Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau
canlynol: Y Cynghorydd P.
Downing - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy mrawd yn gweithio i'r cyngor ac
yn cyfrannu at y Gronfa Bensiwn - personol. Y Cynghorydd M B
Lewis - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth
Leol - personol. Y Cynghorydd P Rees
- yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy merch-yng-nghyfraith yn aelod o'r
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol. Y Cynghorydd M
Thomas - yr agenda yn ei chyfanrwydd - rwyf i a'm gwraig yn aelodau o'r Cynllun
Pensiwn Llywodraeth Leol - personol. Y Cynghorydd W G
Thomas - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth
Leol - personol. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Gronfa
Bensiwn a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2017 fel cofnod cywir. |
|
Cynrychiolaeth gan Gyfeillion y Ddaear Cofnodion: Datganodd y
Cadeirydd fod cais i siarad â'r pwyllgor wedi'i dderbyn gan Mr Childs o Gyfeillion y Ddaear o ran eitem 7c yr agenda -
Polisi Llywodraethu Cymdeithasol, Amgylcheddol. Penderfynwyd bod cynrychiolwyr o Gyfeillion y Ddaear
yn siarad â'r pwyllgor. Siaradodd Mr Childs, Cyfeillion y Ddaear, â'r pwyllgor. |
|
Cynllun Archwilio 2018 - Dinas a Sir Abertawe. PDF 184 KB Cofnodion: Cyflwynodd David
Williams, Swyddfa Archwilio Cymru (SAC), Gynllun Archwilio 2018 a oedd yn
darparu'r gwaith archwilio arfaethedig, pryd y câi ei wneud, beth fyddai'r gost
a phwy fyddai'n ymgymryd â'r gwaith. Roedd Atodiad 1
yn nodi cyfrifoldebau'r Archwiliwr yn llawn ac roedd Arddangosyn 1 yn darparu
tri cham y dull archwilio a nodwyd y ffi archwilio arfaethedig ar gyfer y
gwaith hwn yn Arddangosyn 6. Dangoswyd
elfennau'r gwaith archwilio perfformiad yn arddangosyn 4 a darparwyd amserlen
yr archwiliadau arfaethedig yn Arddangosyn 8. Byddai'r diweddaraf
am gynnydd y cynllun yn cael ei adrodd i'r pwyllgor. Datganodd Prif
Swyddog y Drysorfa a Thechnegol fod y gostyngiad mewn ffioedd archwilio wedi'i
groesawu ac adlewyrchodd y gwaith parhaus rhwng SAC a'r cleient. |
|
Adroddiad am Doriadau. PDF 124 KB Cofnodion: Cyflwynodd Prif
Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu
manylion toriadau a gafwyd yn y Gronfa Bensiwn yn unol â'r polisi Adrodd am
Doriadau. Darparodd Atodiad
A fanylion am y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf Pwyllgor y Gronfa
Bensiwn ym mis Tachwedd 2017. Amlygwyd manylion y toriadau hynny a'r camau
gweithredu a gymerwyd gan y rheolwyr. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd Prif
Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad i amlinellu'r Credoau Buddsoddi a
fabwysiadwyd gan Bwyllgor y Gronfa Bensiwn. Atodwyd Datganiad
o'r Credoau Buddsoddi yn Atodiad 1. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau am gynnwys yr adroddiad ac atebwyd hwy'n briodol.
Cydnabuwyd y byddai'r credoau'n cael eu hadolygu'n rheolaidd. Penderfynwyd
cymeradwyo'r Datganiad o
Gredoau Buddsoddi. |
|
Gwahardd y Cyhoedd. PDF 113 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/ion
yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth
eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth
Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i
Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au)
f/busnes a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle roedd prawf budd y cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes
canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Adolygiad o'r Strategaeth Buddsoddi. Cofnodion: Darparodd Prif
Swyddog y Drysorfa a Thechnegol a Hymans Robertson,
Ymgynghorwyr Buddsoddi, adroddiad i amlinellu'r diwygiadau argymelledig
i'r strategaeth buddsoddi. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau am gynnwys yr adroddiad ac atebwyd yn briodol iddynt. Penderfynwyd cymeradwyo'r newidiadau i'r strategaeth
buddsoddi a'r lliniaru risg a amlygwyd yn yr adroddiad a'r diwygiadau dilynol
i'r Datganiad Strategaeth Buddsoddi a amlinellwyd yn yr adroddiad. Dirprwywyd y
camau gweithredu priodol er mwyn gweithredu'r strategaeth ddiwygiedig i Swyddog
Adran 151 a Phrif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol. |
|
Adroddiad Adolygu Adnoddau'r Is-adran Gweinyddu Pensiynau. Cofnodion: Cyflwynodd Prif
Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad ar gyfer yr adnoddau argymelledig a amlinellwyd yn yr adroddiad. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau am gynnwys yr adroddiad ac atebwyd hwy'n briodol. Penderfynwyd: 1)
cymeradwyo'r
argymhelliad fel yr amlinellir yn 4.1 a rhoi caniatâd dirprwyedig i Swyddog
Adran 151 a Phrif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol ei weithredu; a 2)
darparu'r
wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd i'r pwyllgor ar ôl 12 mis. |
|
Polisi Llywodraethu Cymdeithasol Amgylcheddol (LlCA). Cofnodion: Cyflwynodd Prif
Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad a oedd yn ystyried Polisi
Llywodraethu Cymdeithasol, Amgylcheddol drafft Cronfa Bensiwn Dinas a Sir
Abertawe. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau am gynnwys yr adroddiad ac atebwyd hwy'n briodol. Mabwysiadwyd y polisi drafft mewn egwyddor yn
amodol ar wybodaeth ychwanegol am y lefelau targed arfaethedig o leihau carbon
a dull gweithredu o fewn y portffolio ecwiti nad ydynt yn niweidiol i
berfformiad y gronfa i'w gyflwyno yng nghyfarfod nesaf pwyllgor y gronfa
bensiwn. Penderfynwyd mabwysiadu'r polisi mewn egwyddor a
amlinellwyd yn amodol ar wybodaeth ychwanegol am y lefelau targed arfaethedig o
leihau carbon a dull gweithredu o fewn y portffolio ecwiti nad ydynt yn
niweidiol i berfformiad y gronfa i'w gyflwyno yng nghyfarfod nesaf pwyllgor y
gronfa bensiwn. |
|
Cyflwyniad gan Weithredwr Cynllun Contractiol Awdurdodedig (CCA) Cyswllt Partneriaeth Pensiwn Cymru - Russell Investments. Cofnodion: Rhoddwyd
cyflwyniad gan Duncan Lowman, Eamon
Gough o Link Fund Solutions
a Sasha Mandich o Russell Investments. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau am gynnwys yr adroddiad ac atebwyd hwy'n briodol. Nodwyd cynnwys y
cyflwyniad a diolchodd y Cadeirydd i Link Fund Solutions am ddod i'r cyfarfod. |
|
Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi - Hymans Robertson. Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad 'er gwybodaeth' yr adroddiad chwarterol a oedd yn crynhoi prisiadau
ased a pherfformiad y gronfa dros gyfnodau hyd at 31 Rhagfyr 2017. Atodwyd adroddiad
chwarterol Hymans Robertson yn Atodiad 1. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau i'r Ymgynghorydd Buddsoddi ac atebwyd yn briodol
iddynt. Nodwyd cynnwys yr adroddiad a
diolchwyd i'r Ymgynghorydd Buddsoddi am yr adroddiad. |
|
Adroddiad(au) y Cyd-ymgynghorwyr Buddsoddi Annibynnol. Cofnodion: Roedd yr
adroddiad 'er gwybodaeth' yn cyflwyno diweddariad economaidd a sylwebaeth y
farchnad o safbwynt yr Ymgynghorwyr Buddsoddi Annibynnol a benodwyd. Daeth adroddiad chwarterol
Mr Noel Mills a Mr Valentine
Furniss, ymgynghorwyr buddsoddi annibynnol, i ben ar
30 Medi 2017 ac fe'i atodwyd yn Atodiad 1. Nodwyd cynnwys
pob adroddiad gan y pwyllgor a diolchwyd i'r Ymgynghorwyr Buddsoddi Annibynnol
am eu hadroddiadau. |
|
Crynodeb Buddsoddi. Cofnodion: Rhoddodd Prif
Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad er gwybodaeth a oedd yn cynnwys y
perfformiad buddsoddi ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i
ben ar 30 Medi 2017. Atodwyd
crynodebau buddsoddi chwarterol y Gronfa Bensiwn ar gyfer y chwarter, y
flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 30 Medi 2017 yn Atodiad 1. |
|
Cyflwyniad(au) Rheolwr y Gronfa: · Rheolwyr Ecwiti Gweithredol y DU – Schroders. Cofnodion: Rhoddodd
cyflwyniad gan Lyndon Bolton, Geoff Day a Sue Noffke o Reolwyr Ecwiti Gweithredol y DU - Schroders. Gofynnwyd i
reolwyr am eu polisi a'u cofnod pleidleisio a chynnwys a'u cefnogaeth o UNPRI
a'r côd stiwardiaeth.
Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau am gynnwys y cyflwyniad llafar ac
atebwyd yn briodol iddynt. Nodwyd cynnwys y
cyflwyniad a diolchodd y Cadeirydd i Reolwr(wyr) y
Gronfa am ddod i'r cyfarfod. |
|
Ymddeoliad Mr Lyndon Bolton a Mr Valentine Furniss Cofnodion: Diolchodd y Cadeirydd
i Lyndon Bolton a Valentine
Furniss ar ran y pwyllgor am eu cyfraniad gwerthfawr
at Bwyllgor y Gronfa Bensiwn a dymunodd y gorau iddynt ar gyfer eu hymddeoliad.
|