Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: - Y Cynghorydd J P
Curtice - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth
Leol - personol. Y Cynghorydd P
Downing - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy mrawd yn aelod o'r Cynllun
Pensiwn Llywodraeth Leol - personol. Y Cynghorydd
C E Lloyd - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn
Llywodraeth Leol - personol. Y Cynghorydd P Rees
- yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy merch-yng-nghyfraith yn aelod o'r
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol. Y Cynghorydd D G
Sullivan - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy merch-yng-nghyfraith yn aelod
o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ac rwy'n derbyn pensiwn a weinyddir gan
gyn-Gyngor Sir Dyfed - personol. Y Cynghorydd W G
Thomas - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth
Leol - personol. Arsyllwr: I Guy - Cadeirydd y
Bwrdd Pensiwn Lleol - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o Gynllun Pensiwn
Llywodraeth Leol - personol. Swyddogion: K Cobb – yr agenda yn
ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. J Dong – yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. S Williams – yr
agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol –
personol. J Parkhouse – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol a Chofnod rhif 76 – Adroddiad Blynyddol 2019/2020 – Clerc i Gyngor Cymuned Llanrhidian Uchaf – personol. |
|
Cymeradwyo a
llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
Pwyllgor y Gronfa Bensiwn a gynhaliwyd ar 9 Gorffennaf 2020 fel cofnod cywir. |
|
Adroddiad Blynyddol 2019/2020. PDF 270 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 Adroddiad
Blynyddol Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe ar gyfer 2019/20. Esboniwyd bod datganiad ariannol drafft
Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe wedi'i gyflwyno'n flaenorol i Bwyllgor y
Gronfa Bensiwn ym mis Gorffennaf 2020. Roedd y datganiadau ariannol hynny'n
cael eu harchwilio gan Archwiliad Cymru ar hyn o bryd a byddai eu crynodeb o
SRA 260 yn cael ei gyflwyno ym mhwyllgor nesaf y Gronfa Bensiwn ym mis Tachwedd
2020. Darparwyd Adroddiad Blynyddol Dinas a Sir Abertawe 2019/20 yn Atodiad 1. Tynnodd y pwyllgor sylw at y posibilrwydd o gyfathrebu ychwanegol ag
aelodau'r Gronfa yn y dyfodol. Penderfynwyd cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Drafft Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2019/20 yn Atodiad 1 yn amodol ar archwiliad terfynol. |
|
Adroddiad Toriadau. PDF 335 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn darparu manylion unrhyw doriadau a gafwyd yn y cyfnod hwn yn unol â'r
polisi Adrodd am Doriadau. Yn Atodiad A darparwyd manylion y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ym mis Gorffennaf 2020. Amlygwyd manylion y toriadau a'r camau gweithredu a gymerwyd gan reolwyr. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog S151 adroddiad a oedd yn arfarnu
cynnydd yn erbyn yr amcanion y cytunwyd arnynt ar gyfer yr ymgynghorwyr buddsoddi
penodedig fel sy'n ofynnol gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA). Darparodd yr
adroddiad ofynion CMA, pwysigrwydd yr amcanion, pennu amcanion ar gyfer
ymgynghorwyr, mesur llwyddiant mewn arfer ac adrodd am gydymffurfio. Darparodd Atodiad
1 Amcanion Perfformiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi. Trafododd y
pwyllgor wella cyfathrebu ag aelodau'r Gronfa. Nodwyd bod David
Morton a Nick Jellema wedi gadael y cyfarfod cyn unrhyw drafodaethau ar yr
eitem hon. Penderfynwyd cymeradwyo cynnydd yr Ymgynghorwyr Buddsoddi yn erbyn yr amcanion a nodwyd ac a gymeradwywyd yn Atodiad 1. |
|
Asesiad Gwybodaeth Cenedlaethol Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - Canlyniadau. PDF 225 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Darparodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog S151 adroddiad a gyflwynodd
ganlyniadau Asesiad Gwybodaeth Cenedlaethol y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Amlinellwyd bod y
pwyllgor wedi cymeradwyo cynllun hyfforddi'r ymddiriedolwyr ar gyfer Pwyllgor y
Gronfa Bensiwn a'r Bwrdd Pensiwn Lleol yn ei gyfarfod ym mis Mawrth 2020. Yn
gynwysedig yn y cynllun hyfforddi oedd argymhelliad i aelodau'r Pwyllgor a'r
Bwrdd gynnal Asesiad Gwybodaeth Cenedlaethol y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
ar-lein a weinyddir gan Hymans Robertson ac roedd gan yr arolwg cyfradd
cyfranogiad gyfunol o 69% ar gyfer y Bwrdd a'r Pwyllgor. Darparwyd
canlyniadau Abertawe yn Atodiad 1 a nodwyd bod sgôr gyfartalog o 63%, gan roi
Abertawe yn y 7ed safle allan o 18 o gronfeydd gyda'r Pwyllgor ar gyfartaledd o
68.79% a'r Bwrdd ar gyfartaledd o 58.16%. Darparwyd canlyniadau ar gyfer yr
holl ymatebwyr yn Atodiad 2. Ychwanegwyd bod yr
asesiad wedi nodi meysydd penodol lle roedd angen rhywfaint o hyfforddiant
ychwanegol ar yr aelodau, sef Gweinyddu Pensiynau a phrisiad Actiwaraidd. Gallai'r meysydd hyn felly lywio gofynion
hyfforddi yn y dyfodol. Hefyd, nododd yr Aelodau hyfforddiant ar reoli risgiau
ac Adran 13 yr hoffent ei gael yn y dyfodol. Roedd Hymans
Robertson wedi llunio cynllun hyfforddi awgrymedig gan ddefnyddio'r wybodaeth a
gafwyd o'r asesiad a byddai'n cytuno ar gynllun gweithredu gyda'r Dirprwy Brif
Swyddog Cyllid. Soniodd y
Cadeirydd am bwysigrwydd y canlyniadau a oedd yn nodi gofynion hyfforddi yn y
dyfodol ac yn amlygu ei bod hi’n arfer llywodraethu da i werthuso'r pwyllgor yn
y modd hwn. Penderfynwyd nodi canlyniadau'r Asesiad Gwybodaeth Cenedlaethol a dirprwyo awdurdod i'r Dirprwy Brif Swyddog Cyllid i nodi hyfforddiant addas a lywiwyd gan yr asesiad. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 236 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au)
f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/argymhellion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu
bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff
gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan
Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn
perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle roedd prawf budd y cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Adroddiad(au) yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol. Cofnodion: Darparodd yr
Ymgynghorwr Buddsoddi, David Morton a Nick Jellema, adroddiad 'er gwybodaeth' a
oedd yn cyflwyno Adroddiad Monitro Buddsoddiadau Chwarter 2 2020. Nodwyd cynnwys yr adroddiad gan y pwyllgor a gofynnwyd cwestiynau amrywiol, ac fe'u hatebwyd yn briodol. Diolchwyd i'r Ymgynghorwyr Buddsoddi am yr adroddiad. |
|
Diweddariad am Bartneriaeth Pensiwn Cymru. Cofnodion: Darparodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn rhoi'r diweddaraf i'r pwyllgor am gynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru
(PPC). Roedd Atodiad 1 yn darparu'r adroddiad cynnydd a diweddaru a ddarparwyd gan
weithredwr y Cynllun Contractiol Awdurdodedig (CCA), Link Asset Services. Darparodd Atodiad
2 Bolisi Gwrthdaro Buddiannau Drafft PPC, darparodd Atodiad 3 Bolisi Risg
Hinsawdd PPC Drafft ac Atodiad 4 Datganiad Cyfrifon Drafft y PPC 2019/20. Yn y diweddariad cyfeiriwyd
at lansiad y gronfa incwm sefydlog cyfran 3 ar ddiwedd mis Gorffennaf 2020, a
ohiriwyd tan ddiwedd mis Medi 2020. |
|
Crynodeb Buddsoddi. Cofnodion: Rhoddodd y Dirprwy
Brif Swyddog Cyllid/Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn
cynnwys y perfformiad buddsoddi ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a
ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2020. Atodwyd crynodebau buddsoddi chwarterol y Gronfa Bensiwn ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2020 yn Atodiad 1. |
|
Cyflwyniad(au) Rheolwr y Gronfa: Ecwitïau Byd-eang - Russell Investments. Cofnodion: Gwnaed cyflwyniad
gan Aidan Quinn, Taran Paik, Sasha Mandrich, William Pearce a Yacine Zerizef o
Russell Investments. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau am gynnwys y cyflwyniad ac atebwyd yn briodol iddynt. Nodwyd cynnwys y cyflwyniad a diolchodd y Cadeirydd i Reolwyr y Gronfa am ddarparu'r cyflwyniad. |