Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Y Cynghorydd J P
Curtice - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth
Leol - personol. Y Cynghorydd M B
Lewis - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth
Leol - personol. Y Cynghorydd
C E Lloyd - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn
Llywodraeth Leol - personol. Y Cynghorydd P Rees
- yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy merch-yng-nghyfraith yn aelod o'r Cynllun
Pensiwn Llywodraeth Leol - personol. Y Cynghorydd D G
Sullivan - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy merch-yng-nghyfraith yn aelod
o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ac rwy'n derbyn pensiwn a weinyddir gan
gyn-Gyngor Dyfed - personol. Y Cynghorydd W G
Thomas - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth
Leol - personol. Arsyllwr: I Guy - Cadeirydd y
Bwrdd Pensiwn Lleol - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o Gynllun Pensiwn
Llywodraeth Leol - personol. Swyddogion: J Dong – yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. C Isaac – yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. J Parkhouse – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol a Chofnod rhif 36 – Adroddiad Blynyddol 2018/19 – Clerc Cyngor Cymuned Llanrhidian Uchaf – personol. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
Pwyllgor y Gronfa Bensiwn a gynhaliwyd ar 12 Medi 2019 fel cofnod cywir. |
|
Adroddiad Blynyddol 2018/19. PDF 275 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiwn
Dinas a Sir Abertawe ar gyfer 2018/19. Eglurwyd bod Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) wedi cwblhau
ei archwiliad o Adroddiad Blynyddol 2018/19 yn unol â'i chynllun archwilio a
gyflwynwyd i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn yn gynharach yn y flwyddyn. Darparwyd
Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2018/19 yn Atodiad 1. Nododd y
pwyllgor yr adroddiad cadarnhaol iawn. Penderfynwyd cymeradwyo Adroddiad Blynyddol 2018/19. |
|
Adroddiad yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd. PDF 483 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad a oedd yn ceisio
pennu amcanion mesuradwy ar gyfer ymgynghorwyr buddsoddi penodedig fel sy'n
ofynnol gan ofynion yr Awdurdod Cystadlaethau a Marchnadoedd (CMA). Darparodd yr
adroddiad ofynion CMA, pwysigrwydd yr amcanion, pennu amcanion ar gyfer
ymgynghorwyr, mesur llwyddiant mewn arfer ac adrodd am gydymffurfio. Trafododd y
pwyllgor y canlynol: - ·
Yr
amserlen ar gyfer adolygu'r amcanion; ·
Sut
roedd y gronfa'r arwain y farchnad wrth bennu'r amcanion hyn; ·
Gwahanol
dechnegau i ymgysylltu ag aelodau'r gronfa; ·
Sut
byddai'r amcanion yn darparu ffocws ar gyfer yr ymgynghorwyr; ·
Cynnwys
aelodau'r Bwrdd Pensiwn Lleol yn y rhaglen hyfforddiant. Penderfynwyd cymeradwyo amcanion yr Ymgynghorwyr Buddsoddi a atodwyd yn Atodiad 1, yn amodol ar adolygiad rheolaidd gan y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn darparu manylion toriadau a gafwyd yn y cyfnod hwn yn unol â'r polisi
Adrodd am Doriadau. Yn Atodiad A darparwyd manylion y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ym mis Medi 2019. Amlygwyd manylion y toriadau a'r camau gweithredu a gymerwyd gan reolwyr. |
|
Adnoddau'r Awdurdod Gweinyddol. PDF 327 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn ceisio cymeradwyo'r gwelliannau argymelledig
o ran darparu adnoddau a amlinellwyd yn yr adroddiad. Esboniwyd y meysydd
gwaith gwahanol yr oedd y Tîm Gweinyddu Pensiynau a Thîm Buddsoddi'r Gronfa
Bensiwn yn ymgymryd â hwy. Amlinellwyd y byddai creu rôl Uwch-swyddog Cyfathrebiadau Pensiwn yn
cynorthwyo'r Is-adran Gweinyddu Pensiynau i fynd i'r afael â'r galwadau hyn
sy'n datblygu. Cynigiwyd y byddai adnoddau mewnol yn cael eu defnyddio i
lenwi'r rôl hon. Yn dilyn hyn, byddai'r swydd yn cael ei gwerthuso, yr adran AD
briodol yn cael ei hysbysu, a byddai prosesau recriwtio a dethol yn cael eu
mabwysiadu er mwyn penodi rhywun i gyflawni'r rôl hon. Yn ogystal, cynigiwyd y byddai creu rôl Rheolwr Buddsoddi a Chyfrifo'r
Gronfa Bensiwn a'i llenwi drwy ddefnyddio adnoddau presennol yn cynorthwyo
Is-adran Buddsoddiadau'r Gronfa Bensiwn ac yn helpu i fynd i'r afael â llwyth
gwaith cynyddol gymhleth. Yn dilyn hyn, byddai'r swydd yn cael ei gwerthuso, yr
adran AD briodol yn cael ei hysbysu, a byddai prosesau recriwtio a dethol yn
cael eu mabwysiadu er mwyn penodi rhywun i gyflawni'r rôl hon. Penderfynwyd cymeradwyo'r diwygiadau o ran darparu adnoddau a
amlinellwyd yn 2.7 a 3.2 ynghyd â'r goblygiadau ariannol yn 6.1. |
|
Gwahardd y Cyhoedd. PDF 237 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au)
f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/argymhellion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu
bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff
gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan
Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn
perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle roedd prawf budd y cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Adroddiad yr Actiwari a Benodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn rhoi trosolwg o Brisiad Actiwaraidd Cronfa
Bensiwn Dinas a Sir Abertawe ar gyfer 2019. Cyflwynodd Chris
Archer a Chris Darby o AON y Prisiad Actiwaraidd ar 31 Mawrth 2019 a ddarparwyd yn Atodiad 1.
Dywedwyd bod ansawdd y data a ddarparwyd gan y Gronfa Bensiwn yn rhagorol. Gofynnodd y
pwyllgor nifer o gwestiynau i gynrychiolwyr AON gan ymateb iddynt yn briodol. Diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolwyr AON am ddarparu'r adroddiad. |
|
Y Diweddaraf am Bartneriaeth Pensiwn Cymru. Cofnodion: Darparodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/ Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd
yn rhoi'r diweddaraf i'r pwyllgor am gynnydd rhannu asedau Partneriaeth Pensiwn
Cymru. Roedd Atodiad 1 yn darparu'r cynnydd a'r adroddiad diweddaru a ddarparwyd
gan weithredwr y Cynllun Contractiol Awdurdodedig (CCA), Link Asset
Services. Yn y diweddariad
cyfeirir at yr amserlen ar gyfer lansio cronfa incwm sefydlog cyfran 3. Mae hon
wedi'i haildrefnu ac fe'i cynhelir bellach yn ystod Chwarter 1af
2020. |
|
Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi. Cofnodion: Darparodd Nick
Jellema, Ymgynghorwr Buddsoddi, adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn cyflwyno
Adroddiad Monitro Buddsoddiadau Chwarter 3 2019. Nodwyd cynnwys yr adroddiad gan y pwyllgor a gofynnwyd cwestiynau amrywiol, ac fe'u hatebwyd yn briodol. Diolchwyd i'r Ymgynghorydd Buddsoddi am ei adroddiad. |
|
Adroddiad gan yr Ymgynghorydd Annibynnol. Cofnodion: Roedd yr
adroddiad 'er gwybodaeth' yn cyflwyno diweddariad economaidd a sylwadau am y y farchnad o safbwynt Mr Noel Mills, yr Ymgynghorydd
Buddsoddi Annibynnol a benodwyd. Atodwyd yr
adroddiad chwarterol a ddaeth i ben ar 30 Medi 2019 yn Atodiad 1. Nodwyd cynnwys yr
adroddiad gan y pwyllgor a gofynnwyd cwestiynau amrywiol, ac fe'u hatebwyd yn briodol. Diolchwyd i'r ymgynghorydd
buddsoddi annibynnol a benodwyd am ei adroddiad. Diolchodd y Cadeirydd i Noel Mills ar ran y pwyllgor am ei gyfraniad gwerthfawr i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn a dymunodd y gorau iddo ar gyfer ei ymddeoliad. |
|
Crynodeb Buddsoddi. Cofnodion: Rhoddodd y Dirprwy
Brif Swyddog Cyllid/Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn
cynnwys y perfformiad buddsoddi ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a
ddaeth i ben ar 30 Medi 2019. Atodwyd crynodebau buddsoddi chwarterol y Gronfa Bensiwn ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 30 Medi 2019 yn Atodiad 1. |
|
Cyflwyniad(au) Rheolwr y Gronfa: 1) Rheolwr Cynllun Contractiol Awdurdodedig - Link Asset Services. 2) Russell Investments. Cofnodion: Link Asset
Services a Russell Investments Rhoddwyd
cyflwyniad gan Eamon McGrath
o Link Asset Services ac Aidan Quinn o Russell Investments. Gofynnodd y pwyllgor
gwestiynau am gynnwys y cyflwyniad llafar ac atebwyd yn briodol iddynt. Nodwyd cynnwys y cyflwyniad a diolchodd y Cadeirydd i Reolwyr y Gronfa am ddod i'r cyfarfod. |