Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636016
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad
a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol: Y Cynghorydd P
Downing - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy mrawd yn aelod o'r Cynllun
Pensiwn Llywodraeth Leol - personol. Y Cynghorydd M B
Lewis - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth
Leol - personol. Y Cynghorydd P Rees
- yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy merch-yng-nghyfraith yn aelod o'r
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol. Y Cynghorydd D G
Sullivan - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy merch-yng-nghyfraith yn
gweithio i'r awdurdod ac rydw i'n derbyn pensiwn a weinyddir gan Raglen Pensiwn
Cyngor Sir Dyfed - personol. Y Cynghorydd W G
Thomas - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth
Leol - personol. Swyddogion: K Cobb – yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. J Dong – yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. J Parkhouse – yr
agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. S Williams – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. |
|
Cymeradwyo a
llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
Pwyllgor y Gronfa Bensiwn a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2018 fel cofnod cywir. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd David
Williams, Swyddfa Archwilio Cymru, adroddiad a oedd yn nodi materion i'w
hystyried a oedd yn codi o archwiliad cyfriflenni ariannol y Gronfa Bensiwn ar gyfer
2017/18 yr oedd angen adrodd amdanynt dan SRA 260. Cyfanswm yr asedau
gros a reolir gan y Gronfa Bensiwn yw £1.9 biliwn. Barnwyd bod lefelau meintiol
camddatganiadau'r Gronfa Bensiwn gwerth £19.1 miliwn. Amlinellodd yr adroddiad y materion sy'n codi
ar ôl archwilio cyfriflenni ariannol y Gronfa Bensiwn ar gyfer 2017-18. Derbyniwyd y
cyfriflenni ariannol drafft ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2018
ar 25 Mai 2018, cyn y dyddiad cau ar 30 Mehefin 2018. Roedd Swyddfa Archwilio Cymru'n adrodd am y
materion mwy sylweddol a gododd o'r archwiliad, ac roeddent o'r farn bod angen
ystyried y rhain cyn cymeradwyo'r datganiadau ariannol. Trafodwyd y materion hyn eisoes â Swyddog
Adran 151. Bwriad yr
Archwilydd Cyffredinol oedd cyflwyno adroddiad archwiliad anghymwys am y
cyfriflenni ariannol wedi i'r awdurdod ddarparu llythyr cynrychioliadau sy'n
seiliedig ar yr hyn a nodwyd yn Atodiad 1. Nodwyd yr adroddiad archwilio
arfaethedig yn Atodiad 2. Amlinellwyd na
nodwyd unrhyw gamddatganiadau yn y cyfriflenni ariannol a oedd yn dal i fod yn
ddiffygiol. Roedd nifer o
gamddatganiadau a oedd wedi'u cywiro gan reolwyr ond roedd yr archwilwyr o'r
farn y dylid tynnu ein sylw atynt oherwydd eu perthnasedd i gyfrifoldebau'r
awdurdod lleol dros y broses adrodd ariannol. Nodwyd y rhain
gyda'r esboniadau yn Atodiad 3. Cynyddwyd gwerth y buddsoddiadau hyn yng
Nghyfriflen yr Asedau Net £2.5 miliwn o ganlyniad i'r diwygiadau hyn (a
chydnabuwyd y cododd hyn fel newid amseru oherwydd roedd angen defnyddio ffigyrau
a amcangyfrifir er mwyn cyrraedd amseroedd terfyn cyfrifon). Roedd hefyd nifer o ddiwygiadau cyflwyniadol
eraill a wnaed i'r cyfriflenni ariannol drafft a gododd o'r archwiliad. Nodwyd yr
argymhellion allweddol sy'n codi o'r gwaith archwilio ariannol yn Atodiad
4. Roedd y rheolwyr wedi ymateb iddynt a
byddai cynnydd yn cael ei wirio yn ystod archwiliad y flwyddyn nesaf. Lle'r oedd unrhyw gamau gweithredu heb eu
cyflawni, byddai'r archwilwyr yn parhau i fonitro cynnydd a'i gynnwys yn
adroddiad y flwyddyn nesaf. Dywedodd y
cadeirydd yr oedd yn gwerthfawrogi ymdrechion y staff ariannu am ddarparu'r
cyfriflenni i Swyddfa Archwilio Cymru ymhell o flaen y dyddiad terfyn. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Adroddiad Blynyddol 2017/18. PDF 33 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparodd Prif
Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyo Adroddiad
Blynyddol Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe. Amlinellir bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi cwblhau ei archwiliad o
Ddatganiad o Gyfrifon Drafft y Gronfa Bensiwn 2017/18 yn unol â'i gynllun
archwilio. Yn unol â'r rheoliad, roedd
angen i'r gronfa lunio adroddiad blynyddol sy'n rhoi peth gwybodaeth ychwanegol
a nodiadau esboniadol mewn perthynas â gweithgareddau'r gronfa yn ystod y
flwyddyn. Diwygiwyd y cyfriflenni ariannol yn yr Adroddiad Blynyddol yn unol â
chanfyddiadau'r archwiliad a'r argymhellion gan yr archwilydd penodedig. Roedd Adroddiad
Blynyddol Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2017/18 yn Atodiad 1. Penderfynwyd cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe. |
|
Adroddiad Toriadau. PDF 128 KB Cofnodion: Cyflwynodd Prif
Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu
manylion toriadau a gafwyd yn y Gronfa Bensiwn yn unol â'r polisi Adrodd am
Doriadau. Yn Atodiad A darparwyd manylion am y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ym mis Gorffennaf 2018. Amlygwyd manylion y toriadau hynny a'r camau gweithredu a gymerwyd gan y rheolwyr. |
|
Cais y Corff Derbyn - Freedom Leisure. PDF 118 KB Cofnodion: Darparodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyo cais y corff derbyn ar gyfer Freedom
Leisure. Yn dilyn ymarfer caffael a wnaed gan y cyflogwr rhestredig, Dinas a Sir
Abertawe, amlinellwyd y cymeradwyir y contract i Freedom
Leisure ddarparu gwasanaethau rheoli hamdden i Gyngor Abertawe. Byddai'r
cwmni'n gyfrifol am weithredu'r cyfleusterau hamdden a byddai hyn yn cynnwys y
gweithrediadau o ddydd i ddydd, staffio, gwasanaethau cwsmeriaid, iechyd a
diogelwch a marchnata'r cyfleusterau. Byddent hefyd yn gyfrifol am fuddsoddi yn
ailwampio'r cyfleusterau a gweithredu arferion cynnal a chadw er mwyn cynnal y
cyfleusterau hyn. Mae'r contract yn cynnwys gweithrediadau'r LC; canolfannau
hamdden Penlan, Penyrheol, Treforys a Chefn Hengoed, Canolfan Chwaraeon
Llandeilo Ferwallt a Chyfadeilad Chwaraeon yr Elba. Penderfynwyd bod y gwasanaethau hyn yn bodloni'r
meini prawf gofynnol ar gyfer statws corff a dderbynnir o dan Reoliadau CPLlL. Ychwanegwyd bod Wealden
Leisure Limited (yn masnachu fel Freedom
Leisure) yn sefydliad gwirioneddol, nid er elw â statws elusen eithriedig a
gymeradwyir gan CThEM. Ei nod oedd darparu
gweithgareddau iechyd, ffitrwydd a hamdden o safon ac sy'n fforddiadwy i'r
gymuned leol yr oeddent yn eu gwasanaethu. Fel elusen wirioneddol nid oedd
ganddynt unrhyw randdeiliaid i'w bodloni, na swm o
elw i'w greu oherwydd cwmnïau sy'n cadw cyfalaf mentrau, na difidendau
cyfrannau i'w talu i bobl ddienw. Disgwyliwyd i'r contract ar gyfer
gwasanaethau i ddechrau ar 1 Hydref 2018. Ar ben hynny, dan amgylchiadau'r contract,
cynigiwyd trosglwyddo'r gweithlu presennol dan drefniadau Rheoliadau
Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) (TUPE)
o'r cyflogwr presennol, Dinas a Sir Abertawe, i Freedom
Leisure. Er mwyn cadw hawliau pensiwn y
staff a drosglwyddir, cynigir rhoi statws Corff Cydnabyddedig i Freedom Leisure yng Nghronfa Bensiwn Dinas a Sir
Abertawe. Cynigir hefyd y rhoddir y
cytundeb derbyn ar sail cynllun caeëdig, a fydd yn
cynnwys y staff a enwir yn unig yn atodlen 1 y cytundeb derbyn. Byddai'r cytundeb derbyn gofynnol yn
amlinellu gwarant y cyflogwr sy'n noddi a sicrhawyd gan y cyflogwr sy'n noddi,
Dinas a Sir Abertawe. Byddai'r awdurdod gweinyddu hefyd yn cynnal asesiad risg
priodol o'r corff a dderbynnir, Freedom Leisure. Gofynnodd y Cynghorwyr gwestiynau ynghylch
yr adroddiad, ac atebodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol. Penderfynwyd: - 1)
cymeradwyo
Cais y Corff Derbyn gan Freedom Leisure, sy'n destun
cwblhau'r Cytundeb Derbyn. 2) rhoi'r awdurdod i swyddogion adran gyfreithiol y cyngor i gwblhau'r Cytundeb Derbyn fel a amlinellwyd yn yr adroddiad. |
|
Gwahardd y Cyhoedd. PDF 111 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au)
f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/ion yr adroddiad ar
y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym
mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd
gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007
mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle roedd prawf budd y cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitem fusnes ganlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Partneriaeth Pensiwn Cymru - y diweddaraf. (ar lafar) Cofnodion: Rhoddodd Prif
Swyddog y Drysorfa a Thechnegol ddiweddariad ar lafar a amlinellodd cynnydd
Partneriaeth Pensiwn Cymru. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Polisi Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu. Cofnodion: Cyflwynodd Prif
Swyddog y Drysorfa a Thechnegol y Polisi Llywodraethu Cymdeithasol,
Amgylcheddol (LlCA) i'w fabwysiadu. Penderfynwyd mabwysiadu'r Polisi LlCA. |
|
Adroddiad gan yr Ymgynghorydd Buddsoddi. Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad 'er gwybodaeth' yr adroddiad chwarterol a oedd yn crynhoi prisiadau
ased a pherfformiad y gronfa hyd at 30 Mehefin 2018. Atodwyd adroddiad
chwarterol Hymans Robertson yn Atodiad 1.
Nodwyd y Cyfryngau Buddsoddi yn Atodiad 2 a'r Cyfrifiad Perfformiad yn
Atodiad 3. Rhoddwyd hefyd gyflwyniad
ar Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe - Strategaethau Diogelu Ecwiti. Penderfynwyd profi'r farchnad o ddarparwyr diogelu ecwiti gyda'r bwriad o weithredu rhaglen ddiogelu cyn gynted ag y bo modd. |
|
Adroddiad gan y Cynghorwr Annibynnol. Cofnodion: Roedd yr
adroddiad 'er gwybodaeth' yn cyflwyno diweddariad economaidd a sylwebaeth y
farchnad o safbwynt yr ymgynghorydd buddsoddi annibynnol a benodwyd. Gorffennodd yr
adroddiad chwarterol ar 30 Mehefin 2018 gan yr ymgynghorydd buddsoddi
annibynnol, Mr Noel Mills ac fe'i hatodwyd yn Atodiad 1. Nodwyd cynnwys yr adroddiad gan y Pwyllgor a diolchwyd i'r ymgynghorydd buddsoddi annibynnol am ei adroddiad. |
|
Crynodeb Buddsoddi. Cofnodion: Rhoddodd Prif Swyddog
y Drysorfa a Thechnegol adroddiad er gwybodaeth a oedd yn cynnwys y perfformiad
buddsoddi ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 30
Mehefin 2018. Atodwyd crynodebau buddsoddi chwarterol y Gronfa Bensiwn ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2018 yn Atodiad 1. |