsiynau sydd ar gael.  Nodwyd bod 90% o'r unigolion a oedd yn rhan o'r fath ddamweiniau'n lleol.  Awgrymwyd y byddai camerâu cyflymder cyfartalog yn arf ataliol mawr.  Cytunodd cynrychiolwyr CNC i gwrdd â chominwyr er mwyn trafod y mater ymhellach.

 

b)    Cysylltedd rhyngrwyd a ffôn ar Benrhyn Gŵyr – Ceri Butcher.

 

Yn absenoldeb y siaradwr, amlygwyd bod cysylltedd rhyngrwyd a ffôn ar Benrhyn Gŵyr yn parhau i fod yn broblem enfawr.

 

Byddai'r cadeirydd yn ymchwilio i'r mater ymhellach.

 

11.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd K. E. Marsh gwestiynau'n ymwneud â chynnwys y Tîm AoHNE yn y broses gynllunio, achosion o ynn yn gwywo ar Benrhyn Gŵyr a thrin canclwm Japan ar Benrhyn Gŵyr.  Ymatebwyd i'r cwestiynau gan swyddogion Dinas a Sir Abertawe a chynrychiolydd CNC.

 

Cynigiodd Rebecca Evans, AS, y dylid trafod effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar yr AoHNE, gan gynnwys ffyrdd o leddfu risgiau a chwilio am gyfleoedd newydd y tu allan i'r UE, yng nghyfarfod y Grŵp Llywio yn y dyfodol.

 

Holodd Gordon Howe, Cyfeillion Gŵyr, a oedd Dŵr Cymru wedi sylweddoli effaith 26 o gartrefi newydd yn Scurlage a'r effaith y byddai'n ei chael, yn ogystal â chysylltu nifer mawr o garafanau â'r rhwydwaith a'r diffyg rheolaeth dros hidlo dŵr. 

 

Holodd Peter Lanfear, Cominwyr Gŵyr, a ddylid torri canclwm Japan mewn gwrychoedd gan y byddai hyn yn achosi iddo ledaenu.  Hefyd, holodd am arfer presennol Dinas a Sir Abertawe o ran casglu eitemau sydd wedi cael eu tipio'n anghyfreithlon ar diroedd comin.  Dywedwyd y bu'r awdurdod yn arfer casglu'r holl eitemau a oedd wedi'u tipio'n anghyfreithlon ar diroedd comin yn y gorffennol.  Fodd bynnag, eitemau a ollyngwyd ar ymyl y ffordd yn unig fyddai'n cael eu casglu, gan roi pwysau enfawr ar y cominwyr i gael gwared ar yr eitemau.

 

PENDERFYNWYD ar y canlynol: -

 

1)    Dylid trafod effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar yr AoHNE, gan gynnwys ffyrdd o leddfu risgiau a chwilio am gyfleoedd newydd y tu allan i'r UE, yng nghyfarfod y Grŵp Llywio yn y dyfodol;

2)    Dylid trafod tipio anghyfreithlon ar diroedd comin Gŵyr yng nghyfarfod y Grŵp Llywio yn y dyfodol.