Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

5.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: -

 

Cynghorwyr

 

Y Cynghorydd P Downing - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy mrawd yn gweithio i'r cyngor ac yn cyfrannu at y Gronfa Bensiwn - personol

 

Y Cynghorydd C E Lloyd - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy nhad yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Y Cynghorydd D G Sullivan - yr agenda yn ei chyfanrwydd – mae fy merch yng nghyfraith yn aelod cyfrannol o'r Cynllun Pensiwn ac rwy'n derbyn Pensiwn Llywodraeth Leol - a weinyddir gan Gynllun Pensiwn Dyfed - personol.

 

Y Cynghorydd M Thomas - yr agenda yn ei chyfanrwydd - rwyf i a'm gwraig yn aelodau o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Cofnod 10 - Datganiad Drafft o Gyfrifon 2016/17 - Rwy'n Gynghorydd Cymuned gyda Chyngor Cymuned Llanrhidian Uchaf - personol.

 

Swyddogion

 

J Parkhouse - Cofnod 10 – Datganiad Drafft o Gyfrifon 2016/17 - Rwy'n cael fy nghyflogi fel clerc i Gyngor Cymuned Llanrhidian Uchaf – personol.

 

 

 

 

6.

Cofnodion. pdf eicon PDF 80 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn a gynhaliwyd ar 9 Mawrth a 22 Mehefin fel cofnodion cywir.

 

7.

Eitem Frys.

Cofnodion:

Yn unol â pharagraff 100B (4)(b) Deddf Llywodraeth Leol 1972, datganodd y Cadeirydd ei farn y dylid ystyried yr adroddiad am opsiynau i gwblhau'r broses o gysoni'r Isafswm Pensiwn Gwarantedig yn y cyfarfod fel mater brys.

 

8.

Ystyried Opsiynau I Gwblhau'r Broses O Gysoni'r Isafswm Pensiwn Gwarantedig O Fewn Yr Amserlenni Sydd ar Gael.

Cofnodion:

Rheswm dros y cynnig brys: Rhoi gwybod i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn fod proses ar waith i ystyried yr opsiynau sydd ar gael i gwblhau'r broses o gysoni'r Isafswm Pensiwn Gwarantedig o fewn yr amserlenni angenrheidiol.

 

Cyflwynodd Prif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol adroddiad brys 'er gwybodaeth' fel a amlinellwyd uchod. Rhoddodd yr wybodaeth gefndir i'r broses o gysoni'r Isafswm Pensiwn Gwarantedig a thynnodd sylw at yr amserlenni a'r risgiau cysylltiedig posib.

 

Trafododd y pwyllgor yr wybodaeth a ddarparwyd yn yr adroddiad, gan nodi'r cynnydd a wnaed.

 

 

9.

Presenoldeb Aelodau'r Bwrdd Pensiwn ym Mhwyllgor y Gronfa Bensiwn. pdf eicon PDF 67 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Gyfreithiwr adroddiad 'er gwybodaeth' a roddodd wybod i aelodau'r pwyllgor am drefniadau presenoldeb aelodau'r Bwrdd Pensiwn ym Mhwyllgor y Gronfa Bensiwn yn y dyfodol.

 

Amlinellwyd na allai aelodau'r Bwrdd Pensiwn fynd i gyfarfodydd llawn Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ar hyn o bryd a bod rhaid iddynt adael pan drafodir eitemau a eithrir, yn debyg i aelodau'r cyhoedd.

 

Derbyniodd Cadeirydd blaenorol Pwyllgor y Gronfa Bensiwn, y Cynghorydd R C Stewart, lythyr oddi wrth Gadeirydd y Bwrdd Pensiynau, Alan Lockyer, a ofynnodd yn ffurfiol am bresenoldeb cynrychiolydd y Bwrdd Pensiwn ym Mhwyllgor y Gronfa Bensiwn ar gyfer yr agenda lawn, gan gynnwys eitemau a eithrir. Datganodd y llythyr mai'r diben oedd cydymffurfio â dyletswyddau statudol a byddai'r cynrychiolydd yn adrodd yn ôl i'r Bwrdd Pensiwn llawn.

 

Dangosodd yr ymchwil a ddarparwyd nad oedd 5 pwyllgor pensiwn yn caniatáu i aelodau o fyrddau pensiynau fod yn bresennol mewn cyfarfodydd llawn ac roedd 3 yn caniatáu hynny.

 

Rhoddwyd cyngor gan Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, y Swyddog Monitro a'r Cyfarwyddwr Adnoddau blaenorol mewn ymateb i'r llythyr. Y cyngor oedd y gallai aelodau o'r Bwrdd Pensiwn gael mynediad i'r papurau cyfrinachol ar yr un adeg ag y cânt eu cyhoeddi ar gyfer Pwyllgor y Gronfa Bensiwn a gallai'r Cadeirydd neu'r Is-gadeirydd fynd i gyfarfodydd y pwyllgor ac aros am adroddiadau a eithrir. Fodd bynnag, gall fod achosion eithriadol pan ofynnir iddynt adael a byddai hyn yn cael ei esbonio ar y pryd. Hefyd, byddai'n rhaid i aelodau o'r Bwrdd Pensiwn lofnodi cytundeb cyfrinachedd o ran presenoldeb ym Mhwyllgor y Gronfa Bensiwn ar gyfer eitemau a eithrir a mynediad i adroddiadau a eithrir. 

10.

Datganiad Drafft o Gyfrifon 2016/17. pdf eicon PDF 53 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol Ddatganiad o Gyfrifon Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2016/17. Diolchodd i staff Tîm y Trysorlys a Thechnegol am eu gwaith ar lunio'r cyfrifon.

 

Datganwyd bod cyfrifon Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe'n rhan unigryw ac ar wahân o Ddatganiad o Gyfrifon Dinas a Sir Abertawe'n gyffredinol. Roedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi archwilio Datganiad o Gyfrifon y Gronfa Bensiwn 2016/17 yn unol â'i hadroddiad, a fyddai'n cael ei gyflwyno i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn ar ddiwedd yr archwiliad yn nes ymlaen yn y flwyddyn. 

 

Atodwyd Datganiad Drafft o Gyfrifon Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe yn Atodiad 1.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Datganiad Drafft o Gyfrifon 2016/17.

 

11.

Partneriaeth Pensiwn Cymru - Diweddariad. (Er Gwybodaeth) pdf eicon PDF 65 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol adroddiad ‘er gwybodaeth’ a oedd yn rhoi'r diweddaraf i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn ar gynnydd Cronfa Buddsoddi Cymru Gyfan.

 

Roedd Atodiad 1 yr adroddiad yn cynnwys yr amserlen ddiweddaraf a'r diweddaraf ar gynnydd a luniwyd gan ymgynghorwyr Partneriaeth Pensiwn Cymru, Hymans Robertson.

 

Ychwanegwyd bod y Pwyllgor Llywodraethu ar y Cyd wedi cael ei gyfarfod ffurfiol cyntaf ar 29 Mehefin 2017. Nodwyd cylch gwaith y Pwyllgor Llywodraethu ar y Cyd yn y Cytundeb Rhwng Awdurdodau. Byddai'r Pwyllgor Llywodraethu ar y Cyd yn goruchwylio'r broses gaffael i'r gweithredwr a byddai'r cydbwyllgor ffurfiol yn gwneud yr argymhelliad terfynol i benodi'r ymgeisydd sy'n bodloni'r meini prawf orau.

 

Roedd Grŵp yr Ymarferwyr Buddsoddi a'r Gweithgor Swyddogion wedi bod yn gweithio mewn ymgynghoriad â Hymans Robertson a'r ymgynghorwyr cyfreithiol penodedig, Burges Salmon, wrth lunio a chwblhau'r broses gaffael a'r ddogfennaeth. Cyhoeddwyd y gwahoddiad olaf i dendro ym mis Mehefin 2017. Bydd y Gweithgor Swyddogion yn gwneud yr argymhelliad i benodi gweithredwr i'r Pwyllgor Llywodraethu ar y Cyd ym mis Medi 2017. Yna byddai pob pwyllgor cronfa bensiwn yn cymeradwyo'r penderfyniad ym mis Medi 2017.

 

 

12.

Cynllun Hyfforddi. pdf eicon PDF 92 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol adroddiad er mwyn pennu rhaglen hyfforddiant flynyddol ar gyfer ymddiriedolwyr a swyddogion y Gronfa Bensiwn.

 

Ychwanegwyd bod angen hyfforddiant i sicrhau y cydymffurfir â Chôd Ymarfer Gwybodaeth Ariannol a Sgiliau Pensiynau Sector Cyhoeddus y CIPFA a gofynion gwybodaeth a dealltwriaeth y Rheolydd Pensiynau.

 

Amlinellwyd bod yr hyfforddiant canlynol wedi'i nodi yn 2017/18 fel hyfforddiant priodol ar gyfer aelodau o'r pwyllgor, ynghyd ag unrhyw gyfleoedd hyfforddiant priodol a oedd ar gael yn ystod y flwyddyn, i'w cytuno arnynt â'r Swyddog Adran 151:

 

1.    Gweithdy Credoau Buddsoddi

2.    Gweithdy Credoau Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu

3.    Hanfodion Ymddiriedolwyr Cyflogwyr Llywodraeth Leol, diwrnod 1, 2 a 3

4.    Uwchgynhadledd Fuddsoddi'r LGC

5.    Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr LAPFF

6.    Hyfforddiant Ymddiriedolwyr y CIPFA

7.    Cyfuno Buddsoddi a'r Fframwaith Rheoleiddiol parthed Cynllun Contractiol Awdurdodedig

 

PENDERFYNWYD cytuno ar yr hyfforddiant a nodwyd uchod.

 

 

13.

MIFID II. (Er Gwybodaeth) pdf eicon PDF 87 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol a'r Ymgynghorydd Buddsoddi adroddiad 'er gwybodaeth' a roddodd wybod i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn am MIFID II a'i effaith bosib ar y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn genedlaethol ac yn lleol.

 

Amlinellwyd yr effaith bosib ar y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, yr asesiad angenrheidiol arfaethedig a'r ffordd ymlaen. Rhoddwyd ymateb y Gymdeithas Llywodraeth Leol yn Atodiad 1.

 

 

14.

Côd Tryloywder Costau'r LGPS. (Er Gwybodaeth) pdf eicon PDF 56 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol adroddiad 'er gwybodaeth' a roddodd wybod i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn am y côd ymddygiad gwirfoddol newydd ar dryloywder costau yn y diwydiant rheoli cronfeydd.

 

Atodwyd y Côd Ymddygiad ar gyfer Tryloywder Costau yn Atodiad 1.  Cydnabuwyd bod y templed i'w gwblhau wedi'i ddatblygu ar gyfer mandadau ecwiti'n unig ar yr adeg hon ac roedd templedi'r dosbarthiadau asedau eraill yn y broses o gael eu datblygu. Fodd bynnag, bwriadwyd cynnwys y rheolwyr ecwiti penodedig (a rheolwyr yn y dosbarthiadau asedau eraill pan fydd y templedi ar gael) i lofnodi'r côd gwirfoddol. Nodwyd y dylai hyn fod yn amod o unrhyw benodiadau i'r gronfa neu Gronfa Partneriaeth Pensiwn Cymru yn y dyfodol.

 

15.

Polisi Torri Amodau. (Er Gwybodaeth) pdf eicon PDF 77 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol adroddiad 'er gwybodaeth' a roddodd wybod i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn am unrhyw achosion o dramgwyddo'r Gronfa Bensiwn yn unol â'r Polisi Adrodd am Dramgwyddau.

 

Atodwyd yr Adroddiad am Dramgwyddau yn Atodiad A. Rhoddwyd mwy o wybodaeth am gyfandaliadau ymddeol a thramgwydd un cyflogwr (Grŵp Gwalia) a fethodd gyflwyno data i'r Gronfa Bensiwn erbyn 30 Ebrill er mwyn i'r cyfraniadau a'r taliadau wedi'u cysoni ar ddiwedd y flwyddyn gael eu hychwanegu at gofnodion yr aelodau.

 

 

 

16.

Adolygiad o Adroddiadau Rheoli Mewnol. (Er Gwybodaeth) pdf eicon PDF 114 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi gwybod i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn am eitemau adroddadwy yn adroddiadau dulliau rheoli mewnol rheolwyr penodedig y gronfa.

 

Ychwanegwyd bod rheolwyr a cheidwaid asedau'n destun rheoliadau sylweddol yng nghyd-destun y byd, yr UE a'r DU. Roedd rhaid iddynt adrodd am eu systemau rheolau mewnol, a oedd yn destun archwiliad allanol a sylwadau gan gwmnïau archwilio cymwys ac annibynnol. Atodwyd y crynodeb o eithriadau ar gyfer y flwyddyn galendr ddiwethaf yn Atodiad 1 ar gyfer rheolwyr a cheidwad cronfeydd penodedig Dinas a Sir Abertawe. 

 

Nodwyd bod y rheolwyr wedi mynd i'r afael â'r eithriadau'n briodol, gan eu cydnabod drwy gymryd camau gweithredu adferol priodol.

 

 

17.

Gwahardd y Cyhoedd. pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/ion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle roedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(SESIWN GAEËDIG)

 

18.

Adroddiadau Ymgynghorwyr. (Er Gwybodaeth)

Cofnodion:

Roedd yr adroddiad yn cyflwyno'r diweddariad economaidd a sylwadau ar y farchnad o safbwynt yr Ymgynghorwyr Buddsoddi Annibynnol a benodwyd.

 

Yn Atodiad 1, roedd adroddiadau'r chwarter a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2017 gan y ddau Ymgynghorydd Buddsoddi annibynnol, Mr Noel Mills a Mr Valentine Furniss. Yn ogystal, dosbarthodd Mr Furniss adroddiad buddsoddi am y chwarter a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2017.

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau i bob ymgynghorydd ac fe'u hatebwyd yn briodol.

 

Nodwyd cynnwys pob adroddiad gan y pwyllgor a diolchwyd i'r Ymgynghorwyr Annibynnol am eu hadroddiadau.

 

19.

Adroddiad Ymgynghorydd Buddsoddi. (Er Gwybodaeth)

Cofnodion:

Cyflwynodd Mr W Marshall, Hymans Robertson, ymgynghorydd buddsoddi penodedig y gronfa, y diweddaraf ar y farchnad fuddsoddi adolygiad o berfformiad y gronfa ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2017. Rhoddwyd adroddiad byr am ail chwarter 2017 i'r pwyllgor hefyd.

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau i bob ymgynghorydd ac fe'u hatebwyd yn briodol.  Nodwyd cynnwys yr adroddiadau gan y pwyllgor a diolchwyd i'r Ymgynghorydd Buddsoddi am yr adroddiad.

 

 

 

20.

Crynodeb Buddsoddiadau. (Er Gwybodaeth)

Cofnodion:

Rhoddodd Prif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol adroddiad "er gwybodaeth" a gyflwynodd, yn Atodiad 1, grynodebau buddsoddi chwarterol y Gronfa Bensiwn ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r tair blynedd a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2017.

 

 

21.

Cyflwyniad Rheolwr y Gronfa:

·         Harbourvest – Ecwiti Preifat Byd-eang.

 

 

Cofnodion:

Gwnaethpwyd cyflwyniad ar y cyd gan Craig McDonald ac Emily Archer o Harbourvest.

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau am gynnwys y cyflwyniad llafar ac fe'u hatebwyd yn briodol.

 

Nodwyd cynnwys y cyflwyniad a diolchodd y Cadeirydd i Reolwyr y Gronfa am ddod i'r cyfarfod.