Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

16.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: -

 

Y Cynghorydd P Downing - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy mrawd yn gweithio i'r cyngor ac yn cyfrannu i'r Gronfa Bensiwn.

 

NODWYD bod y Cynghorydd P Downing wedi cael goddefeb gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad a phleidleisio ar unrhyw eitem sy'n ymwneud â chyflogaeth gyffredinol staff, materion cyllidebol ac unrhyw faterion eraill sy'n effeithio ar y Gwasanaethau Adeiladau Corfforaethol, ac eithrio materion sy'n cael effaith uniongyrchol ar ei frawd mewn perthynas benodol â'i swydd. 

 

Y Cynghorydd C E Lloyd - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy nhad yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Y Cynghorydd D G Sullivan - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy merch-yng-nghyfraith yn aelod cyfrannol o'r Cynllun Pensiwn ac rwyf yn derbyn Pensiwn Llywodraeth Leol - gweinyddir gan Gynllun Pensiwn Dyfed - personol.

 

Y Cynghorydd M Thomas - yr agenda yn ei chyfanrwydd - rwyf fi a fy ngwraig yn aelodau o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

NODWYD bod y Cynghorydd M Thomas wedi cael goddefeb gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad ond nid i bleidleisio ar unrhyw eitem sy'n ymwneud â chyflogaeth gyffredinol staff, materion cyllidebol ac unrhyw faterion eraill sy'n cael effaith uniongyrchol ar ei wraig mewn perthynas benodol â'i swydd.

 

17.

Cofnodion. pdf eicon PDF 64 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Gronfa Bensiwn a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2016 yn gofnod cywir.

 

18.

Adroddiad ISA 260 - Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe. pdf eicon PDF 476 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Geraint Norman, Swyddfa Archwilio Cymru, adroddiad yn nodi'r materion a gododd i'w hystyried o'r archwiliad ar ddatganiadau ariannol y Gronfa Bensiwn ar gyfer 2015-16 a oedd yn gofyn am adroddiad dan SRA 260.

 

Mae'r Cynllun Archwiliadau ar gyfer y Gronfa Bensiwn a chyflwynwyd ym mis Mawrth 2016 yn nodi'r risgiau archwiliad ariannol y'u hystyrir yn rhai sylweddol. Bu'r archwilwyr yn cynnal yr archwiliad er mwyn asesu'r risgiau hyn a hefyd i ystyried unrhyw risgiau newydd a oedd efallai wedi codi. Dangoswyd crynodeb o'r risgiau archwiliad ariannol, y gwaith archwilio a wnaed a'r casgliad yn Arddangosyn 1.

 

Nod yr Archwilydd Cyffredinol oedd cyhoeddi adroddiad archwilio diamod am y datganiadau ariannol wedi i'r awdurdod ddarparu Llythyr o Gynrychiolaeth yn seiliedig ar yr hyn a amlinellir yn Atodiad 1. 

 

Amlinellwyd yr adroddiad archwilio arfaethedig yn Atodiad 2. Cafodd y gronfa bensiwn ei chynnwys ym mhrif ddatganiadau ariannol y cyngor, a'r brif farn a fynegwyd felly oedd o blaid y cynnig arfaethedig o gynnwys y Gronfa Bensiwn ym mhrif ddatganiadau ariannol y cyngor.

 

Amlinellwyd nad oedd unrhyw gamddatganiadau wedi eu nodi yn yr adroddiadau ariannol a oedd heb eu cywiro. Roedd nifer o gamddatganiadau a gywirwyd gan y rheolaeth, ond roedd yr archwilwyr o'r farn y dylid tynnu sylw at hyn oherwydd eu perthnasedd i gyfrifoldebau'r awdurdod dros y broses adrodd ariannol. Nodwyd y rhain gydag esboniadau yn Atodiad 3. Ni chafodd y newidiadau hyn unrhyw effaith ar Gyfrif y Gronfa, ond nodwyd yn y Datganiad o'r Asedau Net bod cynnydd o £1,513,000 wedi bod o ran gwerth buddsoddiadau. Gwnaed hefyd nifer o addasiadau cyflwyniadol eraill i'r datganiadau ariannol drafft a gododd o'r archwiliad. Adroddwyd am faterion sylweddol eraill a gododd o'r archwiliad.

 

Amlinellwyd yr argymhellion allweddol a gododd o'r archwiliad ariannol yn Atodiad 4. Roedd y Rheolaeth wedi ymateb iddynt a bydd y cynnydd yn cael ei wirio yn ystod archwiliad y flwyddyn nesaf. Lle barnwyd unrhyw weithredoedd yn rhagorol, bydd yr archwilwyr yn parhau i fonitro'r cynnydd a'i gynnwys yn yr adroddiad y flwyddyn nesaf.

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau am y crynodeb o gywiriadau a wnaed i'r adroddiadau ariannol drafft, a'r argymhellion a gododd o waith archwilio ariannol 2015-16, yn enwedig o ran cysoni cronfa ddata ALTAIR a chydymffurfio â'r Datganiad o Egwyddorion Buddsoddi cymeradwy, ac ymatebwyd iddynt yn briodol.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

19.

Datganiad o Gyfrifon 2015/16. pdf eicon PDF 53 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol Ddatganiad o Gyfrifon Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe ar gyfer 2015/16. Diolchodd i staff y Tîm Trysorfa a Thechnegol am eu gwaith o ran llunio'r cyfrifon.

 

Nodwyd bod Cyfrifon Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe'n ffurfio cydran benodol ac ar wahân o Ddatganiad Cyfrifon Dinas a Sir Abertawe yn ei chyfanrwydd. Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi archwilio Datganiad o Gyfrifon y Gronfa Bensiwn ar gyfer 2015/16 yn unol â'u cynllun archwilio a gyflwynwyd i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn yn gynharach eleni. Hwn oedd yr archwiliad cyntaf dan y trefniadau archwiliad allanol newydd ers i PriceWaterhouseCoopers adael eu swydd fel archwilwyr penodedig.

 

Atodwyd Datganiad o Gyfrifon y Gronfa Bensiwn 2015/16 i Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau a gwnaeth sylwadau am statws cyrff cydnabyddedig, adenillion ar fuddsoddiadau, ffioedd perfformio a manylion am y costau eraill a restrwyd dan Dreuliau Rheoli Buddsoddiadau.

 

PENDERFYNWYD: -

 

1)    Cymeradwyo Datganiad o Gyfrifon Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2015/16;

2)    Mae Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol yn rhoi dadansoddiad i'r pwyllgor am gostau eraill a restrir dan Dreuliau Gweinyddol a Rheoli Buddsoddiadau.

 

20.

Effaith buddsoddi mewn carbon pdf eicon PDF 67 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i gomisiynu astudiaeth i effaith buddsoddiad carbon/anfuddsoddiad ar y portffolio.

 

Diolchodd i'r grwpiau lobïo, gan gynnwys Cyfeillion y Ddaear Cymru, am eu diddordeb mewn perthynas â pholisi a strategaeth buddsoddi'r Gronfa Bensiwn mewn perthynas â'r ddadl am newid yn yr hinsawdd. Ychwanegwyd bod y Gronfa Bensiwn wedi cydnabod bod newid yn yr hinsawdd yn risg allweddol, ac roedd yn gweithio'n galed i'w deall a'i rheoli. Parhaodd y gronfa i fuddsoddi mewn technoleg lân ac ynni adnewyddadwy drwy ei phortffolio ecwiti preifat, lle'r oedd yn gallu dod o hyd i fuddsoddiadau a oedd yn darparu dychweliadau a addasir o ran risgiau costau net.

 

Amlygwyd hefyd bod rhaid i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn, wrth gyflawni ei ddyletswyddau, gofio mai'r ddyletswydd gyntaf yw talu pensiynau aelodau pan fyddant yn ymddeol, ac y byddai dadfuddsoddiad asedau carbon heb opsiynau eraill sy'n darparu dychweliadau cymesur yn creu ansicrwydd economaidd, a byddai'n anghyfrifol i ddechrau ar raglen o ddadfuddsoddiad a fyddai'n effeithio ar allu'r gronfa i dalu pensiynau.

 

Rhoddwyd mwy o wybodaeth am newid yn yr hinsawdd ac asedau carbon. Daethpwyd i'r casgliad y dylid cydnabod nad oedd ateb hawdd i newid yn yr hinsawdd a mabwysiadu polisi buddsoddiad carbon addas. Felly, awgrymwyd y dylid comisiynu dadansoddiad o effaith carbon y portffolio presennol gyda'r nod o lunio polisi buddsoddi carbon cydlynol.

Trafododd y pwyllgor yr angen i bennu strategaeth fuddsoddi gyfrifol, sut y bydd rhannu'n effeithio ar y strategaeth, a'r angen i edrych ar wahanol ffyrdd o echdynnu tanwyddau ffosil megis ffracio.

 

PENDERFYNWYD comisiynu dadansoddiad blaenorol ar effaith buddsoddiad carbon/anfuddsoddiad ar y portffolio er mwyn helpu o ran llunio polisi carbon ar gyfer Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe.

 

21.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/ion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(SESIWN GAEËDIG)

 

22.

Dyraniad Isadeiledd - Hastings.

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi'r diweddaraf am benodiad y Rheolwr Buddsoddi mewn Isadeiledd a gymeradwywyd gan Bwyllgor y Gronfa Bensiwn ar 3 Rhagfyr 2014.

 

23.

Crynodeb Buddsoddi.

Cofnodion:

Rhoddodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad 'gwybodaeth llawn' a oedd yn cynnwys y perfformiad buddsoddi ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2016.  Atodwyd y crynodebau buddsoddi chwarterol ar gyfer y Gronfa Bensiwnyn Atodiad 1 ar gyfer y chwarter blaenorol, y flwyddyn flaenorol a'r tair blynedd flaenorol ar gyfer y cyfnod a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2016.

 

24.

Adroddiad(au) yr Ymgynghorwyr Annibynnol.

Cofnodion:

Roedd yr adroddiad yn cyflwyno diweddariad economaidd a sylwebaeth y farchnad o safbwynt yr Ymgynghorwyr Annibynnol a benodwyd.  Cyflwynodd Atodiad 1 yr adroddiad ar fuddsoddiadau ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben 30 Mehefin 2016 ynghyd â diweddariad ar gyfer y cyfnod o 1 Gorffennaf tan 2 Medi 2016 gan Mr V Furniss. Atodwyd yn Atodiad 2 y nodyn economaidd a sylwebaeth y farchnad ar gyfer mis Medi 2016 gan Mr N Mills.

 

Nodwyd cynnwys pob adroddiad gan y pwyllgor a diolchwyd i'r Ymgynghorwyr Annibynnol am eu hadroddiadau.

 

25.

Cyflwyniad - Rheolwr Cronfa.

a)    Goldman Sachs – Bondiau Byd-eang.

Cofnodion:

(1)  Rhoddwyd cyflwyniad ar y cyd gan Jason Smith a Jason Freeman o

Goldman Sachs.

 

Gofynnwyd cwestiynau mewn perthynas â chynnwys y cyflwyniad gan y pwyllgor ac ymatebwyd i'r cwestiynau'n briodol.

 

Nodwyd cynnwys y cyflwyniadau a diolchodd y Cadeirydd i Reolwyr y Gronfa am ddod i'r cyfarfod.