Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

40.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: -

 

Y Cynghorydd P. Downing - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy mrawd yn gweithio i'r cyngor ac yn cyfrannu at y Gronfa Bensiwn.

 

NODWYD bod y Cynghorydd P Downing wedi cael goddefeb gan y Pwyllgor Safonau yn yr achos hwn.

 

Y Cynghorydd C E Lloyd - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy nhad yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Y Cynghorydd D G Sullivan - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy merch yng nghyfraith yn aelod cyfrannol o'r Cynllun Pensiwn ac rwy'n derbyn Pensiwn Llywodraeth Leol a weinyddir gan Gynllun Pensiwn Dyfed - personol.

 

 

41.

Cofnodion. pdf eicon PDF 72 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Gronfa Bensiwn a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2016 fel cofnod cywir.

 

42.

Ardystiad Cyfraddau Prisio Teirblwyddol ac Addasiadau Drafft 2017. pdf eicon PDF 56 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Chris Archer, AON Hewitt, actiwari'r gronfa bensiwn a benodwyd yn statudol adroddiad a oedd yn ceisio sicrhau cydymffurfio â Rheoliadau'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

 

Ychwanegwyd, yn unol â Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, fod Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe yn ymgymryd â phrisiad actiwararaidd teirblwydd llawn o 31 Mawrth 2016, er mwyn mesur asedau ac atebolrwydd y Gronfa Bensiwn ac, o ganlyniad, bennu cyfraddau cyfraniadau priodol y cyflogwr y byddant yn daladwy ar gyfer y tair blynedd sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2017. Darparwyd y dystysgrif cyfraddau actiwaraidd ac addasiadau yn Atodiad 1.   Roedd actiwari'r gronfa benodedig wedi cwrdd â chyflogwyr a chyflwyno ei brif dybiaethau a meysydd datblygu ynglŷn â phrisiad 2016 iddynt. Ymgynghorwyd â chyflogwyr ar ganlyniadau drafft dangosol ac opsiynau am wella cyfraddau cyfraniadau cynyddol.

Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau i gynrychiolydd AON Hewitt a ymatebodd yn briodol.

PENDERFYNWYD cymeradwyo ardystiad cyfraddau prisio teirblwyddol ac addasiadau drafft 2016.

 

43.

Datganiad Strategaeth Ariannu Drafft 2017 pdf eicon PDF 207 KB

Cofnodion:

Darparodd Prif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol Ddatganiad Strategaeth Ariannu 2017 i'w gymeradwyo.

 

Ychwanegwyd, yn unol â Rheoliadau'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, fod angen i Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe lunio datganiad strategaeth ariannu mewn ymgynghoriad â'r rhai sy'n cyfrannu at y cynllun a'r actiwari a chynghorwyr a benodwyd.

Prif bwrpas y Datganiad Strategaeth Ariannu oedd nodi'r prosesau yr oedd yr Awdurdod Gweinyddu wedi cyflawni'r canlynol drwyddynt:

 

§  Sefydlu strategaeth ariannu glir a thryloyw a oedd yn benodol i'r Gronfa, ac a oedd yn nodi'r ffordd orau o fodloni atebolrwydd pensiwn y cyflogwr.

 

§  Cefnogi'r gofyniad rheoleiddiol mewn perthynas â dymunoldeb cynnal cyfradd cyfraniadau sylfaenol mor gyson â phosib.

 

§  Sicrhau'r gofynion rheoleiddiol i bennu cyfraniadau er mwyn sicrhau y bodlonir diddyledrwydd ac effeithiolrwydd cost tymor hir y Gronfa.

 

§  Cymryd golwg tymor hwy ochelgar ar ariannu atebolrwydd y Gronfa.

 

Nodwyd, er bod yn rhaid i'r strategaeth ariannu sy'n berthnasol i gyflogwyr unigol gael ei hadlewyrchu yn y Datganiad Strategaeth Ariannu/Datganiad Strategaeth Buddsoddi, dylai ei ffocws bob amser fod ar y gweithdrefnau hynny a oedd o fudd tymor hir i'r Gronfa.

PENDERFYNWYD nodi a chymeradwyo Datganiad Strategaeth Ariannu 2017, yn amodol ar unrhyw newidiadau arwyddocaol cyn 31 Mawrth 2017 yn cael eu cymeradwyo gan Swyddog Adran 151 a'u hadrodd yn ôl i'r Pwyllgor.

 

44.

Polisi Adrodd am Doriadau pdf eicon PDF 222 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Reolwr Pensiynau adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer polisi adrodd am doriadau.

 

Esboniwyd bod angen adrodd am unrhyw dorcyfraith i'r Rheoleiddiwr Pensiynau dan baragraffau 241 a 275 Côd Ymarfer Rheoleiddiwr Pensiynau Rhif 14 (Llywodraethu a gweinyddu cynlluniau pensiynau gwasanaethau cyhoeddus) - "Côd Ymarfer". Ychwanegwyd y gallai toriadau ddigwydd mewn perthynas ag amrywiaeth eang o'r tasgau sydd fel arfer yn gysylltiedig â swyddogaeth weinyddol cynllun pensiwn megis cadw cofnodion, rheoliadau mewnol, cyfrifo budd-daliadau a gwneud buddsoddiadau neu benderfyniadau sy'n ymwneud â buddsoddi.

 

Amlinellodd yr adroddiad y gweithdrefnau i'w mabwysiadu gan Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe mewn perthynas â'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a reolir ac a weinyddir gan Ddinas a Sir Abertawe, o ran adrodd am unrhyw dorcyfraith i'r Rholeiddiwr Pensiynau.

 

Cafodd rai o'r darpariaethau cyfreithiol allweddol eu cynnwys yn Atodiad A a chafodd enghraifft o gofrestr torcyfraith ei chynnwys yn Atodiad B a darparwyd arweiniad ar fframwaith goleuadau traffig yn Atodiad C.  Byddai adroddiad cofnodi toriadau yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd Pensiwn a Phwyllgor y Gronfa Pensiwn bob chwarter.

 

  Trafododd y pwyllgor yr wybodaeth yn yr adroddiad.

 

  PENDERFYNWYD cymeradwyo'r polisi.

 

45.

Cynllun Busnes 2017/18. pdf eicon PDF 67 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol adroddiad a oedd yn ceisio darparu fframwaith gweithredu ar gyfer rhaglen waith y Gronfa Bensiwn 2017/18.  Atodwyd y Cynllun Busnes ar gyfer 2017/18 yn Atodiad 1.

 

PENDERFYNWYD: -

 

1)    Nodi a chymeradwyo Cynllun Busnes Blynyddol 2017/18;

2)    Nodi'r amserlen a'r cyfrifoldeb ar gyfer pwyntiau gweithredu allweddol yn ystod y flwyddyn.

 

46.

Cronfa Buddsoddi Cymru - Cytundeb rhwng Awdurdodau a'r Pwyllgor Llywodraethu ar y Cyd pdf eicon PDF 93 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol adroddiad "er gwybodaeth" yn Atodiad 1 Adroddiad y Cyngor, dyddiedig 23 Chwefror 2017, a oedd yn cymeradwyo'r Cytundeb Rhwng Awdurdodau, Awdurdod Cynnal a sefydlu Pwyllgor Llywodraethu ar y Cyd

47.

Polisi Newid yn yr Hinsawdd a Buddsoddi Carbon - y Diweddaraf pdf eicon PDF 76 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol adroddiad "er gwybodaeth" a oedd yn rhoi'r diweddaraf i'r Pwyllgor ar yr argymhelliad blaenorol i gomisiynu dadansoddiad portffolio gyda'r bwriad o greu polisi buddsoddi mewn carbon.

 

48.

Datganiad Strategaeth Buddsoddi Drafft 2017 pdf eicon PDF 104 KB

Cofnodion:

 

 

Cyflwynodd Prif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y datganiad strategaeth buddsoddi. Amlinellwyd, yn unol â Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, fod angen i Gronfa Bensiwn Ddinas a Sir Abertawe gyhoeddi datganiad strategaeth buddsoddi a oedd wedi disodli'r datganiad o egwyddorion buddsoddi.  Nodwyd gofynion y Datganiad Strategaeth Buddsoddi yn Rheoliad 7 ac fe'u hamlinellwyd yn yr adroddiad.

Darparwyd y Datganiad Strategaeth Buddsoddi drafft yn Atodiad 1.

PENDERFYNWYD cymeradwyo datganiad strategaeth buddsoddi drafft 2017 gan gydnabod ei fod yn ddogfen ddynamig a oedd yn destun adolygu fel y bo'n briodol ac yn unol â'r amgylchiadau.

 

 

 

49.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/ion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle roedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(SESIWN GAEËDIG)

 

50.

Adroddiad(au) yr Ymgynghorwyr Annibynnol

Cofnodion:

Roedd yr adroddiad yn cyflwyno'r diweddariad economaidd a sylwadau ar y farchnad o safbwynt yr Ymgynghorwyr Buddsoddi Annibynnol a benodwyd.

 

Atodwyd yr adroddiadau chwarterol a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2016, gan y ddau ymgynghorydd buddsoddi annibynnol, Mr Noel Mills a Mr Valentine Furniss yn Atodiad 1.  Dosbarthodd Mr Furniss grynodeb fuddsoddi hefyd am gyfnod o 31 Rhagfyr 2016 tan 9 Mawrth.

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau i bob ymgynghorydd ac atebwyd yn briodol iddynt.

 

Nodwyd cynnwys pob adroddiad gan y pwyllgor a diolchwyd i'r Ymgynghorwyr Annibynnol am eu hadroddiadau.

 

51.

Crynodeb Buddsoddi

Cofnodion:

Darparodd Prif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol adroddiad "er gwybodaeth" a oedd yn cyflwyno crynodebau buddsoddi chwarterol yn Atodiad 1 ar gyfer y Gronfa Bensiwn ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a thair blynedd a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2016. 

 

52.

Cyflwyniadau gan Reolwyr y Gronfa: -

Blackrock - Cronfa Ragfantoli'r Cronfeydd

Entrust Permal - Cronfa Ragfantoli'r Cronfeydd

Cofnodion:

1)    Gwnaed cyflwyniad ar y cyd gan Peter Hunt, Funmi Osiyemi a John Ware o Blackrock

2)    Gwnaed cyflwyniad ar y cyd gan Katie Jupp a Christoph Englisch o Entrust Permal.

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau am gynnwys y cyflwyniadau ac atebwyd yn briodol iddynt. 

 

Nodwyd cynnwys y cyflwyniadau a diolchodd y Cadeirydd i Reolwyr y Gronfa am ddod i'r cyfarfod.