Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â'r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, datgelwyd y buddiannau canlynol: Cynghorwyr P N Bentu, J C Curtice, P Downing, M B Lewis, P
Rogers a Datganodd W G Thomas fuddiannau
personol yn yr agenda gyfan. Datganodd Guy fuddiant
personol yn yr agenda gyfan. Swyddogion: Datganodd K Cobb, J Dong, J Parkhouse ac C Isaac fuddiannau personol yn yr agenda gyfan. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: Datganodd y
Cynghorwyr P N Bentu, J C Curtice, P Downing, M B Lewis, P Rogers ac W G Thomas gysylltiadau personol â'r agenda yn ei chyfanrwydd. Datganodd I Guy
gysylltiad personol â'r agenda yn ei chyfanrwydd. Swyddogion: Datganodd K Cobb,
J Dong, J Parkhouse ac C Isaac gysylltiadau personol â'r
agenda yn ei chyfanrwydd. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
Pwyllgor y Gronfa Bensiwn a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2024 fel cofnod cywir. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd Jeff
Dong, Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn
cyflwyno canfyddiadau'r Adroddiadau Archwilio Mewnol ar Fuddsoddiadau'r Gronfa
Bensiwn a Gweinyddiaeth y Gronfa Bensiwn. Amlinellwyd bod
Is-adran Archwilio Mewnol Cyngor Abertawe wedi cynnal archwiliad o'r systemau
rheoli mewnol fel rhan o'r broses gylchol mewn perthynas â sicrwydd ac adrodd
ar reolaeth fewnol gan gwmpasu Buddsoddiadau'r Gronfa Bensiwn a Gweinyddiaeth y
Gronfa Bensiwn. Roedd eu gwaith yn cynnwys cynnal profion rheolaidd ar y
systemau rheolaeth ariannol a rheolaeth yn y meysydd hyn o waith y Gronfa
Bensiwn. Roedd y lefelau
sicrwydd a ddeilliodd o’r gwaith o’r ddau archwiliad yn ‘uchel’. Roedd yr
Adroddiad Archwilio Mewnol – Buddsoddiadau’r Gronfa Bensiwn wedi’i ddarparu yn
Atodiad 1 a’r Adroddiad Archwilio Mewnol – Gweinyddu Pensiynau yn Atodiad 2. Penderfynwyd bod
canfyddiadau'r Adroddiadau Archwilio Mewnol mewn perthynas â Buddsoddiadau'r
Gronfa Bensiwn (Atodiad 1) a Gweinyddiaeth y Gronfa Bensiwn (Atodiad 2) yn cael eu nodi. |
|
Cynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru 2024-27. PDF 119 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth o ran cynnydd a gwaith Partneriaeth Pensiwn Cymru (WPP).
Roedd Atodiad 1 yn darparu Cynllun Busnes WPP ar gyfer 2024-27. Penderfynwyd cymeradwyo
Cynllun Busnes WPP ar gyfer 2024-27. |
|
Adroddiad am Doriadau. PDF 216 KB Penderfyniad: Er Gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er
gwybodaeth' a oedd yn darparu manylion unrhyw doriadau a gafwyd yn y cyfnod hwn
yn unol â'r polisi Adrodd am Doriadau. Darparodd Atodiad
A fanylion ynghylch y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf Pwyllgor y Gronfa
Bensiwn ym mis Tachwedd 2023. Nodwyd manylion y toriadau a'r camau
gweithredu a gymerwyd gan reolwyr. |
|
Cynllun Busnes Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2024/25. PDF 330 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth i ddarparu fframwaith gweithredol ar gyfer rhaglen waith y Gronfa
Bensiwn ar gyfer 2024/25. Amlinellwyd bod y
Gronfa Bensiwn, yn unol ag arfer gorau, wedi llunio cynllun busnes, cofrestr
risgiau, cyllideb a dyraniad asedau i lywio'i rhaglen waith ar gyfer
y cyfnod o 12 mis sydd i ddod. Atodwyd y cynllun busnes, y gyllideb, y gofrestr
risg a'r dyraniad asedau ar gyfer 2024/25 yn Atodiadau 1, 2, 3 a 4. Penderfynwyd cymeradwyo a
nodi’r eitemau canlynol: 1)
Cynllun
Busnes Blynyddol Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2024/2025. 2) Cofrestr
Risgiau 2024/25. 3) Dyraniad
Asedau. 4) Cyllideb
2024/25. |
|
Gwahardd y Cyhoedd. PDF 115 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au)
f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/argymhellion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu
bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff
gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan
Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn
perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y
cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Strategaeth Fuddsoddi Strwythuro Gweithredu. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth awdurdod dirprwyedig i roi strwythur buddsoddi'r strategaeth
Buddsoddi gymeradwy ar waith. Penderfynwyd cymeradwyo'r
caniatâd dirprwyedig i'r Dirprwy Swyddog Adran 151, mewn ymgynghoriad â
Chadeirydd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn i roi'r strwythur buddsoddi ofynnol
(Atodiad 1) ar waith, fel y'i pennir gan y strategaeth buddsoddi a gymeradwywyd
(Atodiad 2). |
|
Diweddariad ar Bartneriaeth Pensiwn Cymru. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad i roi'r wybodaeth
ddiweddaraf i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn am gynnydd a gwaith Partneriaeth
Pensiwn Cymru (WPP). Penderfynwyd nodi
Diweddariad Chwarterol a chofnod 'RAID' y PLlC. |
|
Caffael Gweithredwr Partneriaeth Pensiwn Cymru. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad a oedd yn gofyn am
gymeradwyaeth ar gyfer Adroddiad Argymhelliad Gweithredwyr Caffael Partneriaeth
Pensiwn Cymru (WPP) a ddarparwyd yn Atodiad 1. Penderfynwyd cymeradwyo Adroddiad
Argymhelliad Caffael Gweithredwyr WPP yn atodiad 1. |
|
Crynodeb Buddsoddi. Penderfyniad: Er Gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd
yn cyflwyno'r gwerthusiad o asedau a'r perfformiad buddsoddi ar gyfer y
chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2023. |
|
Adroddiad Monitro Buddsoddi Chwarterol. Penderfyniad: Er Gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Philip
Pearson ac Andre Ranchin, Hymans Robertson, y diweddariad ar y farchnad a'r
buddsoddi chwarterol i'r gronfa 'er gwybodaeth. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau am gynnwys y cyflwyniad ac atebwyd yn briodol iddynt. |
|
Polisi Buddsoddi Cyfrifol. Penderfyniad: Er Gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Philip
Pearson, Hymans Robertson, y Polisi Buddsoddiad Cyfrifol ‘er gwybodaeth’ a oedd
yn amlinellu amcanion sylfaenol y Polisi Buddsoddiad Cyfrifol, credoau’r
Pwyllgor ar ran y Gronfa a’r hyn a ddisgwylid o gael y Polisi yn ei le. Roedd
hefyd yn rhoi manylion ynghylch y camau a fyddai'n cael eu cymryd i gyflawni'r
amcanion hyn a'r modd yr asesir y camau hyn er mwyn barnu a oedd y canlyniadau
disgwyliedig yn cael eu cyflawni. |
|
Cyflwyniad Rheolwr y Gronfa: - ·
Russell
Investments. Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Gwnaed cyflwyniad
gan Julian Brown a Per Dohnal o Russell Investments. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau am gynnwys y cyflwyniad ac atebwyd yn briodol iddynt. Nodwyd cynnwys y
cyflwyniad a diolchodd y Cadeirydd i Reolwyr y Gronfa am ddod i'r cyfarfod. |