Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636016
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Y Cynghorydd P
Downing - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy mrawd yn gweithio i'r cyngor ac
yn cyfrannu i'r Gronfa Bensiwn. NODWYD bod y Cynghorydd P Downing wedi cael
goddefeb gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad a phleidleisio ar unrhyw eitem
sy'n ymwneud â chyflogaeth staff cyffredinol, ar faterion y gyllideb ac unrhyw
faterion eraill sy'n effeithio ar y Gwasanaethau Adeiladu Corfforaethol, ar
wahân i faterion sy'n effeithio'n uniongyrchol ar ei frawd gyda chyfeiriad
penodol at ei swydd. Y Cynghorydd C E
Lloyd - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy nhad yn aelod o'r Cynllun Pensiwn
Llywodraeth Leol - personol. Y Cynghorydd M
Thomas - yr agenda yn ei chyfanrwydd - rwyf fi a fy ngwraig yn aelodau o'r
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol. NODWYD bod y Cynghorydd M Thomas wedi cael
goddefeb gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad ond i beidio â phleidleisio ar
unrhyw eitem sy'n ymwneud â chyflogaeth staff cyffredinol, ar faterion y
gyllideb ac unrhyw faterion eraill sy'n effeithio'n uniongyrchol ar ei wraig
gyda chyfeiriad penodol at ei swydd. |
|
Cronfa Fuddsoddi Cymru: Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth. PDF 67 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Prif
Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad i gymeradwyo Memorandwm o
Ddealltwriaeth rhwng 8 awdurdod lleol Cronfa Bensiwn Cymru. Roedd cynnig Cronfa
Buddsoddi Cymru'n cynnwys creu Pwyllgor Llywodraethu ar y Cyd a oedd yn cynnwys
aelodau etholedig o bob awdurdod gweinyddu, a gefnogir gan Weithgor o
Swyddogion. Cynigiwyd hefyd benodi Gweithredwr a reolir gan yr Awdurdod
Ymddygiad Ariannol i ddarparu'r strwythur angenrheidiol ar gyfer creu offeryn
ar gyfer y gronfa a'i rheoli ar ran yr 8 cronfa. Roedd y gwaith yn mynd
rhagddo mewn terfynau amser tynn i lunio trefniadau llywodraethu ar gyfer y
gronfa gan gynnwys drafftio Cytundeb Rhwng Awdurdodau sy'n gyfreithiol rwymol
(gan gynnwys Cylch Gorchwyl ar gyfer y Cydbwyllgor), manyleb y gwasanaethau i'w
darparu i'r Gweithredwr a rôl y Gweithgor o Swyddogion. Rhoddir ystyriaeth
hefyd i anghenion y gronfa ar gyfer cyngor cyfreithiol a buddsoddi arbenigol. Rhagwelir y bydd y
Cyd-bwyllgor yn cwrdd fel bwrdd cysgodol (h.y. heb bwerau gwneud
penderfyniadau) fel Grŵp Cyd-gadeiryddion (JCG) yn ystod gweddill 2016 a
byddai'n cael ei greu'n ffurfiol ddechrau 2017. Cafodd cylch gwaith y JCG ei
nodi yn y Memorandwm o Ddealltwriaeth arfaethedig a ddarparwyd yn Atodiad 1.
Byddai'r JCG yn goruchwylio'r broses gaffael ar gyfer y Gweithredwr ond
byddai'r Cyd-bwyllgor ffurfiol yn gwneud yr argymhelliad terfynol i benodi cynigydd
sy'n bodloni meini prawf y fanyleb orau. Cynigiwyd hefyd bod y JCG
a'r Cyd-bwyllgor Llywodraethu'n cynnwys un cynrychiolydd o bob un o wyth Cronfa
Bensiwn Cymru. Cynigiwyd y dylai cynrychiolydd o Ddinas a Sir Abertawe gael ei
benodi. Roedd Atodiad 2 yn darparu'r
rhestr o gyfarfodydd ar gyfer Pwyllgor y Gronfa Bensiwn a drefnwyd i gyd-fynd â
chynllun prosiect y gronfa. Gofynnodd y pwyllgor
gwestiynau i Brif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol, a ymatebodd yn briodol. PENDERFYNWYD: - 1)
Y dylid nodi cynnydd yn natblygiad cronfa buddsoddi Cymru; 2)
Cymeradwyo’r Memorandwm o Ddealltwriaeth drafft; 3)
Dirprwyo awdurdod i Swyddog Adran 151/Pennaeth Gweithredol y Gwasanaethau
Cyfreithiol a Democrataidd i gymeradwyo unrhyw newidiadau i'r Memorandwm o
Ddealltwriaeth mewn ymgynghoriad â'r cadeirydd; 4)
Penodi'r Cynghorydd P Downing i gynrychioli'r pwyllgor ar Gyd-bwyllgor y
Cadeiryddion a'r Cyd-bwyllgor ar ôl hynny. |