Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol: Y Cynghorydd P
Downing - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy mrawd yn aelod o'r Cynllun
Pensiwn Llywodraeth Leol - personol. Y Cynghorwyr J P
Curtice, M B Lewis, C E Lloyd a W G Thomas - yr agenda yn ei chyfanrwydd -
aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol. Y Cynghorydd P Rees
- yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy merch-yng-nghyfraith yn aelod o'r
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol. Y Cynghorydd D G
Sullivan - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy merch-yng-nghyfraith yn
gweithio i'r awdurdod ac rydw i'n derbyn pensiwn a weinyddir gan Raglen Pensiwn
Cyngor Sir Dyfed - personol. Swyddogion: K Cobb, J Dong, A Lowe ac S Williams – yr agenda yn ei chyfanrwydd – aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
Pwyllgor y Gronfa Bensiwn a gynhaliwyd ar 13 Medi 2018 fel cofnod cywir. |
|
Gweinyddu Disgresiynau'r Awdurdod. PDF 110 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Swyddog Adran 151 Dros Dro adroddiad mewn perthynas â'r disgresiwn sydd
ar gael i Awdurdod Gweinyddu Dinas a Sir Abertawe dan reoliadau perthnasol y
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Oherwydd
amserlenni, cyflwynwyd yr adroddiad "er gwybodaeth" yn unig gan nad
oedd y cadarnhad perthnasol wedi cael ei roi. Byddai adroddiad llawn yn cael ei
gyflwyno yn ystod un o gyfarfodydd y dyfodol. |
|
Adroddiad Adolygu Dulliau Rheoli Mewnol. PDF 74 KB Cofnodion: Darparodd y
Dirprwy Swyddog Adran 151 Dros Dro adroddiad "er gwybodaeth" i roi
gwybod i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn am eitemau adroddadwy
a nodwyd yn adroddiadau rheolaethau mewnol rheolwyr penodedig y gronfa. Roedd crynodeb o'r eithriadau ar gyfer y flwyddyn galendr ddiwethaf wedi'i atodi yn Atodiad 1 ar gyfer rheolwyr a cheidwad penodedig cronfa Dinas a Sir Abertawe. |
|
Adroddiad am Doriadau. PDF 130 KB Cofnodion: Darparodd y
Dirprwy Swyddog Adran 151 Dros Dro adroddiad "er gwybodaeth" a oedd
yn cyflwyno unrhyw doriadau a gafwyd yn ystod y cyfnod yn unol â'r polisi
Adrodd am Doriadau. Yn Atodiad A darparwyd manylion am y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ym mis Medi 2018. Amlygwyd manylion y toriadau hynny a'r camau gweithredu a gymerwyd gan y rheolwyr. |
|
Gwahardd y Cyhoedd. PDF 111 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/argymhellion yr
adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig
fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel
y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio)
(Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a
nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd
yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Y Diweddaraf am Bartneriaeth Pensiwn Cymru. Cofnodion: Darparodd y
Dirprwy Swyddog Adran 151 Dros Dro adroddiad "er gwybodaeth" a oedd
yn amlinellu cynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru o ran cyfuno asedau. Wedi'i atodi yn Atodiad 1 oedd yr adroddiad cynnydd a diweddaru a ddarparwyd gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru i'r Gweinidog dros Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, ym mis Hydref 2018. |
|
Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddiadau Cynnwys Y Diweddaraf am Ddiogelu Ecwiti. Cofnodion: Cyflwynodd
William Marshall, Ymgynghorydd Buddsoddi, ddiweddariad chwarterol ymgynghorydd
buddsoddi penodedig y gronfa am fuddsoddiad a'r farchnad, gan gynnwys papur
diweddaru am y rhaglen diogelu ecwiti. Yn dilyn hyn,
rhoddodd y Dirprwy Swyddog Adran 151 Dros Dro y diweddaraf i'r pwyllgor am
ddiogelu ecwiti. Bydd y Panel Gwerthuso'n cwrdd ar 3 Rhagfyr 2018 a bydd angen
i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn gymeradwyo'r penodiad yn y dyfodol. Wedi'i atodi yn
Atodiad 1 oedd adroddiad chwarterol Hymans Robertson,
gan gynnwys papur cynnydd mewn perthynas â rhoi diogelwch ecwiti ar waith a sut
gellir ei ddefnyddio’n effeithlon at ddibenion diogelu rhag gostyngiadau wrth
i'r gronfa roi ei strategaeth buddsoddi tymor hir gymeradwy ar waith. Gofynnwyd cwestiynau amrywiol gan y pwyllgor, ac atebwyd y cwestiynau'n briodol. Diolchwyd i'r Ymgynghorydd Buddsoddi am yr wybodaeth diweddaraf. |
|
Adroddiad gan yr Ymgynghorydd Annibynnol. Cofnodion: Roedd yr
adroddiad 'er gwybodaeth' yn cyflwyno diweddariad economaidd a sylwadau ar y
farchnad o safbwynt Mr Noel Mills, yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol
Penodedig. Atodwyd yr
adroddiad chwarterol, a oedd yn dod i ben ar 30 Medi 2018, yn Atodiad A. Nodwyd cynnwys yr adroddiad gan y pwyllgor a gofynnwyd cwestiynau amrywiol, ac ymatebwyd iddynt yn briodol. Diolchwyd i'r Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol Penodedig am ei adroddiad. |
|
Crynodeb o Fuddsoddiadau. Cofnodion: Darparodd y
Dirprwy Swyddog Adran 151 Dros Dro adroddiad "er gwybodaeth" a oedd
yn cynnwys y perfformiad buddsoddi ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3
blynedd a ddaeth i ben ar 30 Medi 2018. Atodwyd crynodebau
buddsoddi chwarterol y Gronfa Bensiwn ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3
blynedd a ddaeth i ben ar 30 Medi yn Atodiad 1. Penderfynwyd
nodi'r adroddiad. |
|
Cyflwyniad(au) Rheolwr y Gronfa: Incwm Sefydlog – Rheoli Asedau Goldman Sachs. Cofnodion: Incwm Sefydlog -
Goldman Sachs Asset Management. Gwnaed cyflwyniad
gan David Thomas ac Ian Lindsay o Goldman Sachs Asset Management. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau am gynnwys y cyflwyniad ac ymatebwyd iddynt yn briodol. Nodwyd cynnwys y cyflwyniad a diolchodd y Cadeirydd i reolwr y gronfa am ddod i'r cyfarfod. |