Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

34.

Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Y Cynghorydd J P Curtice - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Y Cynghorydd M B Lewis - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Y Cynghorydd C E Lloyd - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Y Cynghorydd P Rees - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy merch-yng-nghyfraith yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Y Cynghorydd D G Sullivan - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy merch-yng-nghyfraith yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ac rwy'n derbyn pensiwn a weinyddir gan gyn-Gyngor Dyfed - personol.

 

Y Cynghorydd W G Thomas - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Arsyllwr:

 

I Guy - Cadeirydd y Bwrdd Pensiwn Lleol - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Swyddogion:

 

J Dong – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol.

 

C Isaac – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol.

 

J Parkhouse – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol a Chofnod rhif 36 – Adroddiad Blynyddol  2018/19 – Clerc Cyngor Cymuned Llanrhidian Uchaf – personol.

35.

Cofnodion. pdf eicon PDF 247 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Gronfa Bensiwn a gynhaliwyd ar 12 Medi 2019 fel cofnod cywir.

36.

Adroddiad Blynyddol 2018/19. pdf eicon PDF 275 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe ar gyfer 2018/19.

Eglurwyd bod Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) wedi cwblhau ei archwiliad o Adroddiad Blynyddol 2018/19 yn unol â'i chynllun archwilio a gyflwynwyd i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn yn gynharach yn y flwyddyn.

Darparwyd Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2018/19 yn Atodiad 1.

Nododd y pwyllgor yr adroddiad cadarnhaol iawn.

Penderfynwyd cymeradwyo Adroddiad Blynyddol 2018/19.

37.

Adroddiad yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd. pdf eicon PDF 483 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad a oedd yn ceisio pennu amcanion mesuradwy ar gyfer ymgynghorwyr buddsoddi penodedig fel sy'n ofynnol gan ofynion yr Awdurdod Cystadlaethau a Marchnadoedd (CMA).

 

Darparodd yr adroddiad ofynion CMA, pwysigrwydd yr amcanion, pennu amcanion ar gyfer ymgynghorwyr, mesur llwyddiant mewn arfer ac adrodd am gydymffurfio.

 

Trafododd y pwyllgor y canlynol: -

 

·         Yr amserlen ar gyfer adolygu'r amcanion;

·         Sut roedd y gronfa'r arwain y farchnad wrth bennu'r amcanion hyn;

·         Gwahanol dechnegau i ymgysylltu ag aelodau'r gronfa;

·         Sut byddai'r amcanion yn darparu ffocws ar gyfer yr ymgynghorwyr;

·         Cynnwys aelodau'r Bwrdd Pensiwn Lleol yn y rhaglen hyfforddiant.

 

Penderfynwyd cymeradwyo amcanion yr Ymgynghorwyr Buddsoddi a atodwyd yn Atodiad 1, yn amodol ar adolygiad rheolaidd gan y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151.

38.

Toriadau. pdf eicon PDF 296 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu manylion toriadau a gafwyd yn y cyfnod hwn yn unol â'r polisi Adrodd am Doriadau.

 

Yn Atodiad A darparwyd manylion y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ym mis Medi 2019.  Amlygwyd manylion y toriadau a'r camau gweithredu a gymerwyd gan reolwyr.

39.

Adnoddau'r Awdurdod Gweinyddol. pdf eicon PDF 327 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn ceisio cymeradwyo'r gwelliannau argymelledig o ran darparu adnoddau a amlinellwyd yn yr adroddiad. Esboniwyd y meysydd gwaith gwahanol yr oedd y Tîm Gweinyddu Pensiynau a Thîm Buddsoddi'r Gronfa Bensiwn yn ymgymryd â hwy.

 

Amlinellwyd y byddai creu rôl Uwch-swyddog Cyfathrebiadau Pensiwn yn cynorthwyo'r Is-adran Gweinyddu Pensiynau i fynd i'r afael â'r galwadau hyn sy'n datblygu. Cynigiwyd y byddai adnoddau mewnol yn cael eu defnyddio i lenwi'r rôl hon. Yn dilyn hyn, byddai'r swydd yn cael ei gwerthuso, yr adran AD briodol yn cael ei hysbysu, a byddai prosesau recriwtio a dethol yn cael eu mabwysiadu er mwyn penodi rhywun i gyflawni'r rôl hon.

 

Yn ogystal, cynigiwyd y byddai creu rôl Rheolwr Buddsoddi a Chyfrifo'r Gronfa Bensiwn a'i llenwi drwy ddefnyddio adnoddau presennol yn cynorthwyo Is-adran Buddsoddiadau'r Gronfa Bensiwn ac yn helpu i fynd i'r afael â llwyth gwaith cynyddol gymhleth. Yn dilyn hyn, byddai'r swydd yn cael ei gwerthuso, yr adran AD briodol yn cael ei hysbysu, a byddai prosesau recriwtio a dethol yn cael eu mabwysiadu er mwyn penodi rhywun i gyflawni'r rôl hon.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r diwygiadau o ran darparu adnoddau a amlinellwyd yn 2.7 a 3.2 ynghyd â'r goblygiadau ariannol yn 6.1.

40.

Gwahardd y Cyhoedd. pdf eicon PDF 237 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/argymhellion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle roedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

41.

Adroddiad yr Actiwari a Benodwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi trosolwg o Brisiad Actiwaraidd Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe ar gyfer 2019.

 

Cyflwynodd Chris Archer a Chris Darby o AON y Prisiad Actiwaraidd ar 31 Mawrth 2019 a ddarparwyd yn Atodiad 1. Dywedwyd bod ansawdd y data a ddarparwyd gan y Gronfa Bensiwn yn rhagorol.

 

Gofynnodd y pwyllgor nifer o gwestiynau i gynrychiolwyr AON gan ymateb iddynt yn briodol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolwyr AON am ddarparu'r adroddiad.

42.

Y Diweddaraf am Bartneriaeth Pensiwn Cymru.

Cofnodion:

Darparodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/ Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi'r diweddaraf i'r pwyllgor am gynnydd rhannu asedau Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

Roedd Atodiad 1 yn darparu'r cynnydd a'r adroddiad diweddaru a ddarparwyd gan weithredwr y Cynllun Contractiol Awdurdodedig (CCA), Link Asset Services. 

 

Yn y diweddariad cyfeirir at yr amserlen ar gyfer lansio cronfa incwm sefydlog cyfran 3. Mae hon wedi'i haildrefnu ac fe'i cynhelir bellach yn ystod Chwarter 1af 2020.

43.

Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi.

Cofnodion:

Darparodd Nick Jellema, Ymgynghorwr Buddsoddi, adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn cyflwyno Adroddiad Monitro Buddsoddiadau Chwarter 3 2019.

 

Nodwyd cynnwys yr adroddiad gan y pwyllgor a gofynnwyd cwestiynau amrywiol, ac fe'u hatebwyd yn briodol. Diolchwyd i'r Ymgynghorydd Buddsoddi am ei adroddiad.

44.

Adroddiad gan yr Ymgynghorydd Annibynnol.

Cofnodion:

Roedd yr adroddiad 'er gwybodaeth' yn cyflwyno diweddariad economaidd a sylwadau am y y farchnad o safbwynt Mr Noel Mills, yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol a benodwyd.

 

Atodwyd yr adroddiad chwarterol a ddaeth i ben ar 30 Medi 2019 yn Atodiad 1.

 

Nodwyd cynnwys yr adroddiad gan y pwyllgor a gofynnwyd cwestiynau amrywiol, ac fe'u hatebwyd yn briodol. Diolchwyd i'r ymgynghorydd buddsoddi annibynnol a benodwyd am ei adroddiad.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Noel Mills ar ran y pwyllgor am ei gyfraniad gwerthfawr i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn a dymunodd y gorau iddo ar gyfer ei ymddeoliad.

45.

Crynodeb Buddsoddi.

Cofnodion:

Rhoddodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn cynnwys y perfformiad buddsoddi ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 30 Medi 2019.

 

Atodwyd crynodebau buddsoddi chwarterol y Gronfa Bensiwn ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 30 Medi 2019 yn Atodiad 1.

46.

Cyflwyniad(au) Rheolwr y Gronfa:

1)    Rheolwr Cynllun Contractiol Awdurdodedig - Link Asset Services.

2)    Russell Investments.

Cofnodion:

Link Asset Services a Russell Investments

 

Rhoddwyd cyflwyniad gan Eamon McGrath o Link Asset Services ac Aidan Quinn o Russell Investments.

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau am gynnwys y cyflwyniad llafar ac atebwyd yn briodol iddynt.

 

Nodwyd cynnwys y cyflwyniad a diolchodd y Cadeirydd i Reolwyr y Gronfa am ddod i'r cyfarfod.