Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Democratic Services: - 01792 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

66.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Y Cynghorydd P Downing - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy mrawd yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Y Cynghorydd M B Lewis - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Y Cynghorydd C E Lloyd - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Y Cynghorydd P Rees - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy merch-yng-nghyfraith yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Y Cynghorydd M Thomas - yr agenda yn ei chyfanrwydd - rwyf i a'm gwraig yn aelodau o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol. 

 

Y Cynghorydd W G Thomas - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

 

Swyddogion:

 

K Cobb – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol.

 

J Dong – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol.

 

J Parkhouse – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol.

 

S Williams – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol.

 

67.

Gwahardd y Cyhoedd. pdf eicon PDF 113 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/ion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle roedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

68.

Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) - Is-gronfa/gronfeydd Ecwiti Byd-eang.

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol adroddiad i gymeradwyo argymhelliad Cyd-bwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC).  Nod yr argymhelliad oedd gweithredu'r strwythurau ariannu a nodwyd yn yr adroddiad ar gyfer ecwitïau byd-eang presennol yng Nghynllun Contractiol Awdurdodedig (CCA) PPC a'r rhai y dylid eu cynnwys yn y prosbectws i'w gyflwyno i'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

 

Cydnabuwyd pa mor gystadleuol mae'r ffioedd presennol a pha mor effeithlon, o ran trethi, y rhoddir yr asedau ar waith ar hyn o bryd wrth i gyfrifydd y Trysorlys adennill treth neu ei chadw'n ôl pan fo'n berthnasol. Bydd y buddion materol o strwythur ariannu PPC yn werth mwy na'r buddsoddiadau.

 

Nodwyd bod y dyraniadau ar 31 Mawrth 2018 y tu hwnt i'r terfynau presennol, ond cydnabuwyd y byddent yn cael eu cydbwyso eto wrth eu trosglwyddo.

 

Trafododd y pwyllgor yr wybodaeth yn yr adroddiad yn fanwl.

 

Penderfynwyd: -

 

1)    cymeradwyo'r 2 is-gronfa ar gyfer ecwitïau byd-eang presennol a nodwyd yn Atodiad 1 ac sydd yn y prosbectws i'w gyflwyno i'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol;

2)    dirprwyo'r broses o fuddsoddi yn yr is-gronfa, neu drosglwyddo iddi, i'r Swyddog Adran 151 neu Brif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol.