Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ethol is-gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2018-2019.

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd P Downing fel Is-gadeirydd ar gyfer

blwyddyn ddinesig 2018-2019.

 

 

2.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Y Cynghorydd J P Curtice - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Y Cynghorydd P Downing - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy mrawd yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Y Cynghorydd M B Lewis - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Y Cynghorydd C E Lloyd - yr agenda yn ei chyfanrwydd - rydw i a fy nhad yn aelodau o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Lleol - personol.

 

Y Cynghorydd P Rees - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy merch-yng-nghyfraith yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Y Cynghorydd D G Sullivan - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy merch-yng-nghyfraith yn gweithio i'r awdurdod lleol - personol.

 

Swyddogion:

 

K Cobb – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol.

 

J Dong – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol.

 

J Parkhouse – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol a Chofnod rhif 4 – Datganiad o Gyfrifon Drafft 2017/18 – Clerc Cyngor Cymuned Llanrhidian Uchaf – personol.

 

S Williams – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol.

 

3.

Cofnodion. pdf eicon PDF 39 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd llofnodi cofnodion cyfarfodydd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ar 15 Mawrth a 4 Mai 2018 fel cofnodion cywir yn amodol ar y diwygiad canlynol: -

 

15 Mawrth 2018

 

Ychwanegu'r datganiad o ddiddordeb canlynol: -

 

Y Cynghorydd D G Sullivan - mae fy merch-yng-nghyfraith yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

 

4.

Datganiad Drafft o Gyfrifon 2017/18. pdf eicon PDF 33 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol Ddatganiad o Gyfrifon Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe ar gyfer 2017/18.  Diolchodd i'r staff yn nhîm y Drysorfa a Thechnegol am eu gwaith er mwyn llunio'r cyfrifon.

 

Datganwyd bod Cyfrifon Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe'n elfen wahanol ac ar wahân i Ddatganiad Cyfrifon Dinas a Sir Abertawe yn ei gyfanrwydd.  Archwiliodd Swyddfa Archwilio Cymru Ddatganiad o Gyfrifon y Gronfa Bensiwn ar gyfer 2017/18 yn unol â'i hadroddiad a chyflwynir hyn i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn yn ei chasgliad o'r archwiliad yn hwyrach yn y flwyddyn.

 

Rhoddodd ddadansoddiad manwl yn llawn gwybodaeth am y cyfrifon, gan bwysleisio'r elw cadarnhaol a nododd fod y rhagamcaniadau ar gyfer y llif arian yn y tymor hir yn gadarnhaol ar gyfer y gronfa yn y tymor canolig.  Ychwanegodd fod asedau net y Gronfa wedi cynyddu i £1,914,031 ar 31 Mawrth 2018.

 

Atodir Datganiad o Gyfrifon Drafft Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2017/18 yn Atodiad 1.

 

Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau i'r Swyddog, ac ymatebodd yn briodol.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r Datganiad o Gyfrifon Drafft ar gyfer 2017/18.

 

5.

Adroddiad Toriadau. pdf eicon PDF 124 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu manylion toriadau a gafwyd yn y Gronfa Bensiwn yn unol â'r polisi Adrodd am Doriadau.

 

Yn Atodiad A darparwyd manylion am y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ym mis Mawrth 2018.  Amlygwyd manylion y toriadau hynny a'r camau gweithredu a gymerwyd gan y rheolwyr.

 

6.

Diweddariad ar y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol. pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu manylion toriadau a gafwyd yn y Gronfa Bensiwn yn unol â'r polisi Adrodd am Doriadau.

 

Yn Atodiad A darparwyd manylion am y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ym mis Mawrth 2018.  Amlygwyd manylion y toriadau hynny a'r camau gweithredu a gymerwyd gan y rheolwyr.

 

7.

Cynllun Busnes. pdf eicon PDF 89 KB

Cofnodion:

Adroddodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol Gynllun Busnes Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ar gyfer 2018-2019 i'w gymeradwyo er mwyn darparu fframwaith gweithiol ar gyfer rhaglen waith y Gronfa.

 

Yn Atodiad 1 darparwyd y Cynllun Busnes Blynyddol ar gyfer 2018-2019, darparwyd Cofrestr Risgiau'r Gronfa Bensiwn yn Atodiad 2 a darparwyd Cyllideb y Gronfa Bensiwn ar gyfer 2018-19 yn Atodiad 3.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i'r cynllun gyfeirio at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Penderfynwyd:  -

 

1)    nodi a chymeradwyo Cynllun Busnes Blynyddol Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe ar gyfer 2018-19;

2)    y bydd Swyddog y Drysorfa a Thechnegol yn cyfeirio at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn y Cynllun Busnes.

 

8.

Cynllun Hyfforddi. pdf eicon PDF 135 KB

Cofnodion:

Adroddodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol Gynllun Hyfforddiant ar gyfer Aelodau Pwyllgor y Gronfa Bensiwn i'w gymeradwyo.

 

Darparwyd yr hyfforddiant a gwblhawyd yn 2017-2018 a'r hyfforddiant arfaethedig ar gyfer 2018-2019.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r hyfforddiant a nodir ar gyfer aelodau yn Adran 3.7 yr adroddiad.

 

9.

Gwahardd y Cyhoedd. pdf eicon PDF 112 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/ion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle roedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

10.

Diweddariad ar Bartneriaeth Pensiwn Cymru.

Cofnodion:

Darparodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad ‘er gwybodaeth’ a oedd yn rhoi'r diweddaraf am gynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

Yn Atodiad 1 darparwyd yr amserlen ddiweddaraf a'r diweddaraf am gynnydd ynghylch gweithredu CCA Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

11.

Polisi Llywodraethu Cymdeithasol Amgylcheddol (LlCA) Diweddaru.

Cofnodion:

Darparodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad ‘er gwybodaeth’ a oedd yn rhoi'r diweddaraf am fynegeion carbon isel.

 

Yn Atodiad 1 darparwyd y Ffeithlen Mynegai Carbon Isel Blackrock MSCI.

 

12.

Adroddiad gan yr Ymgynghorwr Buddsoddi.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad 'er gwybodaeth' yr adroddiad chwarterol a oedd yn crynhoi prisiadau ased a pherfformiad y gronfa hyd at 31 Mawrth 2018.

 

Atodwyd adroddiad chwarterol Hymans Robertson yn Atodiad 1.

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau i'r Ymgynghorydd Buddsoddi ac atebwyd yn briodol iddynt.  Nodwyd gynnwys yr adroddiad a diolchwyd i'r Ymgynghorydd Buddsoddi am yr adroddiad.

 

13.

Adroddiad gan yr Ymgynghorydd Annibynnol.

Cofnodion:

Roedd yr adroddiad 'er gwybodaeth' yn cyflwyno diweddariad economaidd a sylwebaeth y farchnad o safbwynt yr ymgynghorydd buddsoddi annibynnol a benodwyd.

 

Gorffennodd yr adroddiad ar 31 Mawrth 2018 gan yr ymgynghorydd buddsoddi annibynnol, ac atodwyd Mr Noel Mills yn Atodiad 1.

 

Nodwyd gynnwys yr adroddiad gan y Pwyllgor a diolchwyd i'r ymgynghorydd buddsoddi annibynnol am ei adroddiad.

 

14.

Crynodeb Buddsoddi.

Cofnodion:

Rhoddodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn cynnwys y perfformiad buddsoddi ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2018.

 

Atodwyd crynodebau buddsoddi chwarterol y Gronfa Bensiwn ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2018 yn Atodiad 1.

 

 

15.

Cyflwyniad gan Reolwr y Gronfa:

a)    Blackrock – Mandad Goddefol

b)    Blackrock - Cronfa'r Cronfeydd Rhagfantoli

 

Cofnodion:

Cafwyd cyflwyniad gan Chris Head a Funmi Osiyemi o Blackrock.

 

Darparodd y rheolwyr wybodaeth i'r Pwyllgor ynghylch mandad goddefol a chyllido cronfeydd rhagfantoli.  Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau am gynnwys y cyflwyniad llafar ac atebwyd yn briodol iddynt.

 

Nodwyd cynnwys y cyflwyniad a diolchodd y Cadeirydd i Reolwr(wyr) y Gronfa am ddod i'r cyfarfod.