Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

5.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: -

 

Y Cynghorydd P Downing - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy mrawd yn gweithio i'r cyngor ac yn cyfrannu i'r Gronfa Bensiwn.

 

NODWYD bod y Cynghorydd P Downing wedi cael goddefeb gan y Pwyllgor Safonau yn yr achos hwn.

 

Y Cynghorydd C E Lloyd - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy nhad yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Y Cynghorydd J Newbury - rwyf wedi derbyn pensiwn y cyngor sydd wedi cael ei drosglwyddo i fi yn dilyn marwolaeth fy ngwraig - personol.

 

Y Cynghorydd M Thomas - yr agenda yn ei chyfanrwydd - rwyf fi a fy ngwraig yn aelodau o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

NODWYD bod y Cynghorydd M Thomas wedi cael goddefeb gan y Pwyllgor Safonau o ran ei wraig.

 

 

6.

Cofnodion. pdf eicon PDF 65 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Gronfa Bensiwn a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2016 yn gofnod cywir.

 

7.

Hyfforddiant Pwyllgor y Gronfa Bensiwn. pdf eicon PDF 72 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad er mwyn pennu rhaglen hyfforddiant flynyddol ar gyfer Ymddiriedolwyr a Swyddogion y Gronfa Bensiwn. Byddai'r hyfforddiant yn sicrhau cydymffurfiad â Chôd Ymarfer Gwybodaeth a Sgiliau Pensiynau Sector Cyhoeddus CIPFA.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r hyfforddiant a nodwyd ar gyfer aelodau a swyddogion a amlinellwyd uchod.

 

 

 

8.

Dyrannu Isadeiledd - y diweddaraf. pdf eicon PDF 120 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi'r diweddaraf am benodiad y Rheolwr Buddsoddi mewn Isadeiledd a gymeradwywyd gan Bwyllgor y Gronfa Bensiwn ar 3 Rhagfyr 2014.

 

9.

Adroddiad ar Roi'r Gorau i Gorff Cydnabyddedig - Colin Laver. (Er gwybodaeth) pdf eicon PDF 62 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad 'er gwybodaeth' ynglŷn â darfyddiad Colin Laver Heating Ltd. fel Corff Cydnabyddedig yng Nghronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe.

 

10.

Adroddiad(au) Rheolaethau Mewnol. pdf eicon PDF 175 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn hysbysu Pwyllgor y Gronfa Bensiwn am eitemau adroddadwy o fewn adroddiadau dulliau rheoli mewnol rheolwyr y gronfa.

 

11.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y Pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(SESIWN GAEËDIG)

 

12.

Adroddiad(au) gan yr Ymgynghorwyr Annibynnol.

Cofnodion:

Roedd yr adroddiad yn cyflwyno diweddariad economaidd a sylwebaeth y farchnad o safbwynt yr Ymgynghorwyr Buddsoddi Annibynnol a benodwyd. Rhoddodd Mr N Mills ddiweddariad economaidd a sylwebaeth y farchnad a chyflwynodd Mr V Furniss adroddiad ar fuddsoddiadau ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2016. Fe gyflwynodd hefyd y cyfraddau cyfnewid a'r dychweliadau mynegai ar gyfer y cyfnod o 31 Mawrth i 7 Gorffennaf 2016, a rhai manylion hanfodol yn dilyn y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd.

 

Nodwyd cynnwys pob adroddiad gan y pwyllgor a diolchwyd i'r Ymgynghorwyr Annibynnol am eu hadroddiadau.

 

13.

Crynodeb Buddsoddi.

Cofnodion:

Rhoddodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad er gwybodaeth a oedd yn cynnwys y perfformiad buddsoddi ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2016. Wedi eu hatodi yn Atodiad 1 yr adroddiad oedd y Crynodebau Buddsoddi Chwarterol ar gyfer y Gronfa Bensiwn am y chwarter a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2016.

 

14.

Cyflwyniad gan Bwll Cenedlaethol Cymru i'r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol mewn ymateb i gyhoeddi'r LGPS: Meini Prawf ac Arweiniad Diwygio Buddsoddiad ym mis Tachwedd 2015.

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol gyd-argymhelliad, i'w gymeradwyo, mewn perthynas ag 8 Cronfa Bensiwn Cymru mewn ymateb i Feini Prawf ac Arweiniad Diwygio Buddsoddiad y Llywodraeth. Darparwyd y cyd-argymhelliad terfynol yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cyd-argymhelliad swyddogol mewn perthynas ag 8 Cronfa Bensiwn Cymru ar ran Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe.

 

15.

Cyflwyniadau - Rheolwyr y Gronfa.

·         Rheoli Asedau Aberdeen - Ecwitïau Byd-eang a Marchnadoedd Ffiniol;

·         Rheoli Asedau Schroders - Ecwitïau'r DU;

·         Rheoli Asedau JP Morgan - Ecwitïau Byd-eang.

Cofnodion:

(1) Cafwyd cyflwyniad gan Richard Dyson ar ran Rheoli Asedau Aberdeen - Ecwitïau Byd-Eang a Marchnadoedd Torri Tir Newydd; 

 

(2) Cafwyd cyflwyniad ar y cyd gan Lyndon Bolton ac Andy Simpson ar ran Rheoli Asedau Schroders -  Ecwitïau'r DU;

 

(3) Cafwyd cyflwyniad ar y cyd gan Adrian Brown a Monique Stephens ar ran Rheoli Asedau JP Morgan - Ecwitïau Byd-Eang.

 

Gofynnwyd cwestiynau gan y pwyllgor mewn perthynas â chynnwys y cyflwyniadau ar ddiwedd pob cyflwyniad, a chafwyd atebion gan y Rheolwyr Cronfa priodol.

 

Nodwyd cynnwys y cyflwyniadau a diolchodd y Cadeirydd i Reolwyr y Gronfa am ddod i'r cyfarfod.